Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
IEUENCTYD.
IEUENCTYD. Mae dynion yn siarad yn fynych am dymhor tawel, llonydd a dedwydd ieuenctyd. Dichon, yn wir, iddo fod yn ddedwydd, ond rhyw ddedwydd. wch awyddus, gwancus a dirgymhellol yw—ymae yn bobpeth ond yn wir lonydd. Dyma'r tymhor mwyaf aflonydd-nid oes esmwythdra i'r calon, y meddwl, na'r yspryd. Yn y cyfnod hwn ymdaflwn ein hunain i ganol gweithrediadau bywyd, ac hyd yn oed, yn ein horiau unigol ac hamddenol, bydd ein dychymyg ar waith yn ddiwyd yn tynu darluniau o'n hym- drechion dyfodol. Teimlwn fod swynion newydd- ion yn perthyn i'n nwydau, a byddwn am y tro cyntaf yn ymwybodol o'u bodolaeth. Dyma'r adeg am freuddwydion-rhyfoddol a gwrthwyn- ebol, ond prydfcrth ac anghydmarol, ond fel yr awn ymlaen yn ngyrfa bywyd dedfryddir ni i'w teimlo yn ymadael a ni o un i un am byth. Dyma freuddwyd hudol serch-y mwyaf dyryslyd o holl freuddwydion ieuenctyd. gSerch pan y mae y galon yn ieuanc, tyner a bywiog—cyn ymserchu o honom mewn un gwrthddrych annheilwng—neu efallai ein gorddigoni a serch-ncu i'n serch oeri a'n teimladau i galedu, fel nes gallwn ymserchu. Cariad difrifol, gwirioneddol, diamheuol,—dyma freuddwyd cyntaf y tymhor rhyfeddol hwn. Breuddwyd arall yw uchelgais, pan y mynwn gylchynu y byd a'n chwilfrydedd, ac na welwn ddim yn rhy anhawdd i ni ei gyflawni-teimlwn y gallwn esgyn i fyny i ben grisiau uchelaf enwog- rwydd a dylanwad, nes bydd y byd yn edrych arnom fel leewri heb ein bath. Ond och! wedi byw ychydig cawn fod y breuddwyd balch a hunanol hwn yn malurio ac yn diane yn gyflym o'n gafael, a deallwn mai marwolion ydym. Breuddwyd arall yw dyngarwch-gwnawn ad- newyddu dynoliaeth-aberthwn fywyd ac iechyd er mwyn eraill. Coleddwn y meddyliau goraf am ;bawb, yr ydym yn holloll rydd oddiwrth ddrwgdybiaeth ac yn orlawn o deimladau haelionus a charedig-ymddengys pob un o'r rhyw deg yn angyles a phob dyn yn arwr. Ond er ein mawr siom, cawn allan yn fuan mai nid bodau perffaith ydynt-eu bod yn Uawn beiau a gwendidau-twyllir ni gan y rhai a ymddiried- asom ynddynt-gwelwn garedigrwydd yn fynych yn cael ei ad-dalu Ag anniolchgarwch—a mynych bydd ein siomedigaeth yn ein harwain i'r eithaf- oedd cyferbyniol, nes ein dwyn yn fynych i fod yn annyngar. Dyna drachefn grefydd ieuenctyd, nid breudd- wyd yw hon, cawn wirionedd diledryw ynddi hi. I Yr unig beth ydyw ag sydd yn cynyddu mewn nerth, dylanwad a difrifoldeb, fel yr awn rhagom mewn oedran, heb golli dim o'i burdeb a'i ogon- iant gwreiddiol—crefydd Nid yw y galon byth yn laru arni hi-diddanydd ieuenctyd a chyf. ranydd bywyd i henaint yw I Gwyn fyd y rhai a gant afael yn y rodd werthfawr hon yn nyddiau eu hieuenctyd dysga hi hwynt nad delw-addol- iaeth, nac ychwaith uchelgais ac hunanoldeb, ddylasai nod bywyd fod a dengys hefyd i'r oed- ranus na ddylasai arafwch a chymedrolder gael eu cyfnewid am oerfelgarwch, na dedwyddwch a boddhad ddirywio i ddideimladrwydd a syrthni. Mae'n hyfryd gan fy meddwl I gofio boreu f'oes, Yr adeg bur a dedwydd Cyn cael o'm calon loes. Oes euraidd, oes ddihalog, Oes hyfryd oedd i mi, 0,! na chawn unwaith eto Ail ddechreu arni hi. Tstrad Rhondda. T. H. W.
