Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
ANTHEM NEWYDD EOS LLECHYD.
ANTHEM NEWYDD EOS LLECHYD. At Olygydd Y Llan." Syr,—Yr ydwyf yn deall trwy weled yn y LLAN am yr 8fed cyfisol, fod anthem er coffadwriaeth am y diweddar Ddeon Bangor, ond cael digon o gefnogaeth, yn barod i'r wasg gan y cerddor medrus (Eos Llechyd). Er mwyn y diweddar Ddeon, ac er mwyn yr Eos hefyd, gobeithiwyf y bydd y 300 o enwau yn cael eu hanfon i mewn yn ddiymdroi fel ag i gael yr anthem allan. Nos Sul diweddaf gosodais y mater o flaen cor yr Eg- lwys hon, ac yr ydym ni yma am gael pedwar dwsm o honi. Dyma yw dymuniad y cor. Y mae Eos Llechyd yn adnabyddus a pharchus yn y Deheudir yma, a gobeithiwyf y bydd i gorau eraill roddi cefnogaeth ddyladwy. Nid yw 300 ond nifer fechan o enwau mewn cylch mor hel- aeth.—Yr eiddoch, Eglwys Gymreig Dowlais. MORGAN LEWIS.
DYLANWAD DARLUN.
DYLANWAD DARLUN. Cymerwyd yr ystori ddyddorol a ganlyn allan o Gyfaill yr Aelwyd, cylchgrawn poblogaidd dan ol- ygiaeth Mr Ber.itll Gwynfe Evans:—"Mae gwraig weddw yn byw yn Mhenrhyn-deudraeth, Meirionydd, ac iddi amryw ferched. Nid yw y wraig ond yn der- byn cymhorfch plwyfol at|fyw a magu y rhai bychain, felly gorfodir y genethod i droi allan mor fuan ag y caniata y bwrdd ysgol iddynt wneyd. Mae dwy neu dair wedi troi allan fel hyn i weini yn y byd. Ryw- bryd yn y flwyddyn 1883 anfonodd un o'r merched hyn ei darlun i berthynasau oedd ganddi yn America. Nid wyf yn meddwl fod eisiau esbonio ar hyn, na gair o eglurhad fodd yn y byd, am ei fod yn beth a wneir gan filoedd. Cyn pen hir, dyma i'r ferch (yr hon a alwn ni am y tro yn R) lythyr oddiwrth ddyn ieuane parchus a thaclus yn America, yn gofyn a ddeuai hi drosodd yno, fod ganddo le da iddi, a'l fod wedi meddwl oddiwrth ei darlun y gwnai hi ei dro of Nid oes ynom y duedd leiaf i ddarostwng dim ar R wrth ddweyd nad oedd, wrth ddanfon ei darlun i'r America, yn danfon darlun o'r harddaf o ferched Penrhyn-deudraeth. Mae yn digwydd y gallesid cael gwell darlun o rai sydd yno eto ar ol. Ond, fodd bynag, dyma'r ffaith hoffodd y gwr ieuane hi oddi wrth ei darlun. Tarawodd hyn y teulu a, syn- dod. Anfonwyd rhyw resymau yn ol a dybid a fuasai yn ddigon:i ddistewi dieithrddyn ond daeth llythyr drachefn yn gwasgu ar R. i ddyfod yno, fod yno lawer gwell lie i enill arian nag yn Nghymru. Yn y llythyr hwn addawodd dalu ei chludiad, os deuai. Fel y rheswm diweddaf, i gael llonydd ganddo, anfonodd R. mai gweini yr oedd hi, a bod y cyflog yn fychan iawn yn Nghymru yn awr, ac y byddai drwy hyn yn rhwym o fod yn hir cyn y gall- asai gasglu digon o arian i gael y pethau angen- rheidiol i fyned mor bell, a thaith mor gostus. Der- byniwyd gyda throad y post (yr hyn a nodweddai bob llythyr), os byddai hi mor garedig a dweyd wrtho ef pa faint o arian a wnai y tro iddi ddarparu ei hun ar gyfer y daith, y byddai iddo eu hanfon iddi. An- fonwyd llythyr yn ol ei bod yn ddiolchgar am ei gynygion caredig a haelfrydig, ond gan mai gweini yr oedd, ac nad oedd ganddi ddim mewn golwg wedi cyrhaedd America ond gweini, y byddai yn lied hir cyn y gallasai