Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
LLANELLI.
LLANELLI. MABWOLAETH DDISYFYD.-Blin genym gofnodi marwolaeth ddisymwth Mr Richard Griffiths, Glas- curte. Deallwn mai genedigol oedd o blwyf Llan- gannor, ger Caerfyrddin. Daeth yma oddeutu 52 mlynedd yn ol. Melinydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac adnabyddid ef wrth yr enw Griffiths o'r felin." Yr oedd yn un o hen gewri Eglwys y plwyf, ac efe oedd yr hynaf, neu gyda'r hynaf, yn fyw o'r cymun- wyr. Bu yn Warden yr Eglwys Gymraeg am lawer o flynyddau, yn enwedig felly yn amser y ficer pres- enol, Canon Williams. Yr oedd (beunydd yn flaen- llaw gyda phob mudiad Eglwysig. Yn wir, ni fu neb yn fwy gweithgar nag ef pan yn alluog i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddiau, cymunwyr, yr ysgol Sul, a'r gwasenaethau. Wele un o'r hen gadwyn ag oedd yn uno y to presenol a'r hen wedi ei datod, ac ni hyderwn wedi myned i well lie, oddi- wrth ei waith at ei wobr, ac i gwmepini y rhai hyny, fel ei blant a'i briod, a hoffai mor fawr. Nid oedd y diweddar gyfaill wedi bod mewn iechyd da am rai blynyddau. Teimlai oddiwrth ddolur neu guriad y galon, yr hyn oedd yr achos o'i angeu disymwth y ddoe, Awst lleg. Bu allan yn yr ardd y diwrnod y bu farw. Yr oedd yn 76 mlwydd oed. Gadawodd un mab, yr hwn sydd fasrachydd parchus yn ein tref, a thair merch i alaru ar ei ol. Cleddir ef yn ol ei ddymuniad yn nghladdfa yr Eglwys.
ABERDAR.
ABERDAR. Da genym weled yn rhes yr ymgeiswyr llwydd- ianus yn arholiad y Pharmaceutical Society, yr hwn u gynhaliwyd Gorphenaf y 15fed, 1884, enw Mr. Rees Martin Lewis, Aberaman, Aberdar. Y mae Mr. Lewis yn wyr i Mr. Rees Lewis, Merthyr, cymeriad tra adnabyddus yn nghylchoedd llenyddol Cymru. Y mae Mr. R. M. Lewis yn awr wedi ei gyflawn gymhwyso fel Chemist and Druggist. DAFEN. BODDIAD DYN IEUANC.—Yn eich rhifyn diweddaf, gwelsom yn hanes Llanelli foddiad dyn ieuanc arall; a dyma ninau o'r ardal hon, yn gorfod, gyda galar blin, gofnodi boddiad trist un Evan Thomas, mab i William Thomas, shearer. Yr oedd yn 21 mlwydd oed. Boreu y lleg aeth ef a chyfaill arall ar eu bicycles i Llanelli, ac oddiyma i'r traeth i ymdrochi. Ni bu Evan yn hir yn y dwfr cyn iddo gael y cramp, ac y mae yn debyg iddo fyned i le dwfn. Nid oedd yn llawer o nofivhr. Ymdreohodd cyfaill iddo ei achub ond yn ofer." Pan ddaeth y newydd fod mab Mr Thomas, o'r Dafen, wedi boddi aeth canoedd i lawt i'r traeth. Cafwyd ei gorph yn y man lie suddodd, a dygwyd ef gartref yr un prydnawn. Yr 9 oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf welwyd yma. Yr oedd yr ymadawedig yn un o aelodau c6r canu Eglwys St. Mihangel, ac yn gymunwr ffyddlon, ac athraw yn ei dro yn yr ysgol Sul. Perthynai i un o'r teuluoedd mwyaf parchus yn y lie, a mawr y cydymdeimlad a ddangosir gan bawb iddynt. Er fod eu plentyn wedi ei ddwyn oddiwrthynt dan am- gylchiadau mor dorcalonus, y mae yn gysur iddynt feddwl eu bod wedi colli un mor barod i gwrdd a'i symudiad sydyn. Dywedir iddo gymeryd rhan yn y canu y Sul diweddaf yn fwy gwresog nag erioed. Pwy a wyr nad oedd yn cael blaenbrawf o felusder canu y nefoedd. Duw fyddo yn rhoddi nerth i'r teulu i ddal yr ystorm.
LLANGADWALADR, MON.