NEWYDDION CYFFREDJNOL.
NEWYDDION CYFFREDJNOL. Y NIHILIAID.—Hysbysir fod Czar Rwssia wedi rhoddi maddeuant i 42 o Nihiliaid oeddynt wedi eu dedfrydu i fyned i Siberia, ac wedi cyfnewid cosb 73 o rai eraill. SYR STAFFORD NORTHCOTE YN EDINBURGH.— Dechreuodd Syr Stafford Northcote ar ei gyfres o areithiau yn Edinburg ddydd Llun, lie y derbyn- iodd nifer o anerchiadau. Yr un noson anerch- odd gyfarfod lluosog a brwdfrydig. LLADRAD AR Y RHEILFFORDD.—Yr wythnos ddiweddaf cludid cist, yn cynwys arian i dalu cyflogau gwasanaethyddion y rheilffordd yn Mas. borough, gyda'r gerbydres o Derby, ond deallwyd cyn cyrhaedd fod y gist rywfodd neu gilydd wedi ei lladrata. Y COLEGAU CYMREIG.-Dywedir fod 112 o ym- geiswyr am yr ysgoloriaethau yn Ngholeg Bangor, 100 yn Aberystwyth, tra nad oes 40 yn Ngholeg Caerdydd, lie yr oedd 60 y flwyddyn ddiweddaf. Y rheswm a roddir dros y gwahaniaeth yw fod gwerth ysgoloriaethau Caerdydd yn llai o lawer na'r Colegau eraill. FFRWYDRAD DRWGDYBUS YN LLUNDAIN .-Tua. naw o'r gloch nos Sadwrn, clywid swn ffrwydrad yn Old Ford-road, Llundain, ac wedi gwneyd ym- chwiliad cafwyd bocs alcan gerllaw mur uchel, wrth yr hwn yr oedd fuse yn gysylltiedig. Casgl. wyd y darnau o'r bocs gan heddgeidwad, a chym- erwyd hwy at yr awdurdodau, er mwyn gwneyd ymchwiliad. Ni wnaed unrhyw niwed i'r ad. eilad, ond credir fod bwriad i'w ddinystrio. Y BARRY DOCK.—Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf cyfarwyddwyr y cwmni hwn dydd Iau diweddaf, yn Caerdydd, pryd yr oedd prif gefnogwyr yr ym. gymeriad yn bresenol. Apwyntiwyd Arglwydd Windsor yn llywydd y cwmni, a Mr. D. Davies, A.S., yn is-lywydd. Rhoddwyd cyfarwyddyd hefyd i'r engineers i ddarparu pob peth mor fuan ag oedd modd er myned ymlaen a'r gwaith. Nid yw adeg toriad y dywarchen gyntaf wedi ei benodi, ond cymer hyny le yn dra buan. YMUNO A'R FYDDIN.—Yn ystod yr wyth mis sydd wedi myned heibio o'r flwyddyn hon, ym- ddengys fod 22,000 o ddynion wedi ymuno A'r fyddin yn gyflawn. Bernir y gellir codi y nifer yna cyn diwedd !y flwyddyn,-ar ol i'r cynhauaf fyned drosodd. Yn y cyffredin bydd cryn lawer yn ymuno ar ol y cynhauaf, o herwydd nad oes galwad am weithwyr yn mysg y ffermwyr. Rhif yr holl filwyr yn y Deyrnaa Gyfunol ydyw pedwar ugain a chwech o filoedd. BYDDIN YR IACHAWDWRIAETH YN WORTHING.— Myned ar gynydd y mae y terfysgoedd ynglyn a gorymdeithiau Byddin yr Iachawdwriaeth yn Worthing, [er fod amryw wedi eu cosbi gan yr ynadon. Ymgasglodd miloedd o'r preswylwyr i'r heolydd nos Sadwrn pan ydoedd y fyddin yn mymed heibio, a buasai ymladdfa arswydus wedi cymeryd lie oni bai fod y fyddin yn cael ei ham- ddiffyn gan nifer fawr o heddgeidwaid, CLADDEDIGAETH FFENIAD YN DUBLIN.