Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Hide Articles List
14 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
GIBEA, BRYNAMAN.-Mae y Parch. J. M. Jones, Wrexham, wedi derbyn galwad unfrydol oddi wrth yr eglwys uchod, ac mae yntau wedi ei hateb yu gadarnhaol. ErRA MAWR YN MEIEIONYDD. Nos Sadwrn, yr oedd <> ddwy i dair troedfedd o eira yn.gorchuddio yr holl ffyrdd yn y sir hon. Achosodd hyn gryn oed- iad ar reilffyrdd y Cambria, Bala a Dolgellau. Yr oedd yr eira yn disgyn yn drwm prydnawn Sul. AMLWCH.—Cynhaliodd yr Annibynwyr yn Carmel eu cwrdd blynyddol y Nadolig, a'r Sabboth canlynol. Cafwyd llawer o hyfrydwch clan weini- doiraeth oleu a chynes y brodyr Rees, Capelmawr Roberts, Llanddeusant; a Lloyd, Caergybi. LLANHARAN.-N os Nadolig, wedi bod yn y cwrdd gweddio yn y bore am ddeg, cafwyd cwrdd mawr amrywiaethawg yn yr hwyr. Yr hen gapel gor- gysegredig yn ymddangos yn evergreen, ac yn orlawn —gweinidog y lie yn y gadair. Cafwyd amryw ad- roddiadau, a darlleniadau am y goreu. Canwyd amryw ddarnau gan y cor yn bur swynol. CAPEL EVAN, GEn CASTET.LNEWYDD.—BU y Parch. J. Owen, Trecastell, yma Rhagfyr 22ain, yn tra- ddodi darlith ar New Zealand.' Mr D. H. Jones, Cefngwndwn, yn y gadair. Dydd Nadolig, cynhal- iwyd cyfarfod areithio a chanu, am y tro cyntaf yn yr ardal. Caed cyfarfocl hynod hwylus.- U)i o'r Undeb. MAESTEG.—Eisteddfod ?/ Tubemacl.—Cynhaliwyd eisteddfod, yn nghapel y Tabernacl, gan y Bedydd- wyr, dydd Nadolig. Llywyddwyd cyfarfod y boreu gan Mr W. H. Thomas. Yr arweinydd ydoedd Llyfnwy. Bu cystadleuaeth mewn canu, adrodd, &c. Cynhaliwyd cyfarfod cyffelyb y prydnawn; ac yn yr hwyr cafwyd cyngherdd. Ni chaniata gofod i ni roddi y program. KIDWELLY.-Nos Fawrth, yr 21ain o'r mis hwn, traddodwyd darlith yn Capel Sul, gan y gweinidog, y Parch. W. C. Jenkins, ar Martin Luther a'i Am- serau. Yr elw i fyned tuag at gael lampau i'r capel. Llywyddwyd gan yr Hybarch John Reynolds (B,), Cawsom ddarlith dda, a llon'd capel o bobl i wrando ami, ac edrychai pawb fel wedi en llwyr foddhau.— Glan Gwendraeth. HOREB, CASLLWCHWE.—Dydd Llun, yr 20fed o'r mis hwn, cyfarfu yr Annibynwyr i roddi to a bara brith i blant yr Ysgol Sabbothol, pryd yr yfodd yn agos i ddau cant o ffrwyth y ddeilen estronol. Bu Mr Evans, Shop, yn garedig iawn, trwy roddi y to a'r siwgr, ac ereill trwy roddi y bara, fel y cawsom de ardderchog. Hefyd, cawsom gyfarfod adrodd- iadol yn yr hwyr gan blant yr ysgol, a chanwyd amryw ddarnau yn dda gan Mr Jenkins, ysgolfeistr Bryn Llanelli. Mae yma hefyd glass o'r Tonic Sol- Fa yn cael ei addysgu gan Mr Jenkins.
CROESOSWALLT.
