Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
ADGOFION HENAFGWR.
ADGOFION HENAFGWR. At Olygydd Y Llan." Syr,—Dan y penawd uchod ymddangosodd sylwadau tlws dros ben ar y 27ain o offeiriaid a fagwyd yn hen ardal anwyl Tregaron, gan yr Eg- lwyswr ffyddlon 11 Henafgwr." Mae ei sylwadau pert wedi creu hiraeth a llawenydd mawr yn fy mynwes wrth fyfyrio a chofio llawer awr dded- wydd a dreuliais yn nghwmpeini bron yr oil o honynt. Trwy drugaredd mae y rhan twyaf o honynt yn aros hyd y dydd hwn, ond rhai a hun- asant. Gobeithiaf y cant y fraint oil o fod yn weinidogion cymwys y Testament Newydd. Enw priodol ficer parchus Llanarth yw David Joseph Jones, ac nid M. Jones. Hefyd enw di- weddar ficer Hen Fonachlog goedd Thomas R. Lloyd, nid M. Lloyd. Boneddwr anwyl a char- edig dros ben. Yr wyf yn cofio ei bregeth gyntaf yn hen Eglwys Tregaron, ei destyn oedd, Canys fy iau sydd esmwyth a'm baich sydd ysgafn," Matth. xi. 30. Feallai mai bai y cysodydd yw hyn. Onid un o ardal Tregaron oedd y doniol John Jones, ficer Llanfihangel-geneu'r-glyn ? Mae ei chwaer, Mrs. William Jones, Pentre, yn aelod ffyddlon yn EglwysITregaron hyd y dydd hwn. Eto, onid un o Dregaron yw y Parch David Edwards, ficer hyawdl Llanystumdwy ? Mae Mr. Edwards wedi cyfansoddi Esboniad rhagorol ar Lyfr y Dad- guddiad ei bris yw 3s. 6c., i'w gael gan Mr Wil- liam Davies, Stationer, &c., Market Street, Llanelli. Mae yn hytryd genyf ddwyn ar gof yr amser dedwydd a dreuliais dan weinidogaeth yr anfarwol Ficer Hughes (coffa da am dano), yn nghwmpeini Stephen George, John Jones, clochydd David Lloyd John Rees, saer coed Philip llees, clochydd, olynydd ;J. Jones; John Evans, Doldre Thomas Jones, Pentre; John Jones, Pencefn; John Walters Edward a Daniel Davies, Gofaint; John Jones, Camerfawr; y diweddar Barch. Peter George, a'i anwyl gefnder, Ficer Aberpergwm David Morgan, Black Lion John Jones, Wenallt Arms (y Gloch arian); ei chwaer, Mrs. Parker, a'r anwyl Miss Williams, Hosier's Arms. Wrth feddwl eu bod agos i gyd "*yn y bedd anghofus dir," mae hiraeth arnaf wrth geisio crybwyll am danynt. Cofion caredig at Mr. J. P. Rees, Mr. Dewi Williams, a Henafgwr.—Yr eiddoch, LLEW CARON.
[No title]
Y peth gwaethaf yw llyfr pechadurus, oblegid nis gall edifarhau. Gwnewcli gyfeillion o'ch gofynwyr (creditors) os gellwch, ond peidiwch byth a gwneyd gofynwr o'ch cyfaill.
YMDDYGIADAU ANNOETH.
