Hide Articles List

3 articles on this Page

MR. HELM AR YR EGLWYS A'R…

News
Cite
Share

MR. HELM AR YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH. Amser yn ol traddododd Mr. Helm araeth werthfawr yn Nghonwy ar y testyn uchod. Yin- ddangosodd yr araeth yn ddilynol yn The Conway Parish Magazine, a chredwn nad annyddorol gan ein darllenwyr fydd y ddyfyniadau canlynol allan o honi:— Yr wyf fi heno am edrych i fewn yn deg i'r ddau fater yma,—dadgysylltiad a dadwaddoliad. Fel ag y mae Mr. Squires wedi sylwi, y maent yn ddau fater wahanol: nid oes unrhyw gysylltiad naturiol ac angenrhesdiol rhyngddynt. Mae yn bosibl y gwnai dadgysylltiad les i'r Eglwys a'r genedl. Mae yn bosibl y caiff dadgysylltiad a dadwaddoliad ei cario allan; ond mae yn bosibl hefyd na chaiff yr un o honynt. (Cym.) Beth a feddylir wrth ddadgysylltiad ? A siarad yn gyff- redin fe ddywedem mai toriad y cysylltiad sydd rhwng yr Eglwys a'r wladwriaeth ydyw. Nid wyf erioed eto wedi clywed neb yn dweyd yn gywir beth fyddai dadgysylltiad heb ddadwaddol- iad: a pha bryd bynag y clywoch ddyn yn siarad yn gyhoeddus ar y cwestiwn o ddadgysylltiad, ac OY yn traddodi math o bregeth ar y pwnc, gellwch fod yn sicr ei fod yn golygu dadwaddoliad yn gystal. Mae llwyfan (platform) amddiffyniad yr Eglwys yn un ag y gall Rhyddfrydwyr a Cheid- wadwys gydgyfarfod arno. Mwy nag unwaith cefais Ymneillduwr yn gadeirydd, a chymorth calonog Ymneillduwyr oherwydd yr oeddynt yn teimlo fod cymaint o allu er daioni yn yr Eglwys Sefydledig fel nad oeddynt yn meiddio cyfodi cymaint a i.bys bach i symyd un gareg o honi, pa un oedd wedi dal ystormydd oesau, ac eto yn barod i fod yn noddfa i bawb a ddymunai ddyfod oddifewn i'w muriau. (Cym.) Pe digwyddai dadgysylltiad, byddai diwedd ar goroni gyda gwasanaeth crefyddol. Pan y byddai y Penadur yn esgyn i'r orsedd, ni byddai seremoniau yr Eglwys, pa rai sydd yn rhoddi cymeriad crefyddol i'r cyfan, mwyach yn cael eu harfer. Ni byddai y Brenin neu Frenhines mwyach o anghenrheid- rwydd yn aelod o'r Eglwys. Gall y Pen Coronog fod yn Babydd; a ydyw y genedl yn barod i wneyd y fath beth yn bosibl ? Gall y Penadur fod heb un grefydd, neu yn Atheist noethlymyn. Clyw- soch lawer gan areithwyr Cymdeithas Rhyddhad yngylch breintiau clerigol, pa rai a ddiddymir os daw dadgysylltiad. Ond nid ydyw breintiau clerigol, mewn gwirionedd, ond ychydig iawn mewn nifer. Y mae gan yr Esgobion sedd yn Nhy yr Arglwyddi. Rhaid iddynt ddod oddiyno. (Chwerthin). Ond, ar y Haw arall, rhaid i'r clerigwyr gael yr un fraint o fyned i Dy y Cyff- redin fel ag sydd gan weinidogion Ymneillduol yn bresenol. (Cym.) Hefyd, y mae yr offeiriad yn cael y fraint o lywyddu yn y festri blwyfol. Dyna fraint fechan iawn. (Chwerthin.) Diwygid hyny trwy ddadgysylltiad. (Chwerthin.) Mewn gwir- ionedd, yr wyf yn methu a gweled beth ydyw yr annhegwch a wneir ag Anghydffurfwyr. Y mae ganddynt, fel aelodau o'u gwahanol gorphor- iaethau yr un rhyddid crefyddol ag sydd gan Eg- lwyswyr. Gallant gredu y peth a fynont, mabwys- iadu unrhyw ffurf o