LLANGADWALADR, MON. PLESEBDAITH YR YSGOL SUL.-Dydd Llun, y 4ydd cyfisol, ydoejld hir ddisgwyliedig ddydd gan Ysgol Sul y Llan uchod. Dewiswyd eleni (yn lie myned gyda'r gerbydres i Llandudno neu Rhyl), manau ymgynhulliad teulu Hengist, le mwy swynol, dymunol, a rhamantus, sef Trwyn y Pare (Park Cape), ar ystad Bodorgan. Efallai y byddai yn well i'r ysgrifenydd roddi ychydig o hanes y lie hwn, gan ei fod yn ymgyrchfan canoedd yn flynyddol. Trwyn o dir uchel gwastad a gwyrddlas ydyw, yn ymestyn o Bare Bodorgan i for y Werydd. Ceir golygfeydd prydferth a rhamantus oddiyma. O'n blaen gwelir mynyddoedd Eryri a'r Eifl i Penmaenmawr, a mor y Werydd a chanoedd a longau arno o Gaergybi i Borthdinllaen. Yn y bau o danon mae Llanddwyn a'i oleudy gwyn, a'i dir-gylch yn llawn o olion henafol. Wel, Mr. Gol. daeth y diwrnod a'i holl bleserau, cychwynasom yn y boreu, rhai ar draed, a'r lleill mewn cerbydau, a chyrhaeddasom y fan yn brydlon erbyn ciniaw, a chiniaw ardderchog a gawsom, ar fwrdd gwyrddlas anian, ar wyn leiniau Bodorgan, diolch i Mrs. Compton am ei charedig- rwydd, ac yr oedd digonedd o dan a glo, genym ar y Pare, nid am ei bod ynoer, ond er mwyn y bwydydd. Wedi ymddifyru goreu gellid, cawsom ein te a bara brith o'r radd oreu. Yna ymwahanwyd i ymbleseru drachefn, rhai i ymdrochi, rhai i weled ogofau, pa rai sydd yn myned am filldiroedd dan dir M6n. Y mae yn teilyngu diolchgarwch, yn enwedig y Rector, Mr. Samuel Pierce, a Mrs. Pierce, &c., a minau am ddal crancod.
SARON, LLANFAIR-IS-GAER.
SARON, LLANFAIR-IS-GAER. Dydd Gwenar diweddaf, bu aelodau Ysgol Sul y lIe uchod yn mwynhau eu hunain trwy gymeryd taith mewn cerbydau. Y dull cyffredin ag y mae Ysgolion Sul yn ei gymeryd yw, myned gyda'r tren i Rhyl, Llandudno, Caergybi, Abermaw, a llefydd o'r fath; ond yr oedd y Saroniaid yn credu y cawsent fwy o hyfrydwch wrth edrych ar, ac edmygu gwaith natur, yn hytrach nag ar waith dyn. Folly am tua saith o'r gloch boreu dydd Gwener, o dan ofal ein curad, y Parch. James Salt, cychwynodd 62 o honom mewn pedwar o gerbydau, ac aethom drwy Llanrug, Cwm-y-glo, Llanberis, i fyny y Pass," yr hwn sydd yn gennant gwyllt a ffyrnig yr olwg arno, a chyr- haeddasom haner ein taith, sef Capel Curig, erbyn deuddeg o'r gloch, tipyn yn lluddodig o herwydd poethder yr hin. Yna cawsom dderbyniad croes- awus gan ein parchus ficer a'i wraig, sef Mr. a Mrs. Parry, y rhai oedd yn aros yn Capel Curig ar y pryd, Arweiniwyd ni i gael golwg ar yr Eglwys sydd newydd ei hadeiladu yno. A tharawyd ni oil 4 syndod wrth yr olwg ardderchog sydd arni. Gallaf ddweyd fod yr Eglwys hon yn un o'r rhai harddaf a welais i erioed. Mae hi nid yn unig yn addurn i Gapel Curig, ond hefyd i swydd Gaernarfon. Ar ol bod yn syllu ar brydferthwoh yr Eglwys am beth amser, arweiniwyd ni gan ein ficer caredig i ysgol y lie. Wedi myned i mewn iddi, synasom wrth ganfod ei bod wedi ei haddurno yn y modd prydferthaf, a'r byrddau wedi eu harlwyo a digonedd o de a bara brith o'r fath oreu, ar gyfer pob un o honom. Ar ol gwneyd cyfiawnder a'r danteithion a osodwyd