YMDDYGIADAU ANNOETH. Gohebydd o'r Bala a ysgrifena fel y oanlyn i gyfoesolyn :I Cwynir mewn cyfoesolyn fod yr heddgeidwaid yn gadael gormod o ryddid i'r plant i chwareu a chadw twrw ar yr heolydd. Nis gwn a ddylem gwyno llawer oberwydd y plant, ond y mae un peth ag sydd i'w glywed bob awr o'r nos ag y dylid, os yn bosibl, ei atal, sef y gwaeddi mawr a glywir gan, y lllyfyrwyr wrth fyned dros eu pregethau. Ni welwn fai arnynt pe yr elent i ben y bryniau neu lan y llyn, lie nad oes perygl dychryn ond y defaid a'r pysgod. Ond y mae gwaeddi Bendigedig," I, Gogoniant," Haleliwia," &3., am yr uwchaf yn ein prif ystrydoedd, er mor felus yw y geiriau, yn nuisance i'r mynedwyr heibio a'r cymydogion. Yr oeddwn ychydig amser yn ol yn myned heibio un ty a chlywn un myfyriwr yn dynwared y Parch. Richard Owen, ac eraill yn yr un ystafell yn per- sonoli dwy wraig a hen wr fyddent yn dueddol o fyned i hwyl a gorfoleddu o dan weinidogaeth Mr. Owen yn y Bala. Credaf y dylai y bwrdd Ileol ymgymeryd i'r mater, a gwneyd rheolau er rhoddi terfyn ar yr arferiad gwrthun hwn-arferiad ag sydd yn peri llawer mwy 0 Hinder i drigolion y drefna chwareuon diniwaid plant byehain." Heb. law y bwrdd lleol, dylai awdurdodan y Coleg wneyd ymchwiliad i'r achwyniad.
CYNHADLEDD ESGOBAETH BANGOR,…
(Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) CYNHADLEDD ESGOBAETH BANGOR, 1884. At Olygydd Y Llan." AfR. GOL.,—Derbyniwch ein diolchgarwch cli- ffuant am ein hanrhydeddu a chynwysiad y ddau bapyr Cymraeg a ddarllenwyd yn y gynhadledd uchod eleni, a diolch gwresocaf hefyd i'r ddau wr parchedig am eu hynawsedd yn eich hanrhegu a'u papyrau llafurfawr. Credwn fod y ddau bapyr yn rhagorol-papyrau ag enaid ynddynt. Buasai yn bechod eu cadw yn mro anghyhoeddusrwydd newyddiadurol. Cynwysant sylwadau ac aw- grymiadau rhagorol. Taer obeithiwn y gwneir ymdrech neillduol i gario eu hawgrymiadau budd- iol i weithrediad. Marw wna yr Eglwys os gorphwysir yn unig ar lefaru, er i'r llefaru hwnw fod yn ardderchog. Hapus bob amser yw y Parch. Thos. Edwards gyda pwncy Dadgysylltiad yma. Rhaid ei gydnabod yn awdurdod ar y pwnc gwir ddyrus hwn. Byddwn bob amser wrth todd ein calon yn darllen ei ysgrifau campus y naill wythnos ar ol y llall. Pan fydd y corn yn galw i'r rhyfel, gobeithiwn y bydd yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn amddiffyn nis gwyddom am neb cymhwysach. Hir oes iddo i oleuo meddwl, ym- eangu gwybodaeth, ac enyn zel a brwdfrydedd yn mynwesau ei gydwladwyr yn mhlaid hen Eglwys Apostolaidd ein Tadau. Mae D.O.D. liefvd yn hynod dda a gwresog gyda golwg ar hawliau a dyledswyddau lleygwyr. Cwyna D.O.D. (ac nid heb achos ychwaith) fod prentisiaeth gweinidog- aethol y gweinidogion ieuainc yn fwrn ac yn ssr- had ar ein cynulleidfaoedd. Gwir, 0 Frenhin Ond atolwg, ar bwy y gorphwys y cyfryw fai; ar y dynion ieuainc eu hunain neu ynte ar y gyfun- drefn Eglwysig bresenol o barotoi dynion ieuainc i'r weinidogaeth ? Ein cred ddiysgog ni yw mai ar y gyfundrefn y gorphwys y