Hide Articles List

15 articles on this Page

[No title]

NEWYDDION CYFFREDINOL.!

News
Cite
Share

NEWYDDION CYFFREDINOL. ARGLWYDD TENNYSON YN NGHYMRU.-Mae y Bardd Brenhinol, Arglwydd Tennyson, yn awr ar ymweliad a Mr. Lewis Morris yn ei breswylfod, Penrhyn, Llangunnor, Sir Gaerfyrddin. PENODIAD LLYNGESOL.—Y mae y Parch. J. Evans, B.A., brodor o Landilo, a churad Eglwys St. Matthew, Buckley, Sir Fflint, wedi ei benodi yn un o gapleniaid y Llynges. ESGOBAETH LLANELWY.—Y mae cyfnewidiadan mawr yn cymeryd lie yma. Ficeriaid Llanllwch- haiarn a Llansantffraid, G.D., wedi marw, ac y mae rhai o'r offeiriaid goreu wedi cael galwadau tu allan i'r esgobaeth o fewn i'r ddwy flynedd ddiweddaf. CARN-LADKON YN MACE DONIA.-Derbyniwyd hys bysrwydd fod mintai fawr o garn-ladron yn an- rheithio y wlad yn nosbarthiadau Kuprili a Prilip, Macedonia, ac yn mynu arian drwy drais oddiar y trigolion. Gellir ffurfio dychymyg wan am y galanastra pan ddywedir fod 45 o bersonau wedi eu llofAiddio ganddynt. HIRHOEDLEDD.—Cyhoedda newyddiaduron Tal- aeth Goyar, Brazil, hanes marwolaeth un Serhorinha Gomes de Jesus, yn 154 oed. Er, efallai, nad oes sicrwydd fod y person hwn llawn can hyned ag y dywedir, eto nid yw yn rhyfeddod mawr yn Brazil, lie y mae personau yn byw yn ami yn 110, 120, ac yn 130 oed, Y mae meibion cant oed yn bethau cyffredin mewn rhai ardal- oedd.—O'r Drych. TEYCHINEP OFNADWY YN ARMAGH.—Dydd Llun, yr wythnos cyn y diweddaf, canfyddwyd fferruwr o'r enw Conlon, 75 mlwydd oed, yn farw yn ei wely yn Eglish, swydd Armagh, gyda'i wddf wedi ei dori o glust i glust, ac ellyn ar ei fron, un o'i ddwylaw yn archolledig, dillad y gwely wedi eu torchi am ei wddf, a chath yn farw yn y gwely wrth ei ochr. Tybid fod gan Conlon arian, at yr oedd yn byw wrtho ei hun. Y mae rhyw amheu- aeth fod yr achos yn un o lofruddiaeth. CYNWRF YN NAPLES.—Yr oedd parthau isaf Naples yr wythnos ddiweddaf yn gwisgo agwedd gynhyrfus iawn. Gwrthwynebai corff mawr o'r trigolion i un a ddioddefai oddiwrth y colera gael ei gludo i'r ysbyty, ac archollwyd a chamdriniwyd amryw heddgeidwaid yn y cythrwfl. Ymosodwyd ar ysgolion y plant, lie yr oedd anheintiad wedi cael ei orchymyn. gan dorfeydd o wragedd, y rhai a dybient y byddai i'w plant, os cymerid hwy yn glaf, gael eu dwyn i'r ysbytai. Cymerwyd peth amser i dawelu y terfysgwyr. TERFYSG YN WORTHING.—Er's peth amser mae tref Worthing wedi ei haflonyddu yn fawr drwy ysgarmesoedd sydd wedi eu cario ymlaen rhwng aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth a'r Skeleton Army, ond cyrhaeddasant eu pwynt gwaethaf brydnawn a nos Sul diweddaf, pan yr oedd can- oedd yn cymeryd rhan yn yr ymrafael. Gwnaed canoedd o bunau o golled i adeiladau, &c., ac y mae nifer fawr o bersonau wedi eu niweidio yn drwm. Dylai yr awdurdodauyn sicr roddi terfyn ar y gorymdeithiau hyn ymhob man, gan eu bod yn gwneuthur niwed mawr, fel y caed profion mewn amryw fanau cyn hyn. INDIAD YN AELOD SENEDDOL.