Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

LLITH TWM'BARELS.

Clywedigion o Rhydlewis -

Advertising

I Hwiit ac; "f ITI-TL.

Clywedigion "Myrddinfab"

News
Cite
Share

Clywedigion "Myrddinfab" Clywais ddydd Gwener diweddaf, gan un o drigolion mwyaf parchus a phoblogaidd tref Caerfyrddin, fod y Wait-and-See Com- pany" wedi cael twmbwl cas dydd Iau yn Nhy y Cyffredin, "and serve them right," meddai. Nid oedd Mr. Asquith yn boblog- aidd iawn yng- Nghymru cyn y mudiad dichellgar yma i longddryllio y Weinydd- iaeth bresennol, ond heddyw y mae yn cael ei alw yn bobpeth ond "'gwr boneddig." Yr "urddasolion" aelodau seiieddol Cym- reig, meddir, a bleidleisiodd yn erbyn y Weuiyddiaeth oeddynt-Mr. Llewelyn Wil- liams (Llanelli), Mr. Sidney Robinson, a Mr. E. T. John. Hm! Try again to oust out y "dyn bach" o Griccieth! No bloom- ing tear Yr wyf yn foddlawn betio unrhyw arian gan y criw maleisgar—"Wait-and-See Company"—pe byddai Etholiad Cyffredinol yn cymmeryd lie y dyddiau'hyn, y cawsai y Prif Weinidog (Mr. Lloyd George) 999 o bleidleisiau i bob UN a fyddai yn myned i'r criw uchod. Nis gwn beth ddywedodd y London "Daily News" yn ei erthygl ar- weiniol am ddydd Gwener diweddaf, ond gwn beth a ddywedodd newyddiaduron dyddiol Caerdydd yn eu herthyglau ar- weiniol. Rhyw "General Sir Frederick Maurice," cyrr-aelod o'r Imperial General Staff, a ddaeth yn mlaen a'r cyhuddiadau yn erbyn Mr. Lloyd George a Mr. Bonar Law, a dywedodd Mr. Asquith, "I disclaim any intention of proposing a vote of no-confi- dence in the Government." Hm! Ail- adrodded y stori fach bert yna i'w famgu! Yng nghylch a'r pa fodd i ddwyn yn mlaen a'r Rhyfel. fawr yma yw swm a sylwedd y cyhuddiadau dan sylw. Siaradodd Mr. Lloyd George am awr a chwarter, a Mr. Asquith am bum' mynud-ar-hugain. Wedi i ereill eiarad, yn eu plith Mr. Carson, rhan- wyd y Ty gyda'r canlyniad-Dros y Wein- yddiaeth. 293; dros y "Wait-and-See Com- pany," 106; mwyafrif dros y Cymro bach, li87! Bravo! Clywais nad oedd un o'r Aelodau Gwyddelig yn y Ty pan gymmerodd y rhaniad le; dywedir fod y neuralgia gwyllt arnynt. Gresyn na fyddai y neural- gia' arnyrtfc pan rhanwyd y Ty yn amser Mesur y Lledrad, sef ysbeilio Meddiannau Cyfreithlawn Hen Eglwys y Cymry. Der- byniwyd y ffigyrau uchod gyda banllefau, ac wrth fod Mr. Lloyd George yn ymadael a'r Ystafell (Chamber), ar ol y rhaniad, yr oedd yn "Hwre" gwyllt ac uchel, mor uchel fel elybu Mr. Davies, golygydd y "Western Mail," y banllefau yn egluT iawn yn ei ystafell. Un peth yr wyf yn gofidio, am nad yw y gyrraith yn caniatau hyny, sef marcho y 1Q5 Wait-and-See Co. yma o Dy y. Cyffredin, a do'd a hwy i lawr i Gacr- fyrddin, a hyny o dan arweiniad "Tommy Mammy" a "Dai Nanny." Am eu tynged, barnod y darllenydd I dori y stori yn fyr, T maen tramgwydd (stumbling-block) yw, EIDDIGEDD at y Cymro bach—Prif Wein- idog Prydain Fawr! Ie, dywedaf, Achubwr ein Gwlad." Byw fyth bjTddo," medd "Myr- ddinîab" o eigion ei galon. Clywais hen gyfaill i mi o gapel Als, Llan- elli, yn dweyd yr wythnos yma, "fod pob peth y mae Mr. Llewelyn Williams yn dweyd ac yn ysgrii'enu oddi ar doriad y rhyfel fawr .yma yn "GYSSON" ag- cf ei hun." Gwir, dywedais; y mae ei lythyr a ysgrifenodd i'r "Times" pan dorodd y rhyfel allan yn'fy meddiant hyd y dydd heddyw; ond Cysson- deb heb fod yn Anrhydeddus ydyw V Peth cymmeradwy ydyw ymddygiad cysson ym mhob cylch mewn cvmdeithas, ond rhaid 1 cyssondeb anrhydeddus cyn y gellir ei gymmeradwyo. Gwelir hyn yn ymddygiad Mr. Llewelyn Williams yn ei agwedd gysson tuag at "Weinyddiaeth Lloyd George." Gall Mr. Williams, ddweyd mewn gwirion- edd, ar ol y rhyfel, fod ei "ychydig bach" ef yn gynnwysedig mewn gwneuthur ymos- rl:n.¡nn n n T lnm.Jnh hn n" UU.