Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
if\YÐuààioll Cyljoeddu^. TVrANTEI) a Curate (chiefly Welsh) in ™ the parish of Llangelynin. -Address: The RYCT04, Llwyngwril, Merioneth. [85 -e- WANTED (by first Sunday in October) a Curate. Bilinguist. Stipend, £ 120.—Apply to The VICAR, Rhos, Ruabon. [72 WANTED Curacy or temporary duty in Diocese of St. David's. Experienced. Refer- ences.—Address, OFFEIRIAD, "Llan" Office, Merthyr- Tydfil. [64 WANTED, in the Diocese of Llandaff, a Curacy by a Priest, Bilingual.—Apply, A., LLAN office, Merthyr Tydfil. [80 WANTED immediately, an Assistant Master for the National Schools. Apply, with testimonials, to Rev. GRIFFITH JONES, The Vicarage, Mostyn, Holywell. [87 W ANTE D a Schoolmaster for Llan- ™ ddewi Aberarth National School. Average attendance, 60. Apply, with full particulars, to Rev HENRY MORGAN, Rectory, Aberayron. [88 WANTED Head Master for Mostyn National School, must be a Welshman, Musical, Organ. No. on Books, 234. Grant last year, £ 155 10s. Apply, enclosing Testimonials, to Rev. Griffith Jones, Vicar, Mostyn, Holywell. [89 SCHOOL wanted by an experienced "— Certificated, Parchmerjj, Master, (32). Sewing, Singing, &c. Excellent Testimonials.—Master, Llan Office, Merthyr Tydfil. [90 WANTED a qualified Master for a Mixed Country School. Knowledge of Welsh and Music necessary. Salary fixed, X30. Good grant and School pence, equal to £ 85 a year.—Apply Vicar, Bryncoedifor, Dolgellau. [91 ST. DAVID'S COLLEGE, LAMPETER. The Central University College of Wales. SCHOLARSHIP EXAMINATIONS. 1. THE SCIIOOL.-Thursday, September 18th. Apply to Tutor in Charge, 2. THE COLLEGE.—Thursday, September 25th. Apply to Principal. [93 RESTORATION OF LLANALLGO CHURCH. T LANALLGO will ever be associated with —* the terrible fate of the, Royal Charter no less than 140 of the unfortunate passengers and crew are bur- ied here. The original Church, dedicated to S. Galgo,was built about the seventh century. H. Kennedy, Esq., the Architect, estimates the entire cost of restoration, without the tower, at £ 400; with the tower, £ 550. Special subscriptions may be made for the improvement and enlargement of the Church yard. SUBSCRIPTIONS: (From February 14th, 1884.) 3k. s J. Rice-Roberts, Esq., Tanygraig 50 0 0 W. Williams, Esq., Parciau 30 0 0 Mrs. Jones-Parry, Aberdunanc, Tremadoc 25 0 0 The Lord Bishop of Bangor 10 0 0 Mrs. Vaughan, Deanery, Llandaff 10 0 0 The Rector, Llanallgo 10 0 0 The Rt. Hon. Lady Neave 10 0 0 The Right Lord Boston. 10 0 0 Miss Pritchard, Plasgwyn 5 5 0 Collected by Mrs. Williams, Parciau. 5 0 0 The Rt. Hon. Lady Blackett 5 0 0 Mr. Williams, Devon House, Bangor. 3 3 0 Rev. H. Thomas, M.A., Rector, Llaneilian.. 2 2 0 Rev. E. T. Watts, H.M. Inspector of Schools 110 Mr. Roberts, Assistant do.110 Rev. T. L. Davies, Llandyfrydog 110 Rev. J. E. Williams, M.A., Rector, Llan- wenllwyfc 110 Rev. R. Roberts, Vicar, Amlwch 110 Rev. D. Griffith, Amlwch 110 Miss Lees, Southport, per Miss Sellers, Amlwch 1 0 0 Rev. R. Richards, Rector, Penrhoslligwy 1 0 0 Rev. W. H. Evans, Llaneilian. 