Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
CYNNWYSIAD:
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNNWYSIAD: 'OrYnhodeb yr Wythnos 1 'N'O-wYrth Zachry o'i Gadair Wellt 2 1: Cynhauaf Ymfudôl 2 ethesda Gan' Mlynedd yn ol 3 11ndeb Cynulleidfaol i Gymru. 4 Adgofion am Gymry Liverpool 4 ^raeth Ymherawdwr Ffraingc 5 ^ewyddion Cymreig 5, 6, a 7 ]¡rthyglau-' Y rhai sydd oludog yn y byd yma' 8 Sefyllfa y Gweithwyr yn Ewrop ac America 8 Llythyr y Meudwy 9 Q-ohebiaethau 10 Barddoniaeth, Lloffion, ac Amrywiaethau. 11 Marwolaethau, &c. 12 Marchnadoedd 12 Hysbysiadau 16 -.c
CRYNODEB YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
CRYNODEB YR WYTHNOS. Hysbysir ni am farwolaeth duwinydd enwog ac arlunydd medrus. Y duwinydd oedd y gwir Barchedig Arglwydd Auckland, Esgob Bath, a Well, a chyn hyny Esgob Sodor a -)Ian. Yr arlunydd ydoedd Daniel Maclise. Yn Vienna, ar yr 13eg o'r mis hwn bufarw Hess, yr hen filwr Awstraidd. Bu yn ym- ladd yn ddewr yn mrwydrau poethion Wagram a Leipsic. Ni chymerodd un ran gweithgar yn llywodraethiad y fyddin er y flwyddyn 1859, ond eisteddai yn Nhy uchaf y Senedd -Ilyd derfyn ei oes. Yr oedd yn rhyddfrydig lawn yn ei olygiadau gwladyddol, yn ddyn 'caredig a disyml, ac o feddwl pwyllog a chraff- "Us. Bu yr Ymerawdwr ac amryw o fawrion y eyfandir yn ymweled ag ef yn ei gystudd laf, ac y mae y blaenaf wedi gorchymyn fod 1'r fyddin luosocaf yn ngwasanaeth Awstria i gael ei galw ar ol ei enw ef. Yr oedd yn 83 oed pan bu farw. Nis gallwn lai nag edmygu cymeriad o'r fath, etto. teimlwn yn ofidus na buasai dyn o'i alluoedd a'i dalent ef wedi gWasanaethu ei genhedlaeth mewn gorchwyl Swell. Ychydig cyn toriad i fyny y Senedd am ^yliau y Pasg, cynygiodd Mr Newdegate ar fod ymchwiliad cyfnodol i gael ei wneyd i'r Convents Pabyddol y deyrnas. Dywedai fod 1104delltu 6,000 o Nuns yn cartrefu yn y sef- ydliadau hyn, ac awgrymai eu bod yn dyoddef fciath. o garchardod yno yn erbyn eu hewyllys. "Cyfodoclcl Pabyddion y deyrnas fel un gwr yn «rbyn y mesur cymedrol, ac i'n tyb ni rhesym- 01 hwn. Edrycbent arno fel math o erlidig- ueth, llwythent enw y cynygydd a gwarth, ac 7 niaent erbyn hyn wedi penodi fod gweddiau i'w hoffrymu am waredigaeth rhag y a^h gamwri. Ysgrifena Nuns a fuont yn y sefydliadau o bob tu i'r ddadl i'r newyddiad- |^ron* Rhai yn canmol y Convents fel cartref- oead dedwyddwch, a phurdcb a defosiwn, ac el'a1l1 yn eu condemnio fel nythleeedd gorth- rymder, a brad, ac eiddigedd annynol. Mae yn rhaid fod ryw wendid mawr yn nglyn a'r sefydliadau hyn, pan y mae yn angenrheidiol eu cadw mewn dirgelwch. Daeth y newydd galarus a dychrynllyd i law ar y 24ain o'r mis hwn, fod Ysgrifenydd Llys- genhadaeth yr Eidal yn Athen, a charcharor- ion Prydeinig wedi eu llofruddio gan garn- ladron Groegaidd. Ofnid unwaith fod Arglwydd Muncaster yn un o'r lladdedigion, ond y mae sail i gredu nad ydyw, oblegid dywedir na chaniateid gan yr awdurdodau yn Groeg iddo ef ddychwelyd i loches y llofruddion. Yn anffodus nid oes sail i amheu diwedd anam- serol ei gymdeithion—y Meistriaid Herbert, Veyner, a Lloyd, a'r Count de Boyl, yr hwn a berthynai i Lys-genhadaeth yr Eidal. Yn ol yr hysbysiadau diweddaraf, yr oedd 13 o'r carn-ladron wedi eu dal, neu eu lladd, gan y milwyr ond yr oedd eu pennaeth ac wyth o lofruddion eraill heb eu dal. Dywedai Mr. Otway, yn Nhy y Cyffredin, nos Lun, pan gyfeiriai at y gyflafan, fod y Gweinidog Seis- nig yn Athen wedi gwneyd pob peth yn ei allu i achub y carcharorion rhag yr anffawd dost. Yr oedd yr arian a ofynid yn iawn yn barod i'w talu, a phob ymdrech wedi ei wneyd i ddarbwyllo llywodraeth Groeg i ganiatau yr ebargofiant a ofynai y carnladron. Gwrthod- odd llywodraeth