enill digon i ad-dalu yr arian yn ol; ac os gallasai gael gwybod, pa fodd yr oedd yn dis- gwyl i'r arian gael eu had-dalu ? Gwelent fod y cludiad a'r swm angenrheidiol i ddarparu ar gyfer cychwyn yn llawer i ferch ieuanc geisio eu had-dalu. Atebwyd yn ol fod ganddo ef le iddi wneyd ei char- tref tra byddai byw, felly nad oedd angen iddi gwestiyno pa fodd i ad-dalu yr arian yn ol. Bron nad oedd y teulu yn meddwl Jiai breuddwydio yr oeddynt. Yr oedd pob llythyr yn dwyn rhyw ych- wanegiad oedd, a dywedyd y lleiaf, yn syndod. An- fonwyd yn ol iddo y gallai hi ddarparu ei hun ar gyfer y daith gyda chwe' phunt at y gyflog yr oedd yn gweini am dano ar y pryd. Gyda hyny, ceisiwyd ganddo roddi rhywfaint o oleuni pa fath le oedd ganddo, ac a oedd ganddo foddion bywoliaeth yn annibynol ar lafur, a phethau eraill. Daeth yr arian ar droad y post, gyda'r eglurhad fod ganddo fferm o'i eiddo ei hun, a nifer o geffylau, a gwartheg, a defaid a chwaneg. Derbyniwyd y tro hwn hysbysrwydd y byddai ei thocyn cludiad (pass) yn cyrhaedd iddi erbyn Calanmai (Mai 13eg—pen tymhor 1884); am iddi ofalu fod pobpeth mor barod ag y byddai yn bosibl erbyn hyny, rhag rhwystro y pass. Anfonodd y perthynasau hefyd i'r un ystyr am iddi frysio dyfod drosodd. Felly, yn mis Mai diweddaf, aeth R drosodd am America a chyfarfyddwyd hi gan y gwr ieuanc, yn ol y trefniadau. Aeth a hi, fel Isaac gynt, i dy ei fam a'i dad a bu yno am wythnos, yna priodasant. Mae llythyrau wedi dyfod oddiwrthi at ei mam yn dweyd fod yr oil o'r hyn a ysgrifenodd y gwr ieuanc yn wir ac fod ganddo, heblaw hyny, ar ddiwrnod eu priodas, 1400p o aur yn y ty Byddant yn eu cerbyd bob Sul yn myned daith tair milldir i'r capel Cymraeg agosaf. Mae llawer o enethod eto yn Mhenrhyn-deudraeth fuasai yn hoffi bod yn lie R, ond yehydig sydd yno fuasai yn foddlon mentro fel y gwnaeth hi."
ADGOFION GAN HENAGWR.
(Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) ADGOFION GAN HENAGWR. At Olygydd Y L Ian. Syr,—Yn fy llith bresenol gwnaf ychydig syl- wadau cyffredinol pellach ar y 26ain offeiriaid ag y crybwyllais am danynt fel wedi eu magu yn Eglwys Tregaron. Fel. y sylwais eisioes, maent yn foneddigion dysgedig a thalentog, a cheisiaf nodi ymha golegau y cawsant eu haddysgu. Derbyniodd 16 o honynt eu haddysg yn Ngholeg Llanbedr, a'r oil wedi graddio yn B.A. neu B.D.; o leiaf, dyna fel yr wyf yn deall. Addysgwyd pedwar arall yn Rhydychain, lie y graddiasant yn M.A.; trayr addysgwyd y pedwar arall yn Bir- mingham a St. Bees, lie hefyd y llwyddasant i gyraedd y graddau uchaf oedd yn bosibl yn y colegau hyny. Addysgwyd y Parch T. Jones, y cyntaf, yn Pontfaen, Morganwg, tra na chafodd yr olaf unrhyw addysg golegawl. Dyna, mor agos ag y gallaf, eu henwau fel y maent wedi graddio, ond y maent, fel pawb eralll, yn gwahan- iaethu o ran dysg, talent, a doniau. Gwahan- iaethai y deuddeg Apostol pan yn dilyn yr Arglwydd Iesu ar y ddaear, ac felly y mae gyda'r gweinidogion enwog hyn, a dyna fel y bydd hyd ddiwedd amser. Ni chlywais fod un o honynt erioed yn ymosod ar ein cyfeillion Ymneillduol, ond y mae yn ddyledswydd