0 10 6 Mrs. Dr. Ronald, Loch Carron, N.B. 0 10 6 Dr. Pierce, Denbigh 0 10 6 Rev. J. Smith, Vicarage, Rhosybol 0 10 6 M. H. Roberts, Esq., late of Garneddwen 0 10 6 J. WILLIAMS, LLANALLGO RECTORY, Pentraelh, Anglesey, June, 1884. HYSBYSIADAU Y LLAN. Dylid eu derbyn yn y swyddfa erbyn DYDD MERCHER yn mhob wythnos. PBISIAU. 75 o eiriau (solid) neu un fodfedd i lawr y golofn (displayed):— Un wythnos (tal yn mlaen Haw) 28. Tair wythnos 11 5 E3 Bob tro ychwanegol (yr un) Is. 26 o wythnosau (yr un) 9c. 52 (T wvthnosftu (vr un) 6c. Hysbvaiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreithiol. 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. HYSBYSIADAU BLAEN-DALIADOL RHAD. Cyhoeddir hysbysiadau fel y canlyn, os TELIR YN MLAEN LLAW, yn Llan yn ol y raddfa ganlynol:— 20 o eiriau: nwaith, Is.; tair gwait 2s. gc.; chwech etto, 49. 6c. 30 o eiriau:—Unwaith,Is.6c.; tair gwaith, 4s.; chwech, etto, 6s. 6c. 40 o eiriau:—Unwaith,2s.; tair gwaith, 5a. 6c.; chwech, etto, 8s. 6c. ——— TELERAU GWERTHIANT Y LLAN. Anfona y Cyhoeddwyr un copi o'r LLAN yn ddidraul drwy y Llythyrdy i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol fel y canlyn: Chwarter blwyddyn, Is. 8d.; haner, eto, 3s. 4d.; blwyddyn, 6s. 8d. Anfonir Y Llan i ddosbarthwyr ac eraill, wedi talu y oludiad, fel y canlyn :— Gyda'r Post. Gyda'r Tren. Dwsin 100. 9c. Nifer mwy yn ol yr nn raddfa. CYHOEDPWYE :—Met. FARRANT A FROST, High-street, Merthyr-Tydfil. i f^yfeuddioi) dyl|oeddti$. TO PARENTS AND GUARDIANS. P E. Charles, Chemist, Brecon wants a respectable and well educated Youth as an Apprentice. [92 ^IN^EMOEIAM." Yn barod i'r Wasg. A NTHEM fer, semi. Y geiriau wedi eu cymeryd allan o Wasanaeth y Claddedigaeth, er Coffadwriaeth am y diweddar Dra Pharchedig HENRY T. EDWARDS, M.A., Deon Bangor. Gan EOS LLECHYD. Mor gynted ag y ceir archeb am 300 o gopiau, rhoddir hi yn y Wasg. Pris 3c., neu Sic. drwy y Post. Pob archeb i'w hanfon i'r awdwr-Llanberis, Carnarvon, N,W. [86 AT EIN GOHEBWYR. CYFANSODDIADAU (wedi eu hysgrifenu ar un tu i'r ddalen) i fod mewn llaw erbyn boreu Mawrth, cyfeiriedig— THE EDITOR, LLAN Office, — Merthyr Tydvil. Os teimla ein dosbarthwyr a'n derbynwyr unrhyw anhwylusdod ynglfn a chludiad y LLAN G Merthyr Tydfil, bydd yn dda genym pe yr hysbysent ni y ffordd oreu i'w hanfon, fel ag iddynt eu cael yn brydlon. DALIER SYLW.—Nis gallwn ddychwelyd ysgrifau na wneir defnydd o honynt. BIJASAI yn dda gan y Cyhoeddwr bennodi dosbarthwyr i werthu YLlan lie nad oes rhai eisoes, Am y telerau, anfoner i'r swyddfa. Cyfeirier cyfansoddiadau barddonol fel y caiilyn:- Rev. Ll. M. Williams, The Vicarage, Pontlottyn, Cardiff. T.H.W.-Anfonason-i eich can at Olygydd y Farddon- iaeth. Y mae eich ysgrifau eraill mewn llsw. MEWN LLAW.-D.O.D., Llith Gwladwr, ac amryw ys- grifau eraill. AT EIN DERBYNWYR. gSf* Teimla y cyhoeddwyr yn ddiolchgar pe gwnai ein dosbarthwyr a'n derbynwyr caredig ymdrech i anfon yr arian dyledus am Y LLAN am y chwarter diweddaf i'r swyddfa yr wythnos hon, er mwyn gwastad- hau y cyfrifon. CYNWYSIAD. 1. Hysbysiadau 2. Yr Wythnos, Llith o Lan Gwili, Llythyr Tom Pudler.. 3. Gohebiaethau. 4. Hysbysiadau, At ein Gohebwyr, Erthyglau, &c. 5. Newyddion Cyffredinol, Cynhadledd Esgobaeth Bangor. 6. Newyddion Cymreig. 7. Newyddion Cymreig, Llith Gwladwr. 8. Chwedl y Plat Glas, Hysbysiadau.