News
Cite
Share
CROESOSWALLT. Nos Lun, Rhagfyr 20fed, traddododd Samuel Buoly, Ysw., o Gloucester, araeth ar Ddirwest yn y Public Hall. Cymerwyd y gadair gan Thomas Minshull, Ysw., Llywydd y Gymdeithas. Cafwyd araeth agoriadol bwrpasol iawn gan y Cadeirydd. Cafwyd araeth dda. Cynhygiwyd diolchgarwch i'r darlithydd gan y Parch. George Cuthbert, a chef- nogwyd ef gan y Parch. Thomas Gasgouoine, B.A.
LLANTRISANT.
News
Cite
Share
LLANTRISANT. Cynhaliodd Ysgol Sabbothol Soar ei gwyl de flyn- yddol ar brydnawn Nadolig. Yr oedd agwedd y cyfranogwyr yn brawf digonol fod y te a'r cake o'r fath oreu, ac wrth fodd eu calon. Yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod cyhoeddus, dan lywyddiaeth y Parch. W. C. Davies, pryd yr adrodd- wyd amryw ddarnau o farddoniaeth a dadleuon, gan blant yr ysgol. Canwyd hefyd gan y cor, a pher- sonau unigol, yn hynod o swynol a dylanwadol. Yr oedd gwynebpryd y gynulleidfa i gyd yn eglur ddangos eu bod yn mwynhau yr holl gyfarfod.
BIRKENHEAD.
News
Cite
Share
BIRKENHEAD. Nos Iau, Rhag. 24, yn y Workman's Hall, tradd- odwyd un o gyfres o ddarlithiau y tymor, gan y Parch. J. Towers, ar Ei ymweliad a Canada a'r Unol Dalaethau.' Arweiniwyd ni gan y darlithydd drwy ddinasoedd, heibio colegau, llynoodd, a golyg- feydd aruthrol, at frenin rhaiaelran y ddaear-y Niagara. Canmolai gynllun a nodwedd addysg genedlaethol yr Americaniaid. Yn ystod ei araeth dywedodd fod yn llawen iawn ganddo weled y Parch. II. E. Thomas, diweddar o'r dref hon, mewn eglwys luosog, ac yn anrhydeddus yn mysg ei frodyr yn Pittsburgh. Llywyddid y cyfarfod gan Mr G. Richardson.—Asaph.
LLANSAWEL, SIR GAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
LLANSAWEL, SIR GAERFYRDDIN. Rhagfyr 24ain, arholwyd Ysgol Rammadegol Mr Jonah Evans, yn y lie uchod, gan y Parchn. H. Jones, Ffaldybrenin; R. Salmon, Llansawel; a'r ySirrifenwyr, mewn Groog, Lladin, Euclid, Algebra, Arithmetic, Daearyddiaeth, Grainmadeg Seisneg, a darllen. Yr oedd yr arholiad yn glod i'r athraw a'r myfyrwyr, Tystiodd yr arholwyr eu bod wedi cael eu mawr foddloni. Cafodd Mr Evans ei ddwyn i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, ac y mae yn un cym- hwys i ddysgu oreill ar gyfer gwahanol ganghenau masnach, ac yn neillduol i barotoi dynion ieuaingc i'r athrofeydd; ac y mae Llansawel yn fan iachus, ac yn lie y gallant gael digon o letyau am bris rhes- ymol.—Jones, Crugybar.
ST. CLEARS.
News
Cite
Share
ST. CLEARS. Prydnawn Nadolig, mewn ysgoldy perthynol i Gapel Sion, arholwyd y personau canlynol yn nod- iant y Tonilj Sol-fa, gan Mr James Davies, St Clears, a buont oil yn llwyddian.us i gymeryd trwyddedau. Cymerodd Mr William Thomas, St. Clears, yr Ele- mentary Certificate. Bu Miss Esther Rogers, Miss Margaret Rogers, Miss Anne Rogers, Miss Amelia Rogers, a Miss Eliza Rogers, Hendre, ger St. Clears, yn llwyddianus i gyrhaedd yr Intermediate Certifi- cate (yn cynwys yr hen nodiant). Y mae yn dda genym allu hysbysu iddynt fyned drwy yr arboliad yn lied dda. Ychydig wythnosau cyn hyny, arhol- odd Mr Davies (yn ei gartef) Mr James John, St. Clears, a bu yn llwyddianus i gymeryd yr Elemen- tary a'r Intermediate Certificates (ynnghyd a'r hen nodiaiit).I). Jones, Bethlehem.