orphwysectig arnynt i amddiffyn eu hunain a'r Eglwys a'i meddianau pan y mae cymaint o ymosod arni. Dylsnt fod ar ein twr yn gwylio Seion y dyddiau hyn. Yr wyf erbyn hyn yn hen, ond nid wyf erioed wedi clywed na gweled cymaint o ymosod ar yr Eglwys a'i hoffeiriaid ag sydd y dyddiau hyn gan y gwa- hanol enwadau. Dylai yr Ymneillduwyr ymgadw rhag ymosod, gan y gwyddom (jlawer o'u hanes hwy, a'r dull sydd ganddynt o ddwyn eu hachos- ion ymlaen drwy gyfrwng cyngherddau, cyrddau te, &e. Gadawn hwynt gyda hyn, gan ddweyd wrthynt gyda Mynyddog, Taw pia hi, boys." Ond at y pwnc dan sylw. Am yr enwogion ag yr wyf wedi crybwyll rhai adgofion am danynt, mae naw wedi ein gadael, a chredwn eu bod yn awr yn y nefoedd, a'r 17 eraill yn parhau i lafurio yn yr Eglwys filwriaethus ar y ddaear. Bydded i'r Arglwydd eu gwneyd i gyd yn filwyr da tra yn y rhyfel, ac wedi iddynt orphen eu llafurus gariad yn eu gyrfa ddaearol boed iddynt dderbyn coron y gogoniant. Yr Arglwydd a'u bendithio oil, nes y byddo y gair o'u genau fel cleddyf llym dau finiog yn ysgar rhwng dynion a'u pechodau yw fy nymuniad difiuant. Cofion cynes atoch, Mr Gol., tua Merthyr yna.—Yr eiddoch, GLANBRENIG.
CYNWRF YN Y GWERSYLL METHOD-ISTAIDD.
CYNWRF YN Y GWERSYLL METHOD- ISTAIDD. At Olygydd Y Llan." SYR,-Ymddangosodd y llythyr canlynol yn yr Amseroedd am Awst 9fed, a dengys fod anghyd- gordiad yn bodoli ymhlith .y rhai sydd mor bryderus am wneyd lies (?) i'r Eglwys Sefydledig drwy ei dadsefydlu a'i dadwaddoli. Caiff y llythyr lefaru drosto ei hun p SYR,-Wedi bod yn gwrando yr ymddiddan a'r Parch. R. A. Jones, Abergele, yn Nghymdeithasfa Awyddyn ddiweddaf, a darllen yn ystyriol y« •ylryrau a ysgrifenwyd ganddo yr wythnos ddiwedd- af l iantr ac Amserau Cymru, o dan y ffug-enw Ap Iwan," yr wyf gyda gofid yn gorfod teimlo y dylai y Gymdelthas yn Nghaernarfon gymeryd y mater i'w Uaw. Credn yr ydym hefyd mai y Gymdeithasfa sydd i wneyd hyn, ac nid y Cyfarfod Misol y perthyna iddo, gan ei fod trwy ymadiried i'w addewidion wedi dyfod yn aelod o honi. Y Gymdeithasfa ydyw y Ilys uchaf, ac ynddi hi y mae mater o ddysgyblaeth yr aelodau a berthyn iddi i ddechreu. 0 ran fy nheimlad yn Llan- fyllin, carwn yn fawr iddo gael pasio, ond nid heb roddi boddhad y buasai iddo gadw rhag pob anffyddloddeb, megys ag y cyhuddid ef o hono i'r cyfundeb. Rhodd- oda yntan foddlonrwydd o'r diwedd. Ond wele yr un dyn yn syrthio yn waradwyddus i'r un diffygion. Os na bydd i'r Gymdeithasfa gymeryd y mater i'w llaw, yr wyf fi, fel un, yn rhwym o deimlo fod ynddi rhyw wendid anesgusodol yn y cyfeiriad hwn. Hefyd, oni ddvlid gofyn bellach l bercnenog a golygydd y papur, paham y maent yn aros gyda ni ac yn mathru ein pwlpudau, ac fel dynion wedi chwerwi seithwaith yn erlid yr eglwys y perthynant iddi ? Disgwyliai Paul gael trugaredd am iddo erlid yn ddiarwybod, ond am y dynion hyn, y maent yn peri blinder ae yn erlid ac yn gwybod. Yr wyf fi yn meddwl yn sicr y dylai rhywun bellach ofyn iddynt paham. Ac yr ydym ninau yn gofyn paham y goddefir iddynt hwy fyned i'n pwlpudau ni.—iretros." Yr eiddoch, &c., JOHN JONES.
