Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

__..._,,_-----------------_--_._-____"""""…

News
Cite
Share

BYWIOLIAETHAU EGLWYSIG SIR DREFALDWYN. (Parhad o'r rhifyn ditveddaf.) Cawn yma osod ger bron esiampl o drefn cynhal- iad yr offeiriaid, trwy nodi bywioliaethau eglwysig y sir ag y mae ei henw uwch ben'einhysgrif. Nodir enwau y plwyfau, swm a gwerth pob bywioliaeth yn y sir, yn nghyd a rhif y boblogaeth ar gyfer pob bywioliaeth yn mhob plwyf. Yr ydym yn ddyledus am y cyfrif a ganlyn hefyd i'r Clergy List am y flwyddyn 1868, a dymunir sylw at y seren (*) a welir yn y naill fan a'r Hall, am ei bod yn arwyddo fod persondy yn perthyn i'r lie a enwir:— Aberhafesp,* 356p., pobl. 486; Alberbury,* (Salop a Maldwyn), 187p., pobl. 1,364; Criggion,* 108p., pobl. 187; Berriew,* 356p., pobl. 2,155; Bettws,* 211p., pobl. 730; Buttington,* 127p., pobl. 935 Carno, 95p., pobl. 969; Castle Caereinion,* 575p., pobl. 682; Cemmes,* 288p., pobl. 872; Church- stoke,* 151p., pobl. 1,323; Darowen,* 155p., pobl. 1,168; Dylife,* 200p., pobl. 858; Forden,* 119p., pobl. 926; Garthbeibio,* 140p., pobl. 326; Guils- field,* 360p., pobl. 1,956; Pool Quay, 250p., pobl. 420; Hirnant,* 135p., pobl. 295; Hyssington (Maldwyn a Salop), Snead, 161p., pobl. 341; 87p., pobl. 59 Kerry,* Dolfor, 330p.,pobl. 1,520; Sarn,* 98p., pobl. 641; Llanbrynmair,* 330p., pobl. 1,998; Llandinam, Banbaglog, 500p., pobl. 1,574; Llan- drinio,* 580p., pobl. 741 Llandysilio,* 430p., pobl. 689; Llandyssil,* 373p., pobl. 790; Llanerfyl, 435p., pobl. 827; Llangadfan,* 299p., pobl. 857 Llangurig, l75p., pobl. 1,641 Llangyniew,* 504p., pobl. 306; Llangynog,* 200p., pobl. 601 Llanid- loes,* 151p., pobl. 3,987; Llangullan, 60p., pobl. 304; Llanllwchaiarn,* 355p., pobl. 2,394; Llan- merewig, 133p., pobl. 148; Llanrhaiadr yn Moch- nant* (Dinbych a Maldwyn), 520p., pobl. 2,304 Llansantffraid yn Mechain,* 230p., pobl. 913; Llan- faircaereinion,* 358p., pobl. 2,439; Llanfechan,* 530p., pobl. 609; Llanfihangel yn Gwynfa, 334p., pobl. 546; Pont Dolanog,* 84p., pobl. 390; Llan- fyllin,* 650p., pobl. 1,868; Llanwddyn,* Patron, Earl of Powis, pobl. 529; Llanunog,* 220p., pobl. 1,631 Llanwrin,* 272p., pobl. 720; Llan- wyddelan,* 250p., pobl. 476 Llanymynach (Salop a Maldwyn), 394p., pobl. 951 Llwydiarth, Patron, Sir W. W. Wynn, B., pobl. 322; Lydham (Salop aMaldwyn), 463p., pobl. 205; Machynlleth,* 230p., pobl. 2,396; MaiRstone (Salop a Maldwyn), 293p., pobl. 365 Mallwych (Meirion a Maldwyn), 280p., pobl. 1,049; Manafon, 460p., pobl. 701; Meifod,* 490p., pobl. 1,039 Pontrobert, 178p.,pobl. 612 Bwlchycibau, 200p., pobl. 412; Trefaldwyn, 347p., pobl. 1,276; Monghtrey, neu Mochtre, 86p., pobl. 526; Newtown,* 406p., pobl. 3,692; Penegoes,* 250p., pobl. 793; Pennant,* Penybont, 185p., pobl. 712; Penrhos,* 141p., pobl. 976; Penstrowed,* 110p., pobl. 142; Tregynon, 167p., pobl. 703; Tref- eglwys,* 103p., pobl. 1,398; Trallwm,* 300p., pobl. 4,794; Trelystan,* 150p., pobl. 73; Leigbton, Ni welir Llanmigengel-y-gwynt ar y rhestr. Yn amryfus, gall ambell le fod heb ei enwi yn y Clergy List yn nghanol siroedd ein gwlad. Mae ein sylw yn ein llithau ar fywioliaethau Mon ac Arfon, Fflint a Dinbych, &c., gyda golwg ar Queen Ann's Bounty, Burial & Marriage Fees, Easter Dues, &c., yn wir- ionedd yma hefyd. Ystyrier y ffigyrau uchod, a gwneler y defnydd goreu o honynt, a deuir i weled grymus weithrediad gorfodaeth gyda golwg ar gyn- haliad yr offeiriaid. Gwir fod rhai Eglwyswyr yn arwyddo gryn hoffder o wirfoddoliaeth fel trefn cynhaliaeth crefydd y dyddiau hyn, ac y mae yn ddy- wenydd meddwl fod eu rhif yn lluosogi o ddydd i ddydd; ond fe welir fod yr Eglwys yn gaeth, hi a'i phlant: ie, ie, y mae Ymneillduwyr ac Anghyd- ffurfwyr dros eu holl fywyd dan gaethiwed o'i phlegid, Am hyny, fe gyfodir cri yn mhlaid dad- gysylltiad a dadwaddoliad yn mhob cwr o'n gwlad ae onid oes achos ? Oes, medd cyfiawnder, rhyddid, a heddwch; oes, medd hawliau gwleidyddol, dinas- yddol, a Christionogol deiliaid Prydain Fawr; oes, oes;medd myrdd o leisiau o bob parth. 