Hide Articles List

3 articles on this Page

Y TERFYSGOEDD YN MERTHYR TYDFIL.

News
Cite
Share

Y TERFYSGOEDD YN MERTHYR TYDFIL. Yn gymaint a bod gwahanol ch wedlau yn cael eu cyhoeddi ynglyn a'r terfysgoedd a gymerasant le yn Merthyr lawer o flynyddoedd yn ol, mae Mr. John X. Jones, Chicago, yn ysgrifenu fel y canlyn i'r Drych Americanaidd, gan gyfeirio at ysgrifau a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y newyddiadur hwnw :— Yn ngwariwyn y flwyddyn 1831, yr oedd Col. Wood a Penaur Watkins, yn ymgystadlu am gynrychiolaeth Sir Frycheiniog yn y Senedd. Tori rhonc oedd y Col., a Rhyddfrydwr nobl oedd Pen- aur. Yr oedd siopwr o'r enw James Stevens, yn cadw siop yn Merthy., a pherchenogai ffarm yn mhlwyf y Faenor, yn Sir Frycheiniog ac yn lie rhoi ei bleidlais i'r Rhyddfrydwr, rhoddodd hi i'r Tori, Col. Wood, yr hyn a gynhyrfodd anfoddlon- rwydd a digasedd amryw o fasnachwyr cyfrifol y dref. Ar ddydd Llun, ceid digonedd o ddynion yn yfed cwrw a segura ar hyd a lied y pentref, fel y gelwid Merthyr y pryd hwnw, a gwnaeth y siop- wyr a'r tafarnwyr effigy rhagorol o'r J. Stevens yma, i'r segurwyr hyn i'w gario fel eilun o gwm- pas Merthyr; a phan y cuddiai lleni'r nos weith- redoedd yr anfad, yr oedd yr eilun i gael ei losgi ar y tip cinders mawr sydd ger Pont y Store House, gan y byddai yno yn amlwg i bob llygad yn Merthyr Tydfil. Pan y tywyllodd y dydd, dygwyd y bwriad i weithrediad sylweddol, a dyna fel y dechreuodd pethau. Yn wir, y mae holl hanes y drafodaeth, fel y mae yn y Drych, yn druenus o anghyson ac anmherffaith, braidd yn mhob cysylltiad. Gosodiad anghywir arall yw, mai dyn o Aber- dar gymerodd gleddyf Cadben Rice oddiarno. Nage ddim Jenkin Jenkins (Shencyn Pen Level) gymerodd y cleddyf o law y Cadben a gwelais i y cleddyf yn llaw Shencyn cyn pen dwy awr wedi iddo ei dderbyn o law yr arwr o Waterloo ac yr oedd yn ei gario yn mhen cadlys y terfvsg, ar ochr mynydd Cilsanws, uwchlaw Cefncoedycymer. Y mae yn wirionedd i'r iawn berchenog gael ail feddiant o'i gleddyf harddwych; ond nid o gadlys Aberdar y cafodd efe ef; gallaf sicrhau hyny yn eithaf da. Gyda golwg ar y syniad am rif y milwyr, yn yr ymdrech wrth y Castle, triugain a pedwar oeddynt, ac nid un* mwy na llai; rhifais hwynt ddwywaith rhwng Ffynon Tydfil a'r Castle Inn. Pa nifer laddwyd yno, nis gwn i; pump welais i yn gor- wedd yno, a David Morgan, yr hwn oedd yn cario y colors coch, oedd y cyntaf gwympwyd yn y frwydr boeth, brysur hono. Gyda golwg ar fater Donald Black, Richard Lewis, ac Abbot, y barbwr, byddai yn gall ymhob un dewi, heb ei fod yn sicr. Yr oedd Abbot yn ei dy ei hun, ar gyfer yr hwn yn union yr oedd y < flfrwgwd rhwng Donald a rhyw ddyn; ai R. Lewis ydoedd sydd anhawdd i'w benderfynu. Sonia yr ysgrif yn y Drych am ryw ddylamvad gafodd Syr J. J. Guest ar y dorf wrth y Castle Inn. Do, fe gafodd ddylanwad a derbyniad fel hyn Efe a wahoddai y dyrfa fawr i wyneb deheuol y ty, i siarad ag ef. Yn union y clywyd ei wahoddiad ef, gwaeddodd rhywun yn y dyrfa allan, Na syfled neb led troed; y mae rhyw ddrwg yn ei lawes ef yn awr fel ag y mae yn fynych." Dyna ly dylanwad a gafodd Syr John J ar y dorf. Y mae yr ysgrif yn dweyd pethau diystyrllyd am y Cwrt Bach," ac am Mr. Coffin; sef mai sefydliad o eiddo gwyr Merthyr oedd y Court of Requests, Sc., < £ c. Nage ddim. Yr oedd y cwrt yn sefydliad cyfreithlon, a chyfreithiol, a'r enact- ment ar lyfr cyfreithiau Prydain; a Mr. Coffin oedd y clerc a'r bailiff cyfreithlon, gwedi ei osod yn y swydd ar awdurdod Quarter Assizes Sir Forganwg; a Thomas Williams, o Bolcoed, oedd y deputy bailiff ar y pryd. Dywed y gohebydd i'r cwrt uchod gael ei ddiddymu yn amgylchiad y terfysg. Naddo ddim mae y Court of Bequests yn fyw heddyw dan yr enw Small Debts Court, a'i gyfreithiau gryn lawer yn gaethach na chyf- reithiau Cwrt Constans y dyddiau gynt.

NEWYDDION AMERICANAIDD.

Advertising