Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

--------NEWYDDION CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYFFREDINOL. GENEDIGAETH DRIPHLYG.-Dydd Llun rhodd- odd Mrs. Ambley o'r Dafarn Goffi a'r Ddarllenfa, Whitlan. enedigaeth i dri o blant-dau fob a merch. Y mae y fam a'r plant yn dyfod ymlaen yn rhagorol. TBEF AMERICANAIDD AR DAN.—Pellebyr o New York a hysbysa fod Auoka, tref fechan yn Minnes- ota, wedi agos ei llwyr ddinystrio gan dan. Bernir fod y golled oddeutu miliwn o ddoleri. Yr unig adeilad a achubwyd ydoedd melin lifio. COF-GOLOFN I'R CADBEN WEBB.—Y mae gweddw y diweddar Cadben Webb, yr hwn a gollodd ei fywyd yn yr anturiaeth i groesi'r Niagra Falls, newydd osod i fyny gof-golofn granite hardd uwch gweddillion y gwron yn yr Oakwood Cemetery. Y mae'r golofn yn wyth troedfedd o uchder, ac ol y cynllun Gothaidd. EISTEDDFOD Y BALA.-Fel y gwyddis, y bardd Tudno a enillodd y gadair yn eisteddfod y Bala, ac yn y Genedl am yr wythnos hon, dywed un ysgrifenydd mai y rheswm am hyny ydoedd fod Tudno yn fab-yn-ngyfraith i Ellis Wyn o Wyrfai, ly un o'r beimiaid, yr hyn sydd yn haeriad di-sail. Pa fodd yr eglura Scrutator hyn ? LLOSGI GWRAIG.-Cyhuddwyd dyn parchus yr olwg, o'r enw Thomas Tanner, ger bron yr ynadon yn King's Heath, swydd Warwick, ddydd Mawrth, o niweidio ei wraig gyda pocer poeth. Ei reswm dros ymosod arni ydoedd ei chael mewn tafarndy gyda dau ddyn, y rhai hefyd a niweid- iodd. Mae tri cyhuddiad yn ei erbyn, a'r achos wedi ei ohirio. LLOFRUDDIAETH YN YR IWERDDOli. -Ce;.r o'r Werddon hanes am ychwaneg o lofruddio. Mewn un amgylchiad, llofruddiwyd amaethwr a llofrudd- iwyd hefyd lafurwr amaethyddol. Ofnir fod yr erchyllderau nosawl, gwaith y moonlighters yn adfywio eto mewn rhai parthau o'r wlad anffodus hon, y rhai fyddant yn fwy herfeiddiol yn awr pan y mae y nosweithiau mor dywyll. MARWOLAETH O'R CHOLERA YN BIRMINGHAM.— Wedi 48 awr o boenau arteithiol, bu farw un o'r enw George Ralph, yn Birmingham dydd Sul. I)vv,' < Hoskins mai yr achos o'i farwolaeth y o:\ld ymosodiad o'r Cholera Asiaidd, tra y mae uioddyg arall yn dweyd yn bendant mai y Cholera Seisnig ydoedd. Mae y ddau yn gadarn yn eu casgliadau, ac felly anhawdd penderfynu pa un sydd iawn. SYMUDIADAU AGERLONGAU MRI EVAN THOMAS, EADCLIFFE A'l' GWMNI, CAERDYDD.—" Gwenllian Thomas," wedi gadael Huelva am Garston, Awst 13; "1010 Morganwg," wedi gadael Caerdydd am Aucana, Awst 14 -1 Anne Thomas," yn Syra yn dadlwytho Kate Thomas," wedi gadael Gib- raltar am Rotterdam, Awst 14; Wynnstay," wedi cyrhaedd Taganrog, Awst 9; "Walter Thomas," ar ei mirdaith i Baltimore Bala," yn awr yn Hatlepool. MARWEIDD-DRA MASNACH. -]Pel prawf ychwan- egol o'r marweidd-dra presenol, darfu i gadeirydd cwmni y L. & N. W. Railway Co., yn nghyfarfod haner-blynyddol y cwmni hwnw a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, hysbysu ei gyd-aelodau fod ganddo i'w hysbysu am y gostyngiad mwyaf a wnaed erioed yn mhroffit, neu dividend, y cwmni. Y llynedd, meddai, yr oedd masnach mewn cyflwr drwg, ond eleni yr oedd yn waeth fyth, ac nid oedd unrhyw argoel am welliant buan. LLEIHAD Y CHOLERA.