Hide Articles List

12 articles on this Page

TRAWSFYNYDD.

News
Cite
Share

TRAWSFYNYDD. DATHLIAD PRIODAS MISS WILLIAMS WYNN.—Yr oedd preswylwyr y pentref hwn wedi ymddarparu i gadw dydd priodas Miss Wynn mewn rhwysg a mawredd. Boreu dydd Mawrth gwelid lluoedd o bobl y wlad yn ymgyrchu tua'r Llan, pob un yn eu gwisgoedd goreu, eu calon yn llawen, a'u llygaid yn siriol, a phob un yn awyddus i flaenori yn y gwaith hyfryd o dystio eu parch a'u hoffder tuag at y teulu ardderchog sydd wedi bod yn gymwynaswyr mor haelionus i'r gymydogaeth. Oddeutu haner dydd clywid y magnelau a osod- wyd ar Graig yr Ogof, a bryniau cyfagos, y naill ergyd yn dilyn y Hall gyda'r fath gyflymdra, a'r swn yn adsain o'r naill glogwyn i'r llall.nes oeddid o'r bron yn tybied bod Rhinog Fawr yn siglo ar ei cholofnau. Ar hyn mawr oedd y cynwrf yn mysg y dorf: clywid" sain clych yn entrych nen;" a dadwrdd banllefau y lluoedd oedd yn ail i swn y magnelau. Am ddau o'r gloch trodd pawb eu gwynebau tua'r Ysgoldy Genedlaethol, yr hon oedd wedi ei haddurno yn ddestus dros ben. Yma yr oedd byrddau llawn o ddanteithion yn eu haros, a chafodd dros 500 o blant a phobl eu digoni a'r darpariadau. Ar ol i'r dyn mewnol gael ei ddigoni, ffurfiwyd gorymdaith, y seindorf bres o Tanybwlch yn blaenori, ac yn cael eu canlyn gan y tenantiaid ac holl drigolion y pentref. Aeth- pwyd trwy y prif heolydd, a dychwelwyd i gae cyfagos i fwynhau eu hunain gydag Athletic Sports, a chafwyd hwyl iawn. Am bump o'r gloch cafwyd cyfwyd cyfarfod dyddorol yn yr ysgoldy. Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. W. S. Williams, rector, yrhwn a anerchodd y cyf- arfod mewn araeth hyawdl, gan adrodd rhinwedd au lliosog teulu Wynnstay a datgan ei obaith cryi y dilynai llwyddiant a dedwyddwch iddynt trwy eu hoes. Yna dangoswyd yr anerchiad sydd i gael ei chyflwyno yn fuan i'r par ieuanc, gan denantiaid ystad Rhiwgoch ac amryw gyfeillion eraill o'r plwyf. Ar ddymuniad rhai o'r cyfeillion cyfieithiwyd yr anerchiad gan y rector, fel y gallai y Cymro uniaith ei deall. Ar ol hyn cododd Mr. Jones, Goppa, i fyny a dywedodd y dymunai wneyd ychydig o nodiadau hanesyddol ar gysyllt- iad y teulu anrhydeddus stg ardal a phlwyf Traws- fynydd. Y mae cysylltiad teulu Wynnstay a'r plwyf yn bodoli er's dros ddau gant o flynyddau, a phrofai gweithrediadau y dydd hwnw fod y cysylltiad a'r teulu anrhydeddus yn un anwyl a dymunol dros ben- Y Llwydiaid oedd feddianwyr cyntetig y Rhiwgoeh, ac yn amser Robert Lloyd yn y flwyddyn 1610 yr adeiladwyd yr hen bias, yr hwn a erys hyd heddyw heb gyf- newidiad. Un o'r enw Eliseu Llwyd oedd gwr y Rhiwgoch a pherchenog yr ystad yr adeg yr ydym ni