DYNION RHAGFARNLLYD.
DYNION RHAGFARNLLYD. At Olygydd Y Llan." SYR,-Pan ax fy nhaith trwy y wlad amgylch- ynol x r dret hon daethum i wrthdarawiad ag un o'r penau crymon (fel y dywedir yn y rhan yma o'r Dywysogaeth), ac fel yma yn wybyddus i ddarllenwyr y LLAN, dynion lied ragfarnllyd ar y cyfan ydynt hwy-dosbarth pur erledigaethus i'r Fam Eglwys. Ar ol ychydig o ragymadrodd am yr hin a'r gweiriau, &c., daethpwyi at yr hen bwnc Dadgysylltiad a Dadwaddoliad," a phan yn mhoethder ei ddadl, ac fel pe buasai yn gwingo ar wastad ei gefn ar lawr, estynodd i mi rhyw lyfryn bychan gan erfyn arnaf ymddadleu a. hwnw gan ei fod ef ei hunan mor anllythrenog. Yr ysbryd," medd efe, "yn ddiau sydd barod ond y wybodaeth sydd yn gyfyng—-ac felly gellir dweyd am y brawd, mai yehydig o ddysg a'i gyrodd yn ynfyd. Yna darllenais ei bamphledyn —ac fel engraifffc o'i gyfansoddiad, rhoddaf yma y cwestiynau a'r atebion diweddaf sydd ynddo gan fawr hyderu y cawn well atebiadau na'r rhai sydd yn argraffedig. 1, A fyddai yn tendith i'r Eglwys ei hun gael ei symud oddiar y sylfaen bresenol ? Byddai; hi a ga'i y fendith fwyaf. (Dyna ateb Ymneillduwr.) Oes modd cael gwell sylfaen na sail yr apostolion a Christ Iesu ei hun yn Ben congl-faen ? 2, A fedr hi fyw heb ei threthoedd ? A fedr hi! Medr I Y mae Ymneillduaeth yn medru byw, a'i chynal hi hefyd, er fod ei chvioeth yn llai. (Dyna ateb y gormeswr.) Pa fodd y mae hi i fywiocau pan mae ei gwaed yn cael ei sugno gan lewod a bleiddiaid ysglyfaethus ?—pan mae ei dynion a'i marched ieuainc yn cael eu hysgubo ymaith gan rai sydd yn myned o amgylch er ceisio neb a allont lyncu ? Dysgwyl i'r hen wreigan fyned i weithio i gadw ei hun, yn lie bod ei phlant yn gofalu am dani ac yn ei sirioli! 3, Pa leoedd y mae yr Eglwys Sefydledig yn fwyaf llwyddianus ? Yn ein trefydd mawrion-y manau yr ymwrthoda lwyraf a hi ei hun, ac yr ymdebygola fwyaf i Ymneillduaeth. (Haeriad). Dyma beth yw gwyrdroi y gwirionedd. Ni ddarfu i'r Eglwys erioed ymwrthod a hi ei hun- hi ddaliodd yn gadarn at ei Beibl a'i Llyfr Gweddi ynghanol holl donau erledigaethau a chwyldroad- au y byd. Mewn gwirionedd, yn y manau lie yr ymdebygola fwyaf i Ymneillduaeth yn y manau hyny y mae yr Eglwys wanaf. 4, Pa beth yw Eglwyswyr pan yn addoli yn Exeter Hall, ac yn casglu at gynal eu hachos ? Ymneillduwyr, ac yr ydym mor barod i roddi ein Hamen gyda|hwy a phe byddent ein henwad ni ein hunain. Yn ol yr atebiad yma, os a Cymro o'i wlad enedigol i wlad y Sais, nid Cymro mwy- ach a fydd, ond Sais. Ymresymiad lied gywrain onide ? Gan fod yr Eglwyswyr yn myned i gynal eu cyfarfod neu eugwasanaethi Exeter Hall, acyn casglu at yr achos yno, am hyny, nid Eglwyswyr ydynt, ond Ymneillduwyr; gan fod y dyn du wedi dyfod i fyw i wlad y dyn gwyn, o ganlyniad nid dyn du ydyw ond dyn gwyn. Buaswn yn meddwl mai'r dull yma o ymresymu sydd yn gwneyd y du yn wyn a'r gwyn yn ddu. 5, A oes pobl dda yn perthyn i'r grefydd sefydl- edig ? Oes, filoedd o oreuon y ddaear wedi bod ac yn bod. Nid ydyw am fod mor haerllug a chyhoeddi yma fod y gwyn yn ddu. Mae yn canfod mai ffolineb fyddai iddo ymdreehu ar- gyhoeddi'r Wad fod y gwirionedd hwn yn gelwydd. Mae, fel ei ragredegwr gynt yn Eden, yn rhy gyfrwys i ddweyd celwydd eglur, ac felly cela ei ddichellion ystrywgar ynghyd a'i honiadau cyfeiliornus trwy gyhoeddi rhyw haner gwirionedd ag y mae'r byd yn ei wybod.—Yr eiddoch, UN YN GWYLIO.
