Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYTHYR Y MEUDWY. --

News
Cite
Share

LLYTHYR Y MEUDWY. (NID O'N MEUDWYDY, OND o BI-IIFDDINTS Y COT- TON, Y GWLAW, Y MWG, A'R CLOCS.) Y Sabbath nesaf ydyw y diwrnod appwynt- iedig i gyhoeddwyr capeli y Dywysogaeth, i wneud yn hysbys yr hyn na chylioeddasant hwy na'u rhagfiaenoriaid erioed o'r blaen, sef y bwriedir gwneud casgliad cenedlaethol tuag at gynorthwyo a chysuro y gwroniaid hyny a ddarfu beriglu eu pob peth bydol trwy bleid- leisio yn unol a'u hargyhoeddiadau cuhunain, ond yn groes i ewyllys, dymuniad, ac hyd yn od orcliymyn eu meistri tiroedd. Gwnaeth y merthyron y proffesa y genedl ei bod yn eu hedmygu rywbeth mwy sylweddol na siaraill o blaid ein hegwyddorion ni yr anghydffurf- wyr a'r rhyddfrydwyr, ac ar y Sul cyntaf yn y flwyddyn 1870, bydd yn ofynol i bob cy- nulleidfa Ymneillduol roddi profion sylweddol o drwyadledd cydymdeimlad y blaid ryddfryd- 01 a'r bobl wrol ddarfu ei gwasanaethu trwy ebyrth costfawr i deimlad a phoced. Os i-hyw ffrit o gasgliad a wneir ar y Sul ordeiniedig, yn lie un mawr ac haelionus fel cyfanswm, fe fydd crechwen, llawenydd, a dawns yn ngwer- sylloedd ein caseion. Eu gweddi hwy yw ar i'r casgliad yr ydys wedi creu cymaint o dwrw yn ei gylch droi allan yn fethiant gwarthus, ac os felly y try allan, ni allwn fod yn eithaf sicr pan gymer etholiad le nesaf y bydd y tir- feistri Toryaidd yn gan mil mwy gorthrymus nac erioed, a'r deiliaid yn llawer llai calonog i wneud ebyrth dros egwyddorion y blaid a bro- ffesa edmygu a rhyfeddu merthyron gwleid- yddol, ond a orphwys yn gydmariaethol ddi- daro yngwyneb y canlyniadau o weithredu o honynt yn gyson a' u credo boliticaidd. Dylid cofio fod clan amcan mewn golwg wrth wncud y casgliad cenedlaethol y bwriedir ei wneud— sef digolledu y sawl ddioddefasant oblegid eu hymlyniad wrth ryddfrydaeth, yn amser yr etholiad diweddaf, a gwroli etholwyr eraill erbyn amser yr etholiad nesaf gan eu gorfodi i gredu na chaniateir iddynt gan y blaid rydd- frydol i ddioddef camwri ac anghyfiawnder mewn canlyniad i sefyll yn anhyblyg o du ei hachos a'i hegwyddorion. 0 Nid yn ami y rhoddir cyflcusdra i holl sectau y Dywysogaeth i gyaweithredn: ond dyma y Toryaid wedi eu cynysgaethu ac un gogonedd- us o'r diwedd, ac yr ydym yn credu yu ddi- ysgog y gafaelir ynddo yn awyddus, ac yr anghofia yr holl enwadau bob peth enwadol ar y Sul cyntaf y flwyddyn sydd wrth law gan ddw ysder eu dyddordeb yn yr achos mawr cenedlaethol yn herwydd yr hwn y gwneir y casgliad cyffredinol. Yn awr ynte atti hi, Gymry anwyl, o bob cred a galwedigaeth, fel y byddo yn llaw y Trysorydd swmyn o arian a wna gynorthwyo y Toryaid i ddeall yn Irofiadol taw I Trecii gwlad nag arglwydd.' Gobeithio na wna neb o deulu y cyhoeddwyr