Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr; ac nid yw eu cyhoeddiad yn ein colofnau yn ddigon i brofi ein bod yn eu cymmeradwyo. Nis gallwn eu cau allan heb gael ein cyhuddo o geisio cyfyngu ar ryddid y wasg.—Y GOI.YGWYR.]
RHYDDID CREFYDDOL.
News
Cite
Share
RHYDDID CREFYDDOL. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Mae rhyddid dyn yn gynwysedig mewn bod yn feistr ar ei amser ei hun a'i weithredoedd, cyn belled ag y byddo hyny yn gyson a chyfreithiau Duw a'r wlad.Cowley. Rhyddid yw un o elfenau mwyaf eyffredinol bywyd rhesymol ac afresymal, ac a werthfawrogir yn fawr gan feddianydd y naill a'r llall. Mae rhyddid fel pe byddai wedi ei gymhlethu yn nghyf- ansoddiad pob creadur rhesymol. Dyma enedigaeth fraint ei fodolaeth. Un o elfenau gwahaniaethol llywodraeth foesol Duw yw rhyddid. Siaradwn am ryddid moesol a rhyddid gwladol; ond nid y lleiaf mewn pwysigrwydd a dyddordeb yw rhyddid cref- yddol, yn nghylch yr hwn bwriadwn wneud ychydig sylwadau. Tybiwn mai yr hyn a olygir yn briodol wrth ryddid crefyddol yw yr hctwl sydd gan bob dyn i feddwl ae i addoli Duw yn ol tueddiadei gydwybod; ae yn ddiofn eyfeiliorni, dywedwn mai hyn yn unig sydd gyson a rhyddid moesol a chyfrifoldeb dyn. Daeth dyn o law ei Greawdwr yn fod rhydd-ewyll- ysiol; ac yr oedd hyn yn angenrheidiol mewn trefn i gael prawf o'i ryddid a'i rinwedd. Aey maeDuw fel llywodraethwr moesol wedi ymddwyn tuag at ddyn drwy yr oesoedd yn gyson a natur pethau yn amser ei greadigaeth. Nid yw efe yn gorfodi neb i feddwl am dano nac i'w addoli; ond y mae wedi dangos i I ddyn beth sydd dda,' a pha beth a gais ganddo, yn nghyd a'r hyn sydd ddrwg yn ei natur a'i ganlyniadau ac y mae wedi ei anog i dderbyn a gwneud y cyntaf, yr hyn o ufuddhau iddo a gaua allan yr olaf. Ond y mae dyn wedi methu ag ym- ddwyn tuag at ei gyd-ddyn yn y modd yr ymddyg- odd ei Greawdwr tuag ato, oherwydd y mae wedi gwneud ei ymosodiad arno i'w orfodi i feddwl am gredu ac addoli Duw, fel y mae efe wedi cyfarwyddo a gweled yn iawn, pa un a fyddo yn iawn ai peidio; a phwy ar y ddaear sydd i farnu ? Yna deuwn i gyffyrddiad gwrthdarawol a sefydl- iadau gwladol crefyddol, ac y canfyddwn eu hafres- ymoldeb yn mhob cysylltiad perthynol iddynt. Cy- merwn yn ein hymyl er engraifft Eglwys Sefydledig Lloegr. Y mae hon wedi ei rhwymo a chadwynau caethiwol cyfreithiau a rheolau, a ddeddfwyd ac a awdurdodwyd gan aelodau seneddol, yr hon weith- red sydd lawn o'r ffolineb mwyaf gwrthun—corph o ddynion, hwyrach y rhan fwyaf o honynt yn anuw- iol (o'r hyn lleiaf, nid yw duwioldeb yn angenrheid- iol er ffurfio un rhan o'n cyfaddasder mewn trefn i gael eu gwneud yn aelodau o'r cynghor hwn)—y rhai hyn yn gwneud cyfreithiau, ac yn sefydlu rheolau, a ystyriant ddoethaf a goraf, i sicrhau llwyddiant a lledaeniad crefydd bur y Groes; achos, gyda'r hwn y mae yn anmhosibl iddynt hwy gydymdeimlo dim, ac ni wyddant ddim am dano mewn gwirionedd,— eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o ysbryd Duw canys ffolineb ydynt