---NEWYDDIADURON I'R DOSBARTHIADAU…
NEWYDDIADURON I'R DOSBARTHIADAU GWEITHIOL. At Olygydd Y Llan." SYR,—Tueddwyd fi i ysgrifenu y llinellau yma gan yr argyhoeddiad y gallaffodyn gymwynasydd i rai trwy eu hanfon i chwi a gofyn i chwi eu preintio. Hen gyfaill o saer coed a ofynai i mi yn ddiweddar pa bapurau wytlmosol rhad a defn- yddiol (ac uniongred, bid sicr), yn yr iaith Saes- neg a fyddai yn ddymunol iddo eu pwrcasu i Ianto ei fab, ag oedd wedi cael crap o ysgol," ac a bias darllen" a bod yn bolitician pentrefol arno. Gallai fy atebiad fod yn fuddiol i eraill mewn lleoedd gwledig, pell oddiwrth Smith's Book- stalls," a manau y gellir pigo newyddiaduron, a dyma efe :—Papyr politicaidd a clayffredinol dan gamp yw England: the only National and Con- servate weekly newspaper for all classes." (Pris ceiniog; 291, Strand, London, W.C.) Papyr Eglwysig, politicaidd a chyffredinol, da yw The Banner: a Church and Constitutional news- paper." (Ceiniog; 10, Southampton Street, Strand, London). Nid yw'r Banner yma nac yn uchel" nac isel." Rhai o'i phrif berchenogion yw Mr Cecil Raikes, Mr. Beresford Hope, &c. Rhodder prawf ar y papyrau hyn ond er pob peth nac anghofied eich darllenwyr ddywedyd y gair goreu o blaid ein papur Cymraeg—y LLAN- bob tro y cant gyfle.-Yr eiddoch, LLEYGWR 0 SIR CALLESTR.
J. PRICHARD.
J. PRICHARD. At Olygydd Y Llan." Syr,—Gofyna Alltud Eifion pwy oedd y J. Prichard y mae ei enw wrth y Cywydd argraffedig yn y LLAN am Awst yr 8fed. Nis gallaf ateb gyda dilysrwydd; ond fy nhyb yw mai yr un ydoedd a John Prichard Prys, o Eglwys Ael neu Llangadwaladr Sir Fon," awdwr y llyfr a elwir Difyrwch Crefyddol. Neu Lyfr o Ganiadau nuwyddion ar Destynau 'Scrythyrol, yn gyttunol ag Athrawiaeth amryw Ddefnyddion (Ddifin- yddion) clodfawr o Eglwys Loegr," yr hwn a ar- graffwyd gan Sion Rhydderch yn Amwythig yn y fl. 1721; a gellir gweled crybwylliad am dano yn Llyfryddiaeth y Cymry dan y flwyddyn hono. Peth cyffredin ddigon y fpryd hwnw, a chynt ac wedi hyny, fod dynion yn myned yn fynych Idan dri enw a phryd arall dan ddau. Mab, tebygol, ydoedd i Richard lab Rhys; ac felly ar lafar gwerin Sion Prisiart Prys." Nid oedd gormod amser rhwng 1721 ac 1764, a chaniatau fod y flwyddyn ddiweddaf yn golygu yr amser y cyfan- soddwyd y cywydd. Gresyn na buasai genym rywbeth yn chwaneg i'w grybwyll am brydydd mor deilwng. Gofynaf finau, yn fy nhro, i'r Alltud, pa amser er creadigaeth y byd a olygir ganddo wrth y ddeunawfed ganrif ar bymtheg." Yr eiddoch mown penbleth, CYFEILIOG. [Bai y cysodydd ydoedd dodi y gair "pymtteg" i mewn.-GOL.J-
CWMFELIN.
