Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
News
Cite
Share
Tyst cywir berchir lie b'o,-ei eirda'n Mhob ardal fydd iddo; Llwyr hyder lie y rhodio, lioi'r o hyd ar ei air 0."
LLEOEDD I GODI CAPELI, A SYR…
News
Cite
Share
LLEOEDD I GODI CAPELI, A SYR JOHN HANMER. Mae y pwnc yma yn haeddu mwy o sylw nag sydd wedi ei roddi iddo hyd yma. Blin oedd genym weled oddiwrth y mynegiad a wnaeth Mr Bruce, fod yn mwriad y llywodraeth gyf- yngu yr adran orfodol at ysgoldai yn unig. Bwriadant wneyd pob peth i hyrwyddo tros- glwyddiad tiroedd gan dirfeddianwyr fyddo yn ewyllysio eu rhoddi at adeiladu capeli; ond nid ydynt am gadw i fewn yr adran sydd yn gorfodi tirfeddianwyr i wneyd yn ol fel y saif yn awr yn ysgrifMr Osborne Morgan. A-ndwy- ir y mesur yn hollol drwy adael y rhan hono allan. Os na cheir. gallu i orfodi tirfeddian- wyr i roddi lleoedd at adeiladu capeli ni bydd- wn ddim gwell allan nag yr ydym yn awr. Pa fantais fydd rhyddhau y ffordd i ddynion i drosglwyddo eu tiroodd pan nad oes ganddynt un ewyllys at wneyd hyny. Yr ydym yn ofni fod perygl i'r Ymneillduwyr golli eu hyder yn y weinydcliaeth bresenol, er yr holl gymeradwyaeth a chefnogaeth y maent wedi ei roddi iddynt, os parhant yn hir etto i drin yn ysgafn y pethau a ystyrient eu hawliau teg a chyfiawn. Ychydig o gydymdeimlad sydd rhwng Mr Bruce a'r Ymneillduwyr; ac nis gallwn obeithio am lawcr o degweh oddiwrth unrhyw fesur ag y byddo ganddo ef law union- gyrchol yn ei ffurfiad. Mae wedi ei brofi tuhwnt i bob cladl fod tirfeddianwyr, a thir- feddianwyr yn N ghymru wedi gwrthod lleoedd at godi capcli. Nid ydym yn dyweyd fod yr ongreifftiau yn lluosog, llawer llai y dymuncm awgrymu fod holl dirfeddianwyr Cymru felly; canys gwyddom yn amgen, a bod llawer o honynt bob amser yn barod i roddi lleoedd i bob enwad fel eu gilydd i godi addoldai a hyny ar delerau teg a rhesymol. Ond nid gwiw ceisio cysgodi yr cuogion dan aden y rhai sydd ddieuog; ac yn y fan yna y camgym- erodd Syr John Hanmer, a cliamgymeriad enbyd a wnaeth. Os oes yn etholwyr Bwrdeis- drefi Fflint y dewder ddylai fod, mynant gael ganddo gyfaddefiad llwyr a llawn o'i anwiredd. Mae ei fai yn hollol anesgusodol. Nid oedd dim yn galw arno i wneyd yr ymosodiad brwnt a bustlaidd a wnaeth ar Mr Henry Richard, canys yr oedd Mr. Richard wedi bod yn dcligon gofalus i ddwoyd mai yn erbyn rhai o dirfeddianwyr Cymru yr oedd yn dwyn y cyhuddiad, ac nid yn eu herbyn yn gyffrcdinol. Nid oedd achos i Syr John Hanmer amddiffyii ei hun oblegid gwyddai pawb ei fod bob amser z;1 yn barod i roddi lleoedd at godi capeli i bob plaid yn ddiwahaniaeth; ac nid oedd achos iddo amddiffyn y lluaws sydd fel yntau yn barod, oblegid yr oedd hyny hefyd yn cael ei gydnabod. Diangenrhaid oedd amddiffyniad i'r rhai nad oedd cyhuddiad yn cael ei ddwyn yn eu herbyn. Bu Syr John Hanmer yn fyrbwyll yn ei amddiffyniad o dirfeistri sir Pflint; oblegid fel yr ymddengys yn awr y mae yr euogion yn agos at ei ddrws, ac yntau yn gyfrifol am eu hymddygiadau gan ei fod wedi ceisio taflu ei aden drostynt. Mae amryw 0 etholwyr Syr John wedi ei alw i gyfrif, ac yn mhlith eraill ysgrifenodd y Parch. Roger Edwards ato ar y mater, gwr hwyrach a gyd- nabyddir gan Ymneillduwyr sir Pflint