—Ychydig ddydd- iau yn ol liysbyswyd fod symudiad ar droed i ddwyn Indiad yn mlaen fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf yn y wlad hon. Y mae y cynygiad wedi ei dderbyn yn ffafriol iawn gan y wasg Indiaidd, ac y mae pellebron yn cefnogi y symudiad wedi eu derbyn hefyd yn Calcutta o bob parth o India. Felly fe ffurfir pwyllgor yn fuan i roddi effaith i'r cynygiad. Y boneddwr a enwir fel yr ymgeisydd tebygol ydyw Lei Mohun Ghose, yr hwn sydd yn awdurdod uchel ar faterion cyrn- deithasol a gwleidyddol yn India. DYN-FWYTAWR YN YR AMERICA.—Daw hanesyn hynod, ond oddiar awdurdod dda, o'r Mynyddoedd Creigiog, America, am ddyn wedi bwyta rhan o gorff ei gydymaith. Ychydig amser yn ol daeth- pwyd ar draws y dyn tichod yn crwydro o amgylch glanau y Kicking Horse River, bron marw, ac yn ymddangos fel pe yn wallgof. Pan ddaethpwyd ag ef ato ei hun, dywedodd y dyn anffodus mai mwnwr o Galiffornia ydoedd, o'r enw William Owens, a'i fod wedi cychwyn o Kamloops yn mis Mehefin, gyda chydymaith o'r enw Joseph Will- liams, mewn ymchwil am fwnglawdd arian. Yr oeddynt yn bwriadu cyrhaedd yr afon Colombo, ond o herwydd i'w hymborth ddarfod buont yn crwydro am chwe' diwrnod heb damaid o fwyd. Ar y seithfed dydd, taflodc1 Williams ei hun ar lawr, a dywedodd nas gallai fyned gam yn mhellach. Bu farw yn mhen ychydig fynydau, a dywed Owens iddo dori darnau o gnawd oddiar ei goesau a'i forwydydd, ac mai trwy fwyta hwnw yr oedd efe yn alluog i barhau ei daith. Yr oedd wedi byw am chwe' diwrnod ar gnawd dynol pan y cafwyd ef, ac yr oedd ganddo ychydig yn weddill yn ei gadach llogell. Yr oedd gan y dyn anffodus amryw archebion arianol am ganoedd o ddoleri gydag ef. SEN I ANFPYDDIWR. Un prydnawn, nid rhyw am- ser maith yn ol, digwyddodd i rhyw haner dwsin o ddynion ymgyfarfod yn ddamweiniol mewn gwesty yn un o ordrefi Cymru. Ar ol ychydig amser aeth yn ymddiddan rhyddta rhwydd rhyngddynt ar wahanol faterion, ac yn mysg pethau eraill daeth y Beibl o dan sylw gan un o honynt ar ryw bwngc, a dywedodd un o'r cymdeithion Mai ben lyfr celwyddog ydoedd, o waitli dynion celwyddog, felly ya llyfr annheilwng o fod yn eafon Cristion- ogaeth fel ei gosodir allan gan ddynion." Wrth glywed y fath ymadrodd rhyfygus atebwyd ef gan un o'r cwmpeini yn y modd canlynol:— Taw a'th lol y drel anffyddiog, A'r hen adyn ffel diras, Gwelwn wrth dy eiriau broliog Beth yw'th gredo ffiaidd caa Gwybydd hyn, yr echrys gablwr, Mai truenua yw dy gyflwr." Ar ol cael y fath sen aeth yn fud yn y fan ac ym- adawodd o'r lie fel un wedi ffroenochu a ffriw uchel," ac yn ddrwg ei hwyl gan gythraul."— Trahaiarn. CYHUDDIAD PWYSIG. —Mae William Williams, cadben a pherchenog y brigantine Catherine and Alice, o Nefyn, wedi ei draddodi i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o geisio dinystrio ei llong ei hun ar y 13eg o Mai diweddaf, gerllaw Swanage. Cymer y prawf le yn mrawdlys nesaf Lerpwl. YR EISTEDDFOD AM 1885.