Y MISOLYN CYMREIG NEWYDD.
Y MISOLYN CYMREIG NEWYDD. DYDD Mercher, yr wythnos ddiweddaf; yin- gyfarfyddodd Pwyllgor y Wasg F I sig Gymreig yn Llandrindod. Calk ;¡ycLl y Pwyllgor yw yr Hybarch A hluiacon Griffith, Llandaf, a'r ysgrifenydU, y Parch Dr Walters, Llansamlet. Yr oedd yr offeiriaid canlynol hciyd yn bresenol: yr Hybarch Archddiacon Smart, Llanelwy yr Hybarch Archddiacon James, Caer- .fyrddin Parch. Canon Evans, Rhymni; Parch. D. W, Thomas, St Ann's Parch. Canon Thomas, Meifod; a'r Parch, W Glan- ffrwd Thomas, Llanelwy. Yr ydym yn deall fod yn awr obaith rhag- orol y cawn ein breintio yn fuan a chyhoeddiad misol Cymreig toilwng o'r Eg- lwys. Y mae dau beth yn anhebgorol ang- enrheidiol i ddwyn hyn oddi amgylch. Rhaid wrth arian i'w gychwyn, a rhaid hefyd wrthddynion galluog i ofalu am dano. Y mae y ddau beth hyn yn awr mewn golwg. Dyry y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol fil o bunau, ac ym- rwyma Cymru i gasglu o leiaf chwe' chant o bunau i gyfarfod y rhodd hon. Deallwn hefyd fod y lienor galluog, y Parch Ellis Roberts (Ellis Wyn o Wyrfai), wedi cael ei wahodd i gymeryd golygiaeth y cyhoeddiad. Nid ydym hyd yn hyn wedi clywed pa un a ydyw y boneddwr parchedig yn foddlawn i ymgymeryd a'r gwaith. Nid oes genym ond gobeithio mai ymfoddloni a wna, canys bydd ei wasanaeth o werth anmhrisiadwy ac yn y fath ddwylaw galluog nis gall fod amheuaeth o berthynas i lwyddiant a defnyddioldeb y misolyn. Da genym ddeall hefyd mai cyfres newydd o'r Haul fydd y misolyn dan sylw. Y mae i gynwys darluniau, i fod yn 32 tu- dalenau, a'i bris fydd tair ceiniog y rhifyn. Y mae diolchgarwch yr Eglwys yn ddyledus i Mr Spurrell, fel cyhoeddwr Eglwysig, a llawenydd genym glywed fod gobaith mai o'i swyddfa ef yn Nghaerfyrddin y bydd y cyhoeddiad newydd yn cychwyn yn fisol. Fel y cofia ein darllenwyr y cam cyntaf a gymerwyd yn y symudiad clodwiw yma oedd 0 gwaith y pedwar Esgob Cymreig yn anfon deiseb at y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol yn deisyf help yn y cyfeiriad hwn. Dywedir hefyd fod y diweddar Ddeon Edwards yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y mater, ac yr oedd yn aelod o'r Pwyllgor, Arwydd galonogol yw gweled ein penaethiaid yn dyfod allan fel cefnog- wyr offeryn ag sydd yn meddu y fath allu yn ein gwlad. Ofer disgwyl i'r Eglwys enill ei hen safle yng nghalonau y bobl heb Wasg Eglwysig gref.
