Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NEWYDDION CYMREIG.i

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. BAGILLT.—Traddodwyd darlith yn iighapel, An- nibynwyr yn y He uchod Rhagfyr lleg, gan Mr. Robert Jones, Hanley. Y Parch. E. Davies, gwei- nidog y Wesleyaid, yn y gadair. BBDDGELEET.—Anrhegwyd tna 160 o ardalwyr y lie hwn a chiniaw ardderchog gan Mrs. Minshull, yn y Royal Goat Hotel. Caed cyfarfod o areithio a chanu ar ol ciniaw. Y Parch. R. Priestley, periglor y phvyf, yn y gadair. BETHEL, LLANDDEWI.—Rhagfyr 13og, bu y Parch W. Thomas, Whitland, yma yn darlithio ar Y Mil Blynyddoedd.' Siaradodd y darlithycld yn fywiog am ddwy awr. Llywydd-Y Parch. J. Edwards, Ffynnon.—Gwrand&ivr, LIB Amis, GER ABEEHONDDTT.—Yehydig yn ol, tal- odd seiodorf y 6th Royal Lancashire Light Infantry ymweliad a'r lie hwn. Chwareuwyd yn swynol iawn See the. Conquering Hero Comes,' a God Bless the Princo of Wales.' Carem eu gweled yn ymweled a'r lie yn amla,.b.W. W. CWM-Y-GLO. CYNGHEEDD.—Cynhaliwyd cyngherdd y Taber- nacl Cwm-y-glo, nos Wener Rhagfyr 17eg, 1869, gan Mynyddog, Llanbrynmair; yn cael ei gynorthwyo gan Mrs. Jones, (Eos Gwynedd), H. J. Williams, Bryncoch, Llanberis, J. Roberts, Cwm-y-glo, a Miss Roberts, Miss Griffiths, Llanrug, a chor y Wyddfa, o dan arweiniad Wm. Owen, Blaenyddol, Llanberis. Llywydd, y Parch. 0. Olivor, Llaialieris. Yr oedd yr elw yn myned at ddi-ddvledu y Capel, Cawsom gynulleidfa luosog, a chyngherdd hwyliog iawn. Dyma'r tro cyntaf i Mynyddog fod yn ein hardal ni ond credwn y bydd yn rhaid iddo ddod yn ami o hyn allan. Enillodd boblogrwydd mawr ar unwaith. CROESOSWALLT. HEEMON.—Nos Iau, Rhagfyr 16eg, traddododd y Parch. Joseph Farr, gweinidog y lie, ddarlith yn y lie uchod, ar Babyddiaeth, neu ar amcan a gweith- rediadau y cynghor mawr a gynhelir y dyddiau hyn yn St. Pedr, yn Rhufain.' Cymerwyd y gadair gan Joseph Evans, Ysw. Yr oedd y gynulleidfa yn dda ac ystyried gerwinder yr hin, a chafodd pawb eu Uawn foddhau am ddod yno, a ni a hyderwn y bydd i brophwydoliaeth cin parchus weinidog gael ei gwirio o barthed i'r cynghor hwn, sef y bydd i'n Duw holl ddoeth oruwchreoli y cyfryw gynhaliad rhyfygus a throi y cynghor Ahitophelaidd hwn yn ffolineb dynion, ac yn ddoethineb Duw, yn llwydd- iant y gwirionedd, a dinystr y dyn pecliucl.-Golieb. LLANBERIS. CYNGHEEDD.—Cynhaliwyd cyngherdd yn Gor- phwysfa Llanberis, nos Iau Rhagfyr 16eg, 1869, gan Mrs. Jones, (Eos Gwynedd) Cwm-y-glo. Cor Cwm- y-glo o dan arweiniad J. Morris. Cor undebol Glan Padarn o dan arweiniad Eos Ceiri. A Chor y Wyddfa o dan arweiniad W. Owen. Llywydd, y Parch O. Oliver. Yr elw at gynorthwyo Mr. Thos. Phillips yn ei henaint. Y mae Thos. Phillips wedi bod yn ymdrechgar iawn gyda'r canu yn ein hardal am lawer iawn o flynyddoedd, ac yr oedd yn haeddu gwneuthur o honom hyn iddo. Nis gallwn lai na datganu ein diolchgarwch i'r cantorion am fod mor ddyngarol a haelfrydig a rhoddi eu gwasanaeth yn rhad. Deallwyf fod yr hen frawd Thos. Phillips wedi cael elw da oddiwrth y gyngherdd. DYFFRYN NANTLLE. CYNGRERDD.-N os Sadwrn, Rhagfyr lleg, cyn- haliwyd cyngherdd mawreddog yn Baladaulun, capel y Methodistiaid Calfinaidd, o dan lywyddiaeth Mr