Groeg, yn anffodus, wneyd y caniatad; a phan wasgid yn drwm ar y llad- ron gan y milwyr, eyflawnasant yn llofruddiog yr hyn a fygwthiasent. Nos Lun diweddaf ymgyfarfu aelodau Ty y Cyffredin, am y waith gyntaf wedi gwyliau y Pasg. Dranoeth hysbysodd Mr. Watkin Will- iams-yr aelod dros Fwrdeisdref Dinbych— ei fwriad, y byddai iddo ar y 24ain o Fai, alw sylw y Ty at Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Agorodd Syr H. Hoare y ewest- iwn gyda golwg ar y camwri tybiol tuag at lythyr-gludwyr y Brif-ddinas. Ymddengys iddynt gael eu bygwth os byddai iddynt gyd- gyfarfod dydd Gwener y Groglith, mewn lie penodol yn Llundain, i geisio, trwy ddeisebu, wella rhai o reolau y Llythyr-dy. Dywedai Ardalydd Hartington fod rheol a ffurfiwyd gan Arglwydd Stanley, o Alderley, yn gwahardd i swyddogion y Llythyr-dy gydgyfarfod y tu allan i'w furiau; a chredai fod y rheol hon, nid yn unig yn fanteisiol iawn i weithrediad priodol pob adran o'r Llythyr-dy, ond ei fod hefyd yn fantais ddirfawr i'r Llythyr-gludwyr eu hunain. Credwn nad yw y wlad wedi mynu i'r dosbarth yma eu hawliau dyladwy, fel y mae yn rhaid iddynt ymladd eu rhyfel- oedd eu hunain; eto, dylent wneyd hyny yn unol a rheolau y Llythyr-dy, ac ond odid na wrandewir eu ewynion. Nos Fawrth diweddaf cynhaliwyd cyfaiibd blynyddol Cymdeithas Gristionogol y Dynion Ieuaine, yn Exeter Hall, Llundain, o dan lywyddiaeth Arglwydd Shaftesbury. Darlien- wyd adroddiad calonog iawn o weithrediadau y gymdeithas yn ystod y flwyddyn a actli heibio. Dro yn ol buom yn desgrifio y "Llonglwyth rhyfedd a ymadawodd ar Mersey, o dan noad- ed y foneddiges ddyngarol, Miss Ryo,-y llu cyntaf o blant amddifaid a ymfudasant o'r wlad hon i chwilio am gartref gwell yn my-d y gorllewin. Yn awr y mae genym yr hyf- ryclwch o hysbysu ein darllenwyr fod yr ym fudwyr bychain oil wedi ymsefydlu mown gwahanol gartrefleoedd cysurus yn Canada. Wedi darparu mor llwyddianns ar gyfer y liiati gyntaf a ymddiriedwyd i'w gofal, y mae Miss Rye wedi dyfod yn ol i Loegr i ymofyn am ychwaneg o blant o'r un dosbarth fel y gallo estyn yr un gymwynas iddynt hwythau. Casgl hwynt o dylottai a gweithdai yr undeb, a'r Asylums eraill, lie y cedwir mewn math o gaethiwed undonog y bechgyn a'r genethod diamddiffyn ac angenog hyny ydynt wedi colli eu rhieni, ac heb neb arall i ofalu am danynt. Yr ysgol isaf mewn cymdeithas ydyw y tyloty. Odid fawr na chyll pob un a el i mewn iddo bob hunanbarch ac annibyniaeth meddwl. Boddlonant i'w sefyllfa isel, byddant fyw a marw dan warthnod cardotwyr, heb ymgais at ddim sydd uwch, na dymuno am ddim sydd well. Amcana Miss Rye at gipio y trueiniaid o'r rhwymau diraddiol hyu. Dug hi y plant allan i'r awyr agored. Rhydd iddynt gylch newydd i droi ynddo, a chymhella hwynt trwy ymaflyd yn eu dwylaw i ddyfod yn aelodau byw a defnyddiol o gymdeithas. Dangosai Dr. Hayward yn ddiweddar fod 2,000 o blant amddifaid yn cael eu cynal ar y trethi yn Liverpool, ac fod y gost o'u cadw yn ol 18p. y pen yn dyfod i 36,000p. yn y flwyddyn. Ar sail y ffugyrau hyn, a chyfrif fod y plant i'w cadw hyd 14 neu: 16 oed, dengys pe gellid traws-symud y rhai hyn i gyd i Canada yr ennillid i'r dref y swm anferth o 208,000p. Felly oddiar yr ystyriaeth o gynildeb yn unig byddai yn werth i ni gynnorthwyo yr amcan; ond pan yr ystyriwn y lies personol a wneir i'r plant, y rhagolygon disglaer a agorir o'u blaenau, y tir uwch y gosodir hwynt i sefyll arno, a'r uchelgais newydd a gynhyrfir yn eu mynwesau i ymgyrhaedd at amcanion uchaf bywyd, nis gallwn lai na dymuno llwyddiant i'r foneddiges hawddgar, a hyderwn y bydd ein hawdurdodau trefol a phlwyfol yn mhob man yn ddigon doeth i gymeryd defnydd o'r cyfleusdra hwn i wncyd daioni.