Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau GENEDIGAETHAU. Rhagfyr 23, Mrs Hughes, priod y Parch. E. Hughes, Penmain, ar fab, yn farw-anedig. is —— 16, priod Mr David Stephen, Resolven, ar ferch. 27, yn 33 Victoria llo1.cl, Tranmere Park, Birk- enhead, priad Mr R. D. Williams, ar ferch. PRIODASAU. Rhagfyr 22, yn Eglwys Llandrillo, gan y Parch. J. Owen, J. J. Jones, Ysw., Plas Captain, Whitford, & .Teanette, pedwaredd ferch y diweddar D. Evans, Ysw., Hendwr, Llandrillo. 23, yn nghapel Maenygroes, gas y Parch. T. Rees, gweinidog y lie, Abraham Davies, yr Escol ddu, a. Mary Davies, Penrhiwllan, Ceinewydd. 23, yn Soar, Merthyr, gax y Parch. D. Jones, B.A., Mr Benjamin Rees Williams 3. Miss M. A. Tho- mas, y ddau o Merthyr. 23, yn nghapel Park Road, Liverpool, gan y Parch. W. Roberts, Mr Owen Williams, plasterer, Rhyl, a Miss Jane Williams, Tyn'ronen, Efenechtyd. 24, trwy drwydded, yn nghapel Chatham St., gan y Parch. T. C. Edwards, M.A., Mr William Eames, 44?Edgvvare Street,[Liverpool, a Miss Margaret Davies, Plas Huw, sir Fflint. 25, yn nghapel yr Annibynwyr, Grove Street, gan y Parch. R. Trevor Jones, Meifod, Mr William Williams, Brownlow Hill, a Mary, merch Mr Edward Edwards, Uxbridge Street,fLerpwl. -— 25, yn Soar, Merthyr, gan y Parch. D. Jones, B.A., Mr James Beynon, cabinet-maker, Treherbert, a Miss E. Jones, merch hynaf Mr John Jones, grocer, Glebeland. 25, yn Mhenybont-ar-ogwy, gan y Parch. J. B. Jones, B.A., Mr William Davies a Miss Hannah Davies, y ddau o Gwmogwy. 25, yn Mhenybont-ar-ogwy, gan y Parch. J. B. Jones, B.A., Mr Morgan Davies, Caerdydd, El Miss Catherine Morgan, merch y Parch. W. Morgan, Maesteg. MARWOLAETHAU. Rhagfyr 14, yn 54 oed, Mrs Elizabeth Evans, anwyl briod Mr Griffith Evans, Geulan, Talysarn. Yr oedd yn aelod o eglwys Gynulleidfaol Capel Sion, Talysarn. Gadawodd briod a dau o blant i alaru ar ei hoi. Di- oddefodd gystudd maith a blin yn hynod dawel a di- rwgnach. Yr oedd er's amser yn teimlo 'chwant i'w datod ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw.' Yr oedd ofn marwolaeth wedi ei symud o'i meddwl yn llwyr a bu farw fel y bu byw, a'i phwys ar fynwes yr lesu. Dydd Sadwrn, Rhagfyr 18, daeth tyrfa fawr i anfon yr hyn oedd farwol i fynwent Pisgah. 15, yn 37 oed, wedi chwe diwrnod o gystudd trwm, Mr William Williams, stone-mason, Kinmel House, Mostyn Crescent, Llandudno. Gadawodd weddw a phump o blant. 19, yn 34 oed, Mrs Williams, priod Mr John Williams, Parkfield, Birkenhead. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn nghapel Oliver Street. Gwein- yddwyd ar ei hangladd yn Flaybrick Hill Cemeter y gan y Parch. N. Stephens.

MARWOLAETH DEWI ARFON.

CLADDEDIGAETH D. WILLIAMS,…

TYDDEWI, PENFRO.

Y FARCHNAD YD.

Y FAROHNAD ANIFEILIAID.

Advertising