ganddo, ac nis gall eu gwybod, oblegid yn yeprydoly bernir hwynt.' A mwy na hyn, rhaid fod y cyfryw rai hyd yn nod yn elynion i'r achos a'i Iwyddiant. Y fath gawdel o anghymwysderau a gwrthuni yw pethau fel hyn Y mae natur yr achos a chymeriad y dynion hyn sydd yn ymwneud ag ef yn gyfryw ag sydd yn ein rhwymo i ymresymu fel hyn. Y mae yna eli'en chwerw yn y gwreiddyn, a all y pren ddwyn fifrwythau per P Pan y mae y cymeriadau hyn yn gorplien eu gwaith, disgwyliant i'w cyd-ddynion gydffurfio a hwynt yn mhob peth-i gredu am Dduw fel y maent hwy wedi penderfynu—i dderbyn yr athrawiaethau y byddont hwy wedi eu rhagnodi—ac i addoli Duw fel y meddyliont hwy sydd oreu fel pe byddai pawb oddi eithr eu hunain yn fodau af- resymol, heb ewyllys na chydwybod. Disgwyliant gydffurfiaeth hollol, pa un a fydd hyny yn dder- byniol yn ngolwg Duw ai peidio. Dyna'r llais glywir yn adseinio yn gyffredinol oddi fewn i furiau pob teml a berthyn i'r sefydliad gwladol. Ond yn y temlau hyny, lie y mabwysiadir y fath egwyddor- ion, a lie y gweithreda dynion yn ol y drefn (neu yn hytrach yr anrhefn) hon ar bethau, ni allwn gyda llawer o briodoldeb argraphu mewn llythyrenau eg- lur ar y rhanau mwyaf amlwg arnynt, Ichabod,' o herwydd y gogoniant a ymadawodd. Ni cheir byth fod gweithredoedd Duwynanghys- on a'u gilydd. Os creodd efe ddyn yn greadur rhydd-ewyllysiol, ni chaiff ei orfodi byth ganddo i feddwl am dano nac i'w addoli; ond caiff feddwl am dano neu beidio—ei addoli, neu beidio; ac os myn wneud y naill neu'r llall, neu'r ddau,' caiff wneud hyny yn y modd a'r amser yr ewyllysio. Ac yn sier, mai yn ofer y chwilia edmygwyr sef- ydliadau gwladol am sylfaen Ysgrythyrol ar ba un i adeiladu y cysylltiad an-naturiol o Eglwys a Llj w- odraeth. Y pen coronog yw pen yr Eglwys Sefydledig, ond Crist yw pen yr eglwys ysbrydol—' ac a ddarostyng- odd bob peth dan ei draed ef, ac a'i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i'r eglwys, yr hon yw ei gorph ef.' Cawn yma gydweddiad pen a chorph ysbrydol. Ac os dywedant fod eu Heglwys yn un ysbrydol, paham y rhoddant ben naturiol ar gorph ysbrydol ? A defnyddio y geiriau mwyaf tyner, y mae hyn yn annaturiol, anghyson, a gwrthun. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwas un arall ? I'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio.' I Dduw yr ydym oil yn sefyll neu yn syrthio fel bodau moesol-penau coronog yn gystal a'u deiliaid. Beth ? A feiddia dyn fod mor rhyf- ygus a sefyll yn lie Duw! Deuwn o angenrheid- rwydd i'r terfyniad hwn. Gan hyny, ni allwn fwynhau rhyddid crefyddol er mor ddymunol a gwerthfawr, hyd nes y cawn feddu cydraddoldeb crefyddol perffaith. Bydiled i holl sef- ydliadau Eglwysig y byd gael eu dadgysylltu a'u dadwaddoli; ac yna ni gawn feddu llawn ryddhad o ryddid crefyddol, a bydd i elfen fawr a phwysig llywodraeth foesol Duw gymeryd meddiant o holl lywodraethau y byd; a'r pryd hyny gwawria ar ein ddaear hir ddisgwyliedig a gogoneddus ddydd cor- oniad Rhyddid Crefyddol. Coleg Aberhonddu. WYN SILIN.
