Hide Articles List

9 articles on this Page

LLITH GWLADWR.

News
Cite
Share

LLITH GWLADWR. GWASANAETH MUD. Golyger fod boneddwr a thirfeddianwr wedi ei dramgwyddo gan un o'i denantiaid. Diau y byddai yr olaf yn bryderus ei feddwl hyd nes yr ymgymodai A'r blaenaf. Y mae y tyddynwr broil yn ddieithriad, yn ein gwlad ni o leiaf, yn ymddibynu i raddau helaeth ar hynawsedd a charedigrwydd ei dirfedd- ianwr; ac oblegid hyn y mae yn awyddus bob amser i wneuthur, hyd yn nod ychydig aberth er boddhau ei feistr. Pe digwyddai iddo ei ddigio mown un- rhyw fodd, y mae yn ceisio cydymweliad, ac y mae yn dwys fyfyrio pa fodd i ymddwyn, a pha beth i ddweyd yn yr amgylchiad. Yn awr, a feddyliai unrhyw un, y byddai i'r tyddynwr gam-fucheddu, neu fod yn ddifater gerbron y gwr mawr, neu fod yn fud yn ei bresenoldeb ? Debygem y byddai iddo yn hytrach fod yn ofalus iawn pa fodd i ymddwyn a pha beth i ddweyd. Gall gwallgofddyn yn ddiau gam-ymddwyn ar y cyfryw amgylchiad, ond nid felly ddyn yn medd- wl am ei fywoliaeth, ac am gymod a ffafr ei feistr drachefn. Na, tybiem y byddai yn ofalus iawn am osodiad allanol y corph, am eiriau addas i osod allan ei deimladau—llawer llai y byddai iddo fod yn fud .Y ar y fath amgylchiad. Y mae Cymwynaswr Mawr, mwy rhadlawn a charedig filwaith na'r un tirfeddianydd, neu gy- mwynaswr daearol, wedi ei dramgwyddo, ac mae efe yn cael ei ddigio yn feunyddiol, ac y mae dynion, y rhai rhai sydd feddianwyr dano ef, yn rhyfygu dyfod i'w wyddfod yn fud-yn ngwasanaeth dwyfol ei Eglwys. Er fod cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lie yn y dull o ddwyn y gwasanaeth dwyfol yn Eglwysi ein gwlad yn ystod y 15 mlynedd diweddaf, eto y mae genym dyb fod cynulleidfaoedd hyd yn hyn yn fud yn yr Eglwys tra y mae y gwasanaeth yn myned ymlaen. Nid dyma y dull a fwriedid gan ein Diwygwyr pan yn cynllunio y Llyfr Gweddi Gyti- redin. Nis gallwn, ar hyn o bryd, fanylu ar hanes y Llyfr Gweddi, ond nid oes amheuaeth na feddyl- iodd ffurfwyr ein gwasanaeth godidog iddo i fod yn wasanaeth mud. Nid gwasanaeth mud oedd yn y babell yn yr anialwch gynt-nid gwasanaeth mud oedd geiriau y Publican yn y deml. Nid ydyw gwahanol ranau o wasanaeth yr Eglwys i fod yn gyfyngedig i'r gweinidog a'r côr neu y clochydd. 0 flaen y cyffes gyffredin dywedir, I'w dywedyd gan yr holl gynulleidfa;" ar ol y gollyngdod dywed y rhuddell—" atebed y bobl yma," ac ar ddiwedd pob un gweddiau ereill, Amen; o flaen credo yr Apostol- ion dywedir, "Yna cenir, neu y dywedir credo yr Apostolion gan y gweinidog a'r bobl," &c. Pe byddai i'r holl gynulleidfa ufuddhau i'w gweinidog, a gwrando ar gvfarwyddiadau y rhuddell, oni fyddai gwasanaeth ei n Heglwys yn fawreddus ? Oni fyddai clywed yr holl bobl, megis un llais, yn uno yn yr addoliad dwyfol, yn foddion i ddyrchafu teimlad y gweinidog ? Y mae anhawsderau gyda ni yn y wlad i gyflawni gwasanaeth yn ddyladwy. Nid ydyw y rhan fwyaf o'n cynulleidfa-sef y canol oed a'r henafgwyr, yn alluog i ddarllen yn ddigon cyfarwydd i ganlyn y gweinidog. pnd yn fuan ni bydd esgus oblegid hyn, canys y mae yr Ysgol Sul yn llawforwyn werthfawr er galluogi y genedl sydd yn codi, i fod yn ddarllen- 