bai. Gwna y dyn- ion ieuainc yn hollol briodol wrth geisio perffeith- io eu hunain yn y pynciau hyny y cydnabyddir eu gwerth, er gwneuthur hyny ar draul esgeuluso pynciau pwysicach a buddiolach. Pwy wel fai ar fachgen ieuanc am gyfyngu ei astudiaeth yn hollol i'r pynciau hyny yr arholir ef ynddynt ac am yr hyn y gwobrwyir ef? Pwy wel fai arno, meddaf, am gyfyngu ei astudiaeth i'r Lladin, Groeg, ac Hebraeg, gan ymgadw yn berffaith glir oddiwrth ymarteriad neu astudiaeth er ei gymhwyso yn uniongyrchol i'r weinidogaeth pan na roddir un- rhyw gefnogaeth iddo wneuthur hyny trwy an- ymwybyddiaeth hollol o'r cyfryw astudiaeth ar ddiwrnod pwysig ei arholiad ? Gallaf sicrhau D.O.D., a phawb arall mai prentisiaeth weinidog- aethol er diflasu y gwrandawyr a gwaghau eglwys- ydd y parha gwasanaeth curadiaid yn gyffredinol hyd nes y cyfnewidir ychydig ar destynau yr arholiad am B.A., a'r arholiad o flaen yr Esgob. Carwn yn fawr gael gwybod beth yw barn addfed D.O.D. ar y pwnc hwn ac os bydd yn anghyd- weled a'r syniadau a draethais uchod, pa un yw y dull effeithiolaf yn ei farn ef er llwyddo i gael curadiaid wedi gorphen eu prentisiaeth cyn agoryd drysau yr Eglwys iddynt. Teimlwn yn rhwymedig ddiolchgar i D.O.D. ac eraill o'ch darllenwyr pe y cyhoeddant eu barn yn ddigel ar y pwnc dyddorol hwn, gan gofio mai nid trwy arfer whitewash yn barhaus yr enilla yr Eglwys serch gyfangorph cenedl y Cymry.—Yr eiddoch yn serchog, GWYLIWR. Bangor.
IN MEMORIAM:
IN MEMORIAM: ANTHEM NEWYDD EOS LLECHYD. At Olygydd Y Llan." Syr,—Mae'n hyfrydwch genyf eich hysbysu fod fy anthem In Memoriam," wedi ei hanfon i'r argraffwyr, Mri. Novello, Ewer, a'i Gyf. Oddi- wrth nifer yr archebion ag yr ydwyf yn eu derbyn, credaf y byddaf wedi cael digon erbyn y bydd yn barod o'r wasg, yr hyn a gymer le, gobeithiwyf, cyn pen pethefnos. Yn ychwanegol at gor Eglwys Gymreig Dowlais, y mae genyf i dalu diolch, a chydnabod archebion tywysogaidd corau St. Fagan's, Aberdar, 36 o gopiauf; St. Mary's, Aberdar, 50 y gopiau, a chor Glanogwen, 18 o gopiau. Hefyd, archeb Edward Morgan, Ysw., Machynlleth, o haner can copi, ynghyd ag amryw eraill. Dylem fynegi yma, ond odid, fod yr In Memoriam," pa mor annheilwng bynag yw o'r gwrthddrych, wedi ei chyfansoddi mown dall mor syml a hawdd-y fath ag y gall pob cor Eg- lwysig ei chanu. 0 ran symledd fe wna Anthem Gynulleidfaol, ac mae'n fer. Hefyd, gallaf lieb ofni, ychwangeu ei bod yn yr arddull Eglwysig- arddull sydd i raddau yn colli tir yn nghaniadaeth anthemol yr Eglwys Gymreig y dyddiau hyn. Mae eisiau gwyliadwriaeth yn y rhan bwysig hon. -Yr eiddoch, YR AWDWR. O.Y.—Yn unol ag awgrymiad rhai o ohebwyr y LLAN, mae'n hyfrydwch mawr genyf fynegi fod Pwyllgor y West Ardvdwy Church Choirs Association, wedi penderfynu ar yr In Memor- iam i fod yn anthem yr Wyl Gerddorol, yn Neoniaeth Ardudwy y flwyddyn nesaf, ac wedi anfon yn barod archeb ardderchog am gopiau. Yr wyf yn dymuno cydnabod, gyda diolchgarwch, yr archeb oddiwrth R. Jones-Morris, Ysw., Ty Cerig, Talsarnau.
