Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Y METHODISTIAID AR FUGEILIAETH.

News
Cite
Share

Y METHODISTIAID AR FUGEILIAETH. At y Parch. L. Edwards, D.D., Bala. LLYTHYB I. Barchedig Syr,—Os caniata Golygwyr y TYST CYMBEIG, yr wyf am eich cyfarch trwy ychydig lythyrau ar y penawd sydd uwchben y llythyr hwn. Mae yn ddigon posibl eieh bod yn barod i ofyn beth sydd a fynwyf fi fel Gweinidog Annibynol a'r mater? paham yr ydwyf yn cyfeirio fy llythyrau atoch chwi ? a phaham yr wyf yn eu hanfon trwy gyfrwng y TYST CYMBEIG, yn lie cymeryd rhyw ne- wyddiadur ac y mae cylch ei ledaeniad yn benaf yn mysg yr enwad parchus a chyfrifol y perthynwch iddo ? Dichon y byddai yn briodol i mi ateb y gofyniad- au uchod cyn dyfod yn mlaen at yr hyn sydd yn fwyaf neillduol ar fy meddwl i'w ddyweyd wrthych. Gyda golwg ar y cyntaf, y mae y mater wedi ei symud o gylch enwad y Methodistiaid i fod yn fater cyhoeddus. Cyhyd ag y cadwyd ef yn bwnc ym- ddiddan a dadl yn mhwyllgorau a chynnadleddau cyfarfodydd misol a chymdeithasfaoedd eich enwad, cwestiwn Methodistaidd ydoedd; ond wedi cyhoeddi i'r byd trwy y wasg adroddiad o'r ymdrafodaeth arno, ac i arweinwyr y cyfundeb fyned i'w ddadleu yn ngholofnau newyddiaduron, y mae yn dyfod ar unwaith yn gwestiwn cyhoeddus, ac y mae gan un- rhyw un o enwad arall hawl i draethu ei olygiadau arno, a hyny heb gael ei gyfrif yn euog o droseddu ar frawdgarwch Cristionogol; ond yn unig iddo draethu ei olygiadau yn deg a boneddigaidd. Heb- law hyny, y mae y ddadl sydd yn cael ei chario yn mlaen yn awr yn debyg o effeithio ar enwadau er- eill, ac y mae gweinidogaeth sefydlog-neu fugeil- iaeth, fel y dewiswch chwi ei galw—yn hen sefydl- iad yn eu plith ac y mae llwyddiant y fugeiliaeth yn mysg y Methodistiaid yn bwysig i'r enwadau hyny; a'i haflwyddiant a'i methiant yn rhwym o effeithio er anfantais iddynt. Gwn trwy brofiad beth ydyw llafurio am yn agos i bymtheng mlynedd ar hugain fel Gweinidog An- nibynol ac am ran fawr o'r amser hwnw yn nghan- ol eglwysi Methodistaidd cryfion a lluosog nad oedd unrhyw weinidog wrth ei swydd a than gyflog pen- nodol yn bwrw golwg drostynt. Clywais lawer yn fy oes am weinidogion eyflogedig 'a I phregethwyr gwneud;' ac nid ychydig o sarhad a ddioddefais mewn cyfnod pan oeddwn yn llawer ieuengach a mwy dibrofiad nag ydwyf heddyw oddiwrth hen flaenoriaid eich enwad, y rhai a gyfenwent eu hun- ain yn henuriaid yr eglwysi.' Edrychais gan hyny gyda llawenydd ar eich dymesiad chwi fel corff cyf- rifol at yr hyn a ystyriwn i fel trefn fwy Ysgryth- yrol o arolygiaeth dros eglwys Dduw; a chroesaw- ais gyda breichiau agored frodyr ieuainc a ddewis- wyd yn fugeiliaid gan eglwysi eich enwad o fewn cylch fy ngweinidogaeth. Ac er fy mod yn mhell o feddwl fod y cynllun a fabwysiadir yn y rhan fwyaf o fanau wrth osod bugeiliaid, fel y dewiswch eu galw, y cyfaddasaf er cyrhaedd yr amcan, eto hwyr- ach ei fod y goreu a allesid gael dan yr amgylch- iad a'i fod er ei holl anmherffeithrwydd yn gam yn yr iawn