Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
__..._,,_-----------------_--_._-____"""""…
News
Cite
Share
BYWIOLIAETHAU EGLWYSIG SIR DREFALDWYN. (Parhad o'r rhifyn ditveddaf.) Cawn yma osod ger bron esiampl o drefn cynhal- iad yr offeiriaid, trwy nodi bywioliaethau eglwysig y sir ag y mae ei henw uwch ben'einhysgrif. Nodir enwau y plwyfau, swm a gwerth pob bywioliaeth yn y sir, yn nghyd a rhif y boblogaeth ar gyfer pob bywioliaeth yn mhob plwyf. Yr ydym yn ddyledus am y cyfrif a ganlyn hefyd i'r Clergy List am y flwyddyn 1868, a dymunir sylw at y seren (*) a welir yn y naill fan a'r Hall, am ei bod yn arwyddo fod persondy yn perthyn i'r lie a enwir:— Aberhafesp,* 356p., pobl. 486; Alberbury,* (Salop a Maldwyn), 187p., pobl. 1,364; Criggion,* 108p., pobl. 187; Berriew,* 356p., pobl. 2,155; Bettws,* 211p., pobl. 730; Buttington,* 127p., pobl. 935 Carno, 95p., pobl. 969; Castle Caereinion,* 575p., pobl. 682; Cemmes,* 288p., pobl. 872; Church- stoke,* 151p., pobl. 1,323; Darowen,* 155p., pobl. 1,168; Dylife,* 200p., pobl. 858; Forden,* 119p., pobl. 926; Garthbeibio,* 140p., pobl. 326; Guils- field,* 360p., pobl. 1,956; Pool Quay, 250p., pobl. 420; Hirnant,* 135p., pobl. 295; Hyssington (Maldwyn a Salop), Snead, 161p., pobl. 341; 87p., pobl. 59 Kerry,* Dolfor, 330p.,pobl. 1,520; Sarn,* 98p., pobl. 641; Llanbrynmair,* 330p., pobl. 1,998; Llandinam, Banbaglog, 500p., pobl. 1,574; Llan- drinio,* 580p., pobl. 741 Llandysilio,* 430p., pobl. 689; Llandyssil,* 373p., pobl. 790; Llanerfyl, 435p., pobl. 827; Llangadfan,* 299p., pobl. 857 Llangurig, l75p., pobl. 1,641 Llangyniew,* 504p., pobl. 306; Llangynog,* 200p., pobl. 601 Llanid- loes,* 151p., pobl. 3,987; Llangullan, 60p., pobl. 304; Llanllwchaiarn,* 355p., pobl. 2,394; Llan- merewig, 133p., pobl. 148; Llanrhaiadr yn Moch- nant* (Dinbych a Maldwyn), 520p., pobl. 2,304 Llansantffraid yn Mechain,* 230p., pobl. 913; Llan- faircaereinion,* 358p., pobl. 2,439; Llanfechan,* 530p., pobl. 609; Llanfihangel yn Gwynfa, 334p., pobl. 546; Pont Dolanog,* 84p., pobl. 390; Llan- fyllin,* 650p., pobl. 1,868; Llanwddyn,* Patron, Earl of Powis, pobl. 529; Llanunog,* 220p., pobl. 1,631 Llanwrin,* 272p., pobl. 720; Llan- wyddelan,* 250p., pobl. 476 Llanymynach (Salop a Maldwyn), 394p., pobl. 951 Llwydiarth, Patron, Sir W. W. Wynn, B., pobl. 322; Lydham (Salop aMaldwyn), 463p., pobl. 205; Machynlleth,* 230p., pobl. 2,396; MaiRstone (Salop a Maldwyn), 293p., pobl. 365 Mallwych (Meirion a Maldwyn), 280p., pobl. 1,049; Manafon, 460p., pobl. 701; Meifod,* 490p., pobl. 1,039 Pontrobert, 178p.,pobl. 612 Bwlchycibau, 200p., pobl. 412; Trefaldwyn, 347p., pobl. 1,276; Monghtrey, neu Mochtre, 86p., pobl. 526; Newtown,* 406p., pobl. 3,692; Penegoes,* 250p., pobl. 793; Pennant,* Penybont, 185p., pobl. 712; Penrhos,* 141p., pobl. 976; Penstrowed,* 110p., pobl. 142; Tregynon, 167p., pobl. 703; Tref- eglwys,* 103p., pobl. 1,398; Trallwm,* 300p., pobl. 4,794; Trelystan,* 150p., pobl. 