Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

HENRY RICHARD, YSW., A.S,,…

News
Cite
Share

HENRY RICHARD, YSW., A.S,, YN MERTHYR TYDFIL. Nos Lun, y 13eg cyfisol, oedd y noson hir-ddis- gwyliedig i Mr. Richard i anerch ei etholwyr, yn ol arfer seneddwyr, am y waith gyntaf ar ol ci ethol- iad. Yn mhell cyn amser dechreu yr oedd y Neuadd Ddirwestol yn orlawn. Pan wnapth yr aelod an- rbydeddus ei ymddangosiad ar yr esgynlawr yn nghwmni ei Bwyllgor, ail enynodd yr hen deimlad oedd wedi cael gorphwys am flwyddyn gron, a der- byniwyd ef gyda chymeradwyaeth uchel a hir, Cymerwyd y gadair gan C. H. James, Ysw., yr hwn yn ol ei ddoethineb arferol a agorodd y cyfar- fod ar fyr eiriau. Yna galwodd ar Mr Richard (cymeradwyaeth hir a gwresog). Wedi i'r dorf dawelu, dechreuodd drwy ddweyd:—"Mr Cadeirydd a boneddigion. neu fel yrwyf yn arfer eich cyfarch, Fy Nghyfeillion am Cydwladwyr. Yr wyf yn ddi- olchgar iawn i chwi am y derbyniad croesawus ydych wedi roddi i mi heno ar fy ymddangosiad cyntaf ar ol fy ymdrech gyntaf i'ch gwasanaethu fel cynrychiolydd Merthyr ac Aberdar, yn Nhy y Cyff- redin. Ni wnaf ddifa eich amser chwi a minau mewn nodiadau moesgarol a diheuriadol {apologetic), ond, gan fod genym faes go eang i fyned drosto, ceisiaf genych ar unwaith i ddyfod gyda mi i ystyr- ied ychydig faterion perthynol i ni oil, yn dal cys- ylltiad a'r gorphenol ac a'r dyfodol. Yr oedd y Senedd-dymor diweddaf yn un o'r rhai mwyafpwys- icaf, os nad y pwysicaf yn hanes y wlad lion, o'r hyn leiaf gallaf eich sicrhau mai unllafurus ydoodd. Dygwyd i mewn 300 o fesurau, ac o'r rhai hyny pasiwyd 117. Yr oeddynt yn amrywio yn eu nhatur, en hamcan, a'u teilvngdod o'r mesur er diogeliad Adar y mor, yr hwn oedd agos y cyntaf a basiwyd, hyd at y mesur Rhyddhau yr Esgobion methiedig o gyf- lawni eu swyddau, yr hwn oedd agos y diweddaf a basiwyd. O'r holl fesurau, y pwysicaf oedd y mesur ar Ddadgysvlltu a Dadwaddoli yr Eglwys yn yr Iwerddon. Pe profid y mesur hwn yn ol safon cyf- iawnder a chyfanedd, diau yceid ef yn anmherffaith. Yr oedd yno rai pethau y carech chwi a minau eu gadael allan; ond ar y cyfan, yr oedd yn fesur mawr -mawr yw yr hyn wnaeth: ond mwy yn fy nhyb i ar gyfrif yr hyn a gydnabyddai ao a awgrymai. Cydnabyddodd yr egwyddor, y dylai yr Eglwys Sef- ydledig, pan y darfyddai a bod, neu y methai ddyfod yn Eglwys y bobl, a phan y methai gyflawní: ei dyledswydd broffesedig fel athrawes y bob], gael ei symud (J'r ffordd fel diffrwythydd y tir. Cydnabydd- odd yn mhellach yr egwyddor hon, mai meddiant cenedlaethol yw meddiant eglwysig, a bod gan y llywodraeth. hawl i wneyd fel y myno ag of, or budd- iant dymhorol neu grefyddol y wlad. Yn awr, y mae yr egwyddorion hyn yn gymwysiadol i ddefnydd eangach na Dadgysylltiad a Daclwaddoliad yr Eg- I Y lwys Wyddelig (cymeradwyaeth). Wrth ddilyn y Dcladl ar y mesur pwysig hwn, nis gallwn lai na theimlo fod dylanwad Eglwys Sefydledig yn andwy- ol i foesau ei haelodau. Yr oedd yn amlwg mae y buddiant tymhorol yn nglyn a chrefydd, ac nid crefydd ei hun oedd yn gwasgu fwyaf ar feddyliau cyfeillion yr Eglwys Wyddelig. Pe y buasid yn mabwysiadu yr holl welliantau a gynygiwyd, buasai yr £ 8,000,000 a