Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TY DANESBURY: ]

News
Cite
Share

TY DANESBURY: ] GAN MRS. HENRY WOOD. CYFIEITHIEDIG GAN Y DIWEDDAR CARNEDD LLEWELYN. PENOD XXXVIII. Sefydliad y Ty Dirwestol. Cariodd Arthur Danesbury allan ei fwriad o ddarparu moddion effeithiol i wrthweithio dylan- wad niweidiol tafarnau Eastborough, er nad oedd ei weithwyr a'u gwragedd ar y cyntaf yn ei iawn sylweddoli. Yr oedd sibrwd wedi myned drwy y lIe mai tafarndy ydoedd yr adeilad newydd i fod, a phan ydoedd wedi ei orphen, mawr ydoedd y disgwyliad am weled sign yn cael ei osod arno. Meddai y palas gin yr ochr arall i'r heol ei harwydd, a pha bryd y ceid gweled un ar y newydd, gofynent i'w'gilydd. Penderfynodd Mr. Danesbury mai enw y sefydliad fyddai Seren Gobaith." Noson agoriad yr adeilad, dymunodd Mr. Danesbury ar i'w hon weithwyr ymgynull yn un o ystafelloedd mwyaf y gwaith, yr hon oedd wedi ei chlirio erbyn yr achlysur. Dywedodd mai ei amcan yn eu galw ynghyd ydoedd crybwyll am yr adeilad newydd, ond ni fwriadai eu cadw ond am ychydig funydau, gan y teimlai eu bod yn awyddus i weled yr hyn a ddarparesid ar eu cyfer. Yna nododd rai rheolau ag y dymunai iddynt eu cadw. Yn gyntaf, yr oedd yn rhaid i bob un aethai i'r adeilad y noson hono barhau i fyned yn ddifwlch am fis, a pheidio ymweled ag un tafarndy yn ystod y mis hwnw. Hefyd am y mis cyntaf ymrwymai ef i dalu am bobpeth a alwent am dano. Yn bedwerydd, disgwylid iddynt geisio darbwyllo eraill i nawddogi yr adeilad, ac ymgadw rhag myned i'r tafarndy yr ochr arall i'r heol. Derbyniwyd hyn oil gyda tharanau o gymerad- wyaeth gan y dynion, a galwodd Mr. Danesbury am ddistawrwydd. Datganodd wrthynt yn mhellach na foddlonai i'r un dyn yfed ychwaneg nag a hoffai efe; nad oedd neb i rwgnach yn erbyn y diodydd, er y gallent fod yn wahanol i'r hyn y buont arferol o yfed. Yna rhanwyd y tocynau rhyngddynt, ac aethpwyd i'r adeilad newydd Seren Gobaith," lie yr oedd pob ystafell wedi ei pharotoi yn orwych, a'r gweithwyr yn edrych yn synedig ac edmygol ar bobpeth o'u hamgylch. Parotowyd digonedd o fwydydd ynghyd a chom a the ar eu cyfer, tra yr oedd ystafelloedd eraill wedi eu eyflenwi a llyfrau, newyddiaduron, &c. Parhawyd ar hyd y mis, ac yr oedd y dynion yn ei hoffi gymaint, fel y pen- derfynasant roddi heibio y dafarn, a byw heb y diodydd hudoliaethui a ddinystrient eu eyrff a'u heneidiau. Agorwyd y Seren Gobaith yn mis Ebrill, ac yn mis Mehefin, arweiniodd Arthur Danesbury y foneddiges ieuanc Mary Heber, at allor yr eglwys, lIe y priodwyd hwy. Dangosodd arwyddion di- gamsyniol o lawenydd drwy yr holl le, a dymunai yr holl breswylwyr hapusrwydd digwmwl i'r par ieuanc. Aethant ymaith i dreulio eu mis mel, a phan ddychwelasant yn nghanol mis Gorphenaf, rhoddwyd Igwledd ardderchog i'r holl weithwyr a'u gwragedd mewn pabell eang. Heblaw Mr. a Mrs. Danesbury, yr oedd Arglwydd ac Arglwyddes Temple, eu plant, Mrs. Phillip Danesbury, a Miss St. George, ac amryw gyfeillion eraill. Mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr, a phan gafodd Mr. Danesbury gyfleusdra i ymddiddan a'r gwahoddedigion, dygwyd dan ystyriaeth y gyfun- drefn ddirwestol a fabwysiadwyd gan Arthur i waredu ei weithwyr rhag syrthio yn ysglyfaeth i'r diodydd meddwol. Siaradai pawb o honynt yn hynod galonog am y gyfundrefn newydd, ac eglurodd Mr. Danesbury fod bron yr oil o'i weithwyr yn awr wedi eu hargvhoeddi o'r ffoledd o ymyraeth a diodydd meddwol, a'u gwragedd a'u tai mewn canlyniad yn lan a chysurus. Ymwelodd Mr. a Mrs. Danesbury a'r dynion yn eu pabell, He y traddododd anerchiadjddynt yn eu llongyfarch ar eu goruchafigeth, ac yn addaw y byddai yn y dyfodol fel yn y gorphenol, yn ceisio £ t'i holl egni eu gwneyd yn gysurus. Treiglai dagrau llawenydd i lawr gruddiauMr. Danesbury, ac erioed ni theimlwyd y fath hapusrwydd yn Eastborough ag a deimlid y dydd hwn, nid yn unig ymhlith y gweithwyr, ond pawb eraill. Llongyfarchodd Arglwydd Temple ei frawd-yn- ngyfraith William Danesbury, oherwydd ei fod yn llwyrymwrthodwr er's chwe' mis. Dengys yr hyn sydd eisoes wedi ei groniclo beth a ellid wneyd gan foneddigion ein gwlad i ddar- bwyllo eu gweithwyr i ymwrthod yn hollol a diodydd meddwol, a hyny drwy esiampl a ohyngor caredig. Y DIWEDD.

[No title]

Advertising