CILYCWM.
News
Cite
Share
CILYCWM. YMDBECHFA AnEDIG.-Rhagfyr-zlaf, cynhaliodd y Gymdeithas Amaethyddol ymdrechfa aredig yn y lie hwn. Yr oedd 36 o ymgeiswyr (y dosbarth blaenaf o'r gystadleuaeth yn agored i Undeb Llan- ymddyfri). Beirniaid—Meistri James, Llwynjack; Williams, Cwm; a Rosser, Henllys. Yr oedd tri dosbarth o ymgeiswyr—un wobr yn y blaenaf, 6 yn yr ail, a 5 yn y trydydcl. Y buddugwyr oeddynt;— Dosbarth laf, mab Mr Thomas, Llwyngweno, Llan- sadwrn. Dosbarth 2il. Blaenaf, D. Thomas; 2il, mab Mr Thomas, Penrhyw; 3ydd, R. Evans 4ydd, Evan, mab Mr Davies, Abergwenlais Mill. 5ed, T. Jones. 6ed, mab arall i Mr Thomas, Penrhyw. Yn y 3ydd dosbarth—Blaenaf, T. Thomas, a William, mab Mr Harries, Gwynfaes, yn gydfuddugol. Rhanwyd y flaenaf a'r ail wobr rhyngddynt. 3ydd, mab Mr Evans, Rhyw'rhwch; 4ydd, mab Mr Bo wen, Berries-brook; 5ed, John Pritchard, Aberdunant.
TALYSARN.
News
Cite
Share
TALYSARN. Cynhaliwyd cyfarfod ysgol Undeb Ysgolion Taly- sorn, Drwsycoed, Pisgah, a Phenygroes, yn y lie uchod, y 19eg o'r mis hwn. Y boreu, holwydy plant o'r Rhodd Mam, gan y Parch. E. W. Jones. Yn y cyfarfod am 2 o'r gloch, holwyd yr ysgol gan yr un person. Cafwyd cyfarfod da yn yr hwyr. Cafwyd areithio ar wahanol byngciau perthynol i'r Ysgol Sabbothol. 1. Richard Evans, o ysgol Pisgah, -ar I Ffyddlondeb i'r Ysgol Sabbothol.' 2. John Hughes, o ysgol Drwsycoed, ar Ein hymddygiad wrth ddy- fod i'r moddion, ac wedi dyfod i'r moddion.' 3. William Jones, o Ysgol Pisgah, ar I Ffyddloiideb.' 4. Griffith Evans, o ysgol Drwsycoed, ar Dyben yr ysgol.' 5. Robert Hughes, o ysgol Talysarn, ar Anogaethau i wneud yn fawr o'r Ysgol Sabbothol.' 6. David Fraser, o ysgol Drwsycoed, ar Y dylan- wad y mae yr hyn y byddwn yn yrndrin ag ef yn yr ysgol yn ei gael ar y rhai ieuaingc.' Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch E. W. Jones' Pob ilwyddiant i'r Undeb.—Hugh Hughes, Ysg,
ABERTAWE A'R CYLCHOEDD.
News
Cite
Share
ABERTAWE A'R CYLCHOEDD. Amser pwysig yw amser y Nadolig ar lawer o ys- tyriaethau. Mae yn ddiwedd blwyddyn, a'r dydd yn fyr, felly'r nos yn hir, adeg gyfleus i gyfarfod ar aelwydydcl i adrodd helyntion yr amser gynt; cyf- eillion yn cyfarfod wedi hir absenoldeb cyfarfodydd adloniadol o bob math yn cael eu cynal. Yr oedd rhai felly yn y dref hon yn ei holl dai cyhoeddus. Y Wesley aid a Missionary Tree i blant yr Ysgol Sul, a chyfarfod adroddiadol ganddynt yn mhen uchaf y dref, Mount Seion, achwrdd adroddiadol i'r Band of Hope; eisteddfod yn y Music Hall: dwy eisteddfod yn Clydach. Felly, chwi welwch fod genym ryw- beth i'w wneud yma heblaw dadleu pa un ai twyll ai gwirionedd oedd hir ympryd Sarah Jacob. Bu tri chor yn cystadlu ar Awake the Harp,' yn y Music Hall; Siloah, Llanelli, yn fuddugol. Chwech yn Hebron, Clydach, ar 'Then round about the starry throne Libanus, Treforris, yn fuddugol. Tri-ar- ddeg yn Calf aria, Clydach, ar 'Mai;' Libanus yn fuddugol eto. Cymaint a hyn yna, i bawb gael lie i roddi helyntion pwysig eu cymydogaeth.