fwriadau Mr Gladstone i fod yn ngweddill, nid yn unig wedi eu llyngcu i fynu, ond buasai rhaid cael XI,000,000 arall o ryw le. Nis gallwn lai na theimlo yn ddiolchgar nad oedd yr eglwys y perthynwn iddi wedi dysgu pwyso ar ffyn- baglau felly (cymeradwyaeth). Yr oeddwn yn barod i ofyn ai nid nid oes genych ffydd-dim ffycld yn y o-wirionedd—dim ffydd yn Nuw, dim ffydd mewn dim ond mewn llandiroedd, persondai a degymau. Wei, yn nghwrs y ddadl hon'y gwnes inau fy antur- iaeth gyntaf yn y Ty Cyffredin, (uchel gymeradwy- aeth), ac yn wir y mae genyf achos i fod yn ddiolch- n-ar am y dull boneddigaidd a charedig y gwrand- iwyd arnaf. Dywedodd rhyw bersonau yn y gym- yxlogaeth hon, os cawn fyned i'r Ty Cyffredin, na feiddiwn agor fy ngenau yno byth, ac os gwnawn y cawn allan fy level yn bur fuan (chwerthin). Dygwyd yn mlaen amryw resymau, a ystyriwn na Idylent gael pasio heb herfeiddiad; a theimlwn 711 fwy na hyny, y dylai llais Cymru gael ei glywed im y fath ddadl o hono (uchel gymeradwyaeth), )blegid yr oedd gan Gymru ryw beth i'r pwrpas i'w Idyweyd, a chefais foddlonrwydd nid bychan yn y raith, fy mod yn alluog i ddwyn allan ffeithiau iml wg ac anwadadwy, yrhai a adroddais er oefnog- ad i gyfeillion yr Eglwys Wyddelig. Cyfeiriais lwynt at fy ngwlad dlawd, esgeulusedig ac erlidied- g—fod yr Anghydffurfwyr yno, yn unig drwy eu ariad atwirionedd, wedi llanw y wlad a moddion refyddol y fath na welir yn un rhan arall o'r deyrn- .s na'r byd (uchel gymeradwyaeth). Gwyliaisy mesur o'r diwrnod y dygwyd efimown Tn y dull meistrolgar hwnw gan Mr. Gladstone hyd dydd y derbyniodd y Sel Freiniol. Er fod y eremoni hwn yn ysmala a digrif, yr oedd i'm aeddwl i yn gosod sel y goron ar fesur, nid yn unig )wysig ynddo ei hun, ond hefyd un a ddwg ffrwyth awy pwysig yn y dyfodol (hir gymmeradwyaeth) vlesur arall y teimlais ddyddordeb neillduol ynddo edd, the Mines Regulation Bill. I hwn dygwyd y fath nifer o welliantau, fol yr oedd yn anmhosibl bron a deall ei ffurf wreiddiol. Nid oedd yn ddrwg genyf icldo gael ei dynu yn ol. Ond gobeithio y dygir of i mewn eto yn gynar y flwyddyn nesaf fel y gellir cael amser i ystyried ei fanylion. Dyna fethiant arall, yr University Tests Bill. Cariwyd hwn drwy Dy y Cyffredin, ond taflwyd ef allan gan yr Arglwyddi. Nid yw yn ddrwg genyf hyny, oblegid mesur tlawd ydoedd. Nid oedd ond mesur goddefol ar y goreu. Yn awr y mae yr a wdurdodau yn Rhyd- ychain a Chaergrawnt wedi mynegu eu barn y dylai y mesur fod yn orfodol i agor y Colegau i bawb yn ddiwahan (cymeradwyaeth). Mesur arall y cymerais gryn dipyn o ddyddordeb ynddo oedd y Burial Bill. Yr wyf yn cymeryd y cyfleustra hwn i ddiolch i chwi am y cymhorth a roddasoch i mi gyda y mesur hwn drwy anfon cynifer o ddeisebau drosto. Yr oedd fymaich weithiau bron yn ormod i mi i'wgario. Ac un tro, yr oeddwn wedi bod yn bur ofalus i gelymu y baich mawr a chordyn cryf, ond fel yr oeddwn yn cerdded i fynu y Ty, torodd y cordyn, a gwasgarwyd y cwbl ar hyd 11 awr y Ty (chwerthin mawr.) Gan fod. y mesur hwn wedi ei gymeryd oddiwrth un cyffelyb yn yr Iwerddon, a hwnw yn methu atteb y dyben yno, a chan i rai o aelodau y Weinyddiaeth ddeisyf arnom am beidio ei wasgu y pryd hwnw