0 wyr digon cyfarwydd i ddilyn y gwasanaeth dwyfol. Nid ydyw y canol oed a'r hen bobl ychwaith erioed wedi eu harfer i uno yn yr addoliad. Wrth anog y cyfryw i geisio uno, ac adrodd y rhanau mwyaf cyfarwydd o'r gwasanaeth, sef gweddi yr Arglwydd a'r Amen, yr ateb a geir—" Nid ydwyf fi wedi arfer erioed." Y mae gweiniddgion felly, wedi bod yn gwasanaethu yn ein cysegrfaau, nad ydynt wedi ystyried erioed yr angenrheidrwydd o gyflwyno dull y gwasanaeth cyhoeddus i sylw eu cynulleidfaoedd; y canlyniad yw ydyw eu bod yn gorfod cyflawni y gwasanaeth bron yn fud, gyda chymorth y clochydd yn unig. Y mae rhan fawr o'n cynulleidfaoedd fel hyn, yn mynychu ein Heglwysi yn flurfiol-megis pe byddent yn mynychu llys gwladol; y maent fel prenau yn fud a difater ger bron gorsedd gras, ac yn nheml eu Duw. Y mae felly Eglwysi etoyny wlad, a rhai yn y trefydd, lie y mae y gwasanaeth dwyfol yn ddifywyd, yn oer, a diserch. A ganiateir i ni ofyn paham y mae hyn ? A ellir ddim eu gwella ? Ateb- wn yn gadarnhaol—gellir! a hyny heb gynorthwy c6r galluog ac offeiriad cerddorol. Y mae gwasan- aeth ein Heglwys yn rhagori cymaint ar bob un arall; ac y mae yn gwneuthur pob cyfran yn ddy- ddorol a phleserus i'r gynulleidfa trwy iddynt ymuno ynddo. I'r diben hyn gofaled y gweinidog fod Llyfr Gweddi a Llyfr Hymnau yn llaw pob aelod yn y gynulleidfa, ao ymdreched, trwy ddiwyd ymarferiad, i gael pawb a all ddarllen i uno yn y gwasanaeth. Y mae yn gofyn Uafut i hyn. Rhaid ymarfer y bobl yn y Salmau, y Credoau, yr atebion, &c. Yna yn yr Hymnau yr un modd. Na fydded i neb fod heb ei lyfr, na fydded i neb fod yn fud. Gellir cyrhaedd- yd gwasanaeth gynes, dywedwn heb fod yn fedrus mewn cerddoriaeth. Yr ydym yn credu pe oeid gwasanaeth serchog ymhob Eglwys trwy y wlad y byddai llwyddiant a chynydd yn amlygadwy. Fel hyn enillai yr Eglwys amddiffynwyr. Y mae y cyfarfodydd hyny a elwir Gwyliau Corawl," wedi gwneuthur daioni yn y cyfeiriad uohod yn y wlad; ond yr ydym o'r farn nad ydynt wedi llwyddo i gael gwasanaethau cynes, yn enwedig yn Eglwysi y wlad. Nid ydyw corau yn y wlad, yn ami, yn alluog i gadw i fyny wasanaeth corawl. Nid ydyw yr offeiriad ychwaith yn ami yn alluog i arwain y oyfryw wasanaeth. Y mae gwasanaeth cynes, serchog, ac adeiladol i'r gynulleidfa felly yn ym- ddibynu nid cymaint ar y gwasanaeth corawl, nao ar allu oerddorol a llais deniadol y gweinidog, ond (yn ein barn ostyngedig ni) ar ddyfal barhad ac ym- drech gyda'r gynulleidfa er uno ymhob rhan o'r gwasanaeth. Llawer gwaith y clywsom ein cyfeill- ion yr offeiriaid yn gwneuthur esgus, na.d ydynt yn alluog i gael yr undeb hwn oblegid eu hanallu lleis- iol a cherddorol. Ond nid ydyw y gallu hwn yn anhebgorol angenrheidiol er cael gwasanaeth cynes. Bydded felly i bob gweinidog argymell ei gynulleidfa a gweled fod pob aelod o honi a all wneuthur hyny, uno yn glywadwy yn y gwahanol ranau o honi. Nid oes gan neb esgus dros fod yn fud os gallant ddarllen. Cofied pob gweinidog mai nid gwasanaeth mud ydyw gwasanaeth yr Eglwys i fod.

[No title]

-----CYNHADLEDD ESGOBAETH…

FELINFOEL.

CONWYL ELFED.

LLANWDDYN.

[No title]

MERTHYR TYDFIL.

- LLANSANTFFRAID, MORGANWG.