yn son am dani gyntaf. Un plentyn, merch o'r enw Catherine, oedd iddo, yr hon oedd ei etifeddes. Priododd Catherine Llwyd, Harri Wynn, degfed mab Syr John Wynn, o Wydir. Daeth Harri Wynn i'r Rhiwgoch i fyw, a bu yn cynrychioli sir Feirionydd yn y Senedd. Ei fab a'i etifedd ef oedd John Wynn, yr hwn a briododd Jane, unig ferch ac etifeddes Mr. Eyton Evans o Wattstay, fel y gelwid y lie y pryd hwnw ond pan ddaeth John Wynn i feddiant o'r lie trwy y briodas grybwylledig newidiodd yr enw i Wynn- stay er bytholi ei enw ei hun a'i gysylltiad a'r etifeddiaeth. Ni bu i Syr John Wynn a'i wraig blant, felly gadawodd ystad Wynnstay a Rhiw- goch a'i etifeddiaethau eraill i gar iddo, Mr. Watkia Williams Wynn, wyr i Syr William Williams o'r Glasgoed, Llansilin, a hen daid i Syr W. W. Wynn presenol. Fel yna y daeth y cys- yllltiad rhwng teulu Wynnstay a Trawsfynydd. Gallwn ddweyd hefyd mai yn rhinwedd ei fedd- ianiad o ystad Rhiwgoch y gwisga Syr Watkin ei bais-arfau yr Eryrod, motto yr hon yw Eryr Eryrod Eryri." Wrth derfynu dymunaf dded- wyddwch i'r par ieuanc sydd wedi uno mewn glan briodas heddyw. Hyderaf y bydd iddynt wneyd eu huaain yn gydnabyddus bersonol a'u hetifedd- iaeth yn ein plwyf ni ac a'r tenantiaid yn gyffred-1 inol. Yna darllenwyd y penillion canlynol gan Mr. W. E. Williams (Gwilym Eden) :— Cydunwn yn serchog i gydlawenhau Ar hapus briodas yn mhalas Wynnstay, Ireidd-deg ganghenau o fonedd a bri, A hanant o fiaenion ein hen genedl ni. Yn llwybrau haelionus eu rhiaint dinam Y byddant mewn urddas yn cerdded bob cam; I'r tlawd a'r anghenus cyfranant o'u stor, Amddifad wrandawant pan gurant eu dor. Ac fel eu henafiaid yn caru lleshad Eu parchus denantiaid mewn llwydd a gwellhad Boed iddynt gael iechyd a hir oes i fyw, I wneuthur daioni dan nodded ein Duw. Hen enwau Cymroaidd a'u teitlau heb gel A gariant mewn urddas i'r oesau a ddel, Eu hunig arwyddair tra peri eu hoes, Fo rhinwedd, dyngarwch, haelioni a moes. liawddamor 1 fe wawriodd y dydd er lleshad, Yr unwyd dwy galon-a chadwyd y stad, Yr hen etifeddiaeth mewn urddas y bo, Hwre i Syr Watcyn-pen brigyn ein bro. Gellir dweyd i'r bwydydd, y rhai a barotowyd gan Mrs. Morris, High Gate, roddi boddlonrwydd mawrn'r cymdeithion a threuliwyd y dydd yn ddiddan a chysurus. Aeth pobpeth heibio yn dawel a dedwydd a maith fydd yr amser cyn yr anghofia trigolion Trawsfynydd neithior Mr. a Mr. a Mrs. Wynn. Llwyddiant a dedwyddwch a'u dilyno hwynt drwy eu hoes yw gwir ddymun- iad—D.A.H.

DOWLAIS.

GWRECSAM.

LLANYMDDYFRI.

ABERDAR.

,TAN Y BWLCH, ST. ANN'S, BANGOR.

ABERYSTWYTH.

ABERDAR.

-------LLANELLI,

PENEGOES, GER MACHYNLLETH.

--.'/ CAERNARFON.

[No title]