73; Leigbton, Ni welir Llanmigengel-y-gwynt ar y rhestr. Yn amryfus, gall ambell le fod heb ei enwi yn y Clergy List yn nghanol siroedd ein gwlad. Mae ein sylw yn ein llithau ar fywioliaethau Mon ac Arfon, Fflint a Dinbych, &c., gyda golwg ar Queen Ann's Bounty, Burial & Marriage Fees, Easter Dues, &c., yn wir- ionedd yma hefyd. Ystyrier y ffigyrau uchod, a gwneler y defnydd goreu o honynt, a deuir i weled grymus weithrediad gorfodaeth gyda golwg ar gyn- haliad yr offeiriaid. Gwir fod rhai Eglwyswyr yn arwyddo gryn hoffder o wirfoddoliaeth fel trefn cynhaliaeth crefydd y dyddiau hyn, ac y mae yn ddy- wenydd meddwl fod eu rhif yn lluosogi o ddydd i ddydd; ond fe welir fod yr Eglwys yn gaeth, hi a'i phlant: ie, ie, y mae Ymneillduwyr ac Anghyd- ffurfwyr dros eu holl fywyd dan gaethiwed o'i phlegid, Am hyny, fe gyfodir cri yn mhlaid dad- gysylltiad a dadwaddoliad yn mhob cwr o'n gwlad ae onid oes achos ? Oes, medd cyfiawnder, rhyddid, a heddwch; oes, medd hawliau gwleidyddol, dinas- yddol, a Christionogol deiliaid Prydain Fawr; oes, oes;medd myrdd o leisiau o bob parth. 3for ddy- munol fod yr iawnder o gydraddoldeb perffaith wedi ei sefydlu yn yr Iwerddon-yr hen gysylltiad an- achaidd rhwng yr Eglwys Brotestanaidd a'r Wlad- wriaeth yn yr Ynys annedwydd hono wedi ei dori am byth. Ac y mae y trefedigaethau Prydeinig o un i un yn dyfod i ymwrthod a chrefydd Sefydledig. Yn ddiweddar, dadgysylltwyd yr Eglwys yn Canada, a'r dyddiau o'r blaen cyrhaeddodd y newydd fod Senedd Victoria, Awstralia, wedi penderfynu, trwy fwyafrif mawr, na roddir ychwaneg o gyllid y wlad tuag at gynhaliaeth yr Eglwys yn y drefedigaeth hono. Arferid pleidleisio haner can mil o bunau yn flynyddol at yr amean hwnw ond yr oedd amryw o'r pleidiau crefyddol yn gwrthod derbyn yr hyn a gynhygid iddynt, oddiar barch tuag at yr egwyddor wirfoddol. Ac un o brif bynciau y dydd yn Nghym- ru a Lloegr ydyw cael gwaredigaeth o gaethiwed llygredigaeth undeb anghyfiawn yr Eglwys a'r Wladwriaeth—cydraddoldeb ar yr egwyddor wir- foddol-rhyddid gogoniant plant Duw. Hyfryd gweled y wlad wedi addfedu mor dda at hyn yma. Y mae y meusydd eisoes yn wynion i gynhauaf mawr gwir ryddid crefyddol. Ami y clywir Eglwyswyr yn dadleu yn hyf yn mhlaid dadgysylltiad a dad- waddoliad, am y credant yn anghyfiawnder yr un- deb, yn nghyd ag mai rhyddid ydyw ffordd anrhyd- eddus purdeb a llwyddiant crefydd yn y byd. Y dydd o'r blaen, dywedai un gwr Eglwysig tra chyf- rifol' ei fod yn credu y dylid dadgysylltu a dad- waddoli yr Eglwys yn Nghymru, &c., am ei fod yn llwyr argyhoeddedig fod y wlad yn credu yn ddi- ffuant na phregethai yr un offeiriad bregeth byth oni bai y degwm, &c., ac mai dyna un rheswm mawr fod yr Eglwys mor anmhoblogaidd ac annefnyddiol yn ein tir.' A da genym allu datgan nad yw y bonedd- wr teilwng uchod ond esiampl anrhydeddus o lu o i frodyr esgobyddol goleuedig ag sydd o'r un golyg- iadau rhyddfrydig ag ef ar y pwnc mewn dadl. Eto credwn fod genym frwydr fawr boeth i'w hymladd yn wrol a di-ildio cyn y dygir allan farn at wirion- edd-i fuddugoliaeth gyda golwg ar ddadgysylltiad a dadwaddolia.d yn Nghymru, &c. Ond rhaid ei hymladd costied a gostio. 