ADDOLIAD CYHOEDDUS.
News
Cite
Share
ADDOLIAD CYHOEDDUS. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. (Far had o'r rhifyn diweddaf.) Wedi gorphen y rhan hono o'r gwasanaeth, dyna y gwr i fynu i'r pwlpud, ac yn cymeryd ei destyn. Hwyrach y bydd y gynulleidfa wedi ymlusgo at eu gilydd yn weddol gryno erbyn hyn, ond 'does dim llawer o bwys am roddi ryw lawer o sylw iddo nes byddo yn dechreu myned iddi hi.' Diau fod dis- tawrwydd dechreuol ambell un yn tueddu i gyn- yrchu y fath wrandawiad, ac os na bydd hwyl go dda ac yntau yn dal yn faith, bydd yn llawn bryd iddo dewi cyn haner darfod, ac yn wir y mae ambell un yn treio amynedd cynulleidfa i'r eithaf. Eir yn mlaen rywbeth yn debyg gyda'r olaf drachefn. Wedi gorphen y bregeth dyna'r addoliad ar ben yn meddyliau y bobl, ond rhaid myned trwy y ffurf orphenol rywsut drwy ganu a gweddio. Y mae sylwi ar ar agwedd y gynulleidfa wedi gorphen y bregeth yn brawf digon amlwg o'u syniadau am yr addoliad cyhoeddus. Gwrandawn yn awr ar eu syniadau ar y pregethau. Hwyrach fod y rhai hyny mor amrywiol weithiau ag ydyw gwynebau y gyn- nulleidfa, fodd bynag, mynych y clywir y rhai can- lynol,—Sut y cawsoch eich plesio ? Mr T. aeth a hi yn dipie heddyw. 'Doedd yr olaf yn grand. Pa un oedd well genych, onid oedd Mr D. yn felus ? Wel oedd, ond ryw ramblo yr oedd, nid oedd yn eadw at ei fater. Onid oedd. Mr E. yn pregethu yn gampus ? Wel oedd, yn bur gall, ond cyn syched a phric,—a chant o bethau cyffelyb. Hwyrach y gellid dos- barthu ein cynulleidfaoedd i dri dosbarth. Un dos- barth am ddoniau digon o hwyl a swn, a dosbarth lluosog iawn ydyw hwn hefyd. A'r llall dipyn yn fwy coethedig ei chwaeth, am iaith dda, a'r materion yn cael eu trin yn drefnus a goleuedig ar ol sylw- edd y mae y dosbarth hwn medd efe. A'r trydydd dosbarth yn fwy aruchel fyth ei chwaeth, ar ol y blodau y mae hwn, os na bydd digon o farddoniaeth yn y bregeth rhyw ysgerbwd digon sych fydd ar y goreu. Fel yna, rhyw ysbryd beirniadol sydd Avedi syrthio ar bawb rywfodd. Hwn a hwn aeth a hi o ddigon, meddai un. Nage, meddai un arall, Mr H. yn siwr i chwi. Wn i ddim, meddai'r trydydd, 'doedd Mr P. ddim yn mhell ar ol. Ac os bydd ychydig o feddwl a siarad am y cyfarfod ar ol iddo fyned heibio, y dynion, eu dull, a'u doniau fydd yn cael y rhan fwyaf o sylw, ac nid y gwirioneddau a draddodwyd ganddynt yn gymaint. y Ond dychwelwn at ein haddoliadau cyffredin, ef- allai fod cymaint o debygrwydd rhyngddynt a'r lleill fel mai ofer fyddai manylu arnynt. Y mae yn ddiamheu fod y cynulleidfaoedd yn llawn mwy aw- yddus am bregeth, nac am y moddion arall; ond nid yw hyny yn profi mai y bregeth sydd yn gwneud mwyaf o les, ond yn unig ei bod yn cyfarfod ei chwaeth yn well. Os ydyw yn profi rhywbeth, profi fod chwaeth ysbrydol y bobl yn isel y mae, ac nid wyf yn ameu nad yw hyny i'w ganfod yn ami. Yn neillduol, canfyddir ef yn yr eglwysi sydd yn am- ddifad o weinidog sefydlog, neu ynte dan ryw am- gylchiadau ac y byddo yn anghyfleus i gael pregeth. 