(ÑU(1U J uynwincm, U uuii Y .1Ua ci hen .gyfaill a'i gydwladwr yn Brif-weinidog. Mae yn bosibl i Mr. Williams ddweyd heb ofni neb i wrth ddyweyd hyny, ei fod yn wastadol, mewn amser ac allan o amser, yn gwneuthur ei eithaf i aflonyddu ar y Llyw- odraeth; a hyny hefyd yn nyddiau tywyll Mawrth air Ebrill diweddaf, pan yr oedd ein byJdin mewn perygl enbyd, a German! yn gwneyd pob ymdrech posibl i'n dyfetha ni fel cenedl; ond gofalodd Mr. Williams i beidio codi cyfleusdra, hyd yn oed yr adeg hon, i gyhuddo y Llywodraeth o ragrith a thwvll. Ebrill yr 8fed yr oedd Ty y Cyff- redin yn gwynebu ar y sefyllfa fwyaf difrifol yn hanes y wlad. Yr oedd ein byddin yn ymladd heb un llewyrch o oleu buddugol- iaeth, ac yr oedd yn hanfodol i ddiogelwch ein cartrefi a'n bodolaeth fel cenedl, i wneyd galwad pellach ar fechgyn ein gwlad. Beth wnaetn Mr. Williams, tybed, mewn adeg mor gyfyng arnom fel gwladwriaeth? Efe a ddaeth allan i ymosod yn greulawn ar y Llywodraeth; ac yn ystod ei sylwadau, dy- wedodd:—"Mae y 6efvllfa bresennol yn ganlyniad o un mis ar bymtheg o weinydd- iaeth gan Lywodraeth Enill-y-Rhyfel,' ac yn ein peryglu o'r posiblrwydd o drychineb cenedlaethol mwyaf difrifol." Yr ydym ni yn credu, fel y mae v rhan fwyaf o bobl yn gwneyd, fod y sefyllfa ddifrifol bresennol yn Ffrainc i'w briodoli i wrthgiliad Rwssia. Ond gwell gan Mr. Llewelyn Williams ei briodoli i Mr. Lloyd George,- cwymp yr hwn y mae yn ddymuno o galon! Cywilyddus, dywedaf. Beth bynag, gall Mr. Llewelyn Williams ymffrostio yn ei gyssondeb— dyna yr OLL! Ond cofier, "Cyssondeb heb fod yn Anrhydeddus" ydyw!! Beth ddywed Radicaliaid Capel -Als, Llanelli, am "Gys- sondeb" Mr. Llewelyn Williams? Diolch i'r nef, y mae wedi METHU yn ei amcan,; y mae y Cymro bach wrth y llyw, er gwaethaf gynddaredd y "Wait-and-See Company." Clywais fod yr addfwyn a'r poblogaidd Mr. J. Patagonia Lewis ar ymweliad a Chaerfyrddin y dyddiau hyn, ac ei fod yn edrych yn hynod o dda. Da iawii gan "Myrddinfab" i glywed hyn, ac hir oes ao iechyd da i'r "gwaa da a ffyddlawn" yng Nghaerfyrddin am flynyddau lawer. Clywais y gofynir iddo gan luaws yn y dref pa fodd y mae y watc yn myned a gafodd gan "Awdurdbdau y dref" cyn ei ymadawiad? "«0!" meddai, fel pe bai; "nid oes eisieu ei weindo, neu ei glanhau, neu ei oilo; y mae yn myned yn ddi-stop." See the point. Dyl'ai fod yn gywilydd gan Awdurdodau y dref i weled Mr. Patagonia Lewis; ni chafodd cymmaint a tin whistle ar ei ymadawiad a'r dref, ar ol gwasanaethu ger Haw deugain o flynyddau, a hyny heb GEINIOG o dal, ar wahanol fyrddau perth- ynol i'r dref. Mae y Sais, y Scotchman, a'r Irishman, os bydd yn dal swydd am ych- ydig wythnosau yng Nghaerfyrddin, ac yn bwriadu "to leave the town with regret," y mae y "Thames ar dan" bang-ho. "Tysteb, tysteb" mewn eiliad yw y cri; ond am y Cymro druan, "poor old horse, let him die." Da genyf ddweyd y bydd pethau yn well yn y dyfodol. Fel "Saint Peter's Boy," dy- wedaf mai hen ddref fach gornelog and one. sided yw tref Myrddin er ys blynyddau lawer. Diwygiwch, a ni fyddem yn hwv yn laughing stock i bentrefydd a threfydd Cymru. "Nid üe6 anrhydedd i brophwyd yn ei wlad ei hun" yw swm a sylwedd Awdùr- dodau y Pref er ys cannoedd o flynyddau. Clywais boreu heddyw (Mercher) fod fy hen gyfaill "Twm 'Barels" yn Nhy y Cyff- redin dydd Iau diweddaf (Mai gfea), ac yn '(n eistedd yn y Gallery yn mhlith mawrion Lloegr, pan yr oedd "tric" Asquith and Co. ar waith. Meddyliwch am hen "dincer" cyffredin o Gymru yn eistedd yn Gallery House of Commons, Llundain. Yn awr, Twm bach, rho "coko slops" iddynt, ac yn enwedig i'r person "anrhydeddus" sydd wedi bod yn pregethu ar y Maen Llog yn Eistedd- fodau Cymru am y pum can' mlynedd diw- eddaf. v

AGRICULTURE AND RECRUITING.-I…

! FFRAE Y BEIRDD.

LLANWENOG.

Col. George Phillips

Cardiganshire Appeal Tribunal

Eczema All Over Head and Back

Fined £55

CLERGY AND THE ARMY.

AT EIN GOHEBWYR.

Advertising

Lampeter County Court

BRITISH FARMERS' RED CROSS…

Teachers' Strike Continues

[No title]

Advertising