'Fel y dywedai un-' Os y cyfarfyddwn yn yr achos yma a rhyw ymosodiad- au bryntion, mae yr achos yn werth y frwydr. Y mae y beddrod isel yn Thremopyke yn dyweyd mwy wrth y teithyddhaelfrydna'r Pyramidiauixchel-grib- Oanys pan ydoedd y tri chanwr o Sparta yn sefyll ar y cyfyng-fwlch rhwng mynydd Ætma a'r mor, i warchod rhyddfreiniau eu gwlad yn erbyn llu afrif- aid o oresgynwyr, yr oeddynt yn gwneud yr hyn a fydd byw yn nghalonau gwladgarwyr dewrion tra y parhao y byd; ac y mae rhyddfreiniau eglwysi Crist yn werthfawrocach nag ydoedd rhyddfreiniau Groeg. Boed i bob gweinidog, a phob Cristion sydd yn gwybod fod egwyddorion yr undeb yn llygredigf a dianrhydeddus i Grist, benderfynu y rhoddant derfyn ar gaethiwed yr Eglwys Sefydledig yn ein tir, trwy ddistrywio yr undeb anachaidd, a thrwy gymhorth Duw, hwy a lwyddant o'r diwedd. Nefyn. W. WILLIAMS. (Fw barhau.)
",.:;.."'---'':¡' DIWYGIAD…
News
Cite
Share
"¡' DIWYGIAD CREFYDDOL YN AMERICA. Derbyniodd Dr. Rees, Abertawy, lythyr maith oddiwrth'yr hen buritan Evan Evans, gynt o Nant- y-glo yn cynwys y dernyn dyddorol a ganlyn ar yr adfywiad grymus sydd mewn manau yn America:— Mae adfywiad nerthol wedi tori allan yn Cincin- nati-yn mysg y Saeson yn benaf, er fod yr Ellmyn a'r Cymry yn teimlo ei naws hefyd. Gwn y bydd yn dda genych gael ychydig o hanes am hwn. Yr oodd gweinidogion Cincinnati yn dy- weyd yn y Convention yn Portsmouth fod cyffroad wedi dechreu a'i fod yn ymledu. Erbyn i Mi gyr- haedd yno yr oedd y dref yn ferw trwyddi, a chyn oin bod yn dychwelyd yr oedd dros bum mil wedi eu derbyn rhwng gwahanol Eglwysi'r dref. Nid oedd dim chwanegiad yn yr Eglwysi Cymreig yno y pryd hwnw, ond yr oedd naws y tan yn y cwrdd cwarter. Derbyniais lythyr diwedd Chwefror oddiwrth wein- idog y Methodistiaid yn dweyd ei fod yn y Cwrdd Parotoad y nos o'r blaen yn cael y fraint o dderbyn 37 i fod yn aelodau cyflawn, heblaw ereill ar brawf, a bod 30 ereill wedi dyfod i'r gyfeillach y pryd hwnw. Nis cefais gyfle i fyned i ddim o gyfarfodydd y Saeson yn Cincinnati, ond cefais gyfle i gael llawer o'u hanes, a gweled eu hanes yn y papurau. Un pctli hynod yn yr adfywiad hwn yw, mai plant a rhai tra ieuaingc yw ei wrthrychau bron oil; ac ad- roddid pethau dyddorol iawn am lawer o blant. Dywedodd un gweinidog nas gwelodd efe erioed fwy o (latent na mwy o yspryd gweddi nac a welodd yn nghwrdd gweddi y plant. Bechgyn bychain, a merched bychain yn gweddio yn gyhoeddus gyda gwres a thaerineb; ond o bob peth-y peth aeth fwyaf at ei galon ef oedd gweddi merch fechan tua 10 neu 11 oed yn nghwrdd y plant a gedwid ar ol cwrdd cyhoeddus, yr hon yn mysg pethau ereill a ddywedai '0 Arglwydd helpa fi trwy dy gariad fel na byddo cywilydd arnaf i ddweyd wrth y plant fyddo yn cydchwarae