—Dydd Sul, cymerodd claddedigaeth Denis Duggan, Ffeniad adnabyddus, le yn Dublin, pryd yr oedd 5,000 o ddynion yn cerdded tu ol i'r elorgerbyd, y rhai oeddynt wedi eu gwisgo mewn du, ac yn cario banerau. Yr oedd seindorfyn cymeryd rhan, a bernir nad oedd dim llai na 20,000 o bersonau yn y gladdfa. Ymblith y rhai oedd yn bresenol yr oedd Mr. Michael Davitt, Mr. W. O. Brien, A.S., Mr. Edward McMahon, A.S., &c. Powis EXHIBITION.—Enillwyd y Powis Exhibi- tion eleni gan Mr. J. R.(Roberts, o ysgol Rhuthyn, mab y Parch. Ellis Roberts, periglor Llangwm (Elis Wyu o Wyrfai). Y nesaf ato yn y gyatad- leuaeth ydoedd Mr. W. LI. Williams, o Goleg Llanymddyfri. Enillopd Mr. Roberts o'r blaen ysgoloriaeth agored mewn classics yn Ngholeg Merton, Rhydychain. Yr arholwyr am y Powis Exhibition oeddynt Mr. H. B. Tottenham, cymrawd o Goleg St. loan, Caergrawnt, a Proffes. wr Owen, Coleg Dewi Sant, Llanbedr. RHAGOLYGON Y CYNHAUAF.—Cyhoedda y Times adroddiad o sefyllfa y cynhauaf yn mhrif wledydd y byd a gynyrcha rawn. Dengys yr adroddiadau fod y flwyddyn bresenol, faint bynag ei haflwydd- iant mewn pethau eraill, wedi bendithio y byd & chropiau ardderchog. Yma ac acw y mae yna fethiant rhanol wedi bod, mewn canlyniad i'r tywydd oer ar ddiwedd y gwanwyn, a sychder parhaol yr haf. Nid oes efallai gynyrch anarferol o fawr yn unlle, ond y mae y cyfartaledd cyffred- inol yn uchel, mewn perthynas i swm a natur y cynyrch. Yn Rwssia y mae yr unig eithriad canfyddadwy, lie y mae y cropiauynddiweddarach ac yn waelach nag arferol. Da yw deall y bydd i ydau yn Bombay, Calcutta, a Kurachee, fod yr un mor foddhaol a'r flwyddyn ddiweddaf. 0 Cyprus hefyd y mae yr adroddiadau yn hynod o ffafriol. Addawa ein meddianau mawr dwyreiniol ein cyf. lenwi a rhan fawr o'n bwyd yn ystod y deuddtog mis dyfodol. HANESYN DYCHRYNLLYD.-Cyrhaeddodd y llong Germanaidd Montezuma i Falmouth ddydd Sadwrn cyn y diweddaf, o Pinta Aremas, ac ar ei bwrdd Cadben Dudley, Mr. Stephenson (mate), ynghyd a morwr o'r enw Brooks, y rhai, ynghyd a bachgenyn o'r enw Parker, a ffurfient ddwylaw llong fechan o'r enw Mignonette, yr hon a adaw- odd Southampton Mai 19eg am Sydney. Cawsant dywydd ystormus hyd y 5ed o Orphenaf, pryd y llanwodd y llong o ddwfr. Llwyddasant i fyned i'r eweh bychan, a methasant a chymeryd dim ymborth gyda hwynt OM-d ychydig erfin mewn dau din. Buont yn y cwch yn cael eu taflu yma ac acw am 24 o ddyddiau. Yn mhen wyth diwrnod wedi i'r ymborth ddarfod, lladdwyd y bachgen Parker, brodor o Southampton, gan y cadben. Wedi yfed ei waed, am bedwar diwrnod wedi hyny bu y tri eraill yn byw trwy fwyta ei gnawd. Gwnaeth y tri hwyliau o'u crysau, gan fyned felly o flaen y gwynt nes eu cymerwydi fyny gan y llestr Germanaidd, gan ddwylaw yr hon y derbyniasant bob tynerwch. Cymerwyd y tri i'r ddalfa, ond y maent yn awr wedi eu gollwng allan dan feich niafon.
LLYTHYR TOM PUDLER.