CWMFELIN. GWYL DE.—Dydd Iau, y 7fed cyfisol, oedd ddydd ag yr edrychid ymlaen ato gyda dyddordeb mawr gan aelodau ysgol Sul yr Eglwys yn y lie yma, diwr- nod ag oedd wedi ei benodi i gynal eu gwyl flynyddol, ac yr oedd yn hynod o ffafriol i hyny. Am haner awr wedi dau ymgyfarfu aelodau yr ysgol wrth yr Eglwys, ac yna fe'u trefnwyd gan yr athrawon i fyned trwy heolydd y lie, yn cael eu blaenori gan seindorf bres Tre-Harris, a phan ddychwelwyd yn ol, yr oedd y byrddau yn Ilawn o dê a theisen, &c, a rhif ddigonol o foneddigesau yr ardal yn gweini wrthynt. Yr oedd y byrddau o dan ofal y rhai canlynol Miss Thomas, Penrhiw; Miss Lewis, Ty Isa; Miss Ed- wards, Cwmfelin House; a Miss Davies, New Inn. Ar ol gwneyd cyfiawnder wrth y byrddau aed i gae cyfagos, yn mha le yr awd drwy lawer math o chwareuon diniwed i ddifyru y plant, ac eraill hyd nes yr oedd y dydd wedi darfod, yna ymwahanodd pawb i'w cartrefleoedd wedi eu boddloni yn fawr, ydwyf yn meddwl. Gwelsom yr offeiriaid canlynol yn bresenol Parchn J. L. Meredith, Gelligaer J. B. Jones, Bargoed; J. Morgan, Cwmfelin; D. J. Evans, Gelligaer a Williams, Llanfabon.- Un oedd yno.
EGLWYSFACH.
EGLWYSFACH. Bu aelodau Ysgol Sul y lie hwn yn mwynhau eu taith flynyddol yn Llandudno, ddydd Mercher, y 6fed cyfisol. Cafwyd diwrnod teg a hyfryd, a mwyn- haodd hen ac ieuainc eu hunain yn rhagorol. Y mae clod yn ddyledus i Mrs. Davies, y Vicarage, am borotoi ymborth mewn modd mor ddeheuig. Wrth ddychwelyd, rhoddwyd diolchgarwch i'r rhai a gyfranogasant tuag at y daith. Deallwn fod yr ysgol ddyddiol wedi pasio arholiad rhagorol. Y mae adroddiad Mr. T. Morgan Owen, arolygydd ysgolion, newydd ddyfod i law. Llefara yn uchel am safle yr ysgol. Aeth 97 y cant yn llwyddianus trwy y pynciau elfenol, ac enillwyd y merit grant" Excellent." Pan ddaeth yr atbraw presenol yma, swm y grant a enillwyd oedd £ 30 eleni yr oedd y swm a enillwyd yn cyrhaedd 9107. Hefyd, nid oedd gwybodaeth ysgrythyrol yn cael ei gyfranu o gwbl; yn awr y mae yr arholydd esgob- aethol yn ymweled a hi yn flynyddol, ac yn cael ei fawr foddloni.
[No title]
Cyfrifir fod gwenoliaid cyffredin yn ehedeg yn ol y cyflymdra o 90 o filldiroedd yr awr, a bod y rhai cyflyin o honynt yn ehedeg yn ol y cyflymdra o yn agos i 190 o filldiroedd yr awr.
LLANFACHRETH, MON.