addoliad, penodi eu gweinid- ogion, adeiladu eu capelau, ac nid ydyw eu gweinidogion mewn un modd yn cael eu cyfyngu yn maes eu llafur. Yr wyf yn methu a gweled beth (ydyw yr anghydraddoldeb a ddileir mewn unrhyw fodd trwy ddadgysylltiad. (Cym.) Fe fydd dadgysylltiad yn gam yn ol ac nid yn ymlaen yn hanes y genedl, oherwydd fe fydd cyd- nabyddiaeth genedlaethol o'r Duw Hollalluog yn cael ei ddileu. Y mae dadwaddoliad yn beth hollol wahanol; ac yr wyf yn meddwl y gallaf ddywedyd na roddodd Mr. Fisher o'ch blaen gyn- llun awyddfryd a dyfais y sawl sydd yn dymuno dadwaddoli yr Eglwys. Y mae Cymdeithas Rhyddhad Crefydd wedi gosod cynllun i lawr na fedr ei gario allan, oherwydd y mae teimladau a syniadau moesol y werin yn ei erbyn i'r byw. Y mae Cymdeithas Rhyddhad yn dal y dylai yr Eglwysi a adeiladwyd cyn y flwyddyn 1818 gael eu cyfrif yn eiddo cenedlaethol. Paham y nodir y flwyddyn 1318 ? Os codwyd Eglwys yn 1817, paham nad oes gan Eglwyswyr yr un hawl i gadw gafael ynddi a phe buasai wedi ei chodi yn 1819 ? (Cym). A ydyw y ffaith o'i bod wedi ei chodi flwyddyn o flaen neu ar ol 1818 yn gwneyd rhyw wahaniaeth .? Dyna hen Eglwys y plwyf yn Nghonwy, wedi ei hadeiladu ganrifoedd o flynydd- oedd yn ol, wedi ei hail-adeiladu, ei hadgyweirio, a'i hail-adgyweirio yn eich cof chwi eich hunain: a ydyw'r Eglwys yna i fyned yn eiddo'r genedl ? Wedi ei hadeiladu gan Eglwyswyr, ei hail-adeiladu a'i hadgyweirio gan Eglwyswyr, a ydi hono eto i fyned yn eiddo cenedlaethol ? Ai nid ydyw eich meddyl- iau yn barod i sefyll yn erbyn y fath gysegr-ladrad a hynyna ? (Cym.) Y mae yr Eglwysi a adeiladwyd oddiar y flwyddyn 1818 i'w trosglwyddo yn ol i'w perchenog, os yn fyw, pa un a fydd y perchenog yn dymuno hyny ai peidio. Os bydd y perchenog wedi marw, nid oes dim darpariaeth ar gyfer yr etifedd- ion, ac y mae yr adeilad i ddyfod yn feddiant i'r gynulleidfa ar y pryd, sef i'r personau a ddigwydd- ant fod yn yr Eglwys yn ystod yr addoliad, pa un a fyddant wedi myned yno gyda bwriad i addoli ai peidio, a pha un bynag fyddant ai Eglwyswyr, Anghydffurfwyr, neu Atheistiaid. Os bydd Eglwys yn hen, trosglwyddir hi (yn ol cynllun Cymdeithas Rhyddhad), i fwrdd plwyfol, i wneyd a hi fel y mynont. Ar foreu dydd Sul gellir ei defnyddio gan yr enwad crefyddol yma, yn y prydnawn gan un arall: dranoeth gellir cynal cyngherdd ynddi, ail-tranoeth nodachfa (bazaar), a thradwy de-parti. Ac y mae y bwrdd i gael haw I i werthu yr Eglwys ar ryw delerau neillduol. A'i nid ydyw cynygion fel yna yn ddigon i wneyd i wallt Cymro a Sais sefyll i fyny yn syth ? (Cym.) Mae yn arswydus meddwl fod Eglwysi wedi eu cys- egru at wasanaeth yr Holl-alluog Dduw i gael eu defnyddio yn y modd yma. Y mae yr Eglwys ag sydd yn hen sefydliad ar- dderchog i gael ei dadwreiddio, a'i gwasgar i'r gwynt; ac nid oes neb i dderbyn dim lies oddiwrth hyny am flynyddau lawer. Dywedodd Mr. Fisher, os cymer dadgysylltiad a dadwaddoliad le, na fydd y Llywodraeth ddim yn deddfu athrawiaeth, disgyb- laeth, a seremoniaujyr Eglwys wedi'n.' Mae hynyna yn osodiad