—Cynhaliwyd cyfarfod dylanwadol yn Nghaernarfon nos Fawrth i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o wneyd apeliad ar fod i'r Eisteddfod Genedlaethol am 1885 gael ei chynal yno. Wedi ymdrafod y ewes- tiwn yn ei holl agweddau, penderfyawyd gwneyd y cais yn Eisteddfod Llynlleifiad yr wythnos nesaf. DIGWYDDIADAU ERCIULL.-Dycld Sul, darfu i lywydd yr Ariancly Cenedlaethol yn New Bruns- wick, New Jersey, gyflawni hunan-laddiad; yn ddilynol y mae un o gwsmeriaid yr ariandy wedi cyflawni yr un weithred, a chymaint ydoedd dychryn un o'r cyfarwyddwyr pan glywodd am y digwyddiadau, fel y syrthiodd i lawr yn farw. YMLADDFA MEWN MILODrA.-Hysbysir am ym- laddfa ffyrnig a gymerodd le yn milodfa Sangers, yn Margate nos Wener diweddaf. Yr oedd y bwystfilod fel arferol yn eu celloedd, a thorodd teigr y coed oedd rliyngddo a ehell yn cynwys tri Hew ieuanc. Pan ddaethant at eu gilydd, cymer- odd ymladdfa ofnadwy le rhyngddynt, yr hyn a derfynodd, cyn i gynorthwy gyraedd, yn marwol- aeth y tri llew. FICERIAETH CAERNARFON. Nid oes eto neb wedi ei benodi yn olynydd y Parch. Canon Evans yn ficeriaeth y plwyf hwn, ond deallwn fod rhif yr ymgeiswyr dros ddau cant. Bydd y Canon Evans yn ymadael yn mhen ychydig wythnosau, ac y mae cryn syndod yn cael ei amlygu o her- wydd na buasai ei olynydd wedi ei benodi. Bydd Mr. Evans, os eaniata ei iechyd, yn traddodi ei bregeth olaf fel ficer Llanbeblig yn yr Eglwys Z, tn. Gymreig, St. Mair, nos Sul wythnos i'r nesaf. TAN DINYSTRIOL.—Yn ystod y dyddiaujdiweddaf y mae tan dychrynllyd wedi bod yn ymledu yn nhref Rawa Galicia. Dywedir fod uwchlaw 300 o dai wedi eu llwyr ddinystrio, ac fod yn agos i 30000 drigolion heb gartrefi. Yn nhref fawr farchnadol Rozvadow hetyd y mae 114 o dai wedi eu dinystrio, a 327 o ffermydd cymydogaethol wedi eu llosgi i lawr, ynghyd a'r tai allan, yn cynwys cynyrch yr oil o'r cynhauaf sydd newydd ei gasglu ynghyd, fel y mae eisoes newyn yn y parthau hyny o ddiffyg darpariadau. SYMUDIADAU LLONGAU MRI. EVAN THOMAS, RAD- CLIFFE A'I GWMNI, CAERDYDD.—" Gwenllian Thomas" wedi gadael Caerdydd am Tanagona, Medi 4ydd. "Iolo Morganwg" wedi gadael Aucona am Vorla, ger Smyrna, 5ed cyfisol. "Anne Thomas wedi pasio Caercystenyn am Gibraltar, Medi laf, am archebion. Kate Thomas yn llwytho yn Caerdydd am Port Said. Wynnstay" wedi pasio Malta am Llundain, Awst 28ain. "Walter Thomas" wedi gadael Baltimore am Antwerp, Awst 21ain. "Bala" yn llwytho yn Hartlepool, ae yn dyfod i Gaerdydd yr wythnos n AKnf. DARGANFYDDIAD DYCHRYNLLYD YN LLUNDAIN.