ESGOB LLANDAF.
ESGOB LLANDAF. Yn ol y newyddion diweddaraf, hyfryd genym hysbysu fod Arglwydd Esgob Llan- dat yn dyfod ymlaen yn dda.
GWERTHU DIODYDD MEDDWOL !…
GWERTHU DIODYDD MEDDWOL AR Y SUL. Yn Ilys ynadon Pontypridd ddydd Mercher, dirwywyd W. Jenkins, o'r Bryn- ffynon Inn, i 40s a'r costau am werthu di- odydd meddwol mewn pabell gerllaw ei dy ar y Sul pan ydoedd y gwirfoddolwyr Sir Forganwg yn gwersyllu ar fynydd Llan- wono.
ADDYSG- ELFENOL.
ADDYSG- ELFENOL. DAETH Addroddiad Pwyllgor y Cynghor Addysg yn Lloegr a Chymru allan am y flwyddyn yn terfynu Ebrill 5ed, 1884. Y mae ei adroddiadau manwl ar gyflwr yr ysgolion elfenol yn y deyrnas yn llawn dyddordeb, ac yn drysorfa o wybodaeth ddefnyddiol. Rhifedi yr ysgolion elfenol yn Awst, 1883, oedd 18,540, ac o'r rhai hyn perthynai 11,703 i'r Eglwys Sefydledig, 4,049 i'r "Byrddau Ysgol, 1,412 i'r Ysgolion Brytanaidd ac Anenwadol, 817 i'r Eglwys Babaidd, a 559 i'r Enwadau Wesleyaidd. Gwelir, felly, ar unwaith fod o fewn ychydig i ddwy ran o dair o rifedi yr ysgolion gwedi eu darparu, ac yn cael eu cynal yn wirfodol, gan yr Eglwys Sefydledig. Yr Eglwys oedd y cyntaf ar y maes gydag addysg elfenol y lliaws, fel y bu y cyntaf ar y maes gydag addysg athrofaol, golegol, a chlasurol y genedl. Y bobl o addysg eu hunain sydd fwyaf awyddus i drefnu a darparu moddion addysg i eraill. Pan edrychir i mewn i rifedi yr ysgolheigion, ceir eu bod yn rhifo dros dair miliwn (3,127,214). Gwna hyn i fyny yn agos i'r chweched ran o breswylyr y wlad yn derbyn addysg elfenol, a phan ystyr- iwn gynifer o'r ieuengctid sydd mewn ysgolion uwchraddol ac mewn colegau, nid' gormod dweyd 'fod y pumed ran o'r bobl- ogaeth dan addysg ddyddiol. Y mae y rhifedi yma bron i fyny a'r hyn a ystyrir gan bleidwyr gwresocaf addysg y dylai y cyfartaledd fod. O'r rhifedi mawr hwn, cyfrenir addysg i dros yr haner mewn ysgol- ion Eglwysig. Y mae pedwar o bob pump o'r canolradd ac uwchradd mewn ysgol- ion a ddarperir gan Eglwyswyr; ac y mae mwy na haner (1,562,507) plant y dos- barth gweithiol yn derbyn addysg mewn ysgolion Eglwysig. Dengys hyn faint yr afael sydd gan yr Eglwys ar gorph y genedl, a chymaint a wnaeth hi dros ei haddysg. Pa beth bynag a ellir ddweyd am esgeulus- dra yr Eglwys amser yn ol ac eto, bu es- geulusdra pawb o'r tu allan i'r Eglwys yn llawer iawn mwy, ac erys eto yn llawer mwy. Hawdd yw i'r bobl sydd newydd gael agor eu llygaid trwy weinyddiaeth yr Eglwys achwyn Paham na buasech yn gwneuthur mwy, ac yn ei wneuthur mewn dull gwahanol ? Bod yn ddoeth wedi'r digwyddiad ydyw hyn oil. Buasai y beirn- iaid eu hunain mewn anwybodaeth hyd eto