rhag iddo niweidio mesur yr Eglwys Wyddelig, tynwyd ef yn ol. Ond dygir un arall a pherffeithiach i mewn y tymhor nesaf, ac y mae genym agos sicrwydd y bydd ihwnw basio. Caniatewch i mi alw eich sylw at fater arall yr wyf yn teimlo dyddordeb neillduol ynddo, yr wyf yn cyfeirio at yr Amaethtoyr gorthrymedig yn Nghym- nt. (Cymeradwyaeth). (Gan fod cyfeiriad at y mater hwn yn araeth y boneddwr anrhydeddus yn nghyfarfod Liverpool, gorfodir ni-gan ddyffyg lie i adael allan y darn he- laeth yma o adroddiad ein gohebydd ffyddlawn). Cyn yr eisteddaf, mae un cwestiwn ar ol hwn y disgwyliweh i mi ddweyd ychydig eiriau, a hwnw yw ADDYSG. Mae y cwestiwn hwn wedi bod yn lwbby genyf am flynyddau. Yn y flwyddyn 1845, bum yn offeryn i alw yn nghyd y gynadledd gyntaf yn Nghymru a gynliriliwyd ar y cwestiwn, sef y Gynadledd a gynhaliwyd yn Aberhonddu er clyfeisio cynllun i sefydlu ysgolion dyddiol yn Nghymru; o'r pryd hwnw hyd yn awr, nid wyf wedi colli dyddordeb mawr yn y mater, ae wedi adolygu y cwrs a gymmerodd dywedodd, Dichon y gofynweh i mi,Va ydwyf yn cymeradwyo addysg fydol (secular). Fy uteb yw -hyn-ar ol ys- tyriaethjjdifrifol, nid wyf yn gweled unjllwybr i ddod allan o'r anhawsder crefyddol yn y mater hwn yn y wlad hon, ond hyn, os ydyw y llywodraeth i ymyr- aith ag addysg y bobl, nis gall wneyd hyny, ond trwy ymyraith an haddysg fydol. Bum yn ddiweddar ar y Cyfandir, yno, gwelais fod y naill gyfundrefn yn anfoddhaus, a'r llall yn fethiant—Yr addysg fydol yn anfoddhaus, a'r addysg grefyddol yn feth- iant teg. Yn Berlin lie nad oes ond addysg grefydd- ol dan nawdd y llywodraeth, mae 80 o bob cant yn cael eu claddu heb un math o wasanaeth crefyddol. Ond mor bell ag y mae a fyno Cymru ar mater, nid oes arnaf fi. ofn addysg fydol. Mae ein hysgolion Sab- bothol, y weinidogaeth, a'r ddyledswydd deuluaidd, yn sicr o ofalu am yr addysg grefyddol. Ar yr un z;1 pryd rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn barod i fa- bwysiadu cyfundrefn i gau allan y Boibl trwy gyfraith (cymeradwyaeth). Gall un deimlo gwrth- wynebiad i orfod talu at ysgol lie y darllenir y Beibl. Gall un arall deimlo llawn cymaint o an- fodlonrwydd i orfod talu at ysgol o'r hon y cauir allan y Beibl. Rhaid parchu cydwybod y naill fell y llall (clywch). Yna am y cwestiwn o addysg orfod- ol. Nid wyf yn caru gorfodaeth. Gwell genyf lywodraethu dyn oddi fewn, acnid oddi allan-drwy ddyweyd chwi ddylech, ac nid rhaid i chwi, Gwell genyf enill deall a rheswm dyn, nai orfodi drwy rym yr heddgeidwad. Er fod addysg yn bwysig, rhaid addef fod bodolaeth y corph yn bwysicach. Mewn trefn i addysg i plentyn rhaid iddo gael bwyd a dill- ad, Mewn teuluoedd lie nad yw cyflog y tad ond 12 neu 15 swllt yn yrwythnos, yr anhawsder i roddi addysg i'r plentyn yw, nid y geiniog neu ddwy yn yr wythnos i dalu am yr ysgol, ond y swllt, y dau neu y tri, mae y plentyn yn enill yn yr wythnos i ychwanegu at gyflog y tad, i gynorthwyo magu y toulu. Ymddengys i mi mai creulondeb ar y tad hwnw fyddai dyweyd wrtho, rhaid i chwi aberthu yr ychydig sylltau enillir gan y plentyn yna, a'i anfon ef i'r ysgol. Heblaw hyny, ymddengys i mi fod yr anhawsder yn nglyn a'r 25,000 Ysgolion en- wadol