'Does dim bias ar gyfarfod gweddio, os bydd yn myned a lie y bregeth—gwell cael rhyw fath o bre- geth nag heb yr un. A pha ryfedd hyny, oblegid felly mac y bobl wedi cael eu dysgu-mai y bregeth yw pobpeth bron. Ac y mae y syniad yna wedi effeithio cymaint ar rai fel y maent yn tybied nas gallant hwy wneud dim daioni ond trwy bregethu. Pe gofynid iddynt fyned yn athraw ar ddosbarth yn yr ysgol Sul, neu i ryw gylch cyffelyb, dywedant yn ostyngedig iawn nad oes dim cymhwysdra ynddynt hwy-y gwnai rhywun arall yn well na hwy, neu ynte dywedent mai gwastraff ar eu hamser hwy fyddai gwneud y fath orchwyl, ond y gallant wneud daioni wrth bregethu. Prin y gallaf fi gredu y brodyr hyn, ie, pe byddai Angel o'r Nefoedd yn dweyd drostynt. Ond faint bynag o gywirdeb sydd yn y pethau a nodwyd, yr wyf yn credu y byddai trefnu yr addoliad cyhoeddus rywfodd fel y gellid rhoddi mwy o le a sylw i ddefosiwn—dysgu y bobl i addoli, yn llawer mwy manteisiol i grefydd ys- brydol. Y syniad sydd wedi ein meddianu fel cenedl i raddau gormodol ydyw, mai dyfod i'r cysegr i dderbyn, ac nid yn gymaint i gyfiwyno, ydyw yr hyn sydd yn ofynol i ni. Ymddengys fodrhywbetu o'i le tra byddom yn parhau i ofyn am gymaint o bregethu yn ein haddoliadau cyhoeddus. Hwyrach fod pob cenedl yn well addolwyr na'r Cymry, ein bod ni wrth ymgyrhaedd at bethau ereill wedi gwanhau a cholli i raddau y duedd i addoli. Ni ddylai fod felly beth bynag, ond yn hytrach gyn- hyddu yn gyfartal yn mhob rhinwedd. Hyn yna i aros. Ydwyf, yr eiddoch, &c., J. JONES.
AD GO PI ON AM GYMRY LIVERPOOL.
News
Cite
Share
AD GO PI ON AM GYMRY LIVERPOOL. GAN CORFANYDD.' AIL GYFEES.—LLYTHYR XXV. Parhad Ofergoelion. Pob blwyddyn wedi dydd Nadolig, byddai yr hen Gymry yn parotoi i dalu i bawb eu dyledion cynt, neu erbyn y dydd olaf o'r flwyddyn. Ac ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn, ni thalent yr un ddimai i neb, gan y byddai hyny yn rhagfynegi iddynt mai tain dyledion a gaent yn ddiaros bob diwrnod drwyr flwyddyn. Fel hyn, byddent yn cadw eu hunain braidd oil i beidio bod yn nyled neb. Ni roddent ddim yn fenthyg i neb ar ddydd Calan- Ni chai Sian Ivan gymaint a goleuo ei chanwyll wrth dan Betti Jones, ei chymydog drws nesaf, gan y byddai hyny yn argoeli y deuai hi yno bob boreu drwy'r flwyddyn, yn lie bod ganddi hi yn ei thy flwch taro tan a'r fferis yn barod wrth law i gael taro tan pryd y mynai, heb fyned ar ofyn neb. Ac am y fegin, y byddai hi yn fenthyca braidd bob dydd, ni chai hi mo hono ar ddydd Calan. Byddai rhaid iddi wneud megin o'i cheg, neu fod heb yr un. Ac am yr holl bethau ereill y byddai hi yn fenthyca yn gyson ar ddyddiau ereill, ni chai yr un o honynt. Fel hyn y dysgai y Cymry darbodus ar bob dydd cyntaf o'r flwyddyn wers i bobl y benthyca. PEDOL TU OL I'R DEWS.