LLYTHYR TOM PUDLER. BLYS A BALCHDER. SYR,-OS oes lie i Roger Penboyr a minau yn ngholofnau y LLAN, dyma fi yn anfon pwtyn o lythyr yr wythnos hon eto. Yr wyf am adrodd yr hyn a ddigwyddodd yma ych- ydig ddyddiau yn ol. Wrth gwrs, yr wyf yn newid yr enw. Mae Idwal Gall yn pres- wylio yn mhen uchaf yr heol yr wyf fi yn byw ynddi. Yr oedd gan Idwal tonaid ei dy o gelfi-o ddodrefn glan a gloyw. Un diwrnod yn foreu iawn, daeth Nwncwl Dathan, a chludodd y cwbl ymaith o dy Idwal i'w siop ei hun. Pa fodd y bu hyn ? Wel, mi a ddywedaf i chwi. Yn ei gyfyng- 0 der, aeth Idwal at N wncwl Dathan i mofyn benthyg arian. Fe ddywedir wrthyf, os eir at Dathan i geisio benthyg arian, fod yr usuriaeth am yr arian yn haner cymaint a'r corph. Os ceir ugain punt yn fenthyg, tebyg yr aiff deg punt yn llog cyn dybenu a Dathan, er na fydd yr amser dros flwyddyn. Nid hir y bydd yr usuriaeth heb fyned cy- maint a'r arian a fenthycir. Fel y dywedais o'r blaen, mae Nwncwl bob amser yn cydio yn mhen breisgaf y ffon. Er mwyn bod yn sicr o'i afael, mae Dathan yn mynu yr hyn a elwir yn bill of sale ar y celfi Ac felly y y bu ar Idwal Gall, druan, y waith hon, ac fe gollodd yr oil o ddodrefn ei dy yr un boreu. Pa fodd yr aeth hi yn gyfyngder ar Idwal? Mae Idwal yn gaffer, ac yn derbyn tua dwy bunt a chweugain yr wythnos, ac yr oedd pawb yn meddwl fod Idwal a'i ben uwchlaw y dwfr. Pa fodd ynte yr aeth Idwal y gaffer i afaelion Dathan ? Yr wyf yn credu fod gan y blys a'r balchder rhyw law yn y gorchwyl. Maent hwy yn fynych a'u bys- edd yn y bastai; meistri caled a chreulon yw'r ddau. Yr wyf wedi rhyfeddu lawer tro na fuasem ni wedi codi strike yn erbyn y ddau. Mae blys am gael y cwbl i'r cylla. Nid gwaeth ganddo yn y byd beth a ddaw o'r cefn. Pe bai'r cefn yn llwm a haner noeth, haf a gauaf, nid yw efe yn gofalu dim. Mae balchder o'r ochr arall, am roddi y cwbl, pe bai yn bosibl, i'r cefn mae ef yn eithaf parod i wasgu y cylla a rhoddi rhyw- beth iddo, er mwyn cael taw arno. Yr oedd Idwal, meddent hwy, yn gal w yn ami, ami, yn y Black Bear; yr oedd blys yn ei arwain gerfydd ei drwyn. Yr oedd y wraig a'r merched, druan o honynt hwythau, am wisgo yn dda, megys y gweddai i wraig a merched gaffer, yn y lie. Yr oeddynt am gadw tipyn o style, ac ymddangos yn wahan- ol i'r cyffredin, yn neillduol felly yn y capel ar y Sul. Balchder oedd yr arglwydd arnynt hwy. A delient yn ormod a Mr. Maonab, y Packman. Rhwng y blys a'r balchder, rhwng y Black Bear a Macnab y Packman, fe aeth Idwal Gall yn Idwal Ffol, ac aeth ei gelfi i siop Nwncwl Dathan. Gall fod yr hanesyn gwir hwn yn wers i ryw rai i gau y drws yn nanedd Mr. Blys a Mr. Balchder. TOM PUDLER.