sydd yn awr yn y wlad yn anorchfygol. Pa beth a wneir a'r rhai hyn sy'n gwestiwn dyrus, an- hawdd ei benderfynu. Ond'om rhan fy hun, yrwyf wedi dod i'r penderfyniad, os oes rhaid cael cyfun- drefn o addysg gendlaetliol, yn cael ei chynal gan drethoedd, neu drethoedd lleol cynorthwyedig gan y llywodraeth, nid yw yn bosibl cyfarfod ag argy- hoeddiadau crefyddol y wlad, ac amddiffyn hawliau cydwybod, ond trwy ddyweyd wrbh y llywodraeth, rhaid i chwi gyfyngu eich hun i ddiwylliad meddwl y plentyn yn unig. Nis gallweh, ni raid i chwi; ac ni chewch ddysgu crefydd i'r plentyn. Rhaid i gy- dwybod sefyll yn glir, nid oes dim i sefyll rhwng dyn ai wneuthurwr mewn crefydd. Nid wyf yn meddwl fod y mater hwn eto yn addfed i'w bender- fynu, ac yr wyf yn gobeithio na chymer y llywod- raeth mewn Haw, hyd nes y byddo y wlad wedi add- fedu ac uno yn ei barn yn ei gylch. Dyna fi wedi mynegu i chwi fy olygiadau yn onest, a gallaf dystio yn ngwyneb fy ctholwyr am Duw, nad wyf wedi gwneyd dim, nac wedi ymatal rhag gwneydo dim fel aelod seneddol, ond yr hyn oeddwn yn ei ystyried oedd er lies fy ngwlad. Eisteddodd Mr. Richard yn nghanol cymeradwyaeth uehel a Itir barhaol. Gofynwyd i Mr. Richard ychydig ofyniadau mewn cysylltiad a'r Eglwys yn Nghymru, yr Es- golion yn Nhy yr Arglwyddi, a pha un a wnai efe bltidleisio dros roi arian ly llywodraeth at ysgolion Pabaidd. Wedi iddo atteb, pasiwyd pleidlais o ym- ddiriedaeth ynddo heb un yn groes. Cynygiodd Mr. Richard diolchgarweh y cyfarfod i C. H. James, Ysw. y Cadeirydd. Pasiwyd y penderfyniad gyda brwdfrydedd anarferol, yr hyn a ddangosodd fod y dyn bach mewn parch mawr gan y cyfarfod. MB. FOTHEBOULL. Nos Eercher gwnaeth Mr Fothergill yr ail aelod dros Ferthyr ei ymddangosiad o flaen ei ethol- wyr. Ni chaniata y Gols. i mi roddi talfyriad o'i araeth ef. 0 ran hyny, nid oes angen neillduol, oblegid dilynodd ei frawd hynaf a blaenaf i'r lobby bob tro, a'r cwbl a ddywedodd ar bob mater cry- bwylledig gan Mr Richard oedd yr un fath ag ef, ond ychwanegodd ar un, sef y Miners Regulation Bill. Dywedodd ei fod ef am gael nifer o Subinspect- ors o blith y gweithwyr, ondcymerodd ofal i beidio dyweyd pwy oedd i'w talu, pa un a'i y meistri ynte y gweithwyr. Edrychwch ar ol y mater yna gy- feillion. Y ddau fesur y crybwyllid am danynt yn araeth Mr. Richard ei hun, oedd y Beer House Bill a'r Bankruptcy Bill. Nid oedd efe yn iach yn y ffydd ar y Bill cyntaf, meddai Mr Daniel, a rhoddodd iddo wers ar hyny. Ar y Hall dywedodd rhai pethau gwir dda. Rhodded hergwd da i'r Packman. Gwyn fyd na wnai holl weithwyr Merthyr a'r cylchoedd gar- io albm ei awgrymiadau. Yr' oodil y darnyn o'i araeth yn ardderchog. Yr ydym yn canmol ei wroldeb yn gwneud y fath attack ar y locustiaid estronol hyn. Yr oedd y cyfarfod yn llwyddiant perffaith, onibai ymosodiad Mr Johnstone ar bwyllgor Mr Richard. Paham na fuasai ef yn beio y Pwyllgor nos Lun yn nghyfarfod Mr Richard, ac nid yn nghyfarfod Mr Fothergill. Hefyd yr oedd efe ei hun yn y Pwllgor pan benderfynwyd fod dau gyfarfod i fod. Gan ei fod ef yn y lleiafrif (dim ond pedwar neu bump) dylasai ymostwng i farn y mwyafrif fel y disgwilia i Eglwys Market Square wneiid.

O'R TWR LLECHT.