Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

Y MISOLYN CYMREIG NEWYDD.

News
Cite
Share

Y MISOLYN CYMREIG NEWYDD. DYDD Mercher, yr wythnos ddiweddaf; yin- gyfarfyddodd Pwyllgor y Wasg F I sig Gymreig yn Llandrindod. Calk ;¡ycLl y Pwyllgor yw yr Hybarch A hluiacon Griffith, Llandaf, a'r ysgrifenydU, y Parch Dr Walters, Llansamlet. Yr oedd yr offeiriaid canlynol hciyd yn bresenol: yr Hybarch Archddiacon Smart, Llanelwy yr Hybarch Archddiacon James, Caer- .fyrddin Parch. Canon Evans, Rhymni; Parch. D. W, Thomas, St Ann's Parch. Canon Thomas, Meifod; a'r Parch, W Glan- ffrwd Thomas, Llanelwy. Yr ydym yn deall fod yn awr obaith rhag- orol y cawn ein breintio yn fuan a chyhoeddiad misol Cymreig toilwng o'r Eg- lwys. Y mae dau beth yn anhebgorol ang- enrheidiol i ddwyn hyn oddi amgylch. Rhaid wrth arian i'w gychwyn, a rhaid hefyd wrthddynion galluog i ofalu am dano. Y mae y ddau beth hyn yn awr mewn golwg. Dyry y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol fil o bunau, ac ym- rwyma Cymru i gasglu o leiaf chwe' chant o bunau i gyfarfod y rhodd hon. Deallwn hefyd fod y lienor galluog, y Parch Ellis Roberts (Ellis Wyn o Wyrfai), wedi cael ei wahodd i gymeryd golygiaeth y cyhoeddiad. Nid ydym hyd yn hyn wedi clywed pa un a ydyw y boneddwr parchedig yn foddlawn i ymgymeryd a'r gwaith. Nid oes genym ond gobeithio mai ymfoddloni a wna, canys bydd ei wasanaeth o werth anmhrisiadwy ac yn y fath ddwylaw galluog nis gall fod amheuaeth o berthynas i lwyddiant a defnyddioldeb y misolyn. Da genym ddeall hefyd mai cyfres newydd o'r Haul fydd y misolyn dan sylw. Y mae i gynwys darluniau, i fod yn 32 tu- dalenau, a'i bris fydd tair ceiniog y rhifyn. Y mae diolchgarwch yr Eglwys yn ddyledus i Mr Spurrell, fel cyhoeddwr Eglwysig, a llawenydd genym glywed fod gobaith mai o'i swyddfa ef yn Nghaerfyrddin y bydd y cyhoeddiad newydd yn cychwyn yn fisol. Fel y cofia ein darllenwyr y cam cyntaf a gymerwyd yn y symudiad clodwiw yma oedd 0 gwaith y pedwar Esgob Cymreig yn anfon deiseb at y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol yn deisyf help yn y cyfeiriad hwn. Dywedir hefyd fod y diweddar Ddeon Edwards yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y mater, ac yr oedd yn aelod o'r Pwyllgor, Arwydd galonogol yw gweled ein penaethiaid yn dyfod allan fel cefnog- wyr offeryn ag sydd yn meddu y fath allu yn ein gwlad. Ofer disgwyl i'r Eglwys enill ei hen safle yng nghalonau y bobl heb Wasg Eglwysig gref.

ESGOB LLANDAF.

GWERTHU DIODYDD MEDDWOL !…

ADDYSG- ELFENOL.

!TYWYSOG CYMRU YN CASTELL-NEWYDD.

FICERIAETH ABERTAWE.

CYSEGRIAD DEON NEWYDD BANGOR.

AFIECHYD Y COUNT MOLTKE.

ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL SIR…

AFIECHYD ARGLWYDD .ESGOB LLANDAF.

[No title]