RHYMNI.
News
Cite
Share
RHYMNI. SIOL-Nos Fawrth, Rhagfyr 22ain, traddodwyd darlith ragorol yn y capel hwn gan y Parch. J. Davies, Caerdydd. Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. P. Davies, gweinidog y lie. Testun y ddarlith oedd-Digwyddiadau rhyfedd y blynyddau hyn. Er's amryw flynyddau yn ol, ymadawodd o Sion, Rhymni, aelod ffycldlon o'r enw Evan Evans a'i deulu i Awstralia, oddi wrth yr hwn, y dydd o'r blaen, y derbyniodd y Parch. W. Pascal Davies, lythyr yn cynwys draught ar y banc am 30p., gyda chyfar- wyddyd am i 20p. o'r arian gael ei roddi at gapel Sion; a'r lOp. arall i berthynas i Evan Evans ag sydd yn y wlad hon. Ychwanega y Ilythyr-, Er ein bod yn byw ar yr ochr gyferbyniol i chwi o'r ddaear, y mae ein serch a'n calon gyda chwi yn Sion- Y mae rhodd haelionus ein hanwyl frawd yn brafff o wirionedd y geiriau, ac hefyd, nid yn unig yn deilwng o ganmoliaeth, ond o sylw ac efelychiad llawer a ymadawsant ag eglwysi Cymry, ac sydd yn awr yn dywysogion mewn cyfoeth yn y trefedig- aethau ac America.
CEFN A RHOSYMEDRE.
News
Cite
Share
CEFN A RHOSYMEDRE. CYXGHEHDD.—Nos Lun, Tach. 29ain, cynhaliwyd cyngherdd ardderchog yn Assembly Room Rhos-y- medre, a chymerwyd rhan ynddo gan y cerddoriell canlynolMiss Savage, Rhos Mr Seth Roberta a Mr Evan Price, Brymbo; yn nghyda Glee Party o Drefnewydd. Pianists :—Mr Fred. Owen (AlaW Maelor), a Mr Owens, Brymbo. Er fod y noson yn hynod anffafriol cafwyd cynulleidfa dda a chyng- herdd ardderchog. Digon yw dweyd fod Mr Ro- berts, Brymbo, yn ei hwyliau goreu; canodd I Rhy- ddid i'm gwlad nes tynu taranau o gymeradwyaeth. Canodd Miss Savage yn deilwng o honi ei hun, ac hefyd y Glee Party yr un modd. Ond yr un oedd yn dylanwadu fwyaf ar y gynulleidfa ydoedd Mr Evan Price, Brymbo, yr hwn oedd yn canu Comic Songs fel y canlyn:—Lancashire Lass Good Bye John; Paddy is a boy; The Sprig of Shillelah. Yr oedd y dadganiad o'r darnau yna yn gwefreiddio y gynulleidfa gan ei fod yn gwisgo gwahanol ddillad ar gyfer y Songs. Dymuniad pawb ydoedd ar i Mr Price beidio bod yn hir cyn gwneud ei ymddangos- iad yn ein hardal eto. Wedi canu I G,od save the Queen,' terfynwyd un o'r cyngherddau mwyaf dif- yrus a gawsom crioed.-Cy))ii-o Bach.
LLANBERIS.
