Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

[No title]

Y CYMRY YN NHREFYDD MAWRION…

News
Cite
Share

Y CYMRY YN NHREFYDD MAWRION LLOEGR. At Olygydd Y Llan." Syr,—Darllenais gyda llawer o bleser lith "Cymro ar daith," dan y penawd uchod, a chan fy mod yn ystyried y sylwadau yn rhai ag sydd yn teilyngu sylw pob Eglwyswr twymngalon, yr wyf yn meiddio anfon gair o'm profiad fy hunan o angen Cymry Lloegr o gael addoli yn iaith eufmam ac yn Eglwys eu tadau. Ac fel un ag sydd wedi cael y fantais o dalu "ymweliad ag amryw o drefydd a phentrefydd yn Ngogledd Lloegr, lie mae y Cymry wedi ymsefydlu, gallaf dystio fod gwir angen arnynt am i rywun gymeryd sylw o'u hangenion crefyddol. Yn swydd Durham yn unig, mae canoedd o Gymry i'w cael, ond nid wyf yn gwybod am, ond yn unig un Eglwys Gymreig (Newcastle) yn y sir. Ond ewch i'r pentrefydd o gwmpas y gweithfeydd glo a haiarn, if, chewcli weled amryw gapelau Ym- neillduol heb fod neppell oddiwrth eu gilydd. Ond nis gall yr Eglwyswyr gael yr un Eglwys Gym- raeg i addoli ynddi. Beth yw yr achos o'r difraw- der ysbryd a'r esgeulusdra yma ? Wel, mae yr Eglwyswyr eu hunain yn rhy ddifraw. Nid ydynt yn teimlo mai eu dyledswydd hwy yw gwneyd eu hangenion yn wybyddus i'r neb alleu cynorthwyo, a gwneyd yr hyn a allant eu hunain i godi Eglwys Gymreig yn y lie. Mor fuan ag y daw haner dwsin o Fethodistiaid at eu gilydd, gwelwch hwy, yn y mynyd, yn dechreu meddwl am godi capel, ac y maent yn ymladd nes ei gael. Ond mae yr Eglwyswyr wedi arfer gweled eu Ficer yn cymer- yd pob cyfrifoldeb i'w law ei hun, a thrwy nad oedd ef pan yn Nghymru yn cael rhan na chyfran yn nhrefniadau y cysegr, mae wedi myned i feddwl nad oes cyfrifoldeb i fod ar y lleygwr i wneyd ei ran i gael oddiamgylch, a chynal Eg- Ily lwys; ond fod yn rhaid aros yn ddistaw am ryw amser anmhenodol, hyd nes y daw rhyw Ficer i wybod eu hangenion ysbrydol, ac yna y cymer hwnw yr holl gyfrifoldeb ar ei ysgwyddau ei hun. Fel ag y crybwyllwyd eisoes mae nifer y Cymry yn Swydd Durham yn fawr, ac y mae y nifer yn fawr yn y sir nesaf ati, sef Cumberland. Pe byddai i'r Eglwyswyr Cymreig yn y gwahanol bentrefydd yn y ddwy :8ir yna fod yn zelog, a chael cyfarfod a'u gilydd, ac ond odid na fyddai rhywun yn barod i adael ei dy at eu gwasanaeth am ychydig Suliau i gychwyn, ac yr wyf yn gwybod lod amryw o ddynion ieuainc Cymru yn Ngoleg St. Bees, Cumberland, ac yn Mhrifysgol Durham, a fuasai yn barod i ddod i bregethu iddynt. Sicr genyf hefyd y byddai i'r Parch. E. H. Evans, Canon yr Eglwys Gadeiriol, Newcastle, mab yr Hybarch Archddiacon Evans, Llanllechid, Bangor, wneyd ei oreu er eu cynorthwyo. CYMRO ANWYL O'I FAM.

BYWIOLIAETH LLANGATTWG A CHYM-RAEG…

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

MESUR PRIODAS GYDA CHWAERj…

ABERDYFI.

CYNHADLEDD EGLWYSIG BANGOR.