[No title]
Byddwch yn onest os gellwch, os na ellwch, gweddiwch am help. Dylai dyn geisio y dedwyddwch i eraill ag y mae yn ei ddymuno iddo ei hun. Cuddiwch ffaeleddau ereill, ond gwnewch eu rhinweddau yn hysbys. Mae newyddiadur yn San Francisco yn cyhoeddi hysbysiad am weinidog yr efengyl a fedr dra- ddodi dwy bregeth hollol wreiddiol:bob Sul, un yn y boreu i'r saint; ac un yn yr hwyr i bechadur- iaid." T DYN DISTAW.—Yr oedd Theophrastus, yr ath- ronydd Groegaidd, unwaith mewn cwmni pryd yr oedd yno un dyn o'r dechreu yn hollol ddistaw ac efe a ddywedodd wrtho, "Os ydych yn ffol, yr ydych yn gwneyd yn gall; ond os ydych yn gall, yr ydych yn gwneyd yn ffol." Dywedodd Madame De Stael anwaith," 11 Po fwyaf y gwn am ddynion, goreu i gyd yr wyf yn caru cwn." Yn awr, bydded i ryw hen wr gweddw dalu yn ol i'r madame uchod, drwy ddy- wedyd po fwyaf y mae yn ei wybod am ferched, goreu oil ganddo gathod. "Nid oes yr un anffawd allasai ddigwydd i fenyw nad wyf fi wedi ei ddioddef," meddai gwraig wrth ei gwr y dydd o'r blaen. 0 na, fy anwylyd, nid yw wedi bod cynddrwg a hyny arnoch ych- waith; er engraipht, nid ydych yn wraig weddw," ebe'r gwr mewn llais melus. Daliodd y wraig ei hanadl am tua dwy funyd, ac atebodd yn ol, Anffawd ddywedais i, syr." Byddai pobl briod yn fwy dedwydd pe ymdrech- ent fod mor gytun wedi priodi ag oeddynt pan yn caru. Pe yr ymgusanent ac y gwnaent i fyny a'u gilydd yn union ar ol pob cweryl. Pe byddai y naill a'r llall yn treio bod yn gynhaliaeth ac yn gysur gwirioneddol i'w gilydd. Pe byddent yn cytartalu eu costau teuluol yn ol yr enillion. Pe byddai menywod mor garedig i'w gwyr ag oeddent i'w cariadon. Pe byddai y naill yn ystyried y Ilall yn fod dynol ac nid angel. Pe byddai dynion mor ystyriol am eu gwragedd ag oeddynt yn feddylgar am eu cariadau. Pe byddai pob un o'r partion yn ystyried eu bod wedi priodi er gwell ac er gwaeth. Pe byddai yna lai o sidan am y corff a mwy o arian yn y llogell. Pe byddai yna lai o fy nghariad anwyl i" yn y cyhoedd, a mwy o foesgarwch cyffredin yn breifat.
ADGOFION GAN HENAFGWR.
(Nid ydyin yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) ADGOFION GAN HENAFGWR. At Olygydd "Y Llano" Syr,—Yn y llythyr presenol rhoddaf ychydig o'm hanes personol, a'r ychydig addysg a gefais pan yn ieuanc. Yr ysgolfeistr cyntaf y bum dano ydoedd Richard Jones, gwr ag ychydig gloffni ardo. Un o fechgyn Madam Bevan ydoedd hwn, ac yr oedd yn athraw da dysgais ddarllen Cymraeg gydag ef. Yn nesaf bum dan addysg- iaeth John James, a chan fy mod ychydig flyn- yddoedd yn hynach y pryd hwnw, ymberffeithiais mewn darllen Cymraeg, a dysgais ychydig Saesneg, er nad wyfyn gyfarwyddiawn a Saesneg 11 eto. Athraw dan Madam Bevan ydoedd hwn eto, a hon ydoedd yr unig ysgol yn y lie. Elai pawb o honom i'r Eglwys i gael ein holi yn y catecism, ac ni chlywais neb yn cwyno yn erbyn hyny y pryd hwnw, fel ag y gwneir yn awr. Y meistr nesaf ddaeth i Dregaron ydoedd Ebenezer Hughes. Bachgen da iawn ydoedd hwn eto, ond ni fum yn ei ysgol ef. Wedi hyny daeth Thomas Thomas, yr hwn fu yma am dair blynedd. Un o rai Madam Bevan a'r anfarwol Barch. Griffith