Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

Gened-imaotliaii, Priolasau, Marwalaethau GENEDIGAETHAU. Rhagfyr 5ed, priod Mr James, Gwcrnfigyn, ger De- fynog, ar fab 15fed, priod Mr Jenkin Thomas, Club Row, Resolven, ar fab 15fed, yn 33, Tillotson Street, Liverpool, priod Thomas Roberts, ar ferch 17eg, yn 4, Bute Street, Llundain, priod Mr W. E. Davies, ar fab 18fed, priod Edward Morgan, 23, Sun Street, Birkenhead, ar fab PRIODASAU. Tachwedd 20fed, yn Eglwys Resolven, gan y Parch D. Griffiths, M.A., Mr Griffith Thomas, a Miss Jane Davies, New Inn—y ddau o Resolven Rhagfyr 14eg, trwy drwydded, yn nghapel y Bedydd- wyr, Stanhope Street, Lerpwl, gan y Parch Joseph Williams. Athol Street, yn cael ei gynorthwyo gaii dad y briodasferch, Mr Robert Michael, mab Cad. Richard Michael, harbour master, Caergybi, S. Miss Arabella Ann Evans, merch hynaf y Parch R. Evans MARWOLAETHAU. Tachwedd 14eg, yn Omaha, Nebraska, America, ar ol deunaw awr o gystudd, Esther, merch hynaf y di- weddar Barch D. Davies, Glantaf. Yr oedd yn wyres i'r Parch S. Griffiths, gynt o Horeb. Hi oedd y gyntaf dderbyniwyd gan yr ysgrifenydd yn Taihirion. Bu yn ngwasanaeth y Gwaredwr dros 18 mlynedel; yr oedd ei gwr i gael ei dderbyn y Sabboth y bu hi fai-w-14 wytbnos y bu yn briod. Yr oedd iddi air da gan bawb a'i hadwaenai. Bydded i'r Arglwydd gynal a dyddanu ei mham aIarus-J. Davies Rhagfyr 9fed, yn Pentre Richard Cottage, Llan- ddewibrefi, yn 41 oed, Mr John Jenkins. diweddar fyf- yriwr yn St Bee's College, Cumberland, a mab hynaf John Jenkins, Ysw, Blaencyswch, Llanfairclydogau. Yr oedd yr ymadawedig yn ysgolhaig da, ac yn un a berchid yn fawr yn ei gymydogaeth 6ed, yn 66 oed, H. Howells, Ysw, Cwmgest, ger Caerfyrddin. Yr oedd yn aelod o eglwys Iesu Grist yn Blacnycoed, ac yn foneddwr haelionus, a fawr berchid gan bawb. Claddwyd ef dydd Sadwrn diweddaf, Rhagfyr lleg, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch W. M. Davies, ac y traddodwyd pregeth ar 2 Cor. v. 10. Ein gweddi yw ar i'r Arglwydd amddiffyn ei weddw a'i amddifad fechan 6ed, Mr John Thomas, Pennant, Trelech. Caf- odd gystudd trwm am wythnosau, ond bu farw mewn tawelwch, a'i enaid yn pwyso ar haeddiant y Gwared- wr y bu yn ei wasanaethu mor ffyddlon am flynyddau. Pregethwyd ddiwrnod ei angladd gan y Parch W. M. Davies, oddiwrth 1 loan iii. 2, a bwriada draddodi ei bregeth angladdol yn Penybont y Sabbothdiweddaf o'r flwyddyn. —— 9fed, yn Penllwyneinon, Jfr W. Williams, yn 71 oed. Claddwyd ef y dydd Llun canlynol. Cyn cychwyn gweddiodd y Parch R. liorgan, Glynnedd, a phregethodd y Parch J. Stephens, Brychgoed, oddi wrth Preg. ix. 10, a gorphenodd trwy weddi ar lan y bedd. lOfed, yn 27 oed, Mrs Thomas, anwyl briod Mr Thomas J. Thomas, Ellau'r Glyn Colliery, Caerphili. Dioddefodd gystudd trwm am amser hir yn hynod dawel a dirwgnacli. Claddwyd ei gweddillion y dydd Mawrth canlynol yn Mynyddislwyn. Gweinyddwyd gan y Parchn B. Davies, Glandwr a Rowlands (B), a D. Richards, Caerphili lOfed, ar ol byr gystudd, Mr Robert Williams, Dinorwig Terrace, Clwt y bont, yn 48 mlwydd oed. Yr oodd yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn nghapel Ebenezer. Gadawodd weddw ac wyth o blant i alaru ar ei ol 14eg, Elizabeth Evans, Gerlan, Talysarn, ar ol cystudd trwm, yn 54 mlwydd oed. Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r Aimilmiwyr yn Talysarn. —— lofed, Mr Joseph Griffiths, Grange Lane, Bir- kenhead, yn 62 oed. Fe fu am 40 mlynedd mewn cys- sylltiad a'r wasg 17eg, yn 68 mlwydd oed, MrEvan Jones, hynaf, Ebenezer. Yr oedd yn aelod yn nghapel Ebenezer II

Y FARCHNAD YD.

Y FARCHNAD ANIFEILIAID.

ABERTAWE A'R CYLCHOEDD.

Advertising