o'n blaen, cynygiwyd diolchgarwch byr a phwrpasol gan y Parch. James Salt i Mr. a Mrs. Parry, am eu caredigrwydd, y drafferth a'r gost, a hyny nid ychydig, yr aethant iddo ar ein cyfer; eiliwyd y cynygiad Mr. R. Roberts, Tyn'ronen. Ar ol hyn gwasgarodd pawb am ychydig amser, ac aethant un yma ac un acw i edrych ar' brydferthwch yr ardal. Am bedway o'r gloch cyrchodd pawb i'r Eglwys newydd, a chanasom dair neu bedair o hen hymnau Cymreig, yn cael ein dilyn ar yr Organ gan Mr. Adams, yr ysgolfeistr. Ar ol hyn aethom tua'r cerbydau, a chyn cychwyn, bu Mrs. Parry mor garedig a myned i siop gerllaw, a phrynodd ddigonedd o beth plant y maeyn alw yn "dda-da," ac hefyd der- byniasant deisen bob un. Yna ymadawsom o Capel Curig, a gallaf sicrhau na dderbyniodd aelodau unrhyw Ysgol Sul fwy o garedigrwydd oddiar law eu ficer a'i wraig, nag y darfu ni yn Capel Curig oddiar law Mr. a Mrs. Parry. Yr oedd yn bedwar o'r gloch cyn i ni gychwyn tua chartref, pryd aethom trwy Ben-y-Benglog, Nant Francon, a chyrhaeddasom Bethesda erbyn saith o'r gloch. Yma disgynodd pawb o'i gerbyd, a mwynhasom ein hunain yn y lie hwn am yn agos i awr o amser. Felly gadawsom "Bethesda fawr yn Arfon" am wyth o'r gloch, a daethom oil i derfyn ein taith, sef Saron, yn gwbl ddiogel, a phawb wedi mwynhau eu hunain yn berffaith. A gobeithio wyf fi y cawn ni ein breintio y flwyddyn j^esaf yr un fath.-Un o'r teithwyr.
OAKWOOD, GERLLAW CWM AVON.
OAKWOOD, GERLLAW CWM AVON. GWLEDD FLYNYDDOL YR YSGOLION SUL.—Yr oedd dydd Llun, Awst 4, yn ddiwrnod yr edrychid ymlaen ato gyda dyddordeb gan aelodau ysgolion Sul Eg- lwysi Oakwood a Margam, oblegid mai ar y dydd hwnw yr oeddynt i gael gwledd de flynyddol. Wedi cael gwasanaeth byr yn Eglwys Oakwood aethpwyd gyda'r gerbydres i orsaf Aberavon. Wedi hyny ffurfiwyd yn orymdaith fawr, yn cael ei blaenori gan seindorf, i fyned i Margam erbyn 3 o'r gloch; ac aethom ar hyd y grounds hardd. Am 4 o'r gloch aeth y ddwy ysgol yn ol i'r Orangery, yr hwn oedd wedi ei roddi at wasanaeth y ddwy ysgol gan C. R. M. Talbot, Ysw., A.S., Arglwydd Raglaw y sir, lie yr oedd y wledd wedi ei pharotoi ar eu cyfer, a gwnaeth pawb gyfiawnder a'r hyn oedd o'u blaen. Cafwyd gwledd ragorol, ac wedi i bawb gael eu digoni clir- iwyd y byrddau, ac aethant i ymbleseru ar hyd y Castell. Gwelsom y rhai hyn yn y wledd y Parchn. Zedeciah Paynter Williamson, a Mrs. Williamson, Margam R. M. Jenkins, Taibach; H. Harris, B.A., Oakwood Thomas Jenkins, L.Th., Cwm Avon. Y mae ysgolion Sul hynod lewyrchus yn perthyn i Oakwood a Margam. Yr oedd y dydd yn hynod ffafriol, a thr6dd y wledd allan yn llwyddiant per- ffaith. Y mae diolchgarwch yn ddyledus i Mr. a Miss Talbot am eu caredigrwydd yn rhoddi grounds Margam at ein gwasanaeth. Am 7 o'r gloch, cych- wynodd ysgol Oakwood tua chartref, a da genyf allu dweyd i bawb gyrhaedd gartref yn ddiogel, wedi treulio diwrnod wrth fodd eu calon. Mae diolch- garwch gwresog yn deilwng i Mr. William Jones, contractor, am ei garedigrwydd yn rhoddi benthyg yr engine a'r trucks i'r fath achlysur a hwn.
MAENTWROG.
