Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

.NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. Webxiiam.—Diwrnod pur fywiog oedd dydd Iau, Ebrill 28ain. yn ein trcf, sef diwrnod dyfodiad Aer Erddig, palasdy gerllaw i'w oed. Ymgynullodd oddeutu 12 cant o blant ac athrawon yr ysgolion Sabbothol perthynol i wahanol enwadau y dref, a ffurfiasant yn un orymdaith fawr gyda baneri yn eu dwylaw, Brass Band y Volunteers o'u blaen, ac aethant tualr plas--Ile wedi eu presantio a phlat arian mawr, wedi ei gerflo &c., yn hardd, ac wedi costio oddeutu lOOp., ac areithio a chanu, dychwelasant i'r dref i'r gwahanol gapeli i fwynhau cwpanaid 0 de. Dylaswn ddweyd fod y plat wedi ei bwrcasu gyda rhoddion gwahanol dradesmen y dref. Wedi dar- fod y te a chwareu yn ddiniwed aeth pawb ei ffordd eu hun yn llawen. Dydd Sul a'r Llun canlynol y laf a'r 2fed o Fai, cynhaliodd yr Annibynwyr Cym- reig eu cyfarfod blynyddol, pryd y prgetliodd y Parchedigion Evans, Carnarvon Thomas, Bangor Rowlands, Rhyl; Jenkins, Drefnewydd. Fe hau- wyd llawer o had, a gobeithir y gwelir cynhauaf ffrwythlawn, ac y caiff yr Eglwys les a Duw ogon- iant.-Alaw Alun. Mostyn.—Ysgol newydd anenwadol.—Cynhaliwyd seremoni ddyddorol iawn yn Mostyn, ddydd Mawrth diweddaf, mewn perthynas ag addysg. Yr oedd yn mwriad Ymneillduwyr yr ardal er's blynyddoedd lawer i godi ysgoldycyfleus i'r ysgol a gychwynasid dros ddeugain mlynedd yn ol ynglyn ag addoldy yr Annibynwyr. Penodwyd man cyfleus i godi yr adeilad arno, a bu y diweddar Barch. Hugh Pugh, Mr Enoch Lewis, Mr P. Mostyn Williams, ac ereill yn trefnu cynlluniau er dwyn yr amcan i weithred- iad. Yn awr, y mae Lady Augusta Mostyn, gwoddw yr Anrhyd. T. E. M. LI. Mostyn yr hwn oedd fab i Arglwydd Mostyn, wedi cymeryd y gorchwyl mewn llaw ei hunan o godi yr ysgoldy a thalu am dano. Dydd Mawrth diweddaf, daeth Lady Mostyn yno i dori y dywarchen gyntaf. Yr oedd Lord Mostyn, y Misses Mostyn, a'r Anrhyd. Roger Mostyn hefyd yno, ynghyda Mr Charton, Captain Charlton, Mri Enoch Lewis, E. P. Davies, J. Davies, Wern, P. M. Williams, Captain Davies, a lluaws ereill. Yr oedd plant ysgol Mostyn, a phlant Ffynongroyw yn y cynulliad yr hwn a rifai oddeutu chwe chant o bobl. Eglurodd Mr Charlton y telerau ar ba rai y sefydlid yr ysgol. Ymddiriedid y management i ddwylaw Trustees yn cynrychioli y gwahanol enwadau, ac yr oedd yr addysg i fod yn hollol anenwadol. Wedi i Lady Mostyn gyflawni ei gwaith, cynhygiwyd diolchgarwch iddi gan Mr Enoch Lewis, a chydna- byddwyd hyny gan Lord Mostyn. Derbyniwyd y naill a'r llall gan y dorf frwdfrydig gyda banllefau o gymeradwyaeth.—Gohebydd. Cynhadledd Y GLOWYR YN W RexHAM.-Ailagor- wyd y gynhadledd uchod yn y Town Hall, Wrexham, ddydd Mercher, yr 20fed. Llywydd, Mr. Halliday. Dywedodd Mr. Rome, wrth siarad dros Ogledd Cymru, nad oeddynt yn barod i ddechreu yno eto, ond mor fuan ag y deuent yn unol ar y pwngc, saf- ant am dano. Ymddengys nad yw y torwyr glo yn gweithio mwy nag 8 awr, ond y mae y gweddill oil yn gweithio o 9 i.12 awr. Yr oedd yn angenrheid- iol i gael eu cydweithrediad cyn y gallent sefyll am y cyfnewidiad. Nid oedd Gogleddbarth Stafford- shire a Deheudir Cymru yn barod eto i ddechreu. Ar gynhygiad Mr. Booth, Oldham, a ehefnogiad Mr. Silcock, Wigan, penderfynwyd i ofyn i'r holl barthau undebol oedd eto heb wneyd y cyfnewidiad, i ddechreu gweithio 8 awr mor fuan ag oedd modd. -Dydd Iau.—Mr Halliday yn llywyddu. Y pwnc cyntaf dan sylw oedd mesur Rheoleiddiad Glofeydd, Mr. Bruce. Awgrymodd y llywydd mai y peth penaf yn y mesur, yn ei sefyllfa bresenol, ydoedd cyfartaledd y gosp ar feistri a gweithwyr am dori y rheolau; ond yr oedd meddianwyr yn ceisio dileu y gosp o'r mesur, a dirwyo y meistri yn unig, yn lie bod yn agored fel y gweithwyr i ddirwy neu gar- chariad. Galwodd sylw hefyd at y ffaith nad oedd darpariaeth briodol yn cael ei wneyd am ymchwil- iad trwyadl i weithfaoedd glo. Yn ol*y mesur gell- ir gosod bechgyn i weithio pedair-awr-ar-ddeg mewn un dydd. Dylai fod gwelliant i ddileu y truck system, a derbyn taliadau wythnosol. Dylai fod rhyw ddarpariaeth i ddysgu bechgyn wedi pasio 12 oed. Nid oedd yn cynwys dim i orfodi Gor- uchwylwyr i bwyso y glo a godir gan y glowyr, neu o berthynas i Oruchwylwylddangos eu medrusrwydd. Awgrymodd MrLewis (Wigan) nad oedd ef wedi gweled ymchwiliwr mewn gwaith glo yn ystod y 29 mlynedd yr oedd ef wedi bod mewn pwll. Ac aw. grymodd Mr Mitchard (Deheudir Cymru), ar ol y danchwa yn Farndale, fod yr ymchwiliwr wedi cyf- addef nad oedd ef yn gwybod fod y pwll yn cael ei awyru yn briodol ond oddiwrth y map oedd yn dan- dangos rhedfa yr awyr, yr hwn oedd yn swyddfa y glofa. Cynhygiodd Mr Broome (Oldham), a chef- nogodd Mr Mitchard, y penderfyniad Nad oedd y mesur rheoleiddiad cloddfeydd cynhygiedig yn fodd- haol i'r gynhadledd hon.' Cynhygiodd Mr Silcock (Wigan), a chefnogodd Mr J. Booth (Oldham), Fod y gwelliantau i'r mesur a gynhygiwyd gan ddir- prwyaeth y glowyr i gael eu derbyn gan y glowyr, ac y dylid gofyn i'r Weinyddiaeth i'w corphori yn eu mesur hwy. Yr oedd y gwelliantau hyn yn cyn- wys darpariaeth nad oedd bechgyn dros 12 oed ac o dan 14 i gael gweithio dros 50 awr mewn un wyth- nos, yn lie heb fod dros 12 awr mewn. un dydd fel yn y mesur. Y dylid rhoddi moddion i ddysgu plant yn gweithio mewn glofeydd rhwng 12 ac 16 oed dros am ddim llai na 10 awr yr wythnos; fod y cyflog i gael ei dalu yn wythnosol; fod y glo i gael ei bwyso; fod rhagor o ofal mewn arolygiaeth glofeydd yn ofynol; ac y dylid sicrhau arolygwyr medrus a phriodol; fod goruchwylwyr ac arolygwyr glofeydd i gael eu hawdurdodi, ac y dylid darparu ymchwil- iad ychwanegol. Yn ychwanegol at y gwelliantau hyn i'r mesur, cynhygiodd Mr Mitchard, a chefnog- odd Mr Owens (Moss), I I !ofvn i'r Llywodraeth i appwyntio boneddwyr profiadol fel archwilwyr; fod peirianydd i gael ei gadw bob amser gyda'r peiriant yn mhen y pwll tra .byddo personau yn gweithio dan y ddaear, &c.' Cariwyd yn unfrydol.

Advertising

[No title]

HYSBYSIADAU CYMANFAOEDD, GHYEARFODYDD…

TY Y CYFFREDIN.