3for ddy- munol fod yr iawnder o gydraddoldeb perffaith wedi ei sefydlu yn yr Iwerddon-yr hen gysylltiad an- achaidd rhwng yr Eglwys Brotestanaidd a'r Wlad- wriaeth yn yr Ynys annedwydd hono wedi ei dori am byth. Ac y mae y trefedigaethau Prydeinig o un i un yn dyfod i ymwrthod a chrefydd Sefydledig. Yn ddiweddar, dadgysylltwyd yr Eglwys yn Canada, a'r dyddiau o'r blaen cyrhaeddodd y newydd fod Senedd Victoria, Awstralia, wedi penderfynu, trwy fwyafrif mawr, na roddir ychwaneg o gyllid y wlad tuag at gynhaliaeth yr Eglwys yn y drefedigaeth hono. Arferid pleidleisio haner can mil o bunau yn flynyddol at yr amean hwnw ond yr oedd amryw o'r pleidiau crefyddol yn gwrthod derbyn yr hyn a gynhygid iddynt, oddiar barch tuag at yr egwyddor wirfoddol. Ac un o brif bynciau y dydd yn Nghym- ru a Lloegr ydyw cael gwaredigaeth o gaethiwed llygredigaeth undeb anghyfiawn yr Eglwys a'r Wladwriaeth—cydraddoldeb ar yr egwyddor wir- foddol-rhyddid gogoniant plant Duw. Hyfryd gweled y wlad wedi addfedu mor dda at hyn yma. Y mae y meusydd eisoes yn wynion i gynhauaf mawr gwir ryddid crefyddol. Ami y clywir Eglwyswyr yn dadleu yn hyf yn mhlaid dadgysylltiad a dad- waddoliad, am y credant yn anghyfiawnder yr un- deb, yn nghyd ag mai rhyddid ydyw ffordd anrhyd- eddus purdeb a llwyddiant crefydd yn y byd. Y dydd o'r blaen, dywedai un gwr Eglwysig tra chyf- rifol' ei fod yn credu y dylid dadgysylltu a dad- waddoli yr Eglwys yn Nghymru, &c., am ei fod yn llwyr argyhoeddedig fod y wlad yn credu yn ddi- ffuant na phregethai yr un offeiriad bregeth byth oni bai y degwm, &c., ac mai dyna un rheswm mawr fod yr Eglwys mor anmhoblogaidd ac annefnyddiol yn ein tir.' A da genym allu datgan nad yw y bonedd- wr teilwng uchod ond esiampl anrhydeddus o lu o i frodyr esgobyddol goleuedig ag sydd o'r un golyg- iadau rhyddfrydig ag ef ar y pwnc mewn dadl. Eto credwn fod genym frwydr fawr boeth i'w hymladd yn wrol a di-ildio cyn y dygir allan farn at wirion- edd-i fuddugoliaeth gyda golwg ar ddadgysylltiad a dadwaddolia.d yn Nghymru, &c. Ond rhaid ei hymladd costied a gostio. 'Fel y dywedai un-' Os y cyfarfyddwn yn yr achos yma a rhyw ymosodiad- au bryntion, mae yr achos yn werth y frwydr. Y mae y beddrod isel yn Thremopyke yn dyweyd mwy wrth y teithyddhaelfrydna'r Pyramidiauixchel-grib- Oanys pan ydoedd y tri chanwr o Sparta yn sefyll ar y cyfyng-fwlch rhwng mynydd Ætma a'r mor, i warchod rhyddfreiniau eu gwlad yn erbyn llu afrif- aid o oresgynwyr, yr oeddynt yn gwneud yr hyn a fydd byw yn nghalonau gwladgarwyr dewrion tra y parhao y byd; ac y mae rhyddfreiniau eglwysi Crist yn werthfawrocach nag ydoedd rhyddfreiniau Groeg. Boed i bob gweinidog, a phob Cristion sydd yn gwybod fod egwyddorion yr undeb yn llygredigf a dianrhydeddus i Grist, benderfynu y rhoddant derfyn ar gaethiwed yr Eglwys Sefydledig yn ein tir, trwy ddistrywio yr undeb anachaidd, a thrwy gymhorth Duw, hwy a lwyddant o'r diwedd. Nefyn. W. WILLIAMS. (Fw barhau.)

",.:;.."'---'':¡' DIWYGIAD…

[No title]

ADOLYGIAD Y WASG.

[No title]