Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
LLANRUG.
LLANRUG. MARWOLAETH MR. N. JONES. —Drwg genyf gof nodi marwolaeth y oyfaill anwyl, a'r Eglwyswr ffyddlawn ac egwyddorol hwn. Cafodd ei fagu ar aelwyd grefyddol, lie yr oedd allor wedi cael ei chyfodi i Dduw byddinoedd Israel, oddiar yr hon yr offrymid i Dad y trugareddau ddiolch a mawl fore a hwyr. Bendith anmhrisiadwy yn mhob teulu yw yr allor deuluaidd. Yma y cafodd ein cyfaill ei fagu, yma y rhoddodd y cam cyntaf. A bu wedi hyny filoedd o weithiau yn rhodio y dolydd meillionog ar bryniau banog yn ymhyfrydu yn mhrydferthwch teiludion anian, yn canfod mawredd Duw yn y greadigaeth, a pha le mwy rhamantus na bryniau yr Eryri i agor meddwl ac i ddadblygu cynheddfau. Cyfodwyd ef i fyny yn ysgolfeistr, a daeth allan yn mlaenaf o Goleg Caernarfon. Gweithiodd yn galed, ac enillodd glod ei athrawon. Bu am beth amser yn ysgolfeistr yn Glyn Ceiriog; ond pan ddaeth ysgol Llanrug yn rhydd, cynygiodd am dani, a dewiswyd ef o fysg llawer eraill, ac fe gafodd aelodau y Bwrdd achos i ymfalchio yn eu dewisiad o ysgolor o'r radd flaenaf, yn nghydag athraw diwyd a ffydd- lawn. Trwy ei weithgarwch a'i dynerwch tuag at y plant, enillodd serch a chariad yr ardalwyr yn gyffredinol. Pel yma y dywedodd un o'r plwyfolion wrthyf ddydd ei gynhebrwng: "Nid oes ryfedd fod cynifer o bobl yma heddyw, canys edmygid ei weithgarwch gan bawb yn gyffredinol, ac ni chlywais wyn gan neb yn ei erbyn yngtyn a'r ysgol. Yr oedd yn hynod dirion tuag at y plant." "Gwell yw gair da, nag enaint gwerthfawr." Bu yn aelod ffydd- lawn o'r Ysgol Sul drwy ei oes. Efe oedd athraw dosbarth yr athrawon yn Llanrug, a theimlir colled fawr ar oi ol. Teimla yr holl ysgol yn fawr oher- wydd ei golli, gan fod holl drefniadau eu cyfarfodydd a'u rheolau yn ymorphwys arno ef. Efe ydoedd y brif olwyn yn y sefydliad; yr oedd yn hyfrydwch ganddo fod yn aelod daionus, ac nid oedd yn ol o roddi pob cynorthwy angenrheidiol yn mhob modd. Efe hefyd oedd organydd yr Eglwys, a mawr gerid ef gan aelodau y c6r. Gwaelodd ei iechyd ychydig amser yn ol, ond daliodd o hyd mewn llawn waith yn yr Ysgol a'r Eglwys hyd o fewn tri mis yn ol, pryd y gorfu iddo ufuddhau a rhoddi y cwbl heibio. Nid oes dim yn waeth gan ysbryd gwrol a gweithgar na chael ei gaethiwo oddiwrth ei hoff waith ac nid oes dim yn galetach gan y Cristion na chael ei analluogi i fynyohu moddion gras. Yr oedd yn hynod dawel ac amyneddgar drwy ei hirfaith gys- tudd. Dywedai gyda Dafydd, Tywalltwn fy enaid ynof, canys aethwn igyda'r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i d £ Dduw, mewn sain can a moliant." Eto, er ei gystudd blin, yr oedd yn sugno cysuron i'w enaid o addewidion ei Dduw, gan ddyweyd- Hon yw'm hangor ar y cefnfor, Na chyfnewid meddwl Duw, Fe addawodd na chawn farw, Yn nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw. Bu ugeiniau yn edrych am dano yn ei gystudd. Ond er medrusrwydd meddygol, a chariad a gweddiau cyfeillion, ehedodd ei enaid i fyd yr ysbrydoedd bore Sul, y 3ydd cyfisol. Dydd Gwener diweddaf, cymerodd y cynhebrwng le, a gellid dyweyd fod yno rywun neillduol yn cael ei gladdu, gan fod cynifer o bobl yn dyfod o bob