Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

'NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR…

News
Cite
Share

'NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR WELLT. Mis Ebrill eleni oeddein mis ni yma. Dau ar bymtheg o deuluoedd sydd yn nglyn ar Hen Dy Cwrdd yn "cadw mis;" felly nid yr un adeg o'r flwyddyn y mae ein mis ni bob amser yn digwydd. Mae y -air "cadw mis" fe ddichon yn ddyeithr i lawer o ddarllenwyr y Tyst; oblegid yn ol yr hyn wyf yn ei glywed nid yw yn ddefod ond mewn rhai parthau o'r wlad. Dyna y drefn yn yrholl eglwysi y ffordd yma. Ryw nifer o deulaoedd ar yr ail fis yn cadw y pregethwyr fyddo yn dyfod heibio ac yn myned a bwyd i'r gweinidog at y Ty Cwrdd bob tro y byddo cwrdd, yr un fath ag i ddyn dyeithr. Os ar hyd y dydd y bydd dyn dyeithr, y maent yn myned a bwyd i'r ty wrth y Ty Cwrdd; ond os bydd dyn dyeithr yno yn y nos, os bydd lie y mis yn agos fe fydd yn myned yno i gysgu ac i gael bwyd; ac fe fydd rhai o'r rhai sydd yn byw yn mhell fel ni yn talu am eu lie yn y siop i Mrs. Davies. Wrth ein bod ni yn mhell ychydig fydd yn dod yma pan bo'n mis ni; os na bydd ryw un a cheffyl ganddo, ac yn myned dranoeth i rywle y byddwn ni ar ei ffordd. Mae y bobl sydd yn cadw mis' fyn- ychaf yn eiddigus iawn na byddo neb yn myned a'u pregethwyr hwy yn eu mis; ac yn enwedig os bydd y mis yn digwydd bod mewn lie lied gyffredin, a phregethwr gweddol enwog i ddod heibio, ac i ryw un arall fyn'd ag e, y mae yn storm fawr yn aml-ac y mae ambell un mor gyndyn, rhaid iddo gael y pregethwyr i gyd a ddaw yn ei fis, serch myned a hwy groesffordd ddwy filldir neu fwy, ac y mae hyny yn annatur- iol iawn, yn enwedig os bydd y pregethwr druan ar ei draed. Hen drefn dda oedd hi,- dyna ddysgodd lawer lettygarwch i'r Cymry, ac yr oedd yn yr amser yr oedd llawer o deithio yn sicrhau lletty i bob pregethwr gwych a gwael. Talu y mae llawer o Eglwysi yn awr am fwyd pregethwyr, ac y mae hyny bron yr un peth a rhoddi pregethwyr i fyw ar y plwyf, a dywedodd un pregethwr yma eu bod yn talu yn ol hyn a hyn y pryd yn rhai manau yn sir Forganwg. Ond "cadw mis" ydyw y drefn yn y wlad yma, dyna welais i, a dyna welodd fy mam o'm blaen i; a dyna y drefn y mae Ne- wyrth Zachry drosti; ond y mae e yn enbyd yn erbyn i'r teulu fyddo yn "cadw mis" dynu pre- gethwr o'i ffordd filldiroedd hefyd. Nid oes neb yn fwy hoff o gwmni pregethwr nag e. Yn amser ein mis ni byid yn wastad yn dyweyd wrthyf am ddod ar pregethwr yma os bydd ar ei ffordd, neu os bydd ei daith dranoeth yn fer; onide am beidio ei dynu groesffordd, ond ei adael yn y siop a thalu Mrs. Davies am ei le. Bu yma dri phregethwr dyeithr yma yn ystod ein mis ni y tro yma; a chafodd Newyrth Zach- ry a hwythau gryn lawer o