MAENTWROG. Bu Balac yn preswylio yn Mynydd Gilboa dros amser maith, lie nad oedd na gwlith na gwlaw-sych iawn oedd hi yn y capoli dan ei ofal a dim arddeliad ar ei weinidogaeth-tra yr oedd Israel Duw yn gweithio ac yn llwyddo. Penderfynodd o'r diwedd wahodd Balam yma i'w rhegu. Nos Sadwrn di- weddaf daeth Meistri Evan Jones, Caernarfon, a N. C. Jones, Llanfyllin, i gynal cyfarfod dadgysylltiol i Gellilydan, dan lywyddiaeth Mr. Lloyd, Plasmeini, lie y traethasant wmbreth o dwyll resymeg a ffug hanesion, fel arferol. Teneu iawn oedd y gwran- dawyr dim ond dau neu dri o ffermwyr o'r plwyf: gwnelid y gynulleidfa i fyny gan mwyaf o ddadgys- ylltwyr Ffestiniog. Ateb Eglwyswyr Maentwrog iddynt ydyw, zel dauddyblyg dros yr Eglwys-canent yn hwyliog ddydd Sul diweddaf Onward Christian Soldiers," gan awgrymu eu penderfyniad yn wyneb yr erledigaeth. Mae yn dlawd ar y Dadgysylltwyr, pan ddeuant i ardal mor deneu ei phoblogaeth a Gellilydan Pa'm na ddeuant i bentref Maentwrog? Bu farw yr hybarch William Meredith, Tyddyndu, hen gartref Archddiacon Edmund Prys, ddydd Mercher, y 6fed cyfisol, yn 84 mlwydd oed. Buasai yn gynorthwy mawr i'r Eglwysig yn Tynant, o'r dechreu, er ei fod ef yn aelod gyda'r Methodistiaid yn y Gellilydan. Yr oedd ef yn meddwl mwy am grefydd Crist nag am achos y capel," ac felly yn wir ryddfrydig, er gofid mawr i'r ysbrydion culion sydd yn edrych ar bob peth trwy spectol y sect. Bu y Person a'r curad yn cychwyn y cynhebrwng ac yn claddu yr hen bererin. Cysured y nefoedd y teulu galarus.
MARGAM.
MARGAM. ABDDANGOSFA FLODAU.— Cynhaliwyd seithfed arddangosfa flynyddol cymdeithas Margan, ddydd Sadwrn diweddaf, yn yr Orangery, yn Margam Park, trwy garedigrwydd y perchenog, C. R. M. Talbot, Ysw., A.S. Cafwyd diwrnod rhagorol, a daeth llawer iawn o ymwelwyr tuag yno, ond nid cymaint a'r flwyddyn o'r blaen, oherwydd absen- oldeb Mr. a Miss Talbot, ac hefyd oblegid fod diwrnod yr arddangosfa wedi ei newid o ddydd Iau i ddydd Sadwrn. Ni chwareuodd y seindorf. Yr oedd y llysiau yn edrych yn dda dros ben, ac hefyd y pytatws. Y beirniaid oeddynt: Mêl, Mr. a Mrs. Llewellyn, Court Coleman; blodau gwylltion, Misses Llewellyn; beirniad yr ardd oreu ydoedd Mr. Battram, Cyfarthfa Castle, Merthyr Tydfil; tra yr oedd Mr. Beale, Castellnedd, yn barnu cynyrch- ion y gerddi. Y llywydd am y flwyddyn hon ydyw y Parch. Z. Paynter Williamson; is-lywydd, Mr. Howell Griffiths; ysgrifenydd, Mr. J. Muir. Dos- barthwyd y gwobrwyon yn yr hwyr gan Mr. William Llewellyn, Court Coleman, a'r Parch. Z. P. William- son. Deallwn fod y gymdeithas yn myned rhagddi mewn llwyddiant o flwyddyn i flwyddyn.—J. Davies.
- ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. GWYL GORAWL EGLWYSIG.-Cynhaliwyd yr wyl hon ddydd Gwaner, Awst 8fed, yn Eglwys St Michael (Eglwys y plwyf), pan y daeth y corau canlynol ynghyd i gymeryd rhan yn y gwasanaeth yn gorawl :—Llansantffraid, yn rhifo 51; Llan- rhystyd, 50 Llanddeinol, 34 Llanilar a Rhostie, 36; Llanychaiarn, 34; Llanfihangel-y-Creuddyn, 30; Bangor, 18; Talybont, 40; Llancynfelyn, 28; Borth, 20; Llanfihangel-geneu'r-glyn, 50: Llangor- wen, 40; Llangwyryfon, 40; Aberystwyth, 54; yr oil yn rhifo 525. Yr ydoedd yr olygfa yn Eglwys St Michael, Aberystwyth, y peth na welwyd erioed o'r blaen. Mr Richard James, Heol y Bont, Aberyst- wyth, a ddewiswyd gan yr Offeiriaid i addysgu y corau erbyn yr wyl fawreddog hon. Nid gwaith rhwydd ydoedd darparu cynifer a phymtheg o gorau mewn amser mor fyr i ymgymeryd a gwaith mor bwysig, oherwydd mai hon oedd yr wyl gyntaf a gyn- haliwyd yn Aberystwyth erioed. Hefyd yr amser o'r flwyddyn i addysgu'r corau, sef y tymor haf. Y gauaf ydyw y tymhor goreu at waith o'r fath yma, oherwydd ei fod yn fwy manteisiol i gael y