LLANFACHRETH, MON. PLESERDAITH.-Mae yn arferiad er's amryw flyn- yddoedd gan ein parchus rector, H. Grey Edwards. a'i hawddgar briod, roddi gwledd flynyddol i Ysgol- ion Sul yr Eglwysi uchod, yn y man a ddewiser gan y mwyafrif o'r ysgolheigion. Y lie a ddewiswyd eleni ydoedd Cemaes, a dydd Mercher diweddaf ym- gasglodd oddeutt. cant a haner o honom at ein gilydd i fyned yno gyda cherbydau ar draws y wlad, pelider o ddeng milltir. Yr oedd yr hin hyfryd a'r olygfa ar y wlad yn hynod brydferth. Gwedi cyr- haedd yno, cawsom ein diwallu a the a bara brith &c. Yna aeth rhai o henom i gael golwg ar hen ,Eglwys St. Patrick, yr hon yw un o'r Eglwysi mwyaf henafol yn ynys Mon, a pha un sydd yn awr yn cael ei hadgyweirio ar draul Arglwydd Stanley. Aeth eraill o honom i ddifyru ein hunain ar lan y mor, lie y cafwyd anerchiadan gan rai o aelodau yr Ysgol Sul, ac y talwyd diolchgarwch i'r Rector a'i briod, am eu caredigrwydd yn rhoddi i ni y fath wledd y naill flwyddyn ar ol y llall. Yna dychwel- asom yn ol wedi cael gwledd dda i'r corph a'r meddwl.
TREDEGAR.
TREDEGAR. GWYL DE.—Cvnhaliwyd yr wyl do flynyddol mewn cysylltiad ag ysgol Sul St. George, Tredegar, dydd Llun, y 4ydd cyfisol. Am haner awr wedi un ym- gynullodd aeladau yr ysgol i'r Eglwys, ac ar ol gwasanaeth byr, yr hwn a ddarllenwyd gan y ficer, y Parch T. Theophilus, a chanu amryw o hymnau, ffurfiwyd yn orymdaith. Yn cael eu blaenori gan seindorf bres y 1st Mon Volunteers, o dan arweiniad Mr Lott, aeth yr orymdaith, yn rhifo dros 700, trwy brif heolydd y dref i Bedwellty Pare, lie y derbyn- iwyd hwy gan Mr a Mrs Colquhoun a'r teulu.' Wedi hyny dychwelwyd i gae y Ficer, ac eisteddodd oddeutu pymtheg cant o bobl i yfed tg a bara brith mewn maes-babell eang (marquee), yr hwn a ddar- parwyd ar gyfer yr amgylchiad. Cymerwyd byrddau gan y boneddigesau canlynol: Mrs Dr. Brown, yn cael ei chynorthwyo gan Miss Williams; Mrs J. Lewis, yn cael ei chynorthwyo gan Miss Hunter Mrs J. J. Morgan, yn cael ei chynorthwyo gan Miss Morgan; Mrs Stretton Mrs J. L. Davies, yn cael ei chynorthwyo gan Mrs Harries y Misses Jenkins, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Provan Mrs Bam- ford, Mrs Ellis, a Mrs Pole. Yr oedd y deisen n dan ofal Mrs Theophilus, Mrs Brock, Miss Richards, a Miss Gough. Bu Mr Colquhoun, Mr Golding, Mr Bamford, a Mr Provan, yn hynod o ddiwyd mewn cysylltiad a'r chwareuon, ac y mae aelodau dos- barth Mr Mackintosh yn teilyngu mawr ganmoliaeth am eu llafur difiino i gario allan y parotoadau mor drwyadl ag oedd bosibl. Cafwyd diwrnod hyfryd, a throdd yr wyl de yn llwyddiant yn mhob ystyr. CYFARFOD CEIDWADOL. Cynhaliwyd cyfarfod Ceidwdol nos Fercher diweddaf, yn y North Western Hotel, o dan lywyddiaeth R. Jenkins, Ysw., (cyn faer y dref). Daeth tua chant o brif ddynion y dos- barth gweithiol a masnachol ynghyd. Y mae yn dda genyf ddweyd fod Ceidwadaeth yn myned ar ei chynydd yn barhaus yn y dref a'r gymydogaeth hon. Ymwelodd canoedd a'r dref hon ar wledd fawr Geid- wadol yn Pare Tredegar, dydd Llun, Aswt 4ydd (Bank Holiday), ac y maent yn dymuno am gael gwledd gyffelyb yn fuan eto. LLYS Y MAN DDYLEDION.-O flaen y Barnwr Owen, dydd Iau diweddaf, yr oedd llawer o cases enwog. Yn mhlith y llu yr oedd achos Mr. Mark Lewis, swyddog Rhyddfrydwyr Mynwy, a gohebydd y Merthyr Express a'r South Wales Daily News, o'r dref hon. Gwysiwyd ef am swm mawr o arian gan y Parch. Wm. Haddock, gweinidog y Bedydd- wyr yn y Pil, Morganwg. Gorchymynwyd ef o gwrs i dalu y Parchedig yr hyn oedd ddyledus iddo ar unwaith. Mis i ddydd Iau diweddaf, gwysiwyd yr un person (Mr. Mark Lewis), gan argraffydd lleol, am swm o arian am argraffwaith. —Gohebydd.