CAPELI GWADDOLEDIG.
CAPELI GWADDOLEDIG. At Olygydd Y Llan." Syr,—Llawer o ergydio sydd ar waddoliad ein Heglwys. Wele restr o gapeli sy'n derbyn y cyfryw: Capel y Graig, Trelech, Swydd Gaer- fyrddin Capel Heol y Felin, Casnewydd; Llan- brynmair, Swydd Drefaldwyn; Plough, Aber- honddu; Pentre Tygwyn, Swydd Gaerfyrddin; Caernarfon, Anymddibynwyr; Pwllheli, Anym- ddibynwyr Caergybi, Anymddibynwyr; Am- lweb, Anymddibynwyr Peniel, Llanerchymedd Bangor, Anymddibynwyr; Llangefai, Bedydd- wyr Llanuwchlyn, Meirionydd, Anymddibynwyr; Pencader, Swydd Gaerfyrddin. Rhagor y tro nesaf.—Yr eiddoch, CELT.
LLYTHYRAU CANMOLIAETH.
LLYTHYRAU CANMOLIAETH. At Olygydd "Y Llan." Syr,—Dymunaf alw sylw eich darllenwyr at bapyryn a argraffwyd yn ddiweddar, ac y sydd ar werth gan Mr. W. Davies, argraffydd, Llaneli, ynghylch Llythyrau Canmoliaeth (Letters of Commendation). Bwriedir y papyryn i'w roi yn mhorth Eglwys. Ei faint ydyw 20 modfedd wrth 15 modfedd, ac y mae yn argraffedig mewn llythyrenau duon a chochion, ar bapyrlen hardd, cymwysj i'w osod mewn ffram wydr. Y pris ydyw 3c. neu 31-c. drwy'r post. Argraffwyd yn Saesneg megys yr unig iaith ddealladwy i bawb, neu agos pawb yn Nghymru. A ganlyn ydyw ei gynwysiad: LETTERS OF COMMENDATION. When any persons who have been accustomed to attend this Church are about to leave the neighbourhood, and to reside elsewhere, they are earnestly requested to apply to the Clergyman of ,,y the Parish for a letter of Commendation or Introduction, to the Clergyman of the Parish where they intend to reside." Mae pob blwyddyn, pob wythnos, ac yn agos bob dydd, yn dwyn ar gof i'r offeiriaid pa mor angenrheidiol a pha mor bwysig ydyw gwasgu ar feddyliau Eglwyswyr y golled fawr mae llawer yn gael wrth ymfudo o un ardal i arall heb gymeryd gyda hwy lythyr oddiwrth eu hoffeiriad, yn cyf- lwyno i sylw a gofal y Bugail Ysbrydol y maent yn bwriadu myned i breswylio yn ei blwyf. A buom am hir amser yn ceisio dyfod o hyd i bapyr- len rybuddiol, cymwys i'w gosod ar ddrws Eg- lwys. A chredwn y dylai Eglwyswyr fod yn ddiolchgar i Mr. Davies, y llyfrwerthwr, Llanelli, am argraffu rhywbeth sy'n ateb y diben yn drwyadl. DAVID WILLIAMS. Ficerdy, Llanelli, Medi 5, 1884.
CERDD I LLANFAIR TALHAIARN.
CERDD I LLANFAIR TALHAIARN. At Olygydd 11 YLlan." Syn,-Gofynodd un brawd o Ystrad Rhondda yn ddiweddar pwy oedd awdwr y g&n enwog i'r lie uchod. Gan nad oes neb wedi rhoddi atebiad i'r cyfaill, bydded hysbys iddo mae y ffraethbert enwog Talhaiarn a'i cyfansoddodd. Mae i'w gweled yn ei lyfr cyntaf, tudalen 65, os ydwyf yu cofio yn iawn. Cyhoeddwyd y llyfr yn Llundain yn 1855.-Yr eiddoch, LL. CARON.