—Er fod yr haint ddych- rynadwy hwn yn parhau i ddifrodi bywydau ac ieohyd trigolion trefydd yn neheubarth Ffrainc, y mae yn lleihau yn raddol yn ei ftyrnigrwydd, ac nid oes odd ychydig nifer yn marw ohono ar hyn o bryd. Fodd bynag, mae wedi gwneyd ei ym- ddangosiad mewn amryw drefi yn Itali. Dydd Sadwrn, bu 25 farw o'r cholera yn Ffrainc, a naw yn Itali. Mae 550,000 francs eisoes wedi eu casglu tuag at leddfu dyoddefiadau y tlodion yn Marseilles, mewn canlyniad i'r haint dinystriol hwn. GWAREDU Y CADFRIDOG GORDON.—Mae parato- adau mawrion yn cael eu gwneyd gan y Llywodr- aeth gogyfer a gwaredu y Cadfridog Gordon. Bwriedir myned fyny y Nile gyda cychod. Y mae 400 o gychod i gael eu hadeiladu, ac i gyn- wys deuddeg o ddynion yr un. Pellebyr a dderbyniwyd gan y Daily News o Cairo nos Sul, a ddywed fod y Mudir wedi derbyn llythyr oddiwrth y Cadfridog Gordon, dyddiedig Gorphenaf 20ted. Dywed fod Khartoum yn ddiogel, ac fod Cadfridog yn gofyn am newyddion yn nghylch yr ymgyrch. ,,y Dywed ei fod yn meddwl aros yn Khartoum hyd nes y cyrhaedda y milwyr yno. CYMDEITHAS YR HENAFIAETHWYR CYMREIG.-YHI- gyfarfu aelodau y gymdeithas hon yn y Bala ddydd Mawrth, a chafwyd cyfarfodydd hynod lewyrchus. Traddodwyd anerchiadau buddiol gan Syr Watkin W. Wynn, y Parch R. Jones, Bala Parch W. Hughes, Llanuwchllyn, &c., yn y cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth. Darllenwyd y cofnodau gan y Parch Trevor Owen, M.A., Llangedwyn, a phasiwyd hwy. Y llywydd am y flwyddyn nesaf fydd Syr W. W. Wynn. Penod- wyd y rhai canlynol yn is-lywyddion :—Deon Lewis, Bangor Mr R. H. Wood, Parch E. L. Barnwell, ac etholwyd amryw aelodau newyddion o Ogledd a Deheudir Cymru. Ymwelir ag amryw leoedd eraill yr wythnos hon. YR ANGHYDFOD RHWNG FFRAINC A CHINA.— Credir mewn rhai cylchoedd y bydd i Ffrainc gydsynio i leihau y swm o iawn a hawliant gan China os y bydd i'r wlad hono ganiatau manteis- ion neillduol i Ffrainc mewn cytundeb masnachol y bwriedir ei wneyd rhwng y ddwy wlad. Pell- ebyr o Toulon, dyddiedig nos Lun, a ddywed fod pob swyddog llyngesol sydd yn awr yn absenol ar furlough wedi cael gorchymyn i ddychwelyd i'r dref hono fel y bvddont barod pe y torai rliyfel allan rhwng Ffrainc a China. Dywed pellebyr arall o Shangnai, dyddiedig Awst 17eg, fod Llyw- odraeth y wlad hono yn ymddangos yn dra awyddus am heddwch rhyngddi a Ftrainc, ac ddarfod iddynt, ddydd Iau diweddaf, anfon at y cynrychiolwyr tramor i erfyn eu cynorthwyo i benderfynu yn heddychlawn yr anghydwelediad presenol. ARGLWYDD BUTE A'R GOLEUNI TRYDANOL.