I pe na buasai am y goleuni a roddes yr Eg- lwys o fewn eu cyrhaedd. Y mae yr ysgol- ion Brytariaidd a'r Byrddau Ysgol wedi goleuo eu canhwyllau diweddar wrth lampau yr Eglwys. Yr oedd ysgolion Madam Bevan ac eraill yn Nghymru heb son am Loegr wedi addysgu eu cen- hedlaethau, a'u canoedd o filoedd, cyn bod son am ysgol anenwadol mewn bod; ac y mae yn dda genym weled fod yr Eglwys yn dal ar y blaen gyda'r gwaith daionus yn barhaus er maint yr aberth a ofynir ar ei Haw. Yn y trefydd mawrion a'r llaw- weithfeydd poblog, ac yn nghymydogaethau y chwarelydd a'r glofeydd a mwngloddiau y ceir y rhifedi mwyaf o ysgolion y Byrddau, ac yno yr adeiledir hwy ar y raddfafwyaf costus ac eang ac heblaw costau yr adeil- adu gwerir chwe' swllt a chwe'cheiniog y pen yn fwy ar addysg yn yr ysgolion byrdd- ol nac a wneir yn yr ysgolion Eglwysig. Y mae hyn i'w briodoli yn benaf i'r costau swyddogol ynglyn a'r Byrddau. Y mae gwahaniaeth. dirfawr hefyd rhwng treth y naill ardal a'r Hall. Mewn rhai plwyfydd y mae mor isel a dwy geiniog yn y bunt, ac mewn rhai eraill yn dri swllt a chwe' cheiniog; ond y cyfartaledd yw tuag wyth ceiniog. Mewn perthynas i safon addysg saif Cymru yn lied dda. Y mae yr enillion ar gyfartaledd yma ddwy geiniog yn uwch nac ydyw yn Lloegr. Dengys hyn fod y plant yn uwch eu cyrhaeddiadau o tua dau yn y cant nac ydynt yn Lloegr. Y rhan o gostau addysg a gymer y Llywodraeth arni ei hun yw 17s 6c y pen yn Lloegr, 18s yn Scotland, a 31s y pen yn yr Iwerddon. Gwelir fod haelioni y wladwriaeth yn cyf- arfod i fesur helaeth ag anghenion y wlad. Y swm a danysgrifiwyd yn wirfoddol at ysgol- ion elfenol gan Eglwyswyr y llynedd oedd ychydig dros saith gan' mil o bunoedd. Pe buasent mor hunanol a dodi y swm mawr yma at gynal gweinidogion ychwanegol yn yr Eglwys buasai yn ddigon ar gyfer dros bum' mil o guradiaid yn ol y cyflogau pres- enol. Tra y mae cymdeithas y Dadgysyllt- iad'yn gwario ei miloedd bob blwyddyn i erlid, pardduo, a drygu yr Eglwys, y mae hi yn cysegru ei chanoedd o filoedd i addysgu y tlodion a dyrchafu yr isel radd.
!TYWYSOG CYMRU YN CASTELL-NEWYDD.
Boreu dydd Iau. TYWYSOG CYMRU YN CASTELL- NEWYDD. Ymwelodd Tywysog a Thywysoges Cymru a Chastellnewydd ddoe, a bu agos i'r Dy- wysog gyfarfod a damwain angeuol drwy i geffyl anesmwytho yn anghyffredin. Da genym, fodd bynag, na ddigwyddodd un- rhyw anffawd i neb.
FICERIAETH ABERTAWE.
FICERIAETH ABERTAWE. Mae y Parch Dr Morgan, ficer Abertawe, wedi ei benodi i fywoliaeth Leamington. Gwerth bywoliaeth Abertawe yw £410 y flwyddyn, ac y mae yn rhodd Cymdeithas Eglwysig yn Llundaiia. (
CYSEGRIAD DEON NEWYDD BANGOR.