eu hawdurdod uchaf. Mae amddiffyniad Syr John Hanmer yn ei lythyr at Mr Edwards yn un o'r pethau gwanaf a ddarllenasom erioed. Un o'r rhei hyny ydyW y boneddwr nad yw yn ddigon craff i ddeall anesmwythder ae anfoddlonrwydd gwlad nes y byddo wedi troi allan yn gythryfwl cyffredinol; nac yn deall fod tirfeistri yn gormesu nes y byddo hyny wedi ei gario mor bell nes y byddo gwlad ar fin gwrthyfel. Mae eiddigedd Syr John at Mr Henry Richard a'r aelodau Cymreig y mae eu cydymdeimlad yn drwyadl a'r bobl, i'w weled yn amlwg yn ei lythyr. Mae wedi ei ddangos fwy nag unwaith o'r blaen. Daeth i'r golwg mewn rhan pan y galwyd yr aelodau Rhyddfrydig drwy Gymru yn nghyd i ystyried pa beth a wneid gyda golwg ar y tenantiaid oedd wedi eu troi allan o'u tiroedd, ac y penderfynwyd ar fod i Mr If Richard alw sylw y Ty at y mater. Canlyn o hirbell yr oedd Syr John y pryd hwirW. Daeth ei deimlad ciddigus yn amlycach yn y nodyn bythgofus a anfonodd i gynnad- ledd y gorthrymedigion yn Aberystwyth. Nid oedd neb wedi dioddef yn Sir Flint, a phwy bwys gan hyny iddo ef oedd y byd mawr y tu allan i'w Sir ef. Yn ei araeth yn y senedd daeth yr ewin fforchog allan yn el hyd. Ni buasai raid iddo ddyweyd nad oedd wedi meddwl haner muuud cyn codi am ddy- weyd dim. Buasai pawb ar ol darllen ei ar- aeth yn deall hyny heb iddo ddyweyd dim* Ond maddeuasem iddo pe dywedasai mai mewn byrbwylldra y gwnaeth, a'i fod wedi adfeddwl yn gweled yn wahanol. Ond nid felly. Y mae ei lythyr mor llawn o'r un ysbryd ag erioed; ac er dangos iddo ei gamgymeriad trwy ffeithiau nas gallasai dyn o synwyr cyff redin lai na'u gweled, eto yn ei gyndynrwydd y glyna. Wei, nid oes genym ond ei adael1 etholwyr Sir Flint; gan sicrhau iddynt hWY ac yntau na byddwn yn ol ar bob cyfle 0 ddwyn ar gof ei weithredoedd ef;" ac os dlg wydd iddo ef eu hanghofio, byddant ar gof a chadw ar ddalenau newyddiaduron Cymru er byn dydd ymladd a rhyfel. Ond beth bynag a ddaw o Syr John Hanmer, dylem ddwyn pob dylanwad a feddwn fe gwlad o Ymneillduwyr i arweddu ar y senedd,
.% llt Cgmmg,
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
llt Cgmmg, DAN OLYGIAETII, Y Parche'digion W. Sees, D.D., J. Thomas, N. Stephens a Yi7". Roberts, Liverpool; a J. Davies, Caerdydd. Cyfrifa ya mysg ei ohebwyr rai o lenorion blaenaf ein ceneul—rhai o honynt yn rheolaidd, ac eraill yn a.ihlyaurol. Mae y rhai a ganlyn yn mysg ei feddian- wyr, neu wedi ysgrifeuu erthyglau a.r destynau gwladol eglwysig, ac yn addaw gwneud hyny hefyd eto: --Y Parchedigion J. R. Kilsby Jones; W. Ambrose (3im*ys), Portmadoc; R. Thomas (Ap Vychan), Ban- gor, D. Roberts (Dewi Ogwen), E. Evans (Herber), R. Ellis (Cynddelw), Caernarfon; D. Griffiths, Port- dinorwic; R. Williams (I-Iwfa Mon), Llundain; A. J. Parry, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; E. Ste- Tiiiyn-iarian; W. Evans, Aberaeron; O. Evans, Llanbrynmair; J.Lewis, Henllan J. Peters, Bala; T. Johns (Taborfryii), Llanelli; W. Thomas (G-wilym GiveiitTrwd); T.Rees,D.D., Abertawe R. W. Grif- fith, Bethel; D. Oliver, Llanberis; W. I."Morris, Pont- ypridd; H. Oliver, B.A., Newport; D. Rowlands,B.A., ( Dewi Mon), Trallwm E. Owen, Glydach