a mi am gariad Iesu.' Dywedai y Dr. Rust (gweinidog yn y dref) ei fod yn ystyried tywalltiad yr yspryd ar y plant yn un o arwyddion goreu yr adfywiad, gan mai o fyag rhai wedi eu dychwelyd yn blant yr oedd yr Ysbryd Glan yn codi y rhan amlaf o 'genhadon (Missionaries), gweinidogion, ac athrawon yr ysgol Sabbothol. Yr oedd efe wedi bod yn ddiweddar yn nghyfeillach deg o weinidogion.gyda'u gilydd, ac yr oedd naiv o honynt wedi eu dychwelyd pan yn blant. Pan ddaethum i Portsmouth ar ein ffordd adref, yr oedd y tan wedi cyrhaedd yno a chan ein bod yn aros yn y dref tros nos cyn cael train i fyned y y gweddill o'r ffordd, aethum gyda gwr y ty lie lletyem i gapel yr Episcopal Methodists i'r cwrdd gweddi, yr hwn oedd yn dechreu am 7, ac a barha- odd tan agos 10 o'r gloch, pryd y gwelais olygfa nad anghofiaf yn fuan. Wedi i'r Parch. Mr Gard- ner, y gweinidog, agor y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio, a rhoddi anerchiad tros tua 10 munud, dy- wedodd Os bydd yma neb yn teimlo trallod am ei gyflwr ger bron Duw deued yn mlaen i'r sedd fawr pan fyddo y gynulleidfa yn canu,' ac yna rhoddodd benill allan. Pan ddechreuwyd canu daeth merch tuag 11 nou 12 oed yn mlaen ac aeth ar ei gliniau yn nghwr pellaf y sedd, daeth ereill o un i un yn feibion a merched-y meibion y naill ben i'r sedd, a'r merched y pen arall-pob un yn myned ar ei liniau nes oedd erbyn diwedd y canu y tro hwnw 18 yno. Pan welodd Mr Gardner hyny aeth at bedair o wragedd oedd yn y cwrdd, a gorchymynodd yn ddystaw iddynt fyned at y merched bach, a myned ar eu gliniau yn eu hymyl a siarad yn ddystaw a hwy bob yn un ar amser y canu, a thewi ar amser y gweddio ac anfonodd wrywod yr un fat at y meib- ion. Cyn diwedd yr ail ganu daeth llawer rhagor yn mlaen nes oedd y sedd fawr bron yn llawn, a gorfu ar y gweinidog anfon chwaneg o rai i ymddi- ddan a hwy. Erbyn bod y trydydd ar weddi yr oedd swn yr wylo trwy bob congl o'r ty yn boddi swn y gweddiwr; a chyn diwedd yr oedfa yr oedd yno lawer yn gwaeddi allan Oh'! what shall I do ?' Oh Lord Jesus, save me,' &c. Amryw o'r rhaihyn yn foneddigesau ieuaingc, a meibion y teuluoedd parclmsaf yn y dref. A swn wylo yn bur gyffred- inol. Nid oedd dim yn cael ei wneud i gyffrai y teimladau fel yn nghyrddau diwygiadol rhyw rai yn y wlad yna-dim ond cwrdd gweddi ewbl syml. Cyn gollwng y gynulleidfa, rhybuddiodd Mr Gardner, mewn llais uchel fel y clywai pawb ef, Na byddai i neb ar unrhyw gyfrif ddweyd dim i ddi- galoni y rhai oedd tan wasgfa; nac ar un cyfrif ddweyd dim yn isel am yr wylo a'r gwaeddi allan, olilegid, ebe fe, os caniatewch i ddyn yn gweled perygl am ei fywyd naturiol waeddi, pa faint mwy pan yn gweled perygl tragwyddol. ,r.=,1N"f
[No title]
News
Cite
Share
EBENEZER, CEFNCOEDYCYMER.—Traddodwyd dar- lith yn y lie uchod nos Fawrth, Ebrill 26ain, ar Gerddoriaeth,' gan y Parch. E. Stephens, Tany- marian. Cafwyd y cyfarfod yn bob peth ag a alles- id ei ddisgwyl a'i ddymuno.-Gohebydd.