— Mae Arglwydd Bute, yr hwn sydd yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y goleuni trydanol, wedi cyfienwi Eglwys Babaidd St. John, Old Cunnock, Ysgotland, ag ef yr wythnos ddiweddaf. Gosod- wyd 70 o lampau yn yr Eglwys, ac y mae pob un yn rhoddi cymaint o oleuni a 20 o ganwyllau. LLADRAD BEIDDGAR.—Darganfyddwvd lladrad ofnadwy yn ei natur yn Mexico yn ddiweddar. Ymddengys fod dyn wedi marw mewn tref yno, a thrwy garedigrwydd y clerigwr, caniatawyd i'r perthynasau ddodi y corff yn yr arch yn eglwys y lie dros y nos. Rywbryd yn ystod y nos, clywid cwn y clochydd yn cyfarth, a phan aethpwyd i'r eglwys, cafwyd fod lleidr i mewn yn yr arch, a thrysorau mwyaf drudfawr yr eglwys yn ei feddiant. CKRDDED AR EI DDWYLAW.—Yn Vermont y mae plentyn dwy flvvydd a haner oed, ag sydd er pobpeth yn mynu cerdded ar ei ddwylaw. Y 'mae'r rhieni wedi arfer pob ymdrech yn eu gallu i gael gan y plentyn ddefnyddio ei draed, ond yn hollol aflwyddianus. Gosoda ei hun ar ei ddwy- law, a symuda yn gyflym hyd y llawr, a phan z,Y ddel o hyd i'r hyn y ceisia ei gyrhaedd, rhydd ef rhwng ei draed a cherdda ymaith ar ei ddwylaw. Dywed mam y plentyn iddi er's tua tair blynedd yn ol dalu ymweliad a circus, ac i waith y chwar- euwyr yn gwneyd campau drwy gerdded ar eu dwylaw wneyd argraffiadau dwfn ar ei meddwl, ac iddi freuddwydio am nosweithiau am y peth. Dwy FARWOLAETH HYNOD.—Dengys yr hanes a ganlyn am ddamweiniau a ddigwyddasant yr wythnos ddiweddaf, fod angeu yn dyfod i mewn drwy weithredoedd mor ddiniwed a thynu corcyn o botel. Yn Ronen, cymerodd boneddwr ieuanc mewn llaw dynu corcyn o botel win ag yr oedd y forwyn wedi methu ei hagor, a thra yn ei gosod rhwng ei liniau ac yn ei gwasgu, rhoddodd ochrau y botel ffordd, a thorwyd un o brif wythienau llaw y gwr ieuanc gan ddarn o'r gwydr, a gwaedodd y truan i farwolaeth. Llawn mor ryfedd ydoedd y dygwyddiad yn sir Fynwy. Yr oedd parti o weithwyr wedi dyfod yno o Bristol. Aeth un o honynt, oedd yn teimlo yn sychedig, i ymofyn am botelaid o ginger beer. Torodd y wraig oedd yn gwerthu y cyfryw y wifren oedd yn dal y corcyn, a chyn iddi gael amser i'w rwystro, chwythodd y corcyn allan ac i wyneb y dyn, gan ei daraw yn ei lygad gyda'r fath nerth, nes achosi cyd-dyniad yr ymenydd. Bu farw yn mhen ychydig amser wedi iddo ddychwelyd i Bristol. 0 BWYS I BERTHYNASAU MR. JOHN JONES, 0 LLANRWST.-Nanaimo, B. C., Gorph. 7.—Ar y 30ain o'r mis diweddaf,ftarawyd y lie hwn iddych- ryn a galar gan y newydd fod tanchwa wedi cymeryd lie yn Wellington, sef gwaith glo tua chwe' milldir oddiyma, yn perthyn i R. Dunsmure a'i Gwmni. Digwyddodd y trychineb ychydig cyn saith o'r gloch yn y borea, pan oedd y glowyr yn myned at eu gwaith, a chafodd 23 eu hyrddio o fwrdd amser mewn eiliad. Yr oedd yn eu plith ddau Gymro, sef Daniel Evans a John Jones. Daethai D. Evans i'r lie hwn tua phum' mis yn ol o Colorado. Brodor ydoedd o Abertawe, lie y mae iddo ddwy ferch yn bresenol yn amddifad o dad a mam, yii ol fel yr wyf wedi cael ar