gyfeiriad, fel y dywedir; a drwg iawn genyf weled unrhyw beth yn cael ei wneud sydd yn peryglu ei lwyddiant, pa un bynag ai gan annoeth- ineb ei gefnogwyr, ai gan ddigasedd ei wrthwyn- ebwyr y bydd hyny. Ac ar y tir cyhoeddus yna, fel hen gyfaill profedig gweinidogaeth sefydlog a bug- elliaeth eglwysig, yr wyf yn cymeryd fy rhyddid i ysgrifenu ar y mater. Yr wyfyncymerydfynghenadj gyfeiriofy llythyrau atoch chwi, oblegid yr ystyrir chwi yn un o gedyrn cyntaf eich enwad—yn meddu dylanwad eang a chyffredinol ar bobl flaenaf eich eglwysi-wedi magu dan eich addysg y rhan fwyaf o'r Gweinidogion sydd yn awr ar y maes-mewn gwell manta-is na neb arall oherwydd eich cysylltiad a'r Athrofa fel ei phrif athraw i ffurfio cymeriad y rhai y disgwylir i'r eg- lwysi eu galw yn fugeiliaid-ac os nad wyf wedi fy ngham hysbysu, y mae drychfeddwl y fugeiliaeth yn fwy o eiddo i chwi na neb arall yn eich cyfundeb. Yr wyf yn cofio mor llawen y darllenwn yn ol-nod- iadau y traethawd a gyhoeddasach ddeng mlynedd ar hugain yn ol ar Natur Eglwys, yr awgrym am ffurfio cysylltiad agosach rhwng eich Gweinidogion a'r eglwysi, neu eiriau i'r un perwyl. A pha mor bell bynag oeddwn oddiwrth fod o'r un farn a chwi ar y golygiadau a amddiffynid yn nghorph y traeth- awd ar natur a chyfansoddiad eglwys y Testament Newydd; etto llawenhawn wrth weled yn yr aw- grym hwnw fod y wawr yn tori, ac y gwelid adeg pan y byddai I gweinidogion cyflogedig I wedi dyfod yn gyffredinol yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig, er cymaint a ddirmygid ar y rhai oedd felly gan enwadau ereill. Mae y pethau hyn oil yn ymddangos i mi yn rhesymau digonol dros gyfeirio fy llythyrau atoch chwi. Yr wyf yn dewis y TYST CYMBEIG fel cyfrwng i'w trosglwyddo am fod ei gylchdaeniad yn benaf yn mysg pobl sydd yn cydymdeimlo a gweinidogaeth sefydlog, ac oddiar wybodaeth o'i gwasanaeth yn alluog i'w gwerthfawrogi; ac yr wyf wedi cael sicrwydd hefyd ei fod yn cael ei ddarllen bob wyth- nos gan ganoedd o'r dynion mwyaf deallgar a goleu- edig yn eich cyfundeb parchus chwithau; ac y mae cael clust y rhai hyny yn llawer pwysicach yn fy ngolwg na chael cymeradwyaeth uchaf gwerin ddi- wybod eich enwad sydd yn I ymborthi ar ludw,' ac yn barod i redeg ar ol pob newyddbeth, yn enwedig os bydd yn ymosod ar y rhai sydd mewn awdurdod. Ni buasai genyf ddim yn erbyn rhoddi fy enw yn llawn wrth y llythyrau hyn, oblegid nid wyf yn amcanu dyweyd dim y bydd achos i mi gywilyddio o hono ond gan fy mod yn dymuno i'r llythyrau sefyll neu syrthio yn ol eu teilyngdod, heb i'm henw fod yn fantais nac yn anfantais iddynt, yr wyf yn dewis ei ddirgelu. Ymddiriedaf ef i Olygwyr y TYST CYMBEIG, gan roddi hawl iddynt, a dymuno arnynt i dynu allan o'm llythyrau unrhyw ymad- rodd neu synied a femir ganddynt hwy yn anheil- wng o'ch safle a'ch urddas chwi, fel boneddwr Crist- ionogol-fel Athraw Duwinyddol—ac fel gweini- dog da i Iesu Grist.' Yr eiddoch yn barchug, HELlG FOEL.

LLITH YR HEN ARDDWR.

MYFYRDODAU YN Y CYFNOS.

[No title]