tywyll iawn, ac yn dueddol i argraffu ar feddyliau llawer yr hyn sydd yn hollol groes i'r gwirionedd. Gellir meddwl wrth y gosodiad yna fod y Parliament yn cyfarwyddo yr Eglwys yn ei hathrawiaeth, disgyblaeth, a'i seremoniau, a'u bod oil wedi eu gwneyd gan y Llywodraeth. Ni fu erioed fwy o gamsyniad. Pa le mae athrawiaethau yr Eglwys ? Pa le mae ei disgybliaeth a'i seremoni- au [i'w gweled ? Yn y Llyfr Gweddi Gyffredin. A phwy wnaeth y Llyfr Gweddi Gyffredin yna ? Fe ddywed Mr Fisher wrthych mai y Llywodraeth a'i gwnaeth. Y mae y fathjhaeriad a hynyna yn ddisyn- wyr. (Cym.) Ni wnaeth y Llywodraeth erioed yr un llinell o gredoau ac erthyglau yr Eglwys. Ni wnaeth y Llywodraeth ond eu eymeradwyo, a dyweyd, Yr ydym yn cymeryd y Llyfr Gweddi Gyffredin yn llyfr athrawiaeth yr Eglwys." Y mae y gwahanol enwadau Anghydffurflol hefyd yn dwyn cysylltiad, mwy neu lai, a'r Llywodraeth. Y mae gweithred Seneddol yn perthyn i'r Trefnyddion Cyntefig yn yr Iwerddon: fe aeth John Wesley i Lys y Canghellydd (Court of Chancery) ynghylch eiddo Wesleyaidd: ac yn Huddersfield y mae cweryl wedi bod mewn perthynas i Gapel ac oherwydd i'r aelodau fethu cytuno ynghylch y mater, gorfu ar yr Is-ganghellydd (Vice-Chancellor) ben- derfynu rhyngddynt. Felly y mae pob corph o Anghydffurfwyr yn gysylltiedig a'r Llywodraeth; ac nid yw ond ewestiwn o radd, ac nid o egwyddor. Fe ddywedodd Mr. Fisher fod y Llywodraeth wedi gwneyd cyfraith er darparu cynaliaeth i'r clerigwyr drwy ddegwm. Dyna osodiad aneglur arall. Os oedd Mr Fisher yn meddwl fod y Llywodraeth wedi rhoddi'r degwm i'r clerigwyr, fe ddywedodd yr hyn sydd anwiredd noeth. Ni roddodd y Llywodraeth erioed o'r degwm i'r Eglwys. Os oedd Mr Fisher yn meddwl fod y Llywodraeth yn diogelu eiddo oedd personau unigol wedi roddi i'r Eglwys, yna fe ddy- wedodd y gwirionedd. (Cym.) Y mae y Llywodr- aeth yn diogelu i bob gofynwr yr hyn sydd ddyledus iddo ar ei ddyledwr. Dyna sefyllfa pethau yn gywir gyda golwg ar y degwm. Er mwyn cael hanes dechreuad y degwm, mae yn rhaid i ni fyned yn ol ganrifoedd o flynyddau: hyd amser y Sacsoniaid yn Lloegr, ac yn Nghymru yn mhellach yn ol na hyny: oherwydd y mae genym hanes am yr Eglwys yn dal ei thir yn ddifwlch yma, pan yr oedd yn gwanychu ac yn darfod yn Lloegr. Pan gawsai Brenin ei ddychwelyd at Gristionogaeth, yr oedd bob amser yn cadw Caplan, yr hwn oedd yn llywodraethu fel gwr Eglwysig dros ei esgobaeth: ac yr oedd y Brenin, weithiau ei hunan, ac weithiau yn cael ei helpu gan ei bendefigion, yn arfer rhoddi tir yn waddol i'r Esgobaeth. Felly, dechreuad gwaddol- iadau yr Esgobion yn y wlad yma oedd rhoddion tywysogion o'u heiddo personol eu hunain. Yr wyf yn herio unrhyw un i enwi Gweithred Seneddol ag sydd wedi creu y degwm. Dywedodd Mr. Fisher fod y plwyfi wedi cael eu creu gan y Stat, ac nad oedd gan neb hawl i weinyddu ynddynt, ond yr Offeiriad. Pa bryd y gwnaed Conwy yn blwyf gan y Stat ? Dywed Blackstone mai Arglwyddi y Maenorau a rodclasant y degymau a'r tiroedd, ac fod y plwyfi o'r un faintioli yn un a'r hen