[No title]
Llafuria gymaint i wella Çly hun o fai ag y gwnaet o dwymyn. Cyn bod y brenhin Tawhaio a'i bendefigion yn gadael Lloegr, cawsant eu hanrhegu Igan y Gym- deithas Feiblaidd Gartrefol a Thramoraidd a chopi o'r Beibl yn yr iaith Maoraidd. Y mae Mr. Henry Richard, yr aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Merthyr Tydfil, wedi anrhegu Prif Ysgol Deheudir Cymru a "V alpy's Latin Classics," yn cynwys 165 o gyfrolau, yr hwn fydd yn ychwanegiad gwerthfawr i'r lyfyrgell. Y mae Mr. Henry Richard yn is-lywydd y coleg. Prydnawn dydd Gwener cyn y diweddaf, yn nglofa Trimsaran, cyfarfyddcdd dyn ieuanc o'r enw John Griffiths a'i ddiwedd yn dra disymwth, tra wrth ei waith, trwy i gwymp o'r top syrthio arno. Yr oedd y trancedig yn 27 oed, ac yn byw yn Gorse Cottage, Mynydd Pembrey. Nid oedd wedi bod yn briod ond am ddau fis.
,MEBYD.
MEBYD. Nid ydyw plant ond pobl fychain, eto y maent yn ffurfio rhan bwysig iawn mewn cymdeithas a achosant i ni wario llawer iawn o'n harian, rhodd- ant waith i ran fawr o'n poblogaeth, a chadwant fwy na haner dysgawdwyr ein hoes yn eu gwas- anaeth, er eu haddysgu mewn gwahanol elfenau ac er eu boddhad a'u difyrwch. Achosant fwy o bryder a gofal i'n Seneddwyr na'r "Ddyled Wladol." Ni wna y feinwen fwyaf brydferth aflonyddu cymaint ar gwsgachosi, cymaint o ocheneidiau a'r un fach yn y cawell; ac ni feiddia yr harddaf o ddynion ieuainc un-ar-hugain oed, mewn cyflawn farf, ac wedi ei wisgo yn nillad o wneuthuriad teiliwr campusaf Llundain, freuddwydio ei fod yn cael ei hoffi haner cymaint a'r amser y gwisgai bais. Heb son dim am y dyfodol, gyda golwg ar y ffaith mai hwynthwy fyddant ein Seneddwyr, ein hathronwyr, ein hynadon, a'n llywiawdwyr rhaid i bawb gyfaddef eu bod yn fodau o ddylanwad eang a rhyfeddol, ac y mae ymweliad baban pen-noeth, diddanedd a noeth, heb allu braidd i agor ei lygaid, ond egyr ei geg fel aderyn am ymborth, yn creu rhyw gynhwrf anghyffredin ac yn achosi cyfnewidiadau rhyfeddol mewn teulu. Cyfnewidiant yn fynych oerfelgarwch i anwyldeb —difrifoldeb i lawenydd a sirioldeb-esmwythdra i derfysg, ffrwst a ffwdan-unant galonau a fu yn hir yn wahanedig-tynerant deimladau a galedwyd gan y byd-dysgant foneddigesau a phendefigesau ein gwlad i gymeryd y dyddordeb mwyaf yn y modd y gwnelir pap i fa ban, a gwnant i'r athronydd mwyaf difrifol i ymlusgo, er eu difyrwch a'u boddhad, ar ei bedair bagl. Ac nid yn unig i'w rhieni a'u perthyn- asaufagosaf y maent yn ddyddorol, ond y maent yn anwyliaid cyffredinol, ac ni wna neb ddiystyru eu mhaldod, ond y dieithr, yr hunanol a'r sarug. Gall hyd yn oed dynion ymddarostwng i chwareu gyda hwy, heb ofni gwneyd eu hunain yn ddirmygus, ao y mae genym llawer iawn o engreifftiau, hen a di- weddar, byw a marw, o ddynion o fri yn