ddeall. Bu John Jones yn aros yn y lie hwn am tua naw mlynedd. Ymadawodd o'r Hen Wlad tua 12 neu 13 mlynedd yn ol; brodor o Llanrwst, sir Ddin- bych. Yr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Gymro- aidd yn San Francisco, a chafodd ei gladdu yn barchus gan ei frodyr cymdeithasol ac eraill. Y mae ei gyfeillion wedi rhoddi yr ychydig arian oedd ganddo yn fy meddiant i, nes y cawn glywed oddiwrth ei berthynasau. Carem i bapyrau Cymru godi yr hanes ar frys, gan nad wyf yn gwybod at bwy i ysorifenu.-Richarcl Watkins, yn y Drych." PFAIR Y BYD YN NEW ORLEANS. —Ymddengys fod darpariadau yn cael eu perffeithio yn New Orleans i gynal yno y gauaf dyfodol yr Arddang- osfa helaethaf a gynhaliwyd erioed yn unrhyw wlad. Bydd i holl Dalaethau yr Undeb gael eu cynrychioli; ac mae y llywodraeth gyffredinol wedi rhoddi benthyg miliwn o ddoleri at yr antur- iaeth. Bydd adran y llywodraeth yn yr Arddang- osfa yn helaethach na'r un erioed o'r blaen o'i heiddo, ac mae canoedd o filoedd o ddoleri wedi eu talu yn barod yn yr anturiaeth. Neillduodd llywodraeth Mexico 200,000 o ddoleri at ei hadran ei hun a bydd yr holl adeiladau yn y ddinas at wasanaeth yr Arddangosfa yn helaethach na'r adeiladau i ddathlu canmlwyddiad cyntaf y wlad yn Philadelphia, Derbyniwyd addewidion oddi- wrth fan lywodraethau Canolbarth America, eu bod yn bwriadu cefnogi yr Arddangosfa drwy anfon yno eu nwyddau o wahanol fathau. Bwr- iedir talu sylw arbenigol i gantorion yn yr Ar- ddangosfa ac mae y Neuadd at eu gwasanaeth yn meddu lie i 11,000 o wrandawyr i eisfcedd. New Orleans ydyw yr unig ddinas yn yr Undeb sydd yn meddu Opera rheolaidd wedi ei sefydlu er's haner cant o flynyddoedd, a thelir yno yn flyrfyddol o 100,000 i 200,000 o ddoleri mewn arddangosiadau cysylltiedig a cherddoriaeth. Ehoddir cyngherddau ardderchog yno yn rheol- aidd, pan ddaw yr amser. Bwriedir agor yr Arddangosfa yn mis Rhagfyr nesaf. Prif amcan yr Arddangosfa ydyw dwyn cotwm i sylw y byd, gan mai yn y Taleithau Deheuol y tyfir y cotwm goreu yn y marchnadoedd. Mewn cysylltiad a'r nwydd hwn, daw:y gwahanol beirianau a ddefn- yddir i weithio y cotwm o'r maes lie y tyfa, hyd nes y daw yn ddillad defnyddiol yn mhob teulu, o'r pendefig i'r tlotaf o fewn y tir. Mae prif adeilad yr Arddangosfa y mwyaf a adeiladwyd erioed, canys gorchuddia 33 o erwau o dir. Mae yr Horticultural Hall yn 600 troedfedd wrth 194, Hefyd y mae yr adeilad at wasanaeth y gwahanol Dalaethau yn 885 troedfedd. un ffordd, ac yn 566 troedfedd o led. Caed addewidion am arddangos- iadau o sidanau o China, Japan, ac o'r India Ddwyreiniol. Credir y bydd i lawer o bobl y Talaethau Gogleddol fyned i New Orleans y gauaf nesaf, er cael gwaredigaeth o'r oerni gogleddol, a'r pryd hwnw bydd yr hinsawdd ddeheuol yn iach a dyiaunol.

YR YMGYRCH I'R PEGWN GOGLEDDOL.

BRYNGWRAN, MON.

DOLGELLAU. s

[No title]

[No title]

CYNHADLEDD ESGOBAETH BANGOR.