bobl at eu gilydd. Ond yn ngwyneb yr anfanteision a gry- bwyllwyd, gallaf sicrhau darllenwyr y LLAN na chlywais fawr gwell canu yn unman erioed nag a glywais yn Eglwys St. Michael, Aberystwyth, ddydd Gwener diweddaf. Yr ydoedd yn hawdd gweled oddiwrth agwedd yr arweinydd ei fod yn teimlo yr hyn yr oedd yn ymwneyd ag ef, sef mai ymwneyd yr ydoedd â gwasanaeth ei Dduw. Gallaf eich sicrhau fod y dylanwad yna i'w ganfod trwy yr oil o'r gwas- anaeth, yn enwedig y Litany, yr oedd yn fendigedig. Yr oedd y lleisiau wedi toddi i'w gilydd fel un nesyr oedd mor effeithiol a dim alglywsom erioed. Llafar- ganwyd y gwasanaeth gan y Parch D. Jones, ficer Llanbedr. Yr ydoedd yn effeithiol dros ben, yn enwedig yn y geiriau hyny yn y Litani, Trwy dy ddirfawr iing," &c. Yr oedd pawb yn teimlo y geiriau yna fod rhyw un yn llefaru heblaw dyn. Dadganwyd y tonau canlynol allan o'r Llyfr Tonau Hen a Newydd Cheniese, rhif 278, ar y geiriau Hosanna, Aleluiah," &c; Salome, 396, ar y geiriau, Ni allai'r holl foroedd," &c. Yr ydoedd y dad- ganiad o'r tonau yn brydferth dros ben, yn enwedig y d6n ddiweddaf pan yn canu y geiriau "0 gariad, 0 gariad, &c." Gallaf eich sicrhau na chlywais ddatganiad mwy effeithiol. erioed o'r geiriau uchod nag a glywais yn yr wyl hon. Yr anthem ydoedd, Gwir yw'r Gair," gan Owain Alaw. Anthem f6r yw hon, ond ato yn dra phwrpasol i gorau Eglwysig ein gwlad. Yr ydoedd y Sopranos a'r Tenors yn cymeryd i fyny eu rhanau yn ardderchog. Yr oedd y Bass hefyd yn canu yn fendigedig. Nid oedd yr Altos gystal a'r lleisiau eraill drwy yr oil o'r gwasanaeth, oherwydd mai ieuaingc oeddynt oil, heb neb i'w harwain. Ond a chymeryd y cwbl at eu gilydd yr oeddynt yn canu yn dda. Hefyd, dadgan- wyd yr Hallelujah Chorus," o'r Messiah, Handel, ar ddiwedd y gwasanaeth fel Voluntary, gan yr holl gorau ynghyd. A dyna ddywediad pawb fod y corau wedi canu y darn hwh yn ardderchog o dan ar- weiniad eu medrus arweinydd. Cofied y darllenydd nad oedd y corau ddim wedi gweled na chlywed eu gilydd hyd ddiwrnod y Festival. Yn wir yr oedd y dadganiad o'r darn hwn yn rhoddi mawredd ar y Festival. Dyfais oedd hwn o eiddo yr arweinydd er mwyn creu rhagor o ddyddordeb yn y Festival gan y corau. Darllenwyd y llithiau gan y Parchn. J. H. Davies, M.A., curad, Aberystwyth, a Morgan Evans, ficer Llangwyryfon. Traddodwyd y bregeth gan y Parch D. Griffith, Rector Ceinewydd, oddiar Salm exxii, 1. Pregethodd yn ardderchog. Dangosodd y pwys o fyned i Eglwys Dduw, ac ar y gwasanaeth oedd yn cael ei gario ymlaen yn Eglwys Dduw. Yr ydoedd yn dweyd fod llawer yn gosod mwy o bwys ar bregethu nag oeddynt yn rhoddi ar y gweddio. Ond yr oedd ein Hen Eglwys ni (sef Eglwys Loegr), yn rhoddi mwy o bwys ar y gweddio, oherwydd medd Crist ei hun, Ty gweddi y gelwir fy Nhy I." Yr ydoedd yn anog pawb i lynu wrth y ddyledswydd o weddio yn Eglwys Dduw, oherwydd nid peth yn perthyn i un person yn unig ydyw y ddyledswydd hon. Yr ydoedd yn cofio yn dda pan nad oedd neb yn gweddio ond yr offeiriad a'r clochydd. Ond di- olchai i Dduw fod golwg tra gwahanol ar Eglwysi Cymru y dyddiau presenol, ac nad oedd dim modd- ion yn well tuag at ddyrchafu yr Eglwys yn Nghymru na thrwy gynal cyfarfodydd o'r fath hyn. Traddodwyd y fendith gan y Parch Chancellor Phillips. Yr ydym yn gobeithio na wna :offeiriaid y rhan uchaf o Sir Aberteifi ddim llaesu eu dwylaw yn y dyfodol, wedi iddynt weled eu hymdrechion am y waith gyntaf yn cael eu coroni a'r fath lwyddiant. A hir oes i'w parchus arweinydd i fyned ymlaen gyda'r gwaith o ddyrchafu yr Hen Eglwys, oherwydd yr ydym yn credu, yn ol yr hyn a glywsom am dano, ei fod a'i holl enaid yn y gwaith o ddyrchafu yr Eg- lwys. Llwyddiant iddo, a phawb arall sydd yn caru gwneyd daioni.- Un oedd yno.
