Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y NAW HELWRIAETH.

CYMDEITHAS YR S.P.G.

[No title]

Y FASGED.

News
Cite
Share

Y FASGED. Bydd y Genedl ambell waith; pan deimla ar ei chalon felly, yn ad-ysgrifenu rhai sylwadau o'r LLAN, yn enwedig os bydd rhywbeth ynddi yn "werth sylw." Efallai na theimla y Genedl yn angharedig tuag atom ninau pan deimlwn ar ein calon ad-ysgrifenu yn awr ac yn y man pan welwn rywbeth yn "werth sylw." Ynddi am y 3ydd cyfisol, cawn y sylwadau canlynol ynghylch gwasanaeth claddu o dan y drefn newydd, ac y mae yn werth sylw, oherwydd mae yn datgan barn gynyddol y werin ynghylch gwasanaeth amheus y pregethwyr. Dyma fel y dywed .1 Gwyddom yn dda fel y pentyrant (y pregethwyr) eiriau gwag a disylwedd ar lan y bedd yn ami, yn neillduol felly pan y bydd gwr mawr yn cael ei gladdu. Nid wyf yn tybied y bu yr un Pharisead erioed a fuasai mor ddigywilydd a defnyddio cymaint o whitewash ag a ddefnyddir gan rai o honynt. Ond, Syr, tybed nad oes modd cael meddyginiaeth i hyn ? Onis gellir dwyn allan ffurf o wasanaeth claddu tebyg i eiddo yr Eglwys Sefydledig, os nad ellir cael ei well ? Ni osodir y cyfoethog mwy na'r tlawd, fel y gwyddus, ond yn hollol ar yr un level drwy ddefnyddio y dull crybwylledig." Mr. Gol., yr oeddwn i yn arferol a chario y syniad mai dynion drwg, hunan-gyfiawn dros ben ydoedd y Pharieaid gynt, ond hawyr anwyl! tyst- iolaetha y gwr hwn, ac efe yn frawd yn y ffydd fod y pregethwyr yn mhell tu hwnt iddynt Nid yw yn syndod yn y byd fod y bobl yn llefain am br egeth wr agedd. Pa le mae y Dadgysylltwyr ? Yr ydym wedi clywed oddiar awdurdod dda mai gweithio yn ddirgel y maent gyda deisebau. Canfyddasant mai failure hollol ydoedd eu hymgais i gario y bobl gyda hwynt, ac y maent yn ofni tynu eu cyfeillion Eglwysig yn eu penau ac iddynt ddyfod allan i oleuo y wlad, oherwydd nid ydynt yn dymuno gweled y wlad yn cael ei goleuo ar y pwnc, a chanfyddasant er eu gofid mai mistake mawr iawn ydoedd iddynt gynal y cyfarfodydd hyny yn y Deheudir ychydig amser yn ol trwy fod y cyfeillion Eglwysig yn fwy llwyddianus gyda'u cyfarfodydd, a thrwy eu bod yn gwybod fod y bobl yn deall mai sham hollol ydoedd eu gwaedd anghyfiawn am Ddadwaddoliad. Dylem fod ar ein gwyliadwriaeth yn barhaus, rhag i'r rhyfel dori allan a ninau yn cysgu. Efallai mai nid an- nyddorol gan eich darllenwyr fuasai gwybod nifer y deisebau a anfonwyd i'r Senedd yn ystod y tymhor diweddaf, a'r nifer a arwyddasant eu henwau o du ac yn erbyn Dadgysysltiad yn Nghymru. Nifer y deisebau a anfonwyd o blaid Dadgysylltiad ydoedd 323, wedi eu harwyddo gan 95,862; nifer y deisebau a anfonwyd yn erbyn Dadgysylltiad ydoedd 237, wedi eu harwyddo gan 68,152 o bersonou. Mae yr Eglwys wedi anfon llawer mwy nag a dybiasom ni, a da genym fod ein cyfeillion yn y Deheudir yna wedi bod mor effro, gweithgar, a llwyddianus. Arwyddair ymffrostgar y blaid Radicalaidd yn eu hareithiau bombastaidd yn ystod rhyfel boliticaidd 1880 ydoedd, Heddwch, Cynildeb, a Diwygiad." "Wrth eu ffrwythau a'u gweitbred- oedd, ac nid oddiar eu haddewidion teg a'u geiriau gwenieithgar y bernwch ac yr adnabyddwch hwynt. Heddwch! Heddwch yn wir. Ai heddwch ydoedd rhoddi ar dan un o ddinasoedd ardderchocaf y byd (Alexandria)nes ymlid ymaith y fam a'r plentyn bychan diniwed o'u cartref distaw, clyd, a'u gadael at drugareddau amgyleh- iadau ? Ai heddwch yw cario rhyfel waedlyd ymlaen, yn yr hon y syrthiodd haner can mil o fywydau dynol yn aberth i'r cleddyf? Cynildeb Llefared ffeithiau. Yn ystod pedair blynedc1 gyntaf y wladlywiaeth Geidwadol ddiweddar, codwyd pedair miliwn ar bymtheg o bunau (^ £ 19,000,000) oddiar dalydd yr Income Tax. Yn ystod y pedair blynedd o wladlywiaeth ansefydlog y Llywodraeth Radicalaidd wastraffus y dyddiau presenol, codwyd dwy filiwn a deugain o bunau sef rhagor o dair miliwn ar hugain o bunau, a hyny mewn pedair blynedd o amser. Dyna i chwi y fath gynildeb yw cynildeb Eadicalaidd Di- wygiad Ymha le ? A ydyw'r tywydd yn well ? A ydyw cynyreh y wlad yn well ? A ydyw masnach yn well ? A beth am eu deddfwneuth- uriaeth ? Wei, treuliasant eu holl nerth a'u hamser i ddeddfu ar gyfer yr Iwerddon deddfau na chlywsid sill am danynt oni bai am addewidion twyllodrus Midlothian. Mae'n wir iddynt geisio pasio Mesur Cau y Tafarndai ar y Sul yn Nghymru yma, ond y mae hwnw yn hollol anorphenedig ac amwys—hollol annheilwng o ddeddfwneuthurwyr Prydain Fawr. Ac am Fesur yr Etholfraint y cedwir cymaint o stwr a helynt yn ei gylch y dyddiau presertol, mesur un-llygeidiog yw hwnw. Disgwyliaf gael cyfieusdra eto cyn hir i sylwi ar y mesur hwn, felly terfynaf y tro hwn. GARDDWR.

Advertising

BARDDONIAETH.

[No title]