O. Jones, xstalyfera; H. Rees, Caer; W. Griffith, Caorgybi; H. Jones, Gemaes; J. M. Prytherch, Wern; S. Evans, Hebron; W. Morgan, Caerfyrddin; W. Roberts, AbsriiondcTu J. B. Jones, B.A.,Penybont; J. Davies, Tauiirion; L. Probert, Bodringallt; T. Ll. Jones, Machen; W. Nicholson (Eldad Mon), Treflys; E. James (I. G. Eigion), Llanaelhaiarn; W. Thomas, Whitland; T. Thomas, Glandwr; R. Hughes, Cendl; K Hughes, Penmain; D. Richards, Caerphili; W. Jones, o India; H. E. Thomas, o America; T. Thomas, o Affrica; Meistri P. Mostyn Williams; J. Ceiriog Hughes; C. R. Jones, Llanfyllin; J. Williams, Trecyn- on; W. Tegerin Hughes, Gweirydd apRhys, R. Her- bort Williams (Corfanydd), Pont Menai T. Williams, Goitre; Titus Lewis, F.S.A.; W. E. Williams [Gwilym Alltwen], Caernarfon, yn nghyda lluaws o weinidog- ion a lleygwyr galluog eraill. 3_-=-
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Higr3 Daeth hanes cyfarfod ymadawol y Parch. L. Lake i'r swyddfa yn dclio,-el oddiwrth ein Gohebydd ffyddlon; a rhoddwyd ef yn llaw y cysodwyr, ond methwyd ei roddi i mown yr wythnos hono, a'r ail wythnos diangodd eu sylw; g phau ysgrifenodd ein gohebydd atom yn ei gylch yr oedd yu J hy ddiwedxlar i'w gyhoeddi; a Mr Lake wedi rhoddi i fyiiy ei fwriad i fyned i America, ac wedi derbyn galwad o Langcnech, sir Gaerfyrddin. Drwg genym fod hyn iwedi .1igwydd, ond yn gwbl ddif wriad y bu. ggsp Cawsom nodyn fod y Rhan I. o Ysgrifeniadau a Phre- gethau y diweddar Barch. D. Rees, Llanelli, wedi ei hanfon i ni i'v/ hadolygu, ond nid yw hyd yma, wedi ein cyrhaedd, Un oedd yn bresenol.—Yr oedd adroddiad arall yn llaw y cyssodyddcyn i'r eiddoch ddyfod i law. Adgoflon Cymry Lerpwl.—Yn Llythyr xxiii. darllener 1818 yn lie 1828. 'Rhon Ffarmwr ar hen bersoniaid.—Yn ein nesaf. gjg" Mae Mr Owen Jones, Galltyfoel, yn dymuno arnom gy- iiosddi ei nodyn atom; a chan fod ein colofnau gohebol yn llawn yr ydym yn ei roddi i mewn yrna Gallt y Foel, Ebrill 16eg, 1870. MriGol.,— Amlwg i bawb yn yr ardaloedd yma mai Eglwys Ebenezer, Llandinorwic, ydyw yr un y mae Gwynn Vaughan wedi tywallt ei enllib celwyddog am dani, ynei lith yn eich papur am ddoe; ac mai inyfi, Owen Jones, Gallt y Foel, Y" hwn a wasanaethodd yr Eglwys fel ysgrifenydd am y tymhor o 37 o flynyddau, ac felly 10 mlynedd o lelaf cyn geni Gwynn Vaughan, ydyw yr Owain Jack y soma am dano. A chan eich bod wedi agoryd eich eolofnau i dderbyn a chyhoeddi yr enllib gwenwynig hwn, hyderaf y byddweh mor ddiduedd a gadael i minau roddi gwahoddiad caredig i'r Gwynn Vaughan hwn ddyfod yn mlaen o dan ei enw priodol, i brofi gwirion- edd yr hyn a glywodd. Nid er gwybod pwy ydyw, y mae hyny mor hysbys a phwy oedd pen cleddyfwr ond er mwyn mantais i'r cyhoedd gael gwybod y gwirionedd, ac i gymeriad pob un o honom sefyll neu syrthio o flaen Byd ao Eglwys dan ein henwau priodol. Ydwyf, OWEN JONES, alias OWAIN JACK,' Gallt y Foel, Llandinorwic, Caernarfon. ggp? Daeth y nodyn a ganlyn oddiwrth ein hen gyfaill Mr Simon Jones. Clywsom am hen frawd gynt yr hwn pan ofynid iddo a oedd yn ddiacon, a ddywedai nad oedd, ond ei fod yn swyddog uwch, mai efe oedd yn edrych ar ol y diaconiaid, Buasai yn dda genym allu rhifo Mr S. Jones yn mysg ein gohebwyr ond gan nas gallwn gael hyny, ni eymerwn ef yn uwch swyddog i edrych ar ol y gohebwyr.