betruso ynghylch cyhoeddi y casgliad hwn. Mae rhai o honynt wedi cylioeddi lawer gwaith yn yr hen amser gynt gasgliad at wneud i fyny golled pobl ac y byddai eu tai a'u hanif- eiliaid wedi myned ar dan. Onid arferid cy- meradwyo yn nghynadleddau cyfarfodydd misol y Methodistiaid, a rhai chwarterol yr Annibynwyra'rBedyddwyr, y I I a garid 0 gwmpas synagogau yr anghydffurfwyr gan yr anffodusion a ddioddefasent golled trwy dan ? Pa beth ydyw pleidleisio dros ymgeis- ydd seneddol a broffesa barodrwydd, os dewisir ef yn aelod, i wneud ei oreu i baso mesurau fyddo yn cynyg at ysgafnhau leichiau y gorth- ryniedig,, ond ufydd-dod ymarferol i'r gorchy- myn sydd yn erchi i ni I wne-Lithur i eraill megis yr ewyllysiemi eraill wneuthur i ninau ?' Onid ydyw Cristionogion yn ddinasyddion, ac onid ydyw yn amhosibl cyflawni ein rhan o grefydd tuag at cin cymydogion, neu gydfydoy- ion mewn llawer amgylchiad ond fel dmasydd- ion ? Fel cydfydog, neu gyd-ddinasydd gall gwr yn Aberystwyth wasanaethu un o drigol- ion sir Fon neu ryw ran o Loegr. Nid ydyw yn bosibl fod neb yn perthyn i un capel yn rhy grefyddol (!) i gyhoeddi neu gyf- rana at y casgliad cenedlaethol y Sul cyntaf o'r flwyddyn newydd. Yr ydym wedi dyg- wydd taro wrth ambeli greadur, ar lun un rhesymol, ac a ymddangosai i ni yn rhy dduwiol i fod yn ymarferol dduwiol—yn rhy dduwiol i fod yn Gristion gweithgar, ymarfer- ol. Yr ydym newydd glywed am wr o'r fath hyn a groyodd ei gath am ladd llyyod ar y dydcl Salloth Oni ddylasai ditw fyn'd dan y gair ar y Sul, ac heb feddtvl am bethau mor ddaiar- 01 a llygod Yr oedd perchen y gath yma yn berthynas agos i'r Phariseaid hyny gynt a wa- rafunent i bobl ladd chioanen ar y dydd Sab- both am y byddai hyny yn fath o helwriaeth ac ni chaniattaent i bobl dori cosi ar eu trwyn- au, am y buasai hyny yn fath o waith Peth sobr yw bod yn gath i Pharisead o dclyn ond buasai y llygod yn ei ganmol. Nid oes dim arwyddion hyd yn hyn eu bod hwy, y lladron blewlyfn, yn arfer gwneud cyfrif o un dydd uwchlaw y llall. Gwyn fyd na fuasai llygod z, y Phariseaid uchod wedi bwyta ar y Sul ei yd, ei gaAvs, a'i hen wasgod wlanen. Mae cin hamser ar ben. Atti hi ynte, ni ddywedwn unwaith drachefn, y Sul cyntaf yn y flwyddyn 1870, chwi holl sectau Cymry, yn Drindodiaid ac TJndodiaid, yn Galflniaid ac Arminiaid, yn Daenellwyr a Throchwyr; chwi bobl y ffydd heb (medd eich giorthwynelwyv) weithredoodd, a chwithau bobl y gweithred- oedd heb (medd eich gwrthwynebwyr ehivithau) ffydd, ymroddwch atti, a gwnewch bawb o honoch rywbeth teilwng o ffydd a gweithredoedd dydd Sul wythnos i'r nesaf-l'hywbeth ac fyddo fymryn bach fwy gwasanaethgar i ddyn, a mwy o anrhydedd i Dduw na c-hrogi cath am ddal llygod ar y rlydd Salloth.

Advertising

Y DIWEDDAR D. WILLIAMS, A.S.