—Yn mhob ty o'r hen Gymry ceid pedol yn hongian tu ol i ddrws y ty, y gweithdy, y beudy, a'r ystabl, ac hefyd yn y Houg- au. Yr oedd y bedol hon yn un o hanffodion ty yr amser gynt, i gadw ymaith bob dewin a drygfyd o hono. Ac nid yw y Corfandy yma yn sir Fon yn eithriad i'r peth hwnw canys wrth ochr j r ardd y tyf pren onen anferth ei faint, wrth foncyff pa un y bu cwt mochyn gan y trigianydd blaenorol. Oddeu- tu tair llath uwch ben y cwt y mae pedol wedi el hoelio ar y pren. Dywedir gan yr hen bobl mal cadw y ty rhag cael ei witchio gan hen wrageddos direidus, ac hefyd i gadw pob anffawd drwg oddi wrth y da a'r eiddo yn y ty, ac fe allai i gadw Y cythreuliaid oddiwrth y moch, a fu y dyben o hoelio y bedol ar hen onen y Corfandy. Dywedir mai pedol caseg yw y goreu oil i swyno yr holl bothau hyn. t COLLI YR IIALEN.—Yr oedd troi y llestr neu'r cwo halen a cholli yr halen yn argoeli rhyw anffawd. Dyma un o'r prif bethau cyntaf i mi i'w gofio a barodd ddychryn i'm meddwl. Pan nad oeddwn ond ysgrytyn bach pedair neu bum mlwydd oed, gyrwyd fi gyda'r cwch halen i brynu pwys o halen. Daethum yn ol yn ddigon diogel hyd nes y daethu at ddrws y ty, pryd y baglodd rhywbeth fy nhroe > a syrthiais fy hyd-gyd ar y palmant, a'r eweh hale a syrthiais fy hyd-gyd ar y palmant, a'r cwch halen yn chwirlio o'm blaen, gan daenu ei gynwys ar la-wr. Wel, dyma wchw fawr yn y fan fod anlwc yn sicr ddilyn; ond dyma Grasi William yn bloeddio alia ar fy mam i beidio fy ngheryddu o'r herwydd, on gymeryd dyrnaid o'r halen, a thaflu hwnw draph chefn i'r tan i'w losgi, ac y byddai hyny yn slCpft atal pob aflwydd. Felly y gwnawd yn y fan._ ,g un a fu rhinwedd yn y weithred hono neu beidio_n gKn, ac ni wybum hyd yn awr y bu un an waeth na cholli y pwys halen, yr hyn a gostio bum ceiniog y dyddiau hyny. i Nis gwn oddiar ba beth y tarddodd yr °^eTf°^- edd hyn. Ond wedi dyfod i oed a 3ynwyr, canty ais rai blynyddoedd yn ol, wrth graffu yn fanw fanylion pictiwr un o'r hen feistriaid, fod a lwydd ofnadwy yn cael ei gysylltu a throi y ut: cholli yr halen.. ^af Y pictiwr crybwylledig sydd un o'r rhai nodedig yn y byd o'r hen feistriaid. Leonar Vinci yw yr arlunydd, a'r testun yw y Swper yn mha un y mae Iachawdwr y byd, yn eis „ y gyda'r deuddeg disgybl wrth y bwrdd yn y noson cyn iddo gael ei fradychu. Tybiwn pictiwr yn arddangos yr amser ar ol i Gris wedyd, Y mae un o honoch a'm bradyeha. a ynddo yr holl ddisgyblion yn llawn ystyria phob gwynebpryd yn arddangos rhyw ddnna f odol a neillduol. Y mae pob peth ar y bwr ei hulio yn barod ac yn drefnus, ac y mae yn