cyfeiriad. Gwasanaethwyd wrth y t gan y Parch. D. Lewis, Waenfawr; yn yr Eglwys gan y Parch. D. C. Morgan, curad; ac ar lan y bedd gan y Parch. T. Johns, rheithor; a rhoddwyd yr emynau allan gan y Parch. R. Jones, Penisarwaen. Canwyd wrth y ty gan blant ysgolion y plwyf, a chan y cor, yn cael eu cynorthwyo gan g6r capel mawr Llanrug, ac yn rhifo chwech ugain, o dan arweiniad Mr. Robert Thomas, y rhai a ganasant yr anthem Par i mi wybod fy niwedd." Trefnwyd yr orymdaith fel y canlyn Plant plant dan ofal eu hathrawon; yna y cor; yr offeiriaid a gweinidogion yr elorgerbyd yr ysgolfeistri; y perthynasau; pobl ar draed; cerbydau. Canodd y plant un don ar y ffordd, a'r cbr bedair. Wrth agoshau at yr Eglwys, canwyd Dechreu canu, dechreu canmol," ar yr hen don awynol, "Pen Calfaria." Yr oedd rhyw effaith ryfedd gan y canu. Sylwasom ar anifeiliail ar y cae gerllaw yn edrych ac yn gwrando, hyd nes y pasiodd y cyfan. Er fod llawer o bethau yn erbyn hen ffasiwn y Cymru o gladdu, eto y mae rhyw swyn nefolaidd yn yr amgylchiad. Denir ein bryd wrth edrych ar ganoedd o bobl yn symud ymlaen yn bwyllog, gan ganu rhyw hen emyn teimladol, nes y mae y seiniau melodaidd yn cael eu chwifio ar edyn yr awel drwy yr awyrgylch, ac yn disgyn draw ar glustiau y gweithiwr fel cenad hedd o'r byd anwel- edig, i'n hysbysu fod un o blant byd y gorthrymderau yn cael ei symud i'w hir gartref. Yr oedd canoedd wedi ymgasglu i'r fynwent i gael rhan yn y gymwynas olaf i'r hwn a hoffent. Canwyd yr an- them Arnat ti y llefais," yn yr Eglwys. Ar lan y bedd canwyd "Torf o'm brodyr sydd yn gorwedd," a Bydd myrdd o ryfeddodau." Yr ydym wedi bod yn aros uwchben trefniadau y dydd, ac ar y modd y trefnwyd yr emynau. Dengys y cyfan oil feddwl mawr, gan fod yr emynau wedi eu dewis i gydfyned yn hollol ag agoshad y dorf tua'r bedd. Yno yn cael ein hadgofio fod Torf o'm brodyr wedi huno, ac fod un eto yn cael ei roddi atynt, ond yn rhoddi gobaith i'r galarwyr y deuant eto I- oil yn eu gynau gwynion rhyw ddydd i'r lan o'r bedd. Gwnaed y trefniadau yma gan Mr. Richard Williams, Bryn- coch, cyfaill calon i'r ymadawedig. Yr oeddynt fel Dafydd a Jonathan, enaid wedi ymglymu am enaid, fel eiddew am y pren. Teilynga ddiolchgarweh am ei drefnusrwydd. Dymunwn ddiolch hefyd i'r holl g6r a'u cynorthwywyr, ac yn neillduol yr hen arweinydd ffyddlon Robert Thomas. Cafodd ein cyfaill angladd anrhydeddus. Rhifasom oddeutu 30 o wreaths a chroesau ar yr arch, wedi eu hanfon gan bedair o wahanol ysgolion, Miss Johns, Rectory; Miss Rowlands, Tyddyn Elen; Mrs. J. Rowlands, Llanberis; Mrs. Windsor, Mrs. Roberts, Cwmyglo Parch. D. C. Morgan, Mrs. Williams, Buarth; Miss Jones, Penisa'rhos; Miss Annie Owen, ac eraill. Yn mysg y dorf gwelsom y Parchn. M. M. Jones, T. J. Teynon, (A); H. Roberts, Ysw., Plastmon; Mri. Owen Jones, a Joseph Roberts. Cawsom bregethau angladdol dydd Sul yn y boreu gan y Parch. D. Collwyn Morgan, curad ac yn yr hwyr gan y Parch. T. Johns, rheithor. Canwyd tonau ac anthemau yn taro yr amgylchiad gan y cbr trwy y dydd. dydd. Angylion gwarcheidawl a wylant y fan Lle'r ydwyt yn dawel yn huno; Tu allan i furiau henafol y llan, Nes daw yr archangel i'th ddeffro. Hen. Qyfaill.