ymgom. Gwr dyeithr o'r North oedd un o honynt-Mr. Davies, Siloam, fel y gelwid ef—dyn canol oed, lied fyr, hebeglwys ganddo. Yr oadd ei gyhoedd- iad yn yr Hen Dy Cwrdd boreu Sabboth, ac fe cyfarwyddodd rhyw un ef yma. Daeth erbyn Te ddydd Sadwrn; ac oblegid ei fod wedi cerdded a bag lied drwm ganddo, ac yntau yn lied gorffol, yr oedd wedi chwysu yn enbyd. O'r North rych chi'n dod mae'n debyg" ebe Newyrth Zachry wedi i'r Te fyn'd heibio a chael tipyn o lonyddwch. "Ie siwr" ebe y gwr dyeithr yn serchog iawn. "Fuoch chi yn y South 'rioed o'r blaen" P ail ofynai Newyrth Zachry. "Do mewn rhai manau, ond fum i erioed yn y rhan yma o'r wlad," atebai y pregethwr. Ydych chi wedi bod yn hir ar 'ych taith" ? gofynai Newyrth Zachry drachefn, gan bender- fynu cael ei hanes yn llawn. "Ydwyf er's chwech wythnos" oedd yr ateb. "0 wel r'ych chi wedi cael taith hir. Ffordd rych chi wedi bod" gofynai Newyrth Zachry. Yr ydw i wedi bod trwy sir Frycheiniog, ffordd hono daethum i lawr trwy Lanidloes ac i Riadr, ac i Dalgarth, ac i sir Forganwg-yno y bum i fwy- af." Wel fath olwg 'oech chi yn gael ar gre- fydd y ffordd y buoch chi." "0 llwyd iawn yn mhob man-dim bias i wrando yr efengyl- cynnulleidfaoedd bychain, teneuon, a rheiny yn ddiysbryd; welis i rioed olwg lwydach yn un- man, ac achwyn mawr y mae yr Eglwysi ar eu gweinidogion, ac y mae hi yn ddrwg ar lawer o honyn nhw. A ydych chi yn nabod Rees o ? N a dwy i ddim yn i nabod, ond mi wn am i enw" ebe Newyrth Zachry. U Well mae hi ar ben arno yno. Mae nhw wedi deuyd i fod o i fyn'd i ffwrdd, ond os myn o y caiff o roi notice idclyn nhw yn lie iddyn nhw roi notice iddo fo. Dyna Davies, hefyd y mae hi yn ddrwg iawn yno. Ryw swn cas iawn am dano fo. Dydw i ddim yn deyd fod y stori yn wir, a waeth i chi heb gymeryd arnoch ych bod chi wedi chlywed hi, eymerwch hi yn newydd pan glywoch chi hi eto. Ond y mae hi yn o debyg o fod yn wir; beth bynag mae ei ddefn- yddioldeb o ar ben yno. Mi fum i yn siarad ag un o'r Diaconiaid, ac mi ddeudodd i mi yr holl hanes. Glywsoch chi sut y bu hi yn B- Na chlywais i ddim meddai Newyrth Zach- ry. "Wel chi wyddoch i bod nhw heb wein- idog, ac yr oedda nhw wedi penderfynu rhoi gal wad i J o H- ond y Sul pan oedda nhw yn myn'd i roi y peth o flaen yr Eglwys 'roedd yno Student yn pregethu, a Nos Sul mi bregethodd ar yr un testyn a'r un bregeth bob gair ag oedd gan J-- H-, bythefnos cyn hyny; ac mi aethon i ben y Student, ac mi ddaru'n i gyhuddo o bregethu pregeth J H-, ond gwadodd y Student y cwbl; ond o'r diwedd mi gyffesodd mai pregeth R-s, C-n oedd hi, ac mai o'r un fan yr oedd y ddau wedi chael hi; ac fe ddarfu y son am yr alwad yn y fan." "Faswn i byth yn meddwl hyny am Mr. J H- ebe 'Newyrth. Nid wy' i ddim yn meddwl fod eisie iddo fe ddwyn pregeth neb." 0 dydach chi ddim yn gwbod tricia y pregethwyr yma," ebe y dyeithr-ddyn enllib- gar. 