Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y NAW HELWRIAETH.

News
Cite
Share

Y NAW HELWRIAETH. (Allan o hen ysgrif yn meddiant Idwal Wynn, Abergivyngregyn.) O'r naw helwriaeth, tair helfa gyffredin sydd: 1, carw; 2, haid wenyn; 3, gleisiad; a tair helfa gyfarthfa, sef arth, dringhedydd, a cheiliog coed tair helfa ddolfa, sef llwynog, ysgfarnog, ac iwrch. Am y carw dywedir ei fod yn un o'r tair helfa gyffredin, yn gyntaf, am ei fod y gwychaf a'r gwrolaf anifail y mae helwriaeth arno a bytheiad ac a milgwn yn ail, am ei fod yn rhanog rhwng pawb a ddel ato wedi ei ladd, cyn tynu'r croen oddiarno, oblegid, os bydd gwr ar ei daith yn dyfod heibio yr amser hwn, efe a gaiff ran o hono wrth gyfraith cystal a'r neb a'i lladdo. Haid wenyn sydd helfa gyffredin, oblegid pwy bynag a'i caffo ar ei dir ei hun, neu ar dir arall, y mae yn rhanog, yr oil o honi ac a ddel ati cyn rhoi o hono wystl, sefyw hyny, rhoi nod wrthi i ddangos mai efe a'i cafodd gyntaf; ac onis gwna pawb a ddelo yno a gaiff Tan o honi, ond bod 4c. yn myned i berchenog y tir. Gleisiaid a elwir yn helfa gyffredin, oblegid pan fydder yn ei hela gyda rhwyd neu a thryfer, neu mewn modd arall, pwy bynag a ddel ato cyn ei ranu, y mae iddo ran o hono cystal a'r neb a'i dalio, os bydd mewn dwr cyffredin. Yr arth sy helfa gyfarthfa, am ei bod yn gig, hela o'r penaf, ac am na bydd araf, ac ni bydd fawr ymlid arni,' am nas gall gerdded ond yn araf, ac ni bydd ond ei baedd, a'i chyfarth, a'i lladd. Dringhedydd yw pob 'peth a ddringo i frig pren i'w amddifiyn ei hun. Ac ni ddylai heliwr ddyweyd bele, neu gath goed, neu .wiwer, neu ffwlbart, ond eu galw dringhedydd llwyd, dringhedydd du, dringhedydd coch, ac am nas gall dringhedydd ddiajic ymhell, ond dringo i'r pren, ac yno ei faeddu a'i gyfarth a wneir. Ceiliog coed a elwir yn helfa gyfarthfa, oblegid pan ddel y bytheiad ar ei hynt ef, ei ymlid a wnant oni gymero bren, ac yno ei gyfarth a wneir. Y cadnaw sydd helfa ddolef, oblegid er maint fo'r gwaeddi a'r canu cyrn er ei ol, ef a gynal ei helynt er maint fo'r ymlid arno. Yr iwrch a elwir yn helfa ddolef oblegid yr un achos. Penaf cig hela yw carw, ac ysgfarnog, a baedd gwyllt, ac arth. Oe gollyngir milgwn i garw neu anifail arall, a'i ymlid o'r milgwn dros fryn allan o olwg, a'i ladd, y milgi blaenaf yn y golwg ddiweddaf bia'i groen; ond ni chaiff miliast groen er ei enill, oni bydd hi yn dorrog o fiilgi a enillodd groen, ac yna hi a'i caiff. Am ysgyfarnog, pa beth bynag a'i lladdo, y ci neu'r peth arall a'i cotto o'r gwal a'i pia, os ei cheisio y byddis i'w hymlid. Y naw helwriaeth a ddylai bawb eu gwybod ar a ddyges gorn, ac oni feidr roi ateb am danynt, ef a gyll ei gorn, ac os daw neb i hela a'i gynllyfan am dano, oni fedr roi ateb am y naw helwriaeth, ef a gyll ei gydliyfau, end ef a all fod a'i gynllyfau am ei fraich yn ddi- ddial. Ni all neb ollwng na milgi na miliast i un anifail pan fo'r bytheiaid yn ei ymlid ioni bydd iddojyntau fytheiaid yn ei ymlid; ac oni bydd, fe all y neb a fo yn canlyn y bytheiaid dori llinyn garr ei filgi, os efe ai gollwng. Nidrhydd i neb saethu anifail y bo helwriaeth arno, pan fo yn ei esmwyth- dra, tan boen colli ei fwa a'i saeth i arglwydd y tir, ond efe a gaiff ei saethu, a'i ladd os gall, pan fo'i huaid ar ei ol; ond na chaiff saethu yn mysg y cwn. Os a neb i hela, a gollwng ar anifail, a chyfarfod o gwn segur ag ef, a'i ladd, y cwn eyntaf bienfydd, onid cwn y brenhin fo y rhai segur. Yr anifail a helier fydd ar ddelw yr heliwr cyntaf, hyd oni ymchwelo ei wyneb parth a'i garttef, a'i gefn ar yr hela. Ond os bydd ei gwn ef yn hela, ac yntau wedi ymadael a'i gwn, ni ddyly ef ddim cyd lladdo y own segur ef ond perchenog y cwn segur bienfydd. Felly 'roedd y gyfraith hela gynt.

CYMDEITHAS YR S.P.G.

[No title]

Y FASGED.

Advertising

BARDDONIAETH.

[No title]