Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYTHYIi Y METJDWY.

News
Cite
Share

LLYTHYIi Y METJDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) Bodd neu anfodd, cael neu golli, doeth neu annoeth, amserol neu allan o amser, neck or nothing, mae Mr. Watkin Williams, yr aelod droB fwrdeisdrefi Sir Dinbych, yn penderfynu yn ystod y mis presenol i ddwyn achos yr eglwys sefydledig yn Nghymru ger bron y Senedd. Nid yw yn ein bwriad ar hyn o fryn i Wneud un sylw ar y gwahaniaeth golygiadau a ymddengys yn ffynu mewn perthynas i gym- "Wysder neu anghymwysder Mr. Williams i gymeryd y pwnc pwysig hwn mewn llaw, yn gystal ag amseroldeb neu anamseroldeb ei gyn- ygiad. Mae yn meddu ar un cymhwysder beth bynag, a hyny yw ei fod yn fab i offeir- lad yr eglwys sefydledig yn Nghymru. Can gWell genym iddo ef, neu Mr. Osborne Morgan, yr hwn yr un wedd sydd fab i offeiriad, ym- aflyd yn y gorchwyl o gyhoeddi i byd wir sefyllfa yr eglwys wladol yn y Dywysogaeth, na phe buasai rhyw aelod anghydffurfiol yn ymgymeryd a'r fath dasg. Yn ddiau mae hawl gan aelod o unryw eglwys neu dy gynyg gwella yr hyn fyddo allan o le yn y naill neu'r llall. Byddai anghydffurfiaeth anghydffurfiwr yn bur debyg o weithio yn ei erbyn wrth drin matter o'r fath hwnfel blaenor o leiaf, a pherai i ragfarnau eglwyswyr wrychu yn ei erbyn. Mae llawer mwy o debygolrwydd rhwng yr eglwys Gymreig a'r un Wyddelig nac a fyn pleidwyr sefydliadau eglwysig addef. Mae yn wir taw rhan, mewn ystyr ddaiaryddol, o Brydain Fawr ydyw Cymru, a'u bod wedi cael eu gwneud yn un o ran deddfweinyddiad trwy ddeddfau seneddol: ond mown ystyrau pwys- ig eraill mae dirfawr wahaniaeth rhyngddynt. Alae Cymru yn Brotestanaidd i gyd oddigerth rhyw ychydig gyrinnlleidfaoedd o Wyidelod y rhai ydynt Babyddion. Dyna wahaniaeth I-aawr rhwng Cymru a'r Iwerddon: gyda golwg ar y pwnc o dderbyn tal y llywodraeth am Od Y so, u Cristionogaeth, nid oes dim gwahan- iaeth rhwng y Dywysogaeth a'r Ynys Werdd. Gfwirfoddolwyr yw y Pabyddion yn yr Iw- erddon, a gwirfoddolwyr yw yr Ymneillduwyr [brotestanaidd) yn Nghymru. Cynnaliai y aoyddion eu gweinidogion eu hunain yn yr I werddon, ac ymddangosai yr un mor afres- yoiol iddynt hwy i weled offeiriaid Protestan- aidd yr eglwys sefydledig yn cael eu talu yn ael am weinidogaethu yn ami i neb ond i'r lochYdd a thylwyth eu tai, ac yr ymddengys 1 Ymneillduwyr Protestanaidd Cymru i weled yr offeiriaid Cymreig yn cael eu gwobrwyo yn dda am ddarllen y gwasanaeth a phwt o breg- eth bryn mewn eglwysi yr un mor wag ar y 0 Z3 afebathau. Mac neillduolion eraill yn perth- yn i r eglwys sefydledig yn ISTghymru. Eglwys y lrfeistri yn benaf yw hi, a Saesonaeg ydyw a odiaeth arferol y gwyr hyny. Nid eglwys y oil ydyw hi yn bresenol, nac mewn gwir- lOUedd am dros gant o flyneddau. Llawfor- wyn Toryaeth a gormes ydyw yr eglwys Gym- reig wedi bod hyd yn bresenol, a gweision tirfeistri ydyw ei hoffeiriaid hi wedi bod, gydag ychydig i'w ryfeddu o eithriadau, bob amser. Gall cyfreithwyr fymtumiaw ei bod hi yn rhan o eglwys sefydledig Lloegr, ond mewn ffaith a gwirionedd gellid eu hysgaru yforu heb effeithio un mymryn ar un Loegr. Ac yn benaf oil yn ol dull Mr. Gladstone o resymu yn ei araeth dros ddadgysylltu a diwaddoli yr yr eglwys Wyddelig—eglwys y lleiafrif o ddigon ydyw yr un Gymreig. Nid yw, yr ydym yn ofni, Mr. Gladstone, wedi myned ddim yn mhellach yn mlaen yn ei wybodaeth o fatterion eglwysig nac athrawiaeth y mwyaf- rif a'r lleiafrif ac os glyna yn nghymaint a hyny o gred bydd yn ddigon i'w alluogi i bleidio yn ddigon cyson ac ef ei hun ac a'i ddaliadan dros ddiwaddoliad a dadgysylltiad yr eglwys Gymreig. Nis gall neb cydnabydd- us a sefyllfa grcfyddol y Dywysogaeth daeru fod angen am yr eglwys sefydledig yn Nghym- ru, oblegid mae'r wlad wedi myned eisoes trwy sel y gwahanol sectau, yn faes bron rhy gul iddynt i gario eu gweithrcdoedd yn mlaen heb fod yn euog, yn awr ac yn y man, o lad- ratta defaid eu gilydd, neu boachan ar breserves eu cymmydogion. Mae'r holl wlad wedi ei chuddio gan rwyd-waith o synagogau Ym- neillduol, ac nid yw y llan mewn cannoedd o blwyfi gwledig ond cortau i gynwys ychydig ddefaid diarddel. Gobeithio y gwna eich e Cymdeithas Ddiwygiadol Gymreig' chwi yn Liverpool yna ofalu am anfon copi o lythyrau AMSEROL ac anmhrisiadwy werthfawr y Dr. Wm. Rces at Mr. Gladstone mewn perthynas i'r eglwys yn Nghymru, at bob aelod o Dy y Cyffredin ddiwrnod neu ddau cyn y noson y bydd Mr. Watldn Williams yn dwyn yn mlaen ei gynnygiad. Os na lwydda yr epistolau hyny i oleuo dcall yr aelodau anrhydeddus, bydd yn llawn pryd i ollwng y sonedd pre- senol, a dewis pobl llai pendew i gynrychioli y rhan fwy goleuedig o ddeiliaid ei Mawrhydi. 0 am ragor o oleu yn cin senedd-dai!

GALANASTRA DYCHRYNLLYD YN…

TELEGRAM Y "PALL MALL."

DYMA HEFYD DELEGRAM Y "TIMES,"…

TAN MAWR YN NGWRECSAM.

Advertising

LLEOEDD I GODI CAPELI, A SYR…