GAIR AT I I GWYLIEDYDD' ü'R…
News
Cite
Share
GAIR AT I I GWYLIEDYDD' ü'R TWR LLECHI. ?yr "Pa,rf" ddarllen eich adroddiad o Gymanfa Beth- es<ta gyda difyrweh mawr, a diolch yn fawr i chwi am dano, hyny yw, y darn cyutaf a'r olaf, ond wfft i'r darn canol. Yr oedd genych chwech o weinidogion, a darfu i chwi gymeryd 37 lnnell i adweyd enw y pregethwr, y capel, y testyn, ac awr yr ymgymuliacu Yn enw pob rheswm nid oes dim rheswm mewn peth iel hyn Buasai ehwech yn llawn ddigon i hyny, felly darfu i cliwi ddifrodi 31 llinell o'r fath bapur gwerthfawr 1'1' TYST, a hyny mown tiii rhifyn. Pe rhyw bapuryn llwfr a dmod fuasai yTYST ni buasai yn werth genyf yngan gair. Mao.y gohebwyr galluog wedi ei wneud yn un o'r papurau mwyaf talentog, ac yr ydych chwi yn un o honynt, am hyny yr wyf yn oich beio chwi yn fwy. Bydd pob hogyn difarf yn eich efelycliu, ac yn dwrdio am na cha ei restr yntau o enwau bechgyn a genethod ymddangos. Nid yw eich bod chwi yn un o'r gohebwyr gailriog a rheolaidd yn ddigon o reswm dros i chwi ddifrodi y colofnau. Yr ydwyf (wedi protestio, ac yn protestio, a gwnaf brotestio yn erbyn y fath arferiad plen- tynaidd a ffol. Fe ddywedir fod yn rhaid i bob dyn fwyta peoaic1 o ludw yn ei oes, ond ymae gorfodi dyn i fwyta pecaid bob wythaos yn rhy ddrwg, a thalu am y lludw hefyd. Mae petb. fel hyn yn ddigon er gyru dyn byrbwyll yn gynddeiriog o'i go', a thyngu a rhegu hefyd. T> i m ■„ „ • SIMON Jones; Bala, Ebrill 29am, 1870,
AT EIN D 0 SBARTHWYE.
News
Cite
Share
AT EIN D 0 SBARTHWYE. Bydd i MK. W. JOXES, Gomchwyliwr Swyddfa y TYST CTMIIEIG, alw heibio ein Dosbarthwyr yn y Grogledd yr wythnos gyn- taf a'r ail yn Mai. Erfyniwn ar bawb sydd heb wastadhau a'r swyddfa, barotoi erbyn ei ddy- fodiad.
TELERAU Y 'TYST.'
News
Cite
Share
TELERAU Y 'TYST.' Anfonir un rhifyn o'r TYST drwy y post i unrhyw le am chwarter am 2s 2g. Danfonir tri rhifyn i unrhyw fan am 3s 3c y chwarter ac anfonir chwech am 5s 6c y chwarter, a rhoddir dwy geiniog y swllt i'r Dosbarthwyr am unrhyw nifer a werthir uwchlaw hyny. Cofled ein dosbarthwyr mai yn drioadd yn unig yr ydym yn eu hanfon trwy y post. Cyfeirier y Gohebiaethau-l'o the Editors of the TYST CYM- rhig, 8, Brook's Alley, Old Post Office Place, Liverpool; a'r holl archebion a thaliadau am y TYST i'w gwneud i lib:. 0, THOMAS, i'r cyfeiriad uchod. Ac er arbed traul a choll amser, cyfeirier y Farddoniaeth oll i REV. R. WILLIAMS (Hwfa Mon), 10, Clayland Road, Kennington, LONDON.