Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

LLANELLI.

ABERDAR.

LLANGADWALADR, MON.

SARON, LLANFAIR-IS-GAER.

OAKWOOD, GERLLAW CWM AVON.

MAENTWROG.

MARGAM.

- ABERYSTWYTH.

PENTRE, DYFFRYN RHONDDA.

ILLANFAIRTALHAIARN. ;

News
Cite
Share

LLANFAIRTALHAIARN. Y mae digwyddiad lied bwysig wedi cymeryd lie ar ddydd Gwener, Awst 1, mewn cysvlltiad a'r Eg- lwys yn y plwyf uchod, sef agoriad hir-ddisgwyliedig Eglwys Pontygwyddel. Y mae y lie hwn yn rhan- dir prydferth a thlws neillduol, ac yn cymeryd i fewn ranau o blwyfi Llanfairtalhaiarn, Abergele, Llanefydd, a Llansannan. Y mae yno ddyffryn bychan yn cael ei amgylchynu a bryniau, a thrwy yr hwn y mae afon Elwy yn dolenu yn nghanol dolydd gwyrddion. Yn lied fuan ar ol i'r Parch. W. Wil- liams, Rheithor presenol y plwyf, ddyfod yma can- fyddodd fod angen am le o addoliad, gan nad oes un o un math yn agos iawn i'r lie. Gan hyny dechreu- odd ar y gwaith o bregethu mewn anedd-dai oddeutu tair neu bedair blynedd yn ol. Byddai y rhai hyn yn cael eu mynychu gan drigolion y lie yn rheolaidd, ac yr oedd y gwrandawyr yn lluosogi gymaint fel y gorfu iddo wneyd defnydd o hen efail yn agos i'r Bont, a throi yr ystafell i fod yn fath o gapel Anwes. Yn lied fuan ar ol iddo ddechreu pregethu mewn tai, a gweled fod y rhagolygon am wrandawyr mor addawol, llwyddodd i gael cynorthwy arianol tuag at gynal cyd-weinidog iddo, ac mewn canlyniad, urdd- wyd y Parch. H. J. Hughes, M.A., y curad presenol. Erbyn hyn y mae ei gyflog wedi ei sicrhau. Trwy gydweithrediad ei gyd-lafurwr aeth y gynulleidfa yn y Bont yn fwy,fwy, hyd nes o'r diwedd y sefydlwyd dau wasanaeth yno bob Sul, ynghyd ag Ysgol Sul. Teg ydyw dweyd eu bod wedi cael help dirfawr gan leygwyr, y rhai sydd wedi dangos mawr zel dros y gwaith da, sef Mr. Robert Jones, Glyn, Mr. A. M. Jones, Black Lion, a Mr. Benjamin Jones, yn awr Athraw Cynorthwyol yn Ysgol y Bwrdd, Bangor. Gwnaeth y Jonesiaid hyn eu rhan yn ardderchog, ac y maent wedi bod yn pregethu lawer gwaith gydag arddeliad, yn gystal a chynorthwyo gyda'r canu, cyfarfodydd gweddi, a'r Ysgol Sul. Yr ydym yn meddwl fod y tri a'u llygaid ar iveinidog- aeth yr Eglwys, a chredu yr ydym, os y cant eu harbed, y byddant yn offerynau yn Haw Duw i wneuthur mawr ddaioni eto yn y dyfodol. Da i'r Eglwys fyddai cael mwy o ddynion ieuainc cyffelyb iddynt. Bydded iddynt fyned ymlaen er gwaethaf pob anhawsder. Ond i ddychwelyd at agoriad Eglwys St. loan Fedyddiwr, Pontygwyddel (oblegid dyna fydd ei henw am y disgwylir iddi fod yn llef yn llefain yn y diffaethweh,") gwelwn fod cynulleidfa a chymunwyr yn barod yn y fan hon cyn adeiladu y deml weledig. Mewn gair, yr oedd yr ardal yn aeddfed i'r Eglwys ymhell cyn iddi gael ei chodi. Nid arbedwyd na thraul na thrafferth i'w gwneyd yn deilwng o wir addoliad y Goruchaf. Cynllunydd ac adeiladydd yr Eglwys ydoedd Mr. Richard Jones, Llanfairtalhaiarn, ac y mae wedi gwneyd ei waith yn sylweddol, yn ddestlus, ac yn hynod foddhaol yn mhob ystyr. Yr oedd y pwlpud a'r gangell wedi eu haddurno gan y Misses Heaton, Bettws. Uwchben y Bwrdd Sanctaidd yn gorphwys ar rotable, yr oedd croes wedi ei haddurno a. cherig gwerthfawr, ynghyd ag addurn-gawgiau a chanwyllbreni o bob tu. Yr oedd pob peth yn gwneyd i mi ystyried mai nid t cyffredin ydoedd, ond mai teml sanctaidd a chys- egredig i Frenhin y Brenhinoedd ydoedd, ac mai ar sail iawn ac aberth Crist yr oodd yr addoliad i fod yn dderbyniol yn y nef. Erbyn un-ar-ddeg dydd Gwener, Awst laf, yr oedd yn amlwg fod cynwrf yn y wlad. Yr oedd yr hin yn hynod ddymunol. Yr oedd tyrfaoedd o bob cyfeiriad, yn lien a lleyg, yn cyrchu at y lie, gan ddweyd yn eu hymddygiad yr Eglwys yw'r fan i fod." Yr oedd y gwasanaeth cyntaf yn Gymraeg, gan mai ardal wledig a Chym- reigaidd ydyw, a phregethodd Arglwydd Esgob Llanelwy yn ei hwyliau goreu oddiar St. Matt. iii. 11. Yr oedd yn ein hadgofio ni o'r adeg pan oedd son am dano fel ficer Llanymddyfri. Yn y pryd- nawn am dri, cawsom wasanaeth Saesneg a phreg- eth gynwysfawr a meddylgar gan y Parch. Canon Howell Evans, Croososwallt, oddiar 1 Ghron. xxi. 8, 9. Yn yr hwyr yn Gymraeg cafwyd gwasanaeth gafaelgar eto, a phregeth heb ei bath gan Llawdden, y Parch. D. Howell, B.D., Gwrecsam. Nid doeth ydyw gor-ganmol, ond yn sicr yr oedd yn nefolaidd ymuno ag un llais, ag un galon, ac ag un genau yn ngwasanaeth digymar yr Eglwys, a gwrando ar genadwri felus a chynhyrfiol y Gross a draddodwyd gyda'r fath yni gan y tri. Diogelwch llwyddiant y weinidogaeth a phob gwaith da oedd gan y blaenaf, amlygiad y gwaith yn Eglwys Crist yn. nghyda'r ffordd oreu i'w gyflawni oedd gan yr ail, a ffynonell bendithion y gwaith ynghyd a'i effeithiau, sef ym- gnawdoliad a marwolaeth y Duw-ddyn oedd gan y trydydd. Wrth gysylltu a chydmaru y tair pregeth â'u gilydd yr oedd y gwersi addysgiadol yn berfiaith, a gobeithio na chollir golwg yn nyfodol yr Eglwys hon ar y gwahanol agweddau yma o'r un gwirionedd. Cyfanswm y casgliadau ydoedd £ 26. Yr oedd ym- borth wedi ei ddarparu mewn tent gyfagos lie cafodd yn agos i ddau cant o bobl eu diwallu ddwy waith. Yr oedd yn hyfryd gweled yr offeiriaid a'r ileygwyr yn gymysgedig a'u gilydd, ynghyd a'r tlawd a'r cyfoethog. Nis gall y naill wneyd heb y 11a11- aethai cymdeithas ac Eglwys yn ddrylliau hebddynt. Cynsgiwyd iechyd da yr Esgob gan Dr. Davies,. Llanfair, Warden Eglwysig y plwyf, mewn geiriau hapus iawn. Atebwyd yn garedig gan yr Esgob, yr hwn oedd yn Ilawn gobaith dros ddyfodol yr hen Eglwys, yn enwedig wrth weled ei bod yn estyn ei chortynau mewn lleoedd gwledig fel hyn. Yna yfwyd iechyd da y Rheithor, yr hwn hefyd a ateb- odd gan gyfeirio mai y ffordd i gyfarfod ag angenion yr Eglwys mewn plwyfi mawr ac eang fel hwn oedd trwy adeiladu naill ai ysgoldai neu Eglwysi bychain, lie y ceir gwasanaethau byrion, syml a gwresog, a lie y gellir gwneyd defnydd o alluoedd a thalentau y Ileygwyr. Yr oedd oddeutu dau ddwsin o'r offeir- iaid cymydogaethol yn bresenol ynghyd a'r prif leygwyr. Y maent yn rhy liosog i'w henwi. Y mae y dechreu beth bynag yn dda a llwyddianus. Eled y gwaith rhagddo a chynydded.

RHYL.

BRYNMAWR.