ABERTEIFI.
ABERTEIFI. Ar y 3ydd cyfisol traddodwyd pregeth rymus yn y Tabernacl yn erbyn y Pab, Cardinaliaid, a'r cyfryw ag sydd mewn urddau apostolaidd. Y testyn oedd Ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghenau ef." Yn ol esboniad y pregethwr, fiurfiau eglwysig yw y pren, gwaddoliadau eglwysig y nythau, yr adar, y rhai sydd yn Ilochesu yn segur mewn bywiolaethau gwaddoledig. Edryched y darllenydd drosto ei hun ai dyna ystyr iawn y geiriau. Gwyddom am wran- dawyr y bregeth nad yw yn debyg eu bod yn euog o fod yn Bab, neu Gardinal. Maent ar y cyfan yn bobl hynaws a charedig. Arweiniai cynllun y breg- eth y gwrandawr i feddwl am bregethwr teithiol yn ymddiddan mewn ty capel a'r blaenoriaid un tro, gan ofyn iddynt pa beth fyddai y pwnc mwyaf tarawiadol i'r gynulleidfa. Dywedai un, peidiweh siarad llawer am ddirwest rhag clwyfo y brawd J- mae yn ddyn caredig iawn." Cadwch oddiwrth son am ddiweirdeb. Mae nhw'n curo'r nos ffordd hyn a hefyd oddiwrth son am dwyll cwsmeriaeth, achos mae rhai yn barod i ddweyd mai trwy dwyll y gwnaeth Mr. G-- ei arian, y gwr mwyaf haelionus at yr achos yma." "Wel," ebe'r gwr dyeithr, Pa beth a bregethaf." "Pregethwch yn erbyn yr Iudd- ewon." Diolch am yr hen Fam Eglwys. Mae hi yn gorchymyn i'w holl weinidogion i weddio dros holl ystad Eglwys Crist sy'n milwrio yma ar y ddaear," dros bawb yn eu proffesu ae yn eu golwg eu hunain yn Gristionogion." Dengys mewn pa ysbryd y dylem ymddwyn tuag at y naill y llall a dysg ei gweinidogion i iawn gyfranu gair y gwir- ionedd trwy ei herthyglau a'i chredoau. Er mwyn profi y pwys o hyn, rhoddaf engraifft trwy ymddiddan a gymerodd le y dydd o'r blaen, rhwng gweinidog a bachgenyn oddeutu 11 oed.—" Wel, William, pwy oedd y dyn cyntaf ?" loan Fedyddiwr." "Nage." Pwy gadwyd yn yr arch pan foddwyd ybyd?" loan Fedyddiwr." I b'le yr ydych chwi yn myn'd dydd Sul ?" "I gapel y Bedyddwyr." I bwy ysgol i chwi myn'd ?" I'r Board School." A oes Beibl yno yn cael ei ddarllen ?" 'Dyw hi ddim yn dda darllen y Beibl yn yr ysgol bob dydd I"
[No title]
Gofynir y cwestiwn yn ami paham y mae mwy o dlodion mewn gwledydd gwareiddiedig nag mewn rhai anwaraidd; eithr nid oes neb yn ateb. Mae yn Japan boblogaeth o 31,000,000, a 9000 ar y plwyfi. Mewn newyddion diweddar, sibrydir fod Bis- mark a'r Ymherawdwr William, o Germani, yn bwriadu prynu ynys Cuba, gan fod Yspaen yn bwriadu ei gwerthu am y pris uchaf; ond rhoddir ar ddeall iddynt na fydd i'r Talaethau Unedig ganiatau hyny. °