CAN
CAN I'r iaith Gymraeg, Ifor Hael, a'r Brython. (Buddugol.) Rlio'wcli osteg ystyriol i ganmol mewn bri Hen anwyl iaith Gomer, wech, dyner, a chu; Iaith unffurf ei rheol, iaith swynol ei sain, Iaith beraidd, oleuwen, iaith gymhen, iaith gain. Iaith bery mewn clodydd, ysblenydd ddiffael, I goffa nawdd goffrau ddi-drai Ifor Hael; Tra argae yr eigion bydd Brython ar gael. Cyfoethog ei geiriau, a'i gwreiddiau teg oil, Mae ynddynt lawn synwyr, ac ystyr di-goll; Ei chynllun sy' burach, a hynach ei thyd, Na ieithoedd tylysa Ewropa i gyd. Iaith bery mewn clodydd, &c. Iaith agos berthynas, hoff, addas yw hi I bob cywir galon, hen Frython o fri; Iaith anwyl y tadau, iaith diliau pob dawn, A mer drychfeddyliau o'i geiriau a gawn. Iaith bery mewn clodydd, &c. Iaith uchel wybodau, a'i llyfrau yn llawn Ar natur ddeisor pob gwyddor a dawn; Iaith eglur, hedegog, ardderchog ei gwisg, Ar freiniol gelfyddau, a gwreiddiau pob dysg. Iaith bery mewn clodydd, &e. Iaith breintiau crefyddol, iaith fanol bob sill, Iaith gynes, effeithiol, trydanol ei dull; Iaith benaf yr sgol Sabbothol ein hoes, Athrofa rad, lesol, ddymunol ei moes. Iaith bery mewn clodydd, &c. Iaith addas areithwyr, iaith bybyr y bardd, Iaith syml, ac anisel, goruchel ei thardd Iaith dreiddia drwy eigion y galon heb gel, Iaith ddisgyn ar glustiau'n gafodau o fel. Iaith bery mewn clodydd, ysblenydd ddiffael. I goffa nawdd goffrau ddi-drai Ifor Hael; Tra argae yr eigion bydd Brython ar gael. Merthyr. JOHN GARNON (Ieuan Ferddig).
Y SABBATH.
Y SABBATH. Emyn at wasanaeth Ysgolion Sul. Ton: Angels' Hymn. Mesur Hir. Hawddamor iti, sanctaidd ddydd Ar hwn daeth Iesu Grist yn rhydd, Ar hwn agorwyd pyrth y nef, Trwy nerth a gwerth ei gonewest Ef. O! boed fy meddwl fel Dy ddydd, Yn sanctaidd oil, o'r byd yn rhydd Fel gallaf dy glodfori Di, Fy Nuw, fy Nghraig, a'm Harglwydd Rhi. 0 boed i bob Sabbothol wawr, I ddenu'm bryd uwch bethau 'r Ilawr Nes derbyn lies o'r Ganaan Ion, Ac ymawyddu am gael hon. Y poen, y groes, ddyoddefodd Ef, Yw sail fy Iachawdwriaeth gref Am hyny seiniaf iddo glod, Tra Sabbath i'm o dan y rhod. Boed i Sabbathau gwiw y llawr Gymhwyso f' enaid bob ryw awr, I dreulio yn ei wyddfod Ef, Dragwyddol Sabbath yn y Nef. Dowlais. C. GWALIA.
MEDDWDOD YN NGHYMRU.
MEDDWDOD YN NGHYMRU. Ar gynygiad Mr. Henry Richard, cyhoeddwyd 9 adroddiad yn ddiweddar, yr hwn sydd yn dangos nifer y personau a gymerwdd i fyny am feddwdod yn ystod y blynyddoedd 1881 ac 1883 yn mhob bwrdeisdref a sir yn Nghymru. Darparwyd yr adroddiad oddiwrth hysbysrwydd a anfonwyd gan yr heddgeidwaid, a rhoddir mynegiadau gwahanol o nifer y personau a gymerwyd i fyny yn ystod y pedair awr ar hugain rhwng wyth boreu Sadwrn ac wyth boreu Sul, ac yn ystod y pedair awr ar hugain rhwng wyth boreu Sul ac wyth foreu dydd Llun, a rhoddir 124 o oriau yn yr wythnos rhwng wyth boreu dydd Llun ac wyth ar foreu dydd Sadwrn:— 0 dan y penawd cyntaf, y nifer yn sir Fon yn 1881 ydoedd 25 ac yn 1883, 20; Brycheiniog, yn 1881, 8; ac yn 1883,20 bwrdeisdref Aberhonddu yn 1881, 8 ac yn 1883, 12 sir Aberteifi, 24 a 19; sir Gaerfyrddin, 17 a 25 bwrdeisdref Caerfyrddin, 10 a 2; sir Gaernarfon, 124 a 165; sir Ddinbych, 57 a 40; sir Fflint, 18 a 30; sir Forganwg, 285 a 196; bwrdeisdref Caerdydd, 164 a 235; bwrdeis- dref Castellnedd, 21 a 27; bwrdeisdref Abertawe, 158 a 173; sir Feirionydd, 34 a 13 sir Drefald- wyn, 18 a 15 sir Benfro, 16 a 10; bwrdeisdref Hwlffordd, 21 a 12; bwrdeisdref Dinbych-y- pysgod, 3 a 6; sir Faesyfed, 6 a 1. 0 dan yr ail benawd, ceir :—M6n, 6 a 0; Brych- einiog, 8 ac 18; bwrdeisdref Aberhonddu, 4 a 2; Aberteifi, 2 a 2; sir Gaerfyrddin, 4 a 1; bwrdeis- dref Caerfyrddiji, 2 a 0; sir Gaernarfon, 24 a 23 sir Ddinbych, 18 a 11; sir Fflint, 15 a 13 sir Forganwg, 156 a 119 Caerdydd, 38 a 62 Cas- tellnedd, 3 a 10; Abertawe, 28 a 11; Meirionydd, 0 a 1; sir Drefaldwyn, 0 a 2; sir Benfro, dim yn un o'r ddwy flwyddyn; sir Faesyfed, 0 a 1. 0 dan y trydydd penawd, y nifer oeddynt:— M6n, 95 a 60; sir Frycheiniog, 32 a 38; bwrdeis- dref Aberhonddu, 27 a 41; sir Aberteifi, 91 a 68 sir Gaerfyrddin, 70 a 100; bwrdeisdref Caer- fyrddin, 10 a 16; sir Gaernarfon, 244 a 310; sir Ddinbych, 110 a 91; sir Fflint, 53 a 69; sir Forganwg, 402 a 366; Caerdydd, 389 a 454; Castellnedd, 50 a 59; Abertawe, 281 a 340; sir Feirionydd, 41 a 48 sir Drefaldwyn, 64 a 69; sir Benfro, 34 a 21; Hwlffordd, 28 a 21; Dinbych-y- pysgod, 7 a 7; sir*Faesyfed, 13 a 14. Y cyfan- swm o dan y tri phenawd am 1881 oeddynt 1018, 309, a 2,041; ac am 1883, 1,021, 287, a 2,192.
[No title]
Eich arglwyddiaeth," meddai foreman rheith- Cymreig unwaith, yr ydym yn cael y dyn lad- rataodd y gaseg yn ddieuog." Meddyg yn y llys Cefais yr achwynydd yn dyoddef oddiwrth contusion enbyd o dan y llygad chwith, gydag extra-vacation o waed o dano, a chyda pheth abrasion ar y croen." Y barnwr Eich meddwl yw fod ganddo lygad du, onide ? Y meddyg: "Ie." Y barnwr: 11 Wel, paham na fuasech yn dweyd hyny ?"
HEN WR O'R CWM YN MHEN ,.DRAW'R…
HEN WR O'R CWM YN MHEN DRAW'R EYD. Nid rhyfedd fod y pregethwyr yma yn galw y byd hwn yn fyd bach," o herwydd dyma fi wedi cyrhaedd ei ben draw. Yr wyf ar lan y mor yn Abergwaun, ac nid oes sut beth mysi'd yn mhell- ach, heb wlychu yn ofnadwy. Nid yw y tren yn gwybod y ffordd i'r lie hwn. Pallodd ddyfod yn mhellach gyda ni na Hwlffordd, ond trwy dru- garedd cefais y "coach-and,four" i'm cludo yn daclus. Saeson sydd yn trigianu yn Hwlffordd, ac y maent yn siarad mor faned, mor faned, na welsoch chi 'rioed siwn beth." Ond rhai caredig rhyfeddol ydynt, a pharod iawn i wneyd cymwynas i ddyn. Wedi gadael Hwlffordd, a bron troi yn Sais rhonc, ffwrdd a mi ar ben y cerbyd tuag ardal y 'sgadan. Ar ol teithio milldiroedd lawer, gwelwn y mor mawr llydan" o'm blaen, a gofynais i'r gyrwr pa le y glaniodd y Ffrancod yn Abergwaun ? Dangosodd i mi y lie draw yn y pellder islaw y dref, ac ychwanegodd Dyma y mynydd lie yr oedd y menywod yn eu dillad cochion, y rhai a yrasant fraw ar y Ffrancod, gan iddynt feddwl mai milwyr oeddynt." Yr oedd y cerbyd yn teithio heibio i hwn, ond methais weled un fenyw mewn dillad coch yn y lie. Treflan dawel, swynol, yw Abergwaun, yn llawn o lwyth Lefi. Y mae ficer y lie yn hen batriarch, ond mor sionc a hogyn ugain oed. Y mae lluaws o'r offeiriaid cymydogaethol yn pres- wylio yma, gan nad oes persondai yn eu plwyfi. Ar y cyfan, y mae'r Eglwys yn bur lewyrchus yn Abergwaun. Y mae yma hefyd ysgol ddyddiol ragorol perthynol i'r Eglwys, ac fel dynion call, nid yw y trigolion wedi dewis gwybod beth yw treth Bwrdd Ysgol. Y mae gormod o garedig- rwydd a natur dda yn y bobl i fod yn ymrysongar a sectyddol. Pobl iawn ydynt. Wedi treulio ychydig amser ar y traeth i fwrw ymaith fy mlino mawr ar ol y daith hirfaith i Abergwaun, darfu i mi gael cyfle i fyned i lawr i Tyddewi i weled yr Eglwys Ga.deiriol. Nid oeddwn erioed wedi cael golwg ar y ddinas na'r adeilad gogoneddus hwn. Clywais lawer am yr hen gysegr a'i harddweh cyntefig, ond wedi gweled- y cwbl a'm llygaid, gallaswn ddywedyd gyda brenhines Sheba, Ni fynegasid i mi yr haner." Y mae yr Eglwys Gadeiriol yn werth y daith o un rhan o Gymru i'w gweled. Dywedai yr hen wr oedd yn ein harwain o amgylch fod £ 80,000 wedi ei wario eisoes ar yr adgyweiriad, a rhaid cyfaddef fod y gwaith yn un clodfawr. Y mae y rhan orllewinol o hono, yr hon sydd i fod yn gofgolofn er coffadwriaeth am y diweddar Esgob Thirlwall, yn ogoneddns yr olwg arni. Y mae y gwaith i gyd yn cael ei wneyd yn ol y cyn- llun dechrouol, ac nid oes curo ar hwnw. Rhy- feddol yw y cerfiadau prydferth sydd uwchben oddifewn. Y mae y pileri a'r archau bwaog yn hardd iawn. Dywedir fod y rhai hyn unwaith yn orchuddiedig gan wyngalch. Pan awd ynghyd a'r gwaith o dosturio wrth lwch yr hen gysegr ardderchog, caed allan fod rhyw ddwylaw cen- hedlig wedi bod am flynyddau yn gorchuddio y celfyddydwaith gogoneddus oddifewn a gwyngalch, fel nad oedd neb yn gwybod hyi yn ddiweddar am lawer o ogoniant cyntefig y lie. Byddai yn dda iawn cael gwybod pwy osododd y gwyngalch gyntaf ar ranau mewnol y lie. A oes rhywun yn gwybod ? Yr oedd yn haeddu y fflangell yn arw. Y diweddar Ganon Richardson oedd y cyntaf i ymysgwyd a deffro at y gwaith o adgyweirio, ac ni bu yn hir cyn cael y Deon Allen fel cawr i'w gynorthwyo. I'r Deon y mae'r clod yn benaf yn ddyledus am y gwaith ardderchog a wneir ar yr adeilad, a bydd yn glod i'w enw am oesoedd lawer i dd'od. Y mae llawer iawn wedi cael ei wneyd yn barod, a gobeithio y gwel Deon Allen y dydd i'w orphen. Y mae yr organ wedi costio tair mil a phum' cant o bunau. Ni feddyliais fod y fath adeilad ardderchog yn yr esgobaeth. Nid oes ar wyneb y ddaear un harddach nag y bu hwn un- waith, a bydd yn fuan yn ogoniant i'r esgobaeth. Trueni ei fod mewn man mor anghyfanedd. Yn Nghaerfyrddin y dylai fod. Ac y mae yn drueni hefyd na byddai y fonwent, a'r llwybrau o am- gylch y lie, yn fwy taclus a chryno_, ac yn fwy teilwng o'r hen gysegr bendigedig. Ai gormod i'r Canoniaid wneyd cymaint hyn? Dichon y gwneir trefn ar yr holl amgylch-leoedd ar ol adgyweirio yr Eglwys Gadeiriol. Dywedir fod Canon Lewis yn gweithio yn galed fel ficer y plwyf, a da oedd gweled ty ardderchog yn cael ei barotoi iddo i drigianu ynddo. HEN WR O'R CWM.
[No title]
I'r carwr y mae daearyddiaeth y byd ynym- ranuiddwy ardal—yr ardal lie y mae ei gariad, a'r ardal lie nad ydyw. Tra yr oedd Hugo Arnot un diwrnod yn ymladd am ei anadl mewn pang o asthma, yr oedd bron ceel ei fyddaru gan rhyw greadur ystwrllyd oedd dan ei ffenestr, yn gwaeddi nerth asgwrn ei en fod ganddo oysters ar werth. O I'r dyhiryn gwas- traffus," meddai Hugo, mae o wedi gwastraffu cymaint o anadl mewn pum' mynyd ag a wnelsai y tro i mi am fis." Yr housemaid wrth ei meistres "Wel, meistres fach anwyl i, y mae o yn gwneyd daioni i fy nghalon i'ch gweled chwi a'r babi efo'ch gilydd. Y mae o'n bictiwr neis. Yn wir, mae o yr un ddelw a chwi." Y fam anwyl: Ond y maent i gyd yn dweyd ei fod yn edrych yr un peth yn union a'i dad, Mari." Yr housemaid: Bendith arnoch meistres fach, dydi o ddim haner ddigon glandeg i hyny." Cyfreithiwr unwaith yn awyddus i ddangos ei dalent, a ddechreuodd holi hen ffermwr mewn modd cellweirus a bychanus, drwy ofyn iddo a oedd yna lawer o ferched ieuainc yn y gymydog- aeth. Oes," atebodd yr hen ddyn, y mae yna nifer arswydol o honynt, cynifer fel nad oes yna ddim haner digon o wyr parchus iddynt i gyd, ac y mae rhai o honynt yn dechreu pigo i fyny a chyfreithwyr." Dropiodd y twrnai yr ymddiddan yn y fan.
RECTOR NEWYDD DOLGELLAU.
RECTOR NEWYDD DOLGELLAU. Mae bywoliaeth bwysig Dolgellau wedi ei rhoddi i'r Parch. W. Williams, B.A., Llanfairtalhaiarn, Abergele. Mae Mr Williams, trwy ei weithgarwch dyfalbarhaol, a'i zel ddiysgog yn ngwinllan ei Feistr, wedi gradclol enill iddo ei hunan boblogrwydd anar- ferol, a saile uchel yn mhlith clerigwyr Cymru. Yn y iiwyddyn 1871 llwyddodd i fyned i Goleg Llanbedr, yn ystod yr hon flwyddyn y gwnaed ef yn Scholar. Y flwyddyn ganlynol, 1872, daeth allan yn Bates Prizeman, yr anrhydedd uwchaf a allasai y coleg roddi iddo. Yn 1873, daeth allan yn y First Class, ac efe ydoedd yr unig un a lwyddodd i gyr- haedcl y safon uchel hwnw, ac hefyd daeth allan fel Classical Prizeman. Yn 1874, graddiwyd ef yn B.A. Ganfyddir oddiwrth hyn fod cwrs colegawl Mr. Williams yn hynod anrhydeddus. Enillodd brif wobrau y coleg ar hyd yr amser y bu ynddo. Ond fel gweinidog y canfyddwn ei gryf (ler a'i nerth penaf. Dyma lie y canfyddwn y perl gwerthfawr- ocaf. Dechreuodd yn foreu iawn ar y gwaith. Pan yn Nholeg Llanbedr ni luddiwyd ef gan ei ddyled- swyddau rhag cymeryd rhan egniol a phwysig yn y plwyf tuallan i gylch y coleg. Yr oedd yn arferol o roddi mawr gynorthwy i'r diweddar Barch. J. A. Jackson, yr hwn oedd yno ar y pryd yn gwasanaethu fel curad. Ar ymadawiad Mr. Jackson ordeiniwyd Mr. Williams yn gurad yn ei le, er fod ganddo un flwyddyn drachefn i astudio yn y coleg. Cyflawn- odd ei waith fel curad a'i efrydiaeth yn y coleg ar yr un pryd gydag yni dyfalbarhaol, a chymeradwyaeth mawr. Yn y flwyddyn 1876, symudodd i guradiaeth Croesoswallt, a bu yn foddion yma, yn mhlith pethau da ereill, i godi yr Eglwys Gymraeg i sefyllfa an- rhydeddus. Yn 1877, dyrchafwyd ef i fywoliaeth Llanuwchllyn gan Syr W. Williams Wynn, Bar. Diwedd yr un flwyddyn cafodd gynyg ar fywoliaeth Trefonen, ond er mwyn ei gadw yno, ychwanegwyd ei gyflog gan Syr Watkin. Ar ol bod yno yn llafurio yn hynod Iwyddianus, nes cyfnewid cyflwr yr Eg- lwys yno yn drwyadl, am dair blynedd, dyrchafwyd ef drachefn yn y flwyddyn 1880 i fywoliaeth Llan- fairtalhaiarn. Bu ei ddyfodiad yma o les mawr i'r Eglwys yn y lie. Dechreuodd gasglu cor at ei gilydd, a llwyddodd i gael prif gantorion yr ardal yn perthyn iddo, ac yn awr mae yno un o'r corau goreu mewn plwyfydd gwledig. Llwyddodd i gael organ, ysblenydd gwerth £ 350, yr hon a fu o gynorthwy dirfawr i'r cor. Gwnaeth gyfnewidiadau mawr tu- fewn'i'r Eglwys, megys cael vestry newydd bryd- ferth a manteisiol, a chyfnewid llawer ar y ganghell er rhoddi lie cyfleus i'r cor. Trwy ei ymdrechion dibaid ef y llwyddwyd i gael Darllenfa Gyhoeddus at wasanaeth y trigolion. Ail-adeilad- odd yr Ysgol Genedlaethol hefyd gwariodd tua £ 200 ar y gwaith hwn. Cyfeiriwn ein camrau tuag at y llwyddiant perffeithiaf yn ystod cyfnod ei weini- dogaeth yn y lie. Cyfeirio'r ydym at ryw le bycbau tua dwy filldir o'r Llan, o'r enw Pontygwyddel. 0 bob lie, dyma un o'r rhai anhebycaf i gael cynull- eidfa Eglwysig. Mae'r tai wedi eu gwasgaru ar hyd ac ar led hyd ochrau y mynyddoedd yno. Nid ydym yn credu fod yno gymaint ag un Eglwyswr yn y cyffiniau, ond os oedd, yr oedd wedi ymddieithrio a chymysgu a defaid cyfrgolledig tv Israel. Dechreuodd Mr. Williams bregethu ar nos weithiau gwaith mewn gwahanol dai. Atdynwyd llawer i wrando'r genadwri oedd yn cael ei thraddodi gyda grymusder. Gorlenwodd y tai o'r diwedd. Yr oedd yn y lie hen efail. Adgyweiriwyd a threfnwyd hon yn ystafell gyfleus iawn i'r pwrpas. Yma y cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn y boreu, ysgol y prydnawn, a gwasanaeth a phregeth yn y nos, heb- law cyfarfodydd yn yr wythnos. Ni ddychymygasai neb erioed y gellid casglu y fath nifer o bobl mewn lie mor ddinod. Erbyn hyn, fodd bynag, mae yn Pontygwyddel Eglwys hardd a phrydferth. Agorwyd hi y dydd o'r blaen pan yr oedd tua dau gant o bobl yn molianu Duw ynddi—" yn llawn can a moliant, fel tyrfa yn cadw gwyl." Yr ydym yn deall nad yw'r ddyled wedi ei chlirio. Pwy o ddarllenwyr calon gynes y LLAN a gefnoga'r achos drwy anfon ei hat- ling i'r drysorfa cyn ymadawiad Mr. Williams o'r lie. Mae yr achos yn gwir deilyngu hyny. Sicrhawn hwynt y teimlai Mr. Williams, a hen bobl calon gynes Pontygwyddel yn wir ddiolchgar iddynt pe teimlai rhywun ar ei galon i wneuthur hyny. Yn awr wele Mr. Williams yn gadael y lie ar ol ei ddwyn i fyny i safle Eglwysig anrhydeddus, a nod edmyg- edd y plwyfydd amgylchynol; ond cofier, ni ddaeth y pethau hyn o amgylch heb bedair blynedd o waith- garwch dibaid. Llongyfarchwn Mr. Williams er ei ddyrchaflad i blwyf mor bwysig a Dolgellau nid ychydig o beth ydyw olynu gwr Eglwysig o safle Deon newydd Bangor. Llongyfarchwn bobl Dol- gellau ar gaffaeliad gweinidog ffyddlawn, cywir, a gweithgar-dyn a ofala am eu hangenrheidiau tym- horol ac yabrydol. Dylasem fod wedi hysbysu fod Mr. Williams wedi dangos ei hunan yn gyfaill myn- wesol i'r tlodion a'r anghenus. Ond beth a ddy- wedwn wrth bobl garedig Llanfairtalhaiarn ? Mae colli gweinidog mor ddefnyddiol yn loes drom i'r Eglwyswyr yn y lie, ac yr wyf braidd yn sicrhau fod arnynt awydd cenfigenu wrth bobl Dolgellau am ddwyn eu hanwyl-ddyn. Ond gobeithiwn na ddi- galonant, am beidio rhoddi yr arfau i lawr, ond gweddio ar i Dduw gymhwyso yr Arglwydd Esgob i benodi dyn cymhwys a defnyddiol fel olynydd Mr. Williams. Duw yn rhwydd ar yr achos Eglwysig yn y dyfodol yn Llanfair a Dolgellau, a bendithied ei weinidogion rheolaidd. GARDDWR.
[No title]
Gwybodaetli a'tli wna yn ostyngedig. Anwybodaeth a'th wna yn falch. Myn gyfoeth mewn modd gonest. Mae hen frain yn anhawdd eu dal. Mae amynedd yn ysgafnhau trallod. Ffwl yw hwnw sydd bob amser yn iawn. Nid yw gwneyd o'n hanfodd yn werth brwynen. Os bydd arian genym, bydd bigon o gefnderwyr genvm. Ffwl yn iawn yw hwnw .nad all ddysgu dim oddiwrth ei ffolineb ei hun. Y mae yn cymeryd llawer o raweidiau o bridd i gladdu y gwirionedd. Sut y mae pregeth dda fel cusan ? Am nad yw yn gofyn ond dau ben a chymwysiad. Pe argrephid ffaeleddau y goreu o ddynion ar ei dalcen, buan y tynai ei het dros ei lygaid. Y mae clustiau celfyddydol, trwy wisgo pa rai y gall y byddar glywed, yn dyfod i arferiad yn America. Y mae dyn heb synwyr cyffredin o dan ei gwcwll, yn cydio mewn peth ag y teimlai angel yn swil i ymaflyd ynddo.