PENTRE, DYFFRYN RHONDDA.
PENTRE, DYFFRYN RHONDDA. GYFABFOD GHWARTEBOL Y DDEONIAETH WLADOL. —Cynhaliwyd oyfarfod ohwarterol Deoniaeth Wladol Rhan Uchaf Llandaf yn Ysgoldy Eglwysig Pentre brydnawn ddydd Mawrth cyn y diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol y olerigwyr canlynol :— Parohn John Griffith, periglor Merthyr, Deon Gwladol; D. Thomas, Treherbert T. H. Williams, Heolfach H. Morris, Ton D. Felix, Treherbert H. Morgan, Treorci; John Rees, Ferndale; T. Enoch, Tylorstown S. Rowland Jones, Glyn Taf B. Lloyd, Mountain Ash H. J. Hyslop, Cwmaman W. James, Cyfartha T. Rogers, Llwynpia a W. Lewis, Ystradyfodwg, ysgrifenydd anrhydeddus. Y pwnc dan ystyriaeth ydoedd, Mesur Priodas a, Chwaer Gwraig drangcedig," ar yr hwn y darllen wyd papyr cynwysfawr gan y Parch W. James, ourad, Gyfartha, yr hwn a sylwodd ar y mater yn helaeth yn ei wedd ysgrythyrol, hanesyddol, Eg- lwysig, a chymdeithasol. Cafwyd ymdrafodaeth ddyddorol yn ddilynol, ac er nad oedd pawb o'r rhai oeddynt wyddfodol yn cydolygu & phapyr Mr James, etc yr oeddynt oil yn unfarn parthed ei deilyngdod mawr, ynghyd a'r tegwch a'i nodweddai, a phasiwyd pleidlas unfrydol o ddiolchgarwch i Mr James. Wedi ymranu, cafwyd fod 12 o blaid y Mesur,-a 6 yn erbyn. Darfu i'r Parch H. J. Wil- liams, curad St. Fagan's, Aberdar, yn garedig addaw ymgymeryd 4 darllen papyr ar Y Ddiaconiaeth yn y cyfarfod nesaf, yr hwn a gynhelir drwy wahoddiad y Parch S. R. Jones, ficer Glyntaf, yn Pontypridd.
ILLANFAIRTALHAIARN. ;
LLANFAIRTALHAIARN. Y mae digwyddiad lied bwysig wedi cymeryd lie ar ddydd Gwener, Awst 1, mewn cysvlltiad a'r Eg- lwys yn y plwyf uchod, sef agoriad hir-ddisgwyliedig Eglwys Pontygwyddel. Y mae y lie hwn yn rhan- dir prydferth a thlws neillduol, ac yn cymeryd i fewn ranau o blwyfi Llanfairtalhaiarn, Abergele, Llanefydd, a Llansannan. Y mae yno ddyffryn bychan yn cael ei amgylchynu a bryniau, a thrwy yr hwn y mae afon Elwy yn dolenu yn nghanol dolydd gwyrddion. Yn lied fuan ar ol i'r Parch. W. Wil- liams, Rheithor presenol y plwyf, ddyfod yma can- fyddodd fod angen am le o addoliad, gan nad oes un o un math yn agos iawn i'r lie. Gan hyny dechreu- odd ar y gwaith o bregethu mewn anedd-dai oddeutu tair neu bedair blynedd yn ol. Byddai y rhai hyn yn cael eu mynychu gan drigolion y lie yn rheolaidd, ac yr oedd y gwrandawyr yn lluosogi gymaint fel y gorfu iddo wneyd defnydd o hen efail yn agos i'r Bont, a throi yr ystafell i fod yn fath o gapel Anwes. Yn lied fuan ar ol iddo ddechreu pregethu mewn tai, a gweled fod y rhagolygon am wrandawyr mor addawol, llwyddodd i gael cynorthwy arianol tuag at gynal cyd-weinidog iddo, ac mewn canlyniad, urdd- wyd y Parch. H. J. Hughes, M.A., y curad presenol. Erbyn hyn y mae ei gyflog wedi ei sicrhau. Trwy gydweithrediad ei gyd-lafurwr aeth y gynulleidfa yn y Bont yn fwy,fwy, hyd nes o'r diwedd y sefydlwyd dau wasanaeth yno bob Sul, ynghyd ag Ysgol Sul. Teg ydyw dweyd eu bod wedi cael help dirfawr gan