Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

UNDEB CERDDOROL EGLWYSIG HARLECH.

News
Cite
Share

UNDEB CERDDOROL EG- LWYSIG HARLECH. Er nad yr uchod ydyw yr enw awdurdodedig i'r undeb, hyderaf, gan mai yn Harlech y cynhaliwyd yr wyl, y bydd yn eithaf dealladwy i bawb o'ch dar- llenwyr ac na rydd dramgwydd i neb pwy bynag o'r awdurdodau. Faint yw oedran yr undeb nisgallaf ddweyd, ond gallwyf dybio mai ieuanc ydyw er hyny, golyga fod iddi ddyfodol disglaer a gobeithiol. 0 leiaf, dyna fy marn ostyngedig am dani, a diau mai dyna farn pawb a roddes ei breaenoldeb yn nghyfarfodydd yr undeb eleni, sef dydd Iau, yr 28ain o Awst. Er i gyfnewidiad gymeryd lie yn y tywydd diwrnod neu ddau yn flaenorol i'r cyfarfod, ac er fod y diwrnod cynt yn hynod wlyb, hyfryd genym allu cofnodi ini gael hin da ar y cyfan i gynal yr wyl, a chafwyd cynulliadau lluosog ar hyd y dydd. Yn Eglwys St. Tanwg, Harlech, y cynhaliwyd yr wyl, yn yr hwn Ie. y gweinydda y Parch. D. Owen er's blynyddau fel periglor. Syndod i mi a llawer- oedd eraill ydoedd gweled adeilad eglwysig mor lwydaidd yr olwg mewn lie o enwogrwydd Harlech —prif dref y sir, lie y mae cymaint o ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf, tybiwn nad gwaith anhawdd a fuasai cael funds i law er addurno ychydig ar yr adeilad. Diameu genym pe yr ymgymerai y Parch- edig D. Owen a'r gwaith o adnewyadu yr hen fam adeilad y caffai gynorthwy calonog y plwyfolion, bonedd y cylchoedd, a's ymwelwyr. Clywsom droion yr ymwelwyr yn gofidio o herwydd sefyllfa yr adeil- ad, a diameu genym y rhoddent bob cynorthwy er ei hadnewyddu unwaith y cychwynid y gwaith. Sylwasom fod American organ ysplenydd wedi cym- eryd lie yr harmonium fechan oedd yn arfer a bod yno, a haedda Miss Lovegrove, Castle Hotel, yr hon foneddiges yw'r organyddes, ddiolchgarwch cyffred- inol am ei llafur yn casglu tuag at gael yr unrhyw. Fe welwn trwy hyn nad yw yr Eglwys yn Harlech yn hollol amddifad o aelodau zelog a gweithgar. Symudwn ymlaen bellach i roddi adroddiad byr o'r gweithrediadau am y dydd. Dechreuwyd y cyfarfod boreol am 10.45, pryd yr intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. D.¡T. Francon Davies, B.A,, curad, Pwllheli. Y mae Mr. Davies yn gerddor gwych, ac y mae ei lais clir, soniarus, yn ei gyfaddasu yn arbenig at y rhan hwn o'r gwaith. Trefn y gwasanaeth oedd a ganlyn Venite: E. G. Monk. Te Deum Trefniant Boyton Smith. Bene- dictus: Boyton Smith. Anthem: "Blessed is he that considereth the poor," Psalm xli. 1, 2, 3, (Owain Alaw). Y tonau oeddynt-Kocher, St. Agnes, a'r Old 44th (Ancient and Modern). Darllenwyd y llithoedd gan y Parch. John Lloyd Jones, M.A., periglor Criccieth, a'r Parch. D. Owen, periglor Harlech. Traddodwyd y bregeth gan y Gwir Barch- edig Esgob How, Bedford, oddiar y geiriau, A dy- weded yr holl bobl Amen." Sylwai y rhoddai yr Eglwys lawer mwy o waith i'r bobl na'r un corff arall o Gristionogaeth. Ni allasai gwasanaeth yr Eglwys fod yn effeithiol heb i'r gynulleidfa gymeryd ei rhan ynddi. Dylent oil gyd-uno yn yr atebion —yna caent gyd-addoliad. Dylai yr holl gynulleidfa, nid y corau yn unig, gymeryd i fyny eu gwaith. Dylent bawlio eu rhan yn y gwaith. Os oeddynt yn aelodau o'r Eglwys nid oeddynt yn cyflawni eu dyledswydd fel Eglwys- wyr oni wnaent ddilyn rheolau y Llyfr Gweddi Gyff- redin. Pwysai ar ei wrandawyr i fod mewn pryd i'r gwasanaeth, canys yr agoriad i'r gwasanaeth Ddwyfol ydoedd y Gyffess. Hynod o briodol ydoedd ei sylwadau rhagorol ar y modd y dylid cyffesu. Dylent gyffesu mewn yspryd priodol. Dywedyd y geiriau yn groew a hyglyw-speak them oitt-ie, o'r galon. Gwneler hyny yn ddefosiynol. Penlinier yn barchus, a gwneler hyny mewn ysbryd gweddi, ac mewn gwirionedd. Heb hyny nis gallai eu gwasanaeth fod yn ddim llai na ffurf farw (dead form). Ofnai yn fynych mai, ac oherwydd yr amddrfadrwydd o ysbryd addoli a nodweddai eu cynulleidfaoedd, mai dead form oedd eu gwasanaeth yn ami. Nid oedd, ac m ddylai fod felly. Sylwai hefyd nas gellid gwneyd heb ffurfiau. Ffurfiau oeddynt Psalmau Dafydd, ac yr oedd ein Harglwydd bendigedig wedi rhoddi i ni esiampl ardderchog o ffurf yn Ngweddi'r Arglwydd. Y perygl ydoedd defnyddio y ffurf heb yr yspryd. Nid oedd y ffurf ynddo ei hun yn addoliant. Yr oedd y Psalmau wedi eu cyfaddasu modd y gallo pawb gyduno ynddynt. Talai warogaeth uchel i dalent gerddorol y Cymry. Yr oedd Duw pob daioni" wedi eu bendithio gyda'r fath leisiau soniarus ag a'u galluogai mewn modd neillduol i roddi expression- ddyladwy yn yr hyn a .ganent. Synid ef, a dy eithriaid eraill yn yr iaith, gan y fath swyn a roddent yn eu cerddoriaeth, ond hyderai na adawent i ddim eu hamddifadu o'r yspryd-y peth byw-heb yr hwn ni allai fod bendith. Ofnai hefyd y diystyriai y bobl y Credo," ie, Credoau yr Eglwys. Ni ddylent wneyd hyny, canys nid oedd y Credo yn ddim llai na Chant of Praise, ac yspryd mawl iyn bendifaddeu a ddylai nodweddu eu hadroddiad o hono. Hanesyddiaeth ydoedd yr hen hen, hanes o iachawdwriaeth i fyd colledig. Yr oedd duwinyddiaeth yn werthfawr. ond beth ydoedd ? Onid Science of Holy things ? Yr oeddynt wedi derbyn y Credo oddiwrth yr Apos- tolion—ie, yn mhellach etifeddiaeth yn cael ei thros- glwyddo i'r Eglwys o oes i oes ydoedd. Yr oedd yn gadwen gydiol cydrhwng yr Eglwys Apostolig a'r Eglwys yn ein dyfldiau ni. Sylwai hefyd ar yr arfdtiad o .droi i'r Dwyrain wrth adrodd y Credo. Nid oeddynt heb reswm dros hyny. Tarddai yr ar- feriad o'r hen Eglwys gyntefig. Pan yn bedyddio dychweledigion (converts) byddai yn arferiad iddynt droi i'r gorllewin pan yn cael eu bedyddio—lie machlud haul-a gadael y byd mewn tywyllwch, yn arwyddocau eu bod yn ymwrthod a phechod y tywyllwch, ac wedi eu bedyddio troent a'u gwynebau i'r dwyrain, lie codiad haul,—yn arwyddocau mai Criat ydoedd Haul Mawr yr Adgyfodiad, yr hwn yn unig a allasai eu gwaredu oddiwrth eu pechodau- Terfynodd ei barchedigrwydd gyda gair at y corau. Mawr ydoedd eu braint o gael rhoddi eu gwasanaeth i'r Arglwydd. Gwerthfawroger y fraint ganddynt. Hyderai eu bod oil yn gymunwyr ac yn aelodau didwyll o'r Eglwys. Nid oedd neb un yn deilwng pa mor alluog bynag y byddo fel cerddor, o fod yn aelod o'r corfos heb fod aelod ac yn gymunwr. Chwi welwch oddiwrth y bras ddarlun uchod i ni gael bregeth hynod gyfaddas i'r achlysur, pa un a draddodwyd mewn iaith syml a chyda difrifoldeb neillduol gan y gwir Barchedig Prelad. Ar ddiwedd y gwasanaeth gwnaed casgliad at dreuliau y dydd. Yr oedd Ciniaw a the wedi eu parotoi mewn modd canmoladwy gan bwyllgor yr Undeb yn y Town Hall i'r corau a dieithriaid, a bu oddeutu 200 yn cyd- gyfranogi o'r naill a'r llall, a theimlir yn ddiolchgar nodedig i'r pwyllgor am eu llafur a'u caredigrwydd yw darpar mor ehelaeth ar eu cyfer. 'Am 2.30 Cynaliwyd y cyfarfod prydnawnol, pryd yr inton- iwyd y Litani eto gan y Parch. Ffrancon Davies, ac y pregethwyd gan y Parch. T. Edwin Jones, curad Llanberis, oddiar Matthew xxi. 22-29. Gadawodd Mr. Jones impression rhagorol ar y gynulleidfa, a theimlir yn dra chyffredinol ei fod yn bregethwr addawol iawn. Y mae yn draddodwr melus a rhwydd, ac yn alluog i osod allan ei syniadau mewn iaith ddestlus a dealladwy iawn. Carem yn fawr roddi rhai o sylwadau y pregethwr i mewn yn ein hadroddiad, ond gan fod y bregeth yn cael ei thraddodi yn yr hen iaith anwyl nid oes yr un angenrhaidj a phe traddodasid hi yn yr iaith Saesneg. Ac ar bwys y rheswm hwn yr ymgymer- asom a. chyfieithu rhai o sylwadau yr Esgob How. Dechreuwyd y gwasanaeth hwyrol am 6-30. In- toniwyd y gwasanaeth gan y Parch. Ffrancon Davies. Darllenwyd y llithoedd gan y Parch. R. Jones, M.A., periglor Llanfihangel-y-traethau, a'r Parch. Owen Jones, periglor Llanfair-boneddwyr ag sydd yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr Undeb a phob gwaith a thuedd ynddo i hyrwyddo llwydd- iant yr Eglwys. Traddodwyd y bregeth, sylfaenedig ar y geiriau hyny yn Salm xlviii. 6-7, a 1 Cor. xiv 15, gan y Parch. E. T. Davies, Aberdyfi. Caniadaeth y Cysegr ydoedd pwngc ei destyn, a chawsom ym- driniaeth fanwl arno, a dosranodd y gwr Parchedig ei bregeth mewn dull hynod o ddeheuig. Gwyddem fod Mr. Davies yn fardd, yn llenor, ac yn bregethwr mawr, ond ni wyddem cyn hyn ei fod yn gerddor, ac nid oes dadl nad yw yn gerddor gwych-profai ei sylwadau rhagorol a dysgedig hyny. Meiddiaf ddweyd na thraddodwyd erioed bregeth i well pwrpas, ac er mwyn yr Eglwys meiddiaf yn mhellach erfyn arno ei chyhoeddi ar fyrder. Gwnelai ei dos- barthu ymhlith Eglwyswyr Cymru fawr les i'r Eg- lwys. Yr anthem ydoedd Teyrnasoedd y ddaear." Datganwyd yr Unawd Bass, Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd," gan Mr. Ff. Davies. Cafwyd dad- gaciad mawreddog. Dylaswn hysbysu i'r cyfarfod ddechreu nos Fercher, pryd y darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. H. Evans, Talsarnau, y llithoedd gan y Parch. O. Jones, Llanfair, ac y traddodwyd y bregeth ar Weddi," gan y Parch. E. T. Davies, Aberdyfi. Yr oedd corau Eglwysig Llanfair, Harlech, Talsarnau, Maentwrog, ac aelodau o gor Eglwys Penrhyn a chorau eraill yn bresenol, pa rai a arweiniwyd gan Mr. W. Roberts, C.M., prif athraw ysgol waddoledig Harlech, yr hwn a fu yn hynod lafurus yn trainio y corau yn eu gwahanol blwyfydd gogyfer a'r wyl. Haedda efe, ynghyd a. Mr. Jones- Morris, Tycerrig, Llanfihangel, ysgrifenydd gweith- gar y mudiad, glod uchel am eu gweithgarwch yn dwyn yr wyl i derfyniad mor llwyddianus. Y mae Mr. Jones-Morris yn un o'r lleygwyr mwyaf gweith- gar a fedd yr Eglwys yn yr Esgobaeth, a phob peth yr ymaflo ei law ynddo, efe a'i gwna a'i holl egni. Gwelsom yn bresenol y clerigwyr canlynol y Parchn. J. M. Jones, Aborerch J. Lewis, Dolben- maen J. Lloyd Jones, Criccieth D. Lloyd Jones, Porthmadog Edwards, Porthmadog; R. Jones, Llanfrothen; D. Morgans, Penrhyndeudraeth; R. Jones, Llanfihangel D. Owen, Harlech J. Hughes, Talsarnau D. Jones, Llanenddwyn; J. Davies, St. David's, Blaenau Ffestiniog, ac amryw eraill. Dylwn nodi cyn terfynu i gor Maentwrog gael eu cludo i'r wyl mewn cerbydau ar draul creadigrwydd W. E. Oakeley, Ysw., y boneddwr hael galon o'r Plas, Tanybwlch. Y mae Mr. Oakeley ar bob adeg yn hael iawn ei roddion at yr Eglwys, a phob achos da, ac y mae llwyddiant a chysur ei ddeiliaid yn agos iawn at ei galon. Haedda Miss Killin a Mr. R. W. Vaughan ddiolch gwresog am eu llafur yn trainio corau Tynant a Maentwrog, a mwynhaodd yr aelodau yn fawr eu treat i Harlech o dan eu har- weiniad, a dychwelwyd adref yn ddiogel a chysurus, a phawb wedi eu llwyr foddhau.-Llygadog.

MARWOLAETH FICER LLANLLWCH-HAIARN.

[No title]

LLANBERIS.

GWAENYSGOR.

TON, YSTRAD RHONDDA.

BRYNMAWR.

ROATH, CAERDYDD.

WYDDGRUG.

YNYSOWEN, MERTHYR TYDFIL.

DOWLAIS.

DOLGELLAU.

CAERFYRDDIN