Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

-------....;...---CYNHADLEDD…

News
Cite
Share

CYNHADLEDD ESGOBAETH BANGOR. I (Oddiwrth ein Gohebydd Neillduol.) Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Esgobaeth Bangor, o dan lywyddiaeth yr Esgob, yn y Pen- rhon Hall, ddydd Iau diweddaf. Cymerai ormod o ofod i gofnodi enwau y rhai oeddynt bresenol, oherwydd yn nghyfarfod y boreu nis gallai fod dim llai na thua cant a haner o offeiriaid, a'r un nifer o gynrychiolwyr lleygol. Nid oedd eynulliad y prydnawn mor liosog a'r rheswm a roddid am hyny oedd fod yn rhaid i lawer fyned am yr orsaf i gyfarfod y tren pedwar, er mwyn gallu o honynt garhaedd cartref y noswaith hono. Tybiwyf fod digon o ysbryd lletygarwch yn Eglwyswyr Bangor i groesawu'r dirprwywyr am noswaith, er mwyn iddynt allu aros trwy gydol y cyfarfod. Nid oes ond eisiau rhyw un, neu rywrai i rag-drefnu, a buasai'r cyfryw gyd-gyfarfyddiad o les i'r dirprwy- wyr ac i drigolion y ddinas Esgobol. Ond awn at y gweithrediadau. Wedi i'r Esgob ddechreu trwy weddi, aeth rhagddo ilongyfarch y rhai cyn- ulledig, ac i adgoffa iddynt fod llawer blwyddyn wedi myned heibio er pan gafwyd y fath gyfarfod gyntaf, fod yr Esgobaeth hon ar y blaen gyda'r. sefydliad hwn, ac fod rhyw bethau o ddyddordeb neillduol yn cael eu trafod y noill flwyddyn ar ol y Hall. Yna cyfeiriodd at yr hyn y mae'r Gym- deithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol wedi ei addaw tuag at fisolyn Cymreig, ynghyda'r telerau ar ba rai y rhoddir y mil punau, ac fe etholwyd y Parchn. Canon Lewis (y Deon ethol- edig), D. W. Thomas, St Ann's, a J. Morgan, Bangor, i gynrychioli'r Esgobaeth ar bwyllgor y Cylchgrawn. Yn nesaf etholwyd y Parchn. Canon Lewis, Canon Pryce, a H. Rees, Conwy, i gynrychioli'r offeiriaid, ac Arglwydd Penrhyn, Arglwydd Boston, a'r Milwriad yr Anrhydeddus Sackville West, i gynrychioli'r lleygwyr, ar bwyllgor canolog y Cynhadleddau Eglwysig yn Llundain. Pwngc yr ymdrafodaeth yn nghyfarfod y boreu oedd, Hawliau a dyledswyddau Lleygwyr er hyrwyddo gwaith yr Eglwys yn Nghymru'r adeg bresenol ac o dan yr amgylchiadau presenol." I gychwyn, darllenwyd papyr gwir dda gan y Parch J. Lloyd Jones, Criccieth, yn Saesneg. Nis gellir yn yr adroddiad hwn ond rhoddi crynodeb byr o'r syniadau a draethwyd ar y pryd, ac am hyny, na ddigied "neb, oherwydd ni wneir • gwahaniaeth- Dangosodd Mr Jones na thelid sylk- i byngciau o'r fath yma yn y cyfnod marwaidd a chysglyd a aeth heibio ar yr Eglwys; ac mai gyda'i dadebriad y daeth y dyddordeb. Yn mysg hawliau'r lleygwyr nodai a ganlyn 1. Hawl i gael y gwasanaeth yn eu hiaith eu hunain. 2. Hawl cydymgynghoriad, o fewn terfynau rheaymol, mewn materion Eglwysig yn gyffredinol, ond yn enwedig cyn gwneyd yr un cyfnewidiad o bwys. 3. Hawl ymweliad oddiar law gwir Gurad y plwyf, sef, y Periglor, a maentumiai fod ymweliad a thai yn tynu rhai i'r Eglwys. 