etifeddiaethau. Dywedodd Mr. Fisher mai trwy rym cysylltiad yr oedd y Llywodraeth yn penodi esgobion, deoniaid, archddiaconiaid, a chanoniaid. Yn Nghymru yr oedd yr archddiaconiaid a'r canoniaid yn cael eu penodi gan yr esgobion. Esgob Bangor sydd yn penodi Deon Bangor. Pwy sydd yn penodi yr Esgobion? Nid y Stat; ond fe ddichon rhywun ddweyd-pan benodir Esgob oni bydd Mr. Gladstone yn anfon ei enw i'r Deon a'r Glwysgor (Chapter) ? Gwir. Ond nid efe sydd yn penodi yr Esgob. Fe ddywedaf wrthych pwy sydd-boneddiges, ac yn hir y teyrnaso, sef y Frenhines Victoria. (Cym.) Y mae Mr. Gladstone yn anfon enw yr hwn a benodir, am mai efe ydyw Prif Weinidog y Frenhines, ac am nad ydyw y Frenhines yn bersonol byth yn ym- ddangos o flaen y genedl mewn gweithred swyddogol. Gosodiad nesaf Mr. Fisher ydoedd, nad oedd modd amddiffyn f. chynal yr Eglwys yn ei sefyllfa bresenol ar dir dinesig. Mewn atebiad i hyn yna, yr oedd datganiad Mr. Forster, A.S. dros Bradford, a Rhydd- frydwr, yr hwn a ddywedodd ei fod yn Credu fod cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth mor werthfawr fel nad oedd yn meiddio cyffwrdd ag ef." (Cym.) Y mae yn yr Eglwys ryddid crefyddol. Y mae gan bawb yn ddiwahaniaeth hawl i Eglwys y plwyf. Y mae gan bawb, o'r pendefig i'r tlotaf yn y plwyf, hawl i weinidogaeth yrEglwys. (Cym.) Siaradodd Mr. Fisher am y gwastraff dychrynllyd o herwydd y cyflogau uchel a delir i rai o urddasolion yr Eg- lwys. Dywedodd y diweddar Archesgob Tait, yr hwn oedd yn cael 915,000 yn y flwyddyn, ei fod yn gyfoethocach pan yn feistr mewn ysgol na phan yn Archesgob Caergaint, a hyny am fod cymaint o ofynion arno. Y mae ar yr Esgobion angen am eu cyflogau, er mwyn gwaith Eglwysig. Y mae yr Esgobion yn ddosbarth ag sydd yn gweithio yn galed. (Chwerthin). Y mae rhywun yn chwerthin, ond yr wyf yn dweyd wrth y cyfryw un fod Esgob Lincoln, yn ystod ei oriau hamddenol, wedi cyfansoddi esboniad nad oedd modd ei gyfansoddi ond mewn oriau hamddenol, ac y mae yn etifeddiaeth i'r holl fyd. (Cym.) Dywedodd Mr. Fisher yn mhellach, fod llawer iawn yn myned o Eglwys Loegr i Rufain ond ni ddywedodd wrthych pa faint sydd wedi gadael Eglwys Rhufain am Eglwys Loegr, neu pa faint o Anghydffurfwyr ac eraill sydd wedi d'od drosodd i Eglwys Loegr. (Cym.) Yr oedd yr Eglwys yn bod- oli cyn bod y Stat, ac o ganlyniad nid y Stat a'i creodd. Yn y gwrthwyneb, crewyd y Stat i raddau helaeth gan yr Eglwys; a chan mai dyna ydyw y ffaith, fe ddylai y Stat gynorthwyo yr Eglwys i gadw ei meddianau. Fe all y Stat gymeryd meddianau yr Eglwys, ond nis gall byth eu hadfecldianu, oblegid nid oeddynt erioed yn feddiant iddi. Nid ydyw y Stat ond gwarcheidwad meddianau yr Eglwys. Yn ystod y ganrif bresenol y mae yr Eglwys wedi dyblu rhifedi ei gweinidogion wedi gwario miliynau lawer er dyrchafu crefydd a moesoldeb, adeiladu eglwysi, ysgoldai, a phersondai. Nid Eglwys ag sydd wedi myned yn ddirym ydyw (uchel gym.), ond Eglwys gyda bywyd rhyfeddol yn y gorphenol, ac yn y pres- enol i fyny ag anghenion yr oes.

DIMBYCH-Y-PYSGOD.

Advertising