ymddar- ostwng i wneyd hyn gyda hwy; gwna'r seneddwr ymidigrifo gyda hwynt-dywed yr areithiwr hyawdl chwedlau dig.Tif wrthynt—cymer y buddugwr ei guro ganddynt-a gwrendy barnwyr, duwinyddion ac athronwyr ar eu debar ac ymunant yn eu chwareuon mewn boddhad. Ond ni ddangosir yr hynawsedd hwn i blant andwyedig a diwahardd, ond y mae pawb yn uno i osod beiau a ffaeleddau eraill ar eu penau ac i gashau y gwrthddrychau anffodus hyn o ffolineb eu rhieni. Rhaid yn fynych eu gwobrwyo fel rhai hynach na hwy cyn y gwnant ymddwyn yn briodol-mynant ddringo arnoch a throsoch-tynant allan eich oriawr o'ch llogell—dinystriant yr hyn ni ddeallant, fel llawer eraill ar faesydd duwinyddol- wylant yn fiol ar adegau, am y lleuad, fel Alexander gynt, am ychwaneg o fydoedd i'w goresgyn a phan mewn nwydau drwg y mae ganddynt gymaint o drugaredd at y llestri te ag oedd gan Napoleon gynt at gawg addurnol Cobentzel. Darllenydd tadol neu famol, cofia eiriau yr Hen Lyfr, Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd." Y merched bychain ydynt ein hanwyliaid penaf, er fod y bechgyn yn ddyddorol a difyr ddigon, eto cyn gynted ag y gwisgant gob a llodrau collant eu mwynder blaenorol, a dangosant fwy o ystyfnigrwydd a thrahausder, yr hyn a alwant wedi tyfu i fyny yn wroldeb a phenderfyniad-collant y tynerwch a'r anwybodaeth o ddrwg, y rhai a ymddangosant mor swynol yn eu chwaer fach. Nid oes dim, o fewn cylch holl wrthddrychaunatur, mor swynol,deniadol, ac anwyl genym a merch fechan, dyner, synwyrol, a deallgar, o wyth i naw mlwydd oed. Dyma'r cyfnod y canfyddir y diwylliant mwyaf ar y cyn- heddfau deallawl cydunol a, phurdeb meddwl glan fel y lili—nas gall amgyfired eto beth yw llygriad— na breuddwydio beth yw perygl—nac ychwaith yn meddu un dychymyg am bechod nac euogrwydd cydwybod. A gwae fydd i bwy bynag a geisia hyd yn oed a, gairfyrhau y cyfnod eiraidd hwn. Buasai y fenyw buraf yn dychrynu rhagdangos holl feddylfryd ei chalongerbron ein llygaid,|tra y gwn-u mebyd yn ei lawn brydferthwch oddef i ni ddarllen pob meddwl a dychymyg o'i eiddo ac yn wir, digwydd ar brydiau fod ei gywirdeb a'i ddiragrithrwydd yn dra anghyf- leus; a gofaled y dyn hwnw a anturia ofyn i blentyn—" beth a feddylia o hono," nad oes dim yn hynod, hagr ac anfoddha,ol yn ei gylch; canys er gwgu o'r teulu, ac er i'w gwynebau wrido mewn cywilydd, ac er pob dyfais o'r eiddynt i foddi'r ateb- iad mewn siarad, daw y gwirionedd noethlymyn ac anghaboledig allan yn nghlywedigaeth pawb presenol —a'r hwn a feddyliai wrth edrych arno ei hun yn y drych, fod ganddo wyneb hardd, hawddgar a glan— a glyw am y tro cyntaf erioed efallai-fod pawb yn dweyd fod llygaid tro arswydus ganddo Gall plant ddysgu un wers fendigedig o leiaf i ni -y wers o fod yn hawdd ein boddloni. Y mae