News
Cite
Share
LLANBERIS. Dydd Nadolig, anrhegwyd holl blant yr ysgol ddyddiol gan bwyllgor yr ysgol, a the a bara brith. Golygfa ddymunol iawn i mi oedd gweled tua 300 o blant yn mwynhan eu hunain o'r danteithion rhag- orol oedd wedi eu parotoi ar eu cyfer. Yr oeddwn yn barnu fod pawb o honynt yn mwynhau eu hunain fel pe buasent gartref.' Credwn fod gweithgarwe-h y boneddigesau gyda'r te yn haeddu cael ei gydna- bod. Wele restr o honynt:—Mrs Williams, Plas- coch Mrs Owen, Hafod Mrs Roberts, a Mrs Wil- liams, Victoria Villa; Mrs Oliver, a Miss Roberts, Glaneilian House; Miss Roberts, Lane Terrace; Mrs Jones, Turner Street; Mrs Jones, Mount Pleas- ant Mrs Pierce, Glyn; Mrs Jones, Ty Capel; Miss Roberts, Murtle Terrace a Miss Jones, Rafod. Bydd yn ddrwg gan luaws mawr o ddarllenwyr Y TYST glywed am farwolaeth Dewi Arfon. Bu farW yn nhy ei rieni, Ty du, Llanberis, boreu dydd Nad- olig. Teimlir galar mawr yn y lie ar ei ol.
RHOSLLANERCHRUGOG.
News
Cite
Share
RHOSLLANERCHRUGOG. Nos Sadwrn divveddaf, cynhaliwyd cyngherdd yn Capel Mawr, Rhos, pryd y cymerwyd y gadair gan H. Dennis, Ysw. Yr oedd y program yn debyg 1 hyn :—Arweinydd, Mr H. Griffith. AccompanyisU Mr John Pritchard. Rhan laf—Codiad yr Ehed- ydd, gan y Cor. Hark Appolo, gan barti. Yr En- eth Ddall, Mr R. Davies. Ar don o flaen y gwynt- oedd. Yr Aelwyd-Mr J. D. Jones. By the Ocean Wave-Mr Wm. Charles, yn nghyda darnau camp- us ereill gan y Cor. Hefyd, Solos gan Miss Savage. Arddangoswyd yno set hardd o lestri te, a gyfiwyn- wyd y noson flaenorol i Miss Foulkes, fel arwydd o deimlad da cyfeillion tuag ati. Miss Foulkes ydoedd ysgolfeistres yr Ysgol Frytanaidd yma o flaen Miss Hughes, yr hon a ddaeth yma yn ddiweddar o Lan- rwst.- TVin. Owen.
RHYL.
News
Cite
Share
RHYL. HYN A'R LLALL.—Y mae'r Bwrdd Lleol wedi ildio yr erlyniad yn erbyn Mr Byne am adeiladu, fel yr haerid, yn groes i'r gyfraith. Costiodd y busnes yma i'r Bwrdd y swm o 34p.—Agorir y neivs-rooitt yr wythnos gyntaf yn y flwyddyn newydd. Bydd yno le comfforddus i'r gweithiwr dreulio ei oriafl hamddenol-a darperir ar gyfer y Cymro uniaith gopi o'r holl newyddiaduron Cymreig yn y Gogledd. —Dydd Gwener diweddaf, yr oedd gan yr Annibyn- wyr yn Queen Street gyfarfod dyddorol iawn. Cyd- eisteddodd aelodau yr eglwys i yfed te yn y pryd- nawn, ac yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoedd- us yn benaf i roddi adroddiad o'r tanysgrifiadau a dderbyniwyd tuag at adgyweiriad y capel. Yr oeddis wedi casglu mewn ychydig dros ddwy flynedd dros 160p., ac yr oedd hyn yn orchest nid bycluin 1 gynulleidfa heb fod yn gre' iawn mewn rhif na chY- foeth. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. :8,. Thomas, y gweinidog. Diolchwyd iddo ef yn bur wresog am ei lafur yn nglyn a'r casgliadau. Cai* wyd anerchiadau buddiol gan Dr. Jones, Mr Rowlands, Mr Thomas Hughes, a Mr James Grif' iiths. Rhanwyd gwobr rhwng Mr Thomas Whitley a Mr Cain Parry am araeth fyrfyfyr ar Y pwysig" rwydd o ffurfio cymeriad da pan yn ieuangc.' y y diwedd, daeth dros 30 o gyfeillion yn inlaen 1 geisio tocynau i gasglu eto at leihau dyled yr addol' dy. Dyma argoel galonog o awydd a sel i wn«tt daioui,—M. R.