CYSEGRIAD DEON NEWYDD BANGOR. Mae cysegriad Deon newydd Bangor, y Parch Canon Lewis, M.A., Dolgellau, wedi ei ohirio hyd yr ail wythnos yn Medi.
AFIECHYD Y COUNT MOLTKE.
AFIECHYD Y COUNT MOLTKE. Pellebyr o Prwsia a hysbysa fod y trefn- iedydd Prwsiaidd enwog Count Von Moltko, yn beryglus glaf yn Switzerland, a 1;01 ei nerth meddyliol a chorphorol yn wan.
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL SIR…
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL SIR C', "GANWG. Cynlialiwyd yr 21ain arddangosfa amaeth- vddol ilynyddol perthynol i sir Forganwg yn Nghaerdydd, ddydd Mercher.
AFIECHYD ARGLWYDD .ESGOB LLANDAF.
AFIECHYD ARGLWYDD ESGOB LLANDAF. Diau y bydd yn ddrwg gan ein holl ddar- llenwyr ddeall fod y Gwir Barchedig Dr. Lewis, Arglwydd Esgob Llandaf, wedi ei gyfyngu i'w ystafell wely mewn canlyniad i doriad gwaed lestr yn ei ochr dde, yr hyn a gymerodd le tra yr oedd ei arglwyddiaeth yn cario ymlaen wasanaeth crefyddol deuluaidd arferol nos Wener cyn ymneillduo amynoson Anfonwyd yn ddioed am feddyg y teulu, Dr. Vachell, Caerdydd, yr hwn sydd wedi gor- chymyn i'w arglwyddiaeth ymgadw oddi- wrth ei ddyledswyddau am gyfnod, gan mai effaith gor-lafur ydyw ei afiechyd. Da genym hysbysu fod y newyddion diwedd- araf yn hynod galonogol am sefyllfa yr Esgob, a chafodd ganiatad gan y meddyg i eistedd yn ei ystafell wely ddydd Mawrth am ychydig oriau, ac ni theimlodd unrhyw boen o herwydd hyny. Dymuniad pawb ydyw am i'w arglwyddiaeth, drwy gymorth Duw gaeladferiad buan i'w gynefinol iechyd, fel ag i'w alluogi i gyflawni ei waith pwysig yn ei esgobaeth, lie y cerir ef mor fawr ar gyfrif ei weithredoedd da.
[No title]
Y mae yn awr yn cael ei harddangos mewn show geiniog yn Birmingham eneth fach chwech wythnos oed, yr hon nid yw ond naw modfedd o dal- dra, ac yn pwyso 10 owns. Merch ydyw i rieni yn Birmingham. Nos Fercher diweddaf, cymerwyd llanc 20 mlwydd oed tua chlafdy Salop, wedi cael ei saethu yn ei fron, ond bu farw ar y ffordd. Ymddengys ei fod yn was i Mr. Juekes, gerllaw Basford, ond nis gwyddid pa fodd y cafodd y niweidiau angeuol. Tarawodd yr agerlong New Resolute, o Truro, gyda nifer mawr o bleserdeithwyr ar y bwrdd, ar graig a elwir Nears, a llwyr ddrylliwyd y Hong. Achubwyd yr holl for- deithwyr, Pellebyr o Rangoon a adrodda ymgais at lofruddiaeth ar raddfa helaeth. Ceisiodd cogydd lofruddio teulu cyfan trwy roddi arsenic yn y cawl. Aeth naw yn glaf iawn, ond cafwyd cymorth meddygol mewn pryd i achub eu bywydau. Fel yr oedd dyn yn pysgota o fewn tua, phum' milldir i Brighton, nos Fercher di- weddaf, canfyddodd gorph marw yn cael ei gludo gan y trai. Cododd ef i'w gwch a dygodd ef i'r lan, pan y canfyddwyd mai corph dyn tua phum' troedfedd, chwe' mod- fedd ydoedd, ac nid oedd yn gallu ei adna. bod.