natur garedig wedi cyfranu iddynt y gallu o addasu eu hunain ar gyfer amgylchiadau a ymddangosant yn anfanteisiol. Rhodder iddo ymborth yn gymhedrolgyda chared- igrwydd, a bydd plentyn yr amaethwr neu'r glowr yn ddedwyddach na phlentyn y brenin—y mae yn rhydd oddiwrth reidiau arwynebol, ac nid ydyw yn cael ei orlwytho a thynerwch a maldod. Y mae holl natur yn gwasanaethu at ei dded- wyddwch a'i hyfrydwcb. Gerfia ei foddlonrwydd allan o bren collen, neu pysgota am dano yn y llaca neu'r gornant. Hoff iawn genym glywed llawenydd crytiaid carpiog, y rhai ni feddant deganau drud- fawr, ond llaid, eira, coed a chregin; ac ni ddarfu i ddim erioed godi crechwen a llawenydd yn fwy yn fy nghalon ynghyd ag yn nghalon cyfaill Parchedig o anwyl a hoff, pan oeddem ein dau yn mron ar ben uchaf mynydd Penrhyn uwchlaw Cwm Rhondda, na chlywed croten ieuangc droednoeth, garpiog, yn tori allan i ganu fel yr eos, cyn iddi ein canfod, ond dis- tawodd y g&n pan welodd ni, ond yr oedd llaw- enydd a boddhad yn ysgrifenedig mor eglur a'rha.ul ar ei holl wynebpryd. A sylwasoch chwi erioed ar fwynhad tawel plentyn wedi ei haner ddilladu, a'i haner ymolch yn eistedd i lawer ar drothwy y drws, a, hen gyllell rydlyd yn un llaw, a chlwff o fara a chnepyn o gig mochyn yn y llaw arall ? Mae yr olygfa yn ddigon i dynu dwfr o ddanedd Seneddwr. Ystrad Rhondda. T.H.W.
----_------------Y LLWYNOG.
Y LLWYNOG. Fe fydd gwyr y LLAN A'R DYWYSOGAETH yn ihyfeddu clywed fod llwynog yn eu plith. Gob- eithiaf y gwna bob un o honynt gadw eu heiddo yn ddiogel dan glo, a gofalu na fo'r un twll y gall y llwynog wasgu trwyddo a chael bias ar ei little,favourite. Byd rhyfeddol yw ein byd ni, ac nid wyf yn rhyfeddu i'r gwr doeth ddweyd mae Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl." Daethum ar fv nhro y dydd o'r blaen, i lawr trwy gwrs y Taff, heibio'r Navigation i Bontypridd; swn rhyfeddol a In p glywais yno, ofni myned yn rby agos-deallais mae swn y own ydoedd, yn cynddeiriogi fwyfwy am fy llarpio. Tra'r oedd y Whipper in yn chwythu ei gorn nes ydoedd y chwys yn berwi fel potes pys dros ei gorph, a'r ceffyl druan yn crynu dano rhag ofn y whip a'r spur, aethum dan chwerthin hebio'r cwbl, ar hyd ochr y mynydd, nes cyraedd Pen Pych, y spotyn uchaf yn Cwm y Rhondda. Ac yno cyfarfyddais a hen gyfaill, bau mor garedig a rhoi hanes y cwbl i mi. Y swn cynddeiriog a glywais yn Pontypridd oedd y leaders yn galw ynghyd i'r grand hnntoedd i fod y dydd hwnw, yn Ton-y-pandy, ac mae eu galar mwyaf oedd, nad oedd yn eu plith yr un o'r hen guns ag sydd wedi protectio bryniau Morganwg cyn geni'r cywion hyn. Nid oeddwn yn rhyfeddu ei fod yn cadw draw, a gadael i'r barkers dreulio eu tafodau a'ulleisiau yn swn eu hunain. Y mae pob coryn yn gwisgo Clerical collar a'r dress