Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

ENGLYN BYRFYFYR

FY MARGED.

'ILLYN ALWEN.

[No title]

Advertising

ENGLYN

ANERCHIAD

AD GO PI ON AM GYMRY LIVERPOOL.

News
Cite
Share

Judas yn eistedd yn eu plith. Ac yn union gyfer- byn ag ef ar y bwrdd ceir y llestr halen wedi ei droi, a'r halen megis yn chwalu oddi wrtho ef ar y bwrdd. Gwelir y pictiwr yn ddigon cyffredin yn nhrefydd Lloegr; ac os digwydd i'r darllenydd ei weled, gall chwilio y pictiwr, a gweled y pethau a ddisgrifir uchod. COLLI DANT.—Heblaw yr ofergoelion uchod, yr oedd ganddynt amryw o rai ereill—megis, pan dyno dyn ei ddant, byddai raid iddo roddi ychydig o halen arno, a'i daflu drach ei gefn i'r tan, onide byddai yn sicr i ryw lwc ddrwg ei ddilyn. Yr oedd dydd Gwener yn ddydd anlwcus i neb fyned allan mewn Hong ar fordaith, neu i briodi, &e. CEILIOG YN CANU yn y nos cyn tori y wawr, neu gi yn udo yn y nos, oedd arwyddion sicr y byddai rfiyw un yn y gymydogaeth farw yn fuan iawn. Ysgrech y ddalluan yn y nos a barai fwy o ddychryn niewn cymydogaeth na haid o ladron. A gwich- leisiad y criciedyn ar yr aelwyd a ai drwy lawer un yn fwy na rhuad llew. Ond gwarchod pawb, pan glywai rhyw un y death watch, y copyn marw-goel, yn tipian mewn ty, perai hyny ddychryn ae ofn am fis i'r tylwyth. Wedi hyny, os byddai rhyw un yn gosod ei gyllell a'i ffore yn groes ar draws eu gilydd Wadi bwyta, fe ddychrynai gwraig y ty rhag i rhyw ddamwain gymeryd lie yn mhlith y teulu. Wrth Weled darn o huddygl yn cywyfio ar farau y grat, pyddai rhyw ddieithrddyn yn sicr o ddyfod cyn hir i'r ty. Neu os gwelid seren fechan yn y ganwyll, arwydd sicr y bydd llythr i ryw un. Yr oedd yr holl ofergoelion gwageddus hyn yn effeithio llawer ar feddyliau gweiniaid, ac yn peri iddynt iddynt ddioddef llawer oddiwrth ddrygau dychymygol, a thristwch a gofid ychwanegol, y rhai na pherthynant yn briodol i goelbren naturiol dyn. Y raae gan ddyn ddigon o drallodion yn y byd heb ychwaneg atynt drwy ofergoel o'r fath hyn; ac y jnae pob un call yn gwneud ei oreu tuag at eu llei- nau drwy synwyr a rheswm, ac yn benaf y Beibl, gan ymdrechu ymdaflu ei holl faich ar yr Hwn sydd yn trefnu ac yn llywodraethu pob peth, a'r Hwn a wel ein holl fywyd o'i ddechreu i'w ddiwedd ar un nid yn unig y rhan a aeth heibio, ond y rhan nono sydd yn myned yn ei flaen hyd dragwyddol. Bellach, ddarllenydd, pan elom i orphwys a chysgu y nos, bwrwn ein holl ofal arno ef a phan godwn yn y boreu, dodwn ein hunain dan ei gyfarwyddyd. Yn nghanol ein helbulon a'n trafferthion, edrychwn i fyny drwyddynt oil ato Ef, gan mai sicr yw y gwna ■Ef bob peth i gydweithredu er daioni i ni, os bydd- Wn yn ei garu ac yn ei ofni. Yn y nesaf:—Enw Liverpool a'i darddiad-Llyn- Ueifiad—Pedr Fardd-Cynydd Liverpool-Goronwy Owain, &e.