ADOLYGIAD Y WASG.
News
Cite
Share
ADOLYGIAD Y WASG. CYDYMAITH Y PLENTYN: gan y Parch. G. Jones, Cefncribwr. Cynwysa y llyfr bychan hwn lawer o hanesydd- iaeth-Ysgrythyrol, ac o Dduwinyddiaeth, wedi eu trefnu a'u gosod allan mewn ffordd eglur a deniad- ol. Y mae yn neillduol gymhwys at wasanaeth yr Ysgolion Sabbothol, a bydd y plant a'u dysgo yn gyfarwydd yn mhrif bethau y Beibl, a phynciau pwysicaf y ffydd Gristionogol. EDWARD ROBERTS. Cwmavon, Ebrill 26ain, 1870.
[No title]
News
Cite
Share
T.UELYN.-Codiad pris.—Mae yn dda genyf hys- bysu darllenwyr lluosog y TYST fod glowyr y gym- mydogaeth hon wedi cael tair ceiniog y dunell 0 gsdiad gan eu meistri. Maent wedi dechreu gweithio ar y codiad er y dydd cyntaf o'r mis hvvll- Well done, onide ?—Iorwerth Wyn. DYRCHAFIAD I GYMRo.-Mae yn dda genym gael ar ddeall fod Mr D. E. Jones, gynt o Goleg Caer- fyrddin, wedi pasio yn llwyddianus ei arholiad dl- weddaf am y gradd o M.A. yn Mhrifysgol Glasgow. Dymunem hir oes ac iechyd i Mr Jones i fod o ddef- nyddioldeb mawr i'w genedl a'r oes sy'n cyfodi. GWERLLWYN, DOWLAIS.—Y mae yr eglwys hon wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. D. Thomasp Abercanaid, Merthyr, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd; ac y mae yntan erbyn hyn wedi atteb y gadarnhaol. Bwriada ddechreu yma o hyn i ben tn mis.-P. M. ABERDYEI.—Traddodwyd darlith ar 'Haelioni,' YD y Market Hall, Aberdyfi, nos Fawrth, Ebrill 26ailly gan y Parch. W. Perkins, Pennal. Cymerwyd Y gadair gan John Foulkes, Ysw., Aberdyfi, a llytt'' yddodd y cyfarfod yn deilwng o hono ei hun. Caf- wyd darlith ardderchog; ac yr oedd pawb a fu yn el gwrando yn ymddangos yn eglur eu bod wedi cael eu gwir foddloni yn|y darlithydd. Da oedd geny"1 weled Dr. Pugh, Ysw., a'r Parch. F. Jones (M; yn mysg y gynulleidfa. Y mynediad i mewn ilr cyfarfod trwy docynau. Yr elw atgapel newydd f- Annibynwyr yn Pennal.Ilarch Glan IJyfi. COLY.— Urddiad.—Ebrill 16eg a'r 17eg, urddwyd Mr Daniel Davies, o Ebenezer, weinidog i'r eglwys gynulleidfaol yn y lie uchod. Sabboth, am 2, dechreuodd y Parch. J. Evans, Y deg a phregethodd y Parchn. W. Morgans, Troea- yrhyw; ac R. Griffiths, Cefncoedycymer. Am > dechreuodd R. Griffiths, a phregethodd ef a Evans. Am 10, boreu dydd Llun, dechreuodd y Parch. J. Miles, Bethesdr, Merthyr, a phregethoa Parch. D. Thomas, Abercanaid, ar Natur Eglvvy"' Holwyd y gofyniadau gan J. Evans, pa rai a attePj wyd yn fyr, crynt!*Fa boddhaol. Offrymwyd yr weddi gan y Parch. J. Bowen, Penydarren. *r