eoat, os bydd yn abl i adrodd rhy\y bwt o bregeth yn y set fawr, a ddysgodd o waith y real men. Mawr yw eu mwstwr os cant ychydig le i arllwys eu hystraeon gweigion y maent, yn ol eu mympwy ffol, fel ffrwd y Niagara yn America, yr hon a ymffrostia yn marwolaeth pob un a yrr hi dros y dibyn, felly eu hymffrost hwy y mae pob peth nad yw o'r un chwaeth a "hwy i fyned dros y dibyn, i farwolaeth ag ebargofiant dragwyddol, ar greigiau eu digofaint. Dyma y cyfryw sydd wedi methu yn eu hymgais i fyned yn real clericals, ac yn awr yn arllwys eu digofaint ar deml swyn, nes cael i'r 'truan diddysg i yfed o'u llysn afedd. Tebyg i hyn oedd Ileisiau y babanod hyn wrth fwrw eu bygythion ar hyd y Cwm ddydd Iau, y 4ydd cyfisol. Druain o honynt, fe fydd yr hen Fam anwyl yn fyw ac yn ei chlod pan y bydd eu cyrph yn gorw-dd mewn llygredigaeth. Y mae eu herfer yn rhy wael i'w draetliu ymhell- ach, am hyny gadawafhwy yn awr i folianu ar eu ffolineb; a chymeraf gipdrem o'r lie hwn ar y real men dan eu commander parchus, yn mhlwyf Ystradyfodwg. Y Ficer yw'r Parch. William Lewis. Dyma Eglwyswr yn caru'r Eglwys, a'r Hwn a'ihanfonodd i'w bugeilio, ac yn adeiladu cof- adeiladau iddo ei hun. Y mae yn Treherbert ddwy Eglwys yn llawn 0 addolwyr, un gan y Saeson a'r llall gan y Cymry. Adeilad hardd sydd gan y Saeson, rhodd y Marquis of Bute, ond mae yr Eglwys Gymraeg yn harddach fyth er nad yw'r adeilad oddiallan felly, ewch i mewn i'w chynteddau, y mae yno eisteddleoedd cysurus ag addolwyr yn addoli'r Duw Goruchaf, a'r leader ieuangc, y Parch. D. Felix, yn teimlo pwysigrwydd ei ymddiriedaeth. Digon yw i'r llwynog fethu cael twll i'w ysglyfaeth. Bydd gair am Dreorci, Pentre, a'r Ystrad, heb anghofio talu ymweliad a'r bardd clasurol o'r Heol Fach. Byddaf yn Llwyn-y-pia, Pandy, a Pben-y-graig, lie y mae ysglyfaeth ddigon, er calondid i'r llwynog, a chaiff fyned gyda'r doethion i Llantrisant i weled a ddaw yn gallach. Gwell yw gwrando ar sen y doeth na gwrando cAn ffyliaid." Ond yn ei loches yn awr hyd y tro nesaf y gorphwys LLWYNOS.
LLWYDDIANT EFRYDWYR CYMREIG.
LLWYDDIANT EFRYDWYR CYMREIG. Mae y Powis Exhibition, da genym ddeall, wedi ei henill y flwyddyn hon gan Mr. J. R. Roberts, mab ein cydwladwyr enwog y Parch. Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), yr hwn a dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadegol y 1 Rhuthyn, a Choleg Merton, Rhydychain. Prox- ime accessite, Mr. W. Ll. Williams, o Goleg Llanymddyfri. Yr arholwyr oeddynt Mr. H. R. Tottenham, Cymrawd 0 Goleg St. loan, Caer- grawnt, a'r Proffeswr Owen, o Goleg St. Dewi, Llanbedr.
[No title]
Na adawer i'ch crefydd deuluaidd gywilyddio eich crefydd eglwysig. t, Mae yr hwn nad yw weitliiau yn teimlo yn rhy lym neu yn rhy dyner, yn meddu rhy fach o deimlad.