Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

Genedigaethau, Priodasan, Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Ebrill 10, priod y Parch. P. Williams, gweinidog y Wesleyaid, Newmarket, ar fab. 27, priod Mr Henry Parry, Henllan, ger Din- bych, ar fab. PRIODASAU. Ebrill 27, yn nghapel Bethlehem, Rhosllanerchrug- og, gan y Parch. J. Rowlands, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Pritchard (M.C.), Mr John Parry a Miss Ann Savage,—y ddau o'r Rhos. 28, yn swyddfa y cofrestiydd, Caerdydd, Mr Edward Cartwright, diweddar « swyddfa y Fancr, â Miss Cecil Morgan, sir Forganwg. MARWOLAETHAU. Ebrill 11, Mrs Maria Da-, ies, priod Mr Daniel Davies draper & grocer, Mochdre. 15, yn 73 oed, Jane, priod Mr Howell Parry, Cerygengan, Aberffraw, Mon, a mam y Parch. H. T. Parry, Abersoch. 16, yn 15 mis oed, John Baxter Lewis, unig fab Mr Jeremiah ac Ann Lewis, 113, Hockley Hill, Birmingham. 17, yn 62 oed, yn bur ddisymwth trwy i'w waed lestr dori, y Parch. John Davies, Casnewydd-ar-wysg. 26, yn 63 oed, wedi dioddef cystudd trwm er's blynyddoedd, Sarah Roberts, Near Swan Inn, Hall Street, Rhos. Gadawodd briod a phlant galarus i alaru ar ei hoi. 27, yn 14 mis oed, Arthur, un o efeilliaid Mrs John Simon, Regent House, Rhuthyn. 28, yn nhy ei fam yn Rhydfelen, yn 18mlwydd oed, Samuel, mab henaf y diweddar David Stephens, Glantaf ac wyr y diweddar Samuel Griffiths, Horeb. Yr oedd Samuel yn fachgen mwyn a hawddgarol. Cafodd y fraint o broffesu Crist yn foreu, a 1m ei fuchedd yn deilwng o'i broffes. 27, yn 47 oed, Ellen Lewis, priod Mr L. Lewis, 132 Cregoe Street, Birmingham. 29, yn 48 oed, Mr David Davies, Felin Uchaf, Cynwyd. Mai 1, yn bur ddisymwth, yn nhy Mr Thomas Ellis, West Parade, Rhyl, y Parch. John Hughes, Glanaber, Gwyddelwern. -="7

MARCHNADOEDD ANIFEILIAID.

Y FARCHNAD YD.

Advertising