leygwyr, y rhai sydd wedi dangos mawr zel dros y gwaith da, sef Mr. Robert Jones, Glyn, Mr. A. M. Jones, Black Lion, a Mr. Benjamin Jones, yn awr Athraw Cynorthwyol yn Ysgol y Bwrdd, Bangor. Gwnaeth y Jonesiaid hyn eu rhan yn ardderchog, ac y maent wedi bod yn pregethu lawer gwaith gydag arddeliad, yn gystal a chynorthwyo gyda'r canu, cyfarfodydd gweddi, a'r Ysgol Sul. Yr ydym yn meddwl fod y tri a'u llygaid ar iveinidog- aeth yr Eglwys, a chredu yr ydym, os y cant eu harbed, y byddant yn offerynau yn Haw Duw i wneuthur mawr ddaioni eto yn y dyfodol. Da i'r Eglwys fyddai cael mwy o ddynion ieuainc cyffelyb iddynt. Bydded iddynt fyned ymlaen er gwaethaf pob anhawsder. Ond i ddychwelyd at agoriad Eglwys St. loan Fedyddiwr, Pontygwyddel (oblegid dyna fydd ei henw am y disgwylir iddi fod yn llef yn llefain yn y diffaethweh,") gwelwn fod cynulleidfa a chymunwyr yn barod yn y fan hon cyn adeiladu y deml weledig. Mewn gair, yr oedd yr ardal yn aeddfed i'r Eglwys ymhell cyn iddi gael ei chodi. Nid arbedwyd na thraul na thrafferth i'w gwneyd yn deilwng o wir addoliad y Goruchaf. Cynllunydd ac adeiladydd yr Eglwys ydoedd Mr. Richard Jones, Llanfairtalhaiarn, ac y mae wedi gwneyd ei waith yn sylweddol, yn ddestlus, ac yn hynod foddhaol yn mhob ystyr. Yr oedd y pwlpud a'r gangell wedi eu haddurno gan y Misses Heaton, Bettws. Uwchben y Bwrdd Sanctaidd yn gorphwys ar rotable, yr oedd croes wedi ei haddurno a. cherig gwerthfawr, ynghyd ag addurn-gawgiau a chanwyllbreni o bob tu. Yr oedd pob peth yn gwneyd i mi ystyried mai nid t cyffredin ydoedd, ond mai teml sanctaidd a chys- egredig i Frenhin y Brenhinoedd ydoedd, ac mai ar sail iawn ac aberth Crist yr oodd yr addoliad i fod yn dderbyniol yn y nef. Erbyn un-ar-ddeg dydd Gwener, Awst laf, yr oedd yn amlwg fod cynwrf yn y wlad. Yr oedd yr hin yn hynod ddymunol. Yr oedd tyrfaoedd o bob cyfeiriad, yn lien a lleyg, yn cyrchu at y lie, gan ddweyd yn eu hymddygiad yr Eglwys yw'r fan i fod." Yr oedd y gwasanaeth cyntaf yn Gymraeg, gan mai ardal wledig a Chym- reigaidd ydyw, a phregethodd Arglwydd Esgob Llanelwy yn ei hwyliau goreu oddiar St. Matt. iii. 11. Yr oedd yn ein hadgofio ni o'r adeg pan oedd son am dano fel ficer Llanymddyfri. Yn y pryd- nawn am dri, cawsom wasanaeth Saesneg a phreg- eth gynwysfawr a meddylgar gan y Parch. Canon Howell Evans, Croososwallt, oddiar 1 Ghron. xxi. 8, 9. Yn yr hwyr yn Gymraeg cafwyd gwasanaeth gafaelgar eto, a phregeth heb ei bath gan Llawdden, y Parch. D. Howell, B.D., Gwrecsam. Nid doeth ydyw gor-ganmol, ond yn sicr yr oedd yn nefolaidd ymuno ag un llais, ag un galon, ac ag un genau yn ngwasanaeth digymar yr Eglwys, a gwrando ar genadwri felus a chynhyrfiol y Gross a draddodwyd gyda'r fath yni gan y tri. Diogelwch llwyddiant y weinidogaeth a phob gwaith da oedd gan y blaenaf, amlygiad y gwaith yn Eglwys Crist yn. nghyda'r ffordd oreu i'w gyflawni oedd gan yr ail, a ffynonell bendithion y gwaith ynghyd a'i effeithiau, sef ym- gnawdoliad