Hide Articles List

14 articles on this Page

MESUR PRIODAS GYDA CHWAER…

News
Cite
Share

MESUR PRIODAS GYDA CHWAER GWRAIG DRANCEDIG. ERTHYGL III. Y mae yn bosibl fod rhai o ddarllenwyr ein herthygl ddiweddaf yn barod i ddweyd ar ol ei ddarllen a'i phwyso—" Wel, ie, dyna esboniad posibl ar yr hyn geir yn Ngair Duw ar y pwnc; ond o'r braidd y credwn mai dyna yr un cywir. Esboniad arall sydd yn ein boddio ni, a hwnw yr ydym yr ydym ni yn gredu sydd yn iawn. Rhydd i bob meddwl ei farn, wrth gwrs." Yr ydym yn cyfaddef ar unwaith fod es- boniadau eraill, y rhai nid ydynt eraill, yn cael eu rhoddi ar y rhanau ddifynwyd o'r Ysgrythyr; nid oes dim yn fwy amlwg. Ar bob athrawiaeth, ar bob erthygl yn y dad- guddiad Dwyfol bydded sylfaenol neu ar- wynebol y mae "esboniadan," daliadau a barnau, i blesio pawb ac yn plesio neb ond eu hawdwyr; a phob blwyddyn dargan- fydder ad libiteum gan y dysgawdwr hwn neu'r doctor draw wirionedd neu idea newydd sydd i greu y fath chwyldroad mewn byd ac Eglwys na welwyd ei fath erioed o'r blaen. Gwyddom hefyd fod dynion o safle uchel yn derbyn yr "esboniad arall," ar ryw dir neu gilydd. Ac er y gallem yn rhwydd, mor rhwydd a pheidio, gyfarfod yr esbonwyr hyn ar eu tir eu huuain, eto gwell a mwy adeiladol fydd troi i wrando ar un fedr dori'r ddadl yn y fan, un ag awdurdod ao y gwybodaeth ac a doethineb uwch na'r uchaf, sef Eglwys y Duw byw, colofn a, sylfaen y gwirionedd." Hyfryd ydyw troi i fewn i'r Eglwys. allan o swn a dwndwr y byd, ie, ar byd crefyddol yn unig. Y tu allan iddi hi, nis gall fod amheuaeth a dyryswch, gwahaniaeth barn, mympwy ac opiniwn. Quot homines tot sententiae. Y tu fewn i'r Eglwys nid oes nid oes ond Un Ysbryd, yr Hwn sydd yn ei thywys i bob. gwirionedd. Ond irreddai rhywun, Pa Eglwys ? Wei, yn gyma,int ag mae a'r wlad hon yn unig y mae a fyno y mesur dan sylw, caiff yr Eg- lwys hon yn unig hawiio ein cydsyniad, a galwn ar ganghenau eraill o'r Eglwys Gatholig i roddi eu llais er cadarnhad neu nacM, fel y byddo yn digwydd. P-e beth gan hyny ydyw llais yr Eglwys ar y cwest- iwn hwn ? A pha beth gan hyny ydyw dyledswydd pob aelod o'r Eglwys ? A yw llais yr Eglwys yn glir ar y mater ? Os ydyw, yna nis- gall Eglwyswyr ymbleidio mwy na'r Eglwys ei hun. Os gwnant, y maent o'r foment hono allau yn Ymneill- duwyr rhonc. Yn awr pa beth a ddywed yr Eglwys? Fel y gwyr pawb, ar dudalen olaf y Llyfr Gweddi ceir taflon y graddau Carenwydd a Chyfathrach gwahagddedig yn yr Ysgrythyr, o fewn pa rai y mae yn anghyfreithlon priodi. Tynwyd y daflen honli fyny gan yr Arch- esgob Parker, bedair blynedd ar ol ei urdd- iad i'w swydd, sef yn 1563. Yn y Canonau Eglwysig a gasglwyd gan yr Esgob Ban- croft yn 1604, ac a gyhoeddwyd drwy awdurdod brenhinol Iago laf, cadarnhawyd y danen hon yn y geiriau hyn, Nid oes i fab," meddai'r dafleil hon, I I briodi chwaer ei wraig." Yn ngwasanaeth Trefn Priodas cawn ar ddydd y briodas, o bydd i neb honi a dweyd bod un anach n'8 ddylent gael eu tysylltu mewn priodas, wrth gyfraith Duw neu gyfreithiau'r deyrnas hon—yna bydd rhaid oedi aydd y briodas hyd yr amser y profer y gwijionedd." Digon hyn er dangos beth ddywed y'r Eglwys ar y cwestiwn. Dyma ddywed Eglwys y wlad hon yn awr ec oddiar 1563. O'r braidd y mae eisiau myned yn mhellach. Hawdder hyny fyddai dangos mai yr un athrrwiaeth sydd wedi cael ei dysgu gan Eglwys y wlad hon ymhob oes. Bydd hyny, fodd bynag, yn syrthio yn fwy i'n herthygl dan benawd hanesiaeth. Yr ydym wedi rhoddi athraw- iaeth y Eglwys ar y cwestiwn allan o'i dedd lyfrau, y Llyfr Gweddi a'i Chanonau. Pa beth ydyw llais byw yr Eglwys y dydd- iau hyn, mor bell ag y gellir ei glywed. Pa beth ddywed ei hesgobion, ei hoffeiriaid, a'i lleygwyr yn Nghonfocasiwn yn y Cyngrhair ac yn Nghynadledd y gwahanol Esgobaeth- au ? Cydunwyd gan edau dy Confocasiwn Caergrawnt a Chaerefrog yn y flwyddyn ddiweddaf, fod y Mesur yn groes i Air Duw, ac yn bygwth dinystr i burdeb a dedwydd- wch teuluoedd Prydain. Yn y Cyngrhair Hydref 3, y flwyddyn ddiweddaf, yr un ydoedd llais yr Eglwys, er na roddir mater- ion i bleidlais ynddo mewn deuddeg cynadl- edd a gynhaliwyd oddiar y flwyddyn 1879 mewn gwahanol esgobaethau ac yn y Cynghor Ganolog yn Ebrill 1883, condemn- iwyd y Mesur mewn modd penderfynol' a diamwys. Gwelwn gan hyny, fod llais yr Eglwys yn llwyr yn erbyn y mesur pa un a ofynwn i'w Deddflyfrau neu i'w chynrychiolwyr awdur- dodedig yn yr oes hon. Yr ydym wedi profi fod Gair Duw yn erbyn y mesur, ac y mae yr Eglwys yn cadarnhau ein hesboniad, pa beth gan hyny ydyw dyledswydd pob aelod o'r Eglwys bydded len neu leyg, dysgedig neu annysgedig ? Dywedwn yn ddibetrus a phenderfynol, ufuddhau i'r Eglwys, aed y Mesur a'r Blaid lie yr elont. Nid eiddom ein hunain ydym, gan hyny nid rhydd i bob meddwl ei farn. Arwyddair y byd ydyw hwn yna, boed y byd a'i dywedo mor ddysg- edig ac mor grefyddol ag y byddo. Mae yr Eglwys yn llwyr gondemnio y mesur hwn.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]