4. Hawl i gael eu dysgu. Dylai bod mwy o addysg yn y preg- ethau. Ni ddylid bod ofn dysgu'r bobl yn athraw- iaeth y Llyfr Gweddi, ac od oes neb nad all yn gydwybodol wneyd hyny. cilied er mwyn gwneyd ffordd i arall a wna. Pan yn son am y dyled- swyddau, cwynai fod mewn llawer plwyf gwledig yr holl waith yn cael ei gyflawni gan yr offeiriad, tra y mae llawer (fy1l galluog yn sefyll gerllaw yn barod ac ewyllysgar i gynortbwyo, ond heb neb yn ei gyflogi," ac yn hytrach na bod yn segur a'r cyfryw i gyfundebau Y mneillduol i ymofyn gwaith. Un ddyledswydd ydoedd gweinyddiad y pethau bydol perthynol a'r Eglwys, a daliai yr ychwaneg- ai'r casgliadau yn ol nifer y casglyddion. Dylid cael cyfarfod wyxhnosol i addysgu athrawon yr ysgol Sul; a, lie gellid, sefydlu ysgol i ddysgu pyngciau crefyddol ddydd Sadwrn. Dyledswydd yw hefyd ddefnyddio nosweithiau'r gauaf at addysgu. Dylai'r lleygwyr roddi pob hysbysrwydd i'r offeiriaid am y cleifion, &c. Dylent fod yn hy- ddysg yn yr hyn sy'n eu gwahaniaethu oddiwrth Ymneillduaeth, ac amddiffyn eu safle'n ddiofn. Dylai'r Gwarcheidwaid Plwyfol roddi atebion gwirioneddol i ofyniadau'r Esgob. Dylai'r lleyg- wyr gefnogi llenyddiaeth Eglwysig, derbyn y LLAN, &c., ac astudio pwngc y meddianau Eglwysig. Gallent gynal gwasanaeth mewn ysgolion, a dar- llen y llithoedd yn yr Eglwys. Cwynai nad oedd tudalenau wedi eu nodi ar y Llyfr Gweddi, nid cywir hyn am bob argraffiad. Dylai'r lleygwyr hefyd fod yn swyddogion yn nghymdeithas ddir- westol yr Eglwys. Dilynwyd ef gan y Parch D. O. Davies, Llan- dinorwig, yn Gymraeg. Yr oedd ei bapyr yntau yn un campus. Dywedai mai "Cymdeithas CreiyddCrist" y gelwid yr Eglwys yn un o'r Colectau ac fod aelodau a swyddogion yn mhob cymdeithas. Trwy anmharchu hawliau, ac esgeu- luso dyledswyddau yr oedd aflwydd yn dilyn. Dwy egwyddor bwysig oedd y rhai hyn. Os gwelid offeiriad am fynu ei hawl, ac esgeuluso dyledswydd yno ceid gorthrwm; os gwelid lleygwr am fynu ei hawl tra'n esgeuluso'i ddyledswydd, yna bydd y gwaith da yn cael ei luddias gan an- weddeidd-dra. Yr oedd efe yn cyfyngu'r enw lleygwyr i'r rhai oedd yn mynychu'r Eglwys. Yr hawl gyntaf y sylwai arni oedd fod ganddynt hawl i ddisgwyl addysg ag hyfforddiant, hawl i newydd- iaduron, cylchgronau, &c., na fo raid iddynt fod gywilydd o honynt, rhai yn rhagori mewn hardd- wch allanol, a rnagoroldeb mewnol. Serthedd a diogi sy'n lladd newyddiaduron a rhaid lladd y serthedd os am eu cadw'n fyw. Mae ganddynt hawl i'r Eglwys yn y wythnos ac nid ar y Sul yn unig. Mae llawer lie na welir llusern yn llosgi trwy'r gauaf, a llawer Eglwys yn gauad o Lun i nos Sadwrn. Dylai'r lleygwyr ddeffro pob offeiriad