Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

------Y COLOFN FARODOL

News
Cite
Share

Y COLOFN FARODOL (Gan "Talfynydd.") SHONI HOI. (Gan HEN GOLIER). Mae pawb yn fond o Shoni ar dymor gwyliau ha', Pan yn ei "ddillad parch" yn llawn o sofrins da, Yn galw Landlord, galwyn, go yffach dere gloi, A'r spwnjers oil yn gwaeddi,-Three cheers for Shoni Hoi! Ond pan fydd Shoni'p streico am gwnad yn ei bres, Am riskio i goluddion y ddacar ddu a'i gwres; Y spwnjers a gyd-waeddant fod Shoni maee o'i go'. Am ofyn 'r hyn sy gyfiawn am bwno'r talcen glo. Ond pan ddaw tanchwa enbyd, a Shoni "wedi mynd," Bydd pawb pryd hyny'n teimlo, a phawb i Shoni'n ffrynd; Pob capel a phob eglwys pryd hyny'n gweddio'n ga.rn, Fel pe bae'u gweddiau'n dickcts i Shoni fore'r farn. Lwc dda i Shoni yma, a'i deulu gydag e', Boed iddo lawnder yma, a thelyn yn y nt": A boed i'w holl ddirmygwyr pan farwant yn eu tro, I landio'n saff mewn ardal lie nad oes prinder glo. (Gellir cael caniatad i ganu yr uchod oddiwrth yr awdwr drwy gyfrwng Golygydd y CARMABTHJIN JOURNAL.) GWYLIAU YN Y WLAD. Gadawaf fwg Morganwg Am iachus fro y wlad, Lie bum yn dechreu'm gyrfa Dan ofal mam a thad. Mae'r bwth o hyd yn aros, A Marlais wrth e droed, Yn murmur swynolgerddi Mor felus ag erioed. Ond O mae'r rhiaint anwyl Yn fud er's blwyddi maith, A'r dwylaw a'm diffynai Dan glo mewn beddrod llaith; Er hyny, cysegredig I mi tra fyddwy' byw Yw cartref hoff fy mebyd Ar lan y gornant wivit. Fan yma rhwng y bryniau, Y mae fy ngeneth wiw— Yr oreu dan yr heulwen, A'r iun a garaf yw; Ei chan sy'n deffro'r wawrddydd, A'i threm sy'n dotio'r bardd, A'i chariad sy'n diysgog A phur, fel gwlithyn hardd. Llansadwrn. LLWTNFAB. oeo

PENYGROES

CEFNEITHIN A CROSS ,HANDS

THE INSURANCE ACT

Advertising

PROPERTY SALE.

LAUGHAIME NOTES

[No title]

Advertising

LLlTh TVVM BAKELS

"TWYLL" Y PROTEST ANGHYDFFURFIOL

Advertising

CYLCH CYFRIN Y PLANT

CWMDUAD

LLANDYSSILIO

-----------LLAHPUMPSAIHT

eiLRHEDYN|

MANORDILO

THE INSURANCE ACT