Jones, Llanddowror, ydoedd yntau hefyd, a dyna yr ysgol gaffai pawb yn ddiwahaniaeth yr adeg hyny. Yn nesaf gofalwyd am yr ysgol gan Mr. Williams, hen gyfaill i mi, a thad y Parch. Mr. Williams, curad, Heolfach, Rhondda. Da genyf ddeall er mwyn ei ddiweddar dad fod ei fab yn bregethwr ardderchog. Bu Mr. Williams yma am flynydd- oedd, ac yma y bu farw, a chladdwyd ef yn barchus. Bu amryw o fy mhlant dan ei addysg, a gwnaeth lawer o ddaioni i blant ygymydogaeth. Dan y Parch. Mr. Hughes yr oedd ef a dau o'r lleill, ond y ddau gyntaf dan y Parch. Mr. Jones, ficer. Erbyn hyn mae llawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lie ynglyn ag addysg. Yn awr mae dwy ysgol yn Nhregaron, sef yr Ysgol Genedlaethol a'r un perthynol i'r Bwrdd Ysgol. Mae tua chant a haner o blant dan addysg yn y gyntaf, ac ychydig llai yn y llall, a phasiodd y ddwy eu haroliadau yn dda y flwyddyn ddiweddaf, a gobeithio yr enillant dir eto y flwyddyn hon. Heblaw yr enwogion ag yr wyf eisoes wedi nodi a fagwyd yn Nhregaron, gallaf enwi y Consul Jones, Caerdydd, yr hwn sydd yn addurn i'n gwlad, ac wedi dyrchafu ei hun yn y fath fodd nes cael ei anrhydeddu gan lywodraeth yr America i'w chynrychioli yn Nghaerdydd. Hefyd ei frawd Dr. Jones, Bangor. Cyfodwyd y ddau yn Eglwys Tregaron, a dylai y trigolion fod yn falch iawn o honynt. Bu eu hanwyl fam yn aelod ffyddlon o'n Heglwys hyd ei bedd. Dengys yr hyn a grybwyllwyd yn fy llythyrau fod glewion wedi eu magu yn Nhregaron.—Yr eiddoch, GLANBRENIG
IN MEMORIAM.
IN MEMORIAM. At Olygydd Y Llan." Syr,—Hyfrydwch calon oedd genyf weled llythyr Eos Llechyd yn eich rhifyn diweddaf, yn hysbysu fod ei anthem yn y wasg. Hyderaf y bydd i flaenoriaid y gan Eglwysig trwy Gymru anfon archebion at yr Awdwr er ei galonogi, ac hefyd er coffhad parchus o'r diweddar Ddeon Bangor. Sylw pert oedd hwnw o eiddo Un o'r gan yn y LLAN, pan yn ceisio gan Bwyllgor yr Wyl yn Llandaf i ystyried gweithiau yr Eos, eu dwyn allan y flwyddyn nesaf, pa rai sydd yn eithaf bywiog ac yn wir deilwng o sylw. Cefnogwn yr Eos, a chofiwn ar yr un pryd y geiriau ysbrydol- edig, "Gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig y rhai sydd o deulu y ftydd."—Yr eiddoch, CARWR Y FFYDD.
GWAITH ESGOB PEARSON AR Y…
GWAITH ESGOB PEARSON AR Y CREDO. At Olygydd Y Llan." Syr,—Pwy fydd mor garedig a'm hysbysu drwy golofnau y LLAN, pa un (1) yw yr Analysis goreu o waith Pearson ar y Credo, (2) beth yw ei bris, a lie y gellir ei gael. Teimlaf yn ddiolchgar am atebiad.—Yr eiddoch, YMOFYNYDD IEUANGC.
DYDDIAU Y CYD-GORIAU.
DYDDIAU Y CYD-GORIAU. At Olygydd Y Llan." Syr,—Y wythnos hon y mae'r offeiriaid a'r gynulleidfa yn yr Eglwys a fynychir genyf li yn gweddio y weddi a benodir i'w harfer yn wyth- nosau y Cyd-goriau, i'w dywedyd bob dydd dros y rhai a fyddant i dderbyn Urddau cysegredig." A fydd i chwi neu lai o'ch gohebwyr dysgedig fy hysbysu beth yw ystyr a tharddiad y gair hwn Cyd-goriau." Cawsom esboniad boddhaol drwy eich colofnau ar ystyr y gair Garawys" fisoedd yn ol, a theimlwn yn bur ddiolchgar i'r ysgol- heigion gwych hyny pe byddent mor garedig a thraethu eu barn ar y gair hwn eto.-Yr eiddoch yn gywir, YMOFYNYDD.
LLYTHYRAU CANMOLIAETH.
LLYTHYRAU CANMOLIAETH. At Olygydd Y Llan. SYR,—Yr oedd yn dda iawn genyf weled sylw yn cael ei dynu at y pwnc hwn yn eich erthygl arweiniol yr wythnos ddiweddaf, ac yn llythyr y Parch. Canon Williams, Llanelli. Nis gall fod amheuaeth nad ydyw rhoddi llythyrau cyflwyn- iadol i gymunwyr pan newidiant eu cartref yn hen arferiad Eglwysig, ond y mae'r Ymneillduwyr wedi benthyca yr arferiad oddi arnom, ac yn gwneuthur llawer gwell defnydd o hono na'r Eg- Iwyswyr. Anhawdd iawn yw dwyn Eglwyswyr i ofyn am y llythyrau hyn, ond mewn plwyfydd mawrion, ac yn wir ymhob plwyf, y maent o'r pwys mwyaf er diogelwch ein cymunwyr. Da iawn genyf fi glywed am y papyr i'w roddi ar ddrws yr Eglwys a grybwyllir gan Canon Wil- liams. Gobeithio y goeodir ef yn mhorth pob Eglwys drwy Gymru. Gellid hyrwyddo yr amcan hwn hefyd drwy wasgu ar yr ieuenctyd pan yn eu parotoi at y conffirmasiwn i ofalu peidio newid eu plwyf heb fyned a llythyr cyflwyniadol gyda hwy. A phaham nad ellid siarad am y pwnc allan o'r pwlpud o dro i dro ? Yr wyf yn gwybod drwy brofiad fod mynediad cymunwyr i blwyfi dieithr heb y llythyrau hyn yn achos gwendid dirfawr i'r Eglwys. Drwy eich caniatad chwi, Mr. Gol., buasai yn dda genyf weled y mater yn cael ei wyntyllio yn dda ar dudalenau y LLAN.—Yr eidd- och yn ffyddlon, JUSTICE.
[No title]
Byddwch garedig i'ch mam-yn-nghyfraith, ac os yn angenrheidiol, talwch am ei bwyd a'i lletty mewn rhyw westy anrhydeddus. Yr ydych yn dweyd fod eich brawd yn ieu- angach na chwi, ac er hyny y mae yn edrych yn' llawer henach." Ydyw y mae efe yn gweled llawer iawn o helbulon; ond nid wyf fi erioed wedi priodi." Dywed eilliwr yn Mangor fod llaweroedd o ddynion yn y ddinas hono wedi gwisgo wigs am flynyddoedd heb i'w gwragedd wybod na drwg- dybio hyny. Mae hyny yn brawf fod gwragedd y ddinas hono yn hynod heddychol. Y llong fwyaf ydyw y Great Eastern. Y mae hi yn 380 o droedfeddi o hyd, 83 troedfedd o ddyfhder a gall gario 22,927 o dunelli. Adeil- adwyd hi ar y Tafwys; a gyrwyd hi i'r dwfr, Ionawr 31ain, 1857. Y mae nifer o heddgeidwaid Llundain yn awr yn cario llawddryll y nos. Nid ydynt yn cael eu gorfodi i gario y cyfryw, ond y maent yn eu cael os gofynant am danynt, gan awgrymu fod perygl yn y gymydogaeth y maent ynddi. Y mae nifer yn derbyn hyfforddiadau gyda'r llawddryll yn ddyddiol. Digwyddodd i foneddiges y noson o'r blaen fod yn nghwmni amryw foneddigion ag oeddynt yn ysmocio, a mentrodd anghymeradwyo yr arferiad. Dywedai fod yr arferiad o ysmocio yn byrhau yr oes. Nac ydyw yn sicr," atebai boneddwr oedd yn y cwmni, oblegid mae fy nhadcu wedi bod yn ysmociwr ar hyd ei oes, ac y mae yn 70 mlwydd oed, ac mor heinyf a byw a brithyll mewn dwfr." Fe ddichon hyny fod," ebai y foneddiges, ond pe buasai eich tadcu heb fod yn ysmocio, y mae yn bur bosibl y buasai yn 80 mlwydd oed erbyn hyn."