cysglyd mewn pryd am fod yr amser yn fyr. Yr oedd eisiau meithrin ysbryd cy- hoeddus ynom a gofyn am yr hyn oedd arnom eisiau o un galon ac ag un genau. Mae eraill yn cael, am eu bod mewn undeb yn dyrchafu eu lief. Dylai'r lleygwyr gaelllais yn newisiad y Clerig- wyr, a chyfeiriai at waith y Llywodraeth yn yr amser a fu yn anfon y neb a fynai'r Esgob. Dang- osai fod gan Eglwyswyr allu mawr yn bresenol gyda'r Si Quis, ond nad oeddynt yn gwybod beth ydoedd a galwai am ddarllen y eyfryw yn Gym- raeg. Gallaf sicrhau iddo fod hyny yn cael ei wneyd mewn rhai manau o leiaf. Dywedai tod yr amser yn dod, ac na byddai yn hir cyn y byddai ganddynt lais yn y penodiadau. Dangosai fod eisiau sefyll ar hawliau diymwad, ac nid codi dadl wedi barn, ac fod bai ar y lleygwyr yn goddef rhai annheilwng i weinyddu arnynt. Os oedd rhai felly yn fel ar fysedd, ac wrth fodd calon gelynion yr Eglwys, dylai fod yn wahanol i'r lleygwr Eg- lwysig. Dyrnunai weled pob plwyf yn fath o werin-lywodraeth, lie na chychwynid dim heb gydsyniad y bobl. Dylid, fel y dywedodd Arch- esgob Caerefrog, "yrnddiried mwy i'r bobl ac i'r EgIwys." Dylai y lleygwyr gael trwydded gan yr Esgob i gynorthwyo yr offeiriaid. Yr egwyddor a gymeradwyai o berthynas i ddyledswyddau oedd-bod yn Eglwyswr da yn gyntaf ac yn gym- ydog da yn ail. Ar yr egwyddor yna y gweith- redai yr Ymneillduwyr. Condemniai ymddygiad llwfr llawer un lydd yn byw mewn ofn parhaus i neb ei weled yn myned i'r Eglwys, ond dadganai fod yr ysbryd ofnus, llwfr, gwael hwn yn graddol symud o'n mysg. Dylai pob lleygwr ymorol bod yn gyson ei hun, a'i deulu, yn mhob gwasanaeth, am y caffai hyny ddylanwad mawr ar eraill. Dylent wneyd eu goreu er lledaenu newyddiad- uron Eglwysig, &e. Dylai dynion ieuaingc arfer eu doniau cyn ea hordeinio, rhag bod eu prentis- iaeth yn blino'r cynulleidfaoedd. Cyfeiriodd yma at henafiaeth yr Eglwys, a'r gwaith mae wedi ei wneyd. Yr oedd rhai o'i Hesgobion yn Nghym- anfa Nicea, hi fagodd y Merthyr Alban, a hi gyf- ieithodd y Beibl, y hi wnaeth Hynmau ac Odlau. Ysbrydol, y hi fagodd yr holl hen bregethwyr sydd a'u henwau'n adnabyddus i'r wlad, ac a gyf- ododd ei themlau trwy'r wlad. Tra parhai yn ffyddlon ni wyddai r wlad,ond am "un bara, un corph." Cyfeiriodd at ymlyniad llwyth Judah yn unig wrth Dy Ddafydd, a chymhwysodd hyny at gyflwr presenol yr Eglwys a ymddiriedwyd i ni. Terfynodd drwy ddrngos fod angen am roddi es- iompl dda, llafurio'n fwy yn y winllan, a chodi llef yn fwy taer at Dduw i ail ymweled a'r win- wydden hon. Mr Nanney a anerchodd y cyfarfod yn Saesneg. Cyfeiriodd yn deimladwy at ymadawiad y di- weddar Ddeon, ein bod wedi colli un o'r rhai mwyaf nodedig o'r cyfarfodydd, un ag yr edmygai ei dalent a'i yni, ag un a wnaeth lawer dros yr

GYDGYNGHORFA ESGOBAETH BANGOR.