'Does run o honyn nhw braidd yn pre- gethu eu pregethau eu hunain. Pregethau lladrad ydi yr holl bregethau yma sydd gan bregethwyr mawr y Cymanfaoedd; ac y mae yr eglwysi yn dechreu dod i weled hyny." Gwelwn Newyrth Zachry yn tynu y ford fach ato, fel y bydd yn arfer pan wedi blino ar un- rhyw un, ac yr oedd lawer gwaith yn ystod yr ymddiddan wedi taflu llygad cilwgus ar yr ath- rodwr a eisteddai yn y gongl ar ei gyfer. Nid oedd dim yn amlycach na'i fod wedi gweled drwyddo er's meityn, ond fod rhyw barch i bregethwr, a'r boneddigeiddrwydd sydd yn nat- uriol ynddo, na fynai insultio neb ar ei aelwyd ef. O'r diwedd sefydlodd ei lygaid ar y pre- gethwr, a dywedodd yn bwyllog, ond yn bur benderfynol- Aroswch, Syr, os gwelwch chi yn dda. Y'ch chi yn peidio a bod yn rhy barod i osod ych barn ar y pethau a welwch ar ych taith ? 'Rych chi yn gweyd taw ychydig oedd yn gwrando yn y lleoedd lie y buoch; hwyrach fod amgylchiadau llawer yn i gwneyd yn an- hawdd iddynt ddod; ac fe allai nad o'ech chithe ddim yn adnabyddus iddynt; neu fe alle eich bod yn adnabyddus iddynt, a taw hyny oedd y rheswm. Mi glywes ryw un yn adrodd am ryw hen bregethwr yn yr oes o'r blaen wedi myn'd at ei gyhoeddiad i fan at ganol dydd; ac erbyn myn'd yno doedd yno neb ynghyd; a gofynai i hen wraig ffraeth yno oedd yn cadw y ty wrth y Ty Cwrdd, wrth wel'd nad oedd ond ychydig wedi dod-" A gyhoeddwyd fi i fod yma heddyw P" Do'n siwr," ebe y wraig. Ie a gyhoeddwyd fi dan fy enio ?" Do'n siwr, dyna'r drwg," ebe hithau eilwaith. Dwy' i ddim yn gweyd taw felly yr oedd hi arnoch chi; ond yr wy' i yn meddwl y byddai yn burion i bregethwyr cyn barnu y bobl yn rhy galed am beidio dyfod i'w gwrando, feddwl y gall peth o'r bai fod arnyn' nhw. 'Does dim raid i bregethwyr da fegio ar bobl i ddod i'w gwrando. Ac heblaw hyny-am yr holl bethau a glywsoch—dwy' i ddim yn gweyd nad y'n nhw yn wir, ond enillwch chi ddim wrth eu cario o fan i fan. Angel y newyddion drwg y galwai Mr. Griffiths, Glandwr, yr hen Rich- ard Herbert, oblegid y byddai ganddo yn wastad lon'd ffetan o chwedlau pan y deuai i dy. Dar- lun prydferth o bregethwr yw Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch, a'r hwn sydd yn mynegi daioni." Edrychai y pregethwr yn bur glust-lipa wrth wrando llith Newyrth Zachry. Ceisiai wneyd rhyw amddiffyniad iddo ei hun-nid oedd yn bwriadu iselu neb. Ond cloff iawn oedd ei esgusawd. Aeth i'r gwely yn gynar, a boreu dranoeth yr oedd yn llawer mwy distaw a gof- alus, wedi cael noswaith i adfyfyrio ar y wers gafodd y nos o'r blaen gan Newyrth Zachry o'r Gadair Wellt. Llys Ceninen. Ex NAI.

MOESAU DA.

Advertising