a marwolaeth y Duw-ddyn oedd gan y trydydd. Wrth gysylltu a chydmaru y tair pregeth â'u gilydd yr oedd y gwersi addysgiadol yn berfiaith, a gobeithio na chollir golwg yn nyfodol yr Eglwys hon ar y gwahanol agweddau yma o'r un gwirionedd. Cyfanswm y casgliadau ydoedd £ 26. Yr oedd ym- borth wedi ei ddarparu mewn tent gyfagos lie cafodd yn agos i ddau cant o bobl eu diwallu ddwy waith. Yr oedd yn hyfryd gweled yr offeiriaid a'r ileygwyr yn gymysgedig a'u gilydd, ynghyd a'r tlawd a'r cyfoethog. Nis gall y naill wneyd heb y 11a11- aethai cymdeithas ac Eglwys yn ddrylliau hebddynt. Cynsgiwyd iechyd da yr Esgob gan Dr. Davies,. Llanfair, Warden Eglwysig y plwyf, mewn geiriau hapus iawn. Atebwyd yn garedig gan yr Esgob, yr hwn oedd yn Ilawn gobaith dros ddyfodol yr hen Eglwys, yn enwedig wrth weled ei bod yn estyn ei chortynau mewn lleoedd gwledig fel hyn. Yna yfwyd iechyd da y Rheithor, yr hwn hefyd a ateb- odd gan gyfeirio mai y ffordd i gyfarfod ag angenion yr Eglwys mewn plwyfi mawr ac eang fel hwn oedd trwy adeiladu naill ai ysgoldai neu Eglwysi bychain, lie y ceir gwasanaethau byrion, syml a gwresog, a lie y gellir gwneyd defnydd o alluoedd a thalentau y Ileygwyr. Yr oedd oddeutu dau ddwsin o'r offeir- iaid cymydogaethol yn bresenol ynghyd a'r prif leygwyr. Y maent yn rhy liosog i'w henwi. Y mae y dechreu beth bynag yn dda a llwyddianus. Eled y gwaith rhagddo a chynydded.
RHYL.
RHYL. YR EGLWYS NEWYDD.—Yr wythnos ddiweddaf cynaliwyd bazaar yn neuadd y dref ar ran trysorfa yr Eglwys uchod sydd i gael ei hadeiladu yn Wel- lington Road. Cynyrchodd ystol Miss Mainix, 81p., un Mrs Roebuck a Mrs Day, 76p. Nid yw cyfrifon ystol y Ficerdy eto wedi eu gwneyd i fyny, ond yn ol pob tebyg, nid oedd y derbyniadau ymhell islaw y rhai uchod, a chyd a'r tanysgrifiadau tybir nad yw y cyfanswm a gafwyd nemawr llai na dau cant a haner o bunau. Swm lied foddhaol yn sicr. TRii, Y CORAU.—Yr wythnos nesaf y cymer hwn le, a Llanberis a'r Wyddfa yw'r nod. Mae Mr Prichard yn ddiwyd gasglu tuag at ddwyn traul y cantorion. YR YSGOLION CENEDLAETHOL.—Yr wythnos nesaf ailjagorir yr ysgolion hyn gwedi eu gwyliau. Bydd athrawesau newydd ar ddwy o honynt. Cymerir ysgol Vale Road gan Miss Lizzie Bell, athrawes drwyddedig, ac un Wellington Road gan Miss. Trevitt, y rhai a apwyntiwyd oddeutu deufis yn ol. Drwg genym nas gallai y nianagers barhau i gadw yr ysgol ddiweddaf, fel -7 lleill, dan athrawes drwydd- edig. Ond yr achos dros fethu ydyw fod y tanys- grifiadau yn graddol leihau o flwyddyn i flwyddyn.
BRYNMAWR.
BRYNMAWR. GOSOD CAREG SYLFAEN YSGOL Y BABANOD.— Drwg genyf i mi yr wythnos ddiweddaf, wrth groniclo hanes yr uchod, wneyd un amryfusedd, sef anghofio hysbysu fod rhifyn o'r LLAN wedi ei ddodi mewn potel yn y garreg. Mae yr adeiladwyr yn brysur gyda'r Ysgol, a bydd yn anrhydedd i'r gymy- dogaeth pan fydd wedi ei gorphen, ar yr hwn ach- lysur y bwriedir cynal cyfarfod agoriadol mawreddog, hanes yr hwn a anfonir genyf.-Gohebydd.