— Ychydig ddyddiau yn ol gwnaed darganfyddiad ofnadwy gan forwyn o'r enw Edith Poole, yr hon a breswyliai yn 32, Clarendon Gardens, Maida- vale, Llundain. Yr oedd gan yr eneth dan sylw achos i fyned i lawr i'r ardd o flaen y ty i ateb y gloch, pan y tynwyd ei sylw gan rywbeth tebyg i fwndel o bapyr o dan goed oedd yn yr ardd. Cy- meryd ef oddiyno, ac aeth y forwyn ag ef i'r ty, pan y canfyddwyd ar ol ei agor ei fod yn cynwys corff geneth fechari oddeutu 8 oed. Galwycl sylw yr heddgeidwaid yn uniongyrchol at y peth, a symudwyd y corff i orsaf yr heddgeidwaid. Tybir mai y noson flaenorol y rhoddwyd y corff yn yr ardd. Er mwyn i'r drwgweithredwyr gael gwneyd y bwndel yn fychan, yr oeddynt wedi rhoddi pen yr eneth i orwedd ar ei bronau, ac wedi plygu ei choesau. Pan wnaed archwiliad arni ddydd lau, barnai y meddygon nad oedd ymosodiad wedi cael ei wneyd, gan nad oedd yr un briw i'w weled, ond tybir mai cael ei llwgu a ddarfu, o herwydd fod y cylla yn wag. Barna y meddygon nad oedd y plentyn yn perthyn i ddosbarth isel iawn o gym- deithas, gan fod ymddangosiad y corff yn profi hyny i raddau. Yr oedd ganddi wynebpryd pryd- ferth, gwallt melyn, tywyll, dau lygad mawr disglaer, a danedd gwynion, tlysion. Y mae yr amgylchiad wedi creu braw yn mysg y trigolion, ac y mae yr heddgeidwaid hyd yn liyn wedi methn cael yr hysbysrwydd lleiaf pa fodd y daeth y corff i'r ardd. DINIWEIDRWYDD MERCH.—Y dydd o'r blaen cafwyd prawf rhyfedd o ddiniweidrwydd geneth a gyhuddid o ladrata oriawr. Y mae y manylion fel y canlyn. Oddeutu naw mis yn ol cyhuddid morwyn o'r enw Ellen Ryder gan ei chyd-forwyn o fod wedi cyflawni y trosedd uchod, ar ol ymddir- ied yr oriawr iddi fyned i'w hadgyweirio. Tyst- iolaeth Ryder yn y Ilys oedd, iddi fyned i'r blwch i'r llythyrdy i'w gofrestru, ond dywedwyd wrthi gan ddau ddyn ieuanc oedd a gofal y swyddfa arnynt ar y pryd, nad oedd angen am ei gofrestru, ac am iddi fyned tVr parsel y tu allan a'i bostio yn y ffordd arlerol; gwnaeth hithau hyny, ond ni chyrhaeddodd byth i ben ei daith. Dywedai yr heddynadon, er nad oeddynt yn rhoddi coel i'w hesboniad, nad oedd y dystiolaeth yn ei herbyn ei bod wedi ei ladrata yn ddigonol, ac felly rhydd- hawyd hi, ond yr oedd byth o dan ddrwgdybiaeth, ac yn analluog o herwydd hyny i gael lie yn un man. Yn y frawdlya ddiweddaf, William Eley, 18 mlwydd oed, a John Michael Walsh, 21 mlwydd oed, y ddau oeddynt ar ddyledswydd y diwrnod y dywedai y ferch ei bod wedi postio yr oriawr, a gafwyd yn euog o ladrata llythyrau yn cynwys arian ac eiddo eraill. Dedfrydwyd Eley i ddeunawmis ogarchariad, a Walsh, yr hwn oedd cynllunydd y lladrata, i bum mlynedd o benyd- wasanaeth. Yn mhlitli y pethau eraill a gafwyd yn meddiant y carcharorion, yr oedd yr oriawr y dywedwyd fod Ryder wedi ei ladrata, aaar eistedd- llys Enfield, gwnaeth Mr. Lathan, cadeirydd y fainc, yn hysbys ar gyhoedd fod diniweidrwydd y ferch wedi ei sefydlu yn hollol.

RHAGLAW NEWYDD INDIA.

DERBYNIAD CROESAWGAR I ARGLWYDD…

CAU Y TAFARNAU AR Y SUL.

"'.Y RHYFEL RHWNG FFRAINC…

AGOR YSTAFELLOEDD DARLLEN…

COLEG ABERYSTWYTH.

Y CHOLERA YN NAPLES.

--------- ----------LLANFAIRCLYDOGAU.

CASTELLNEDD.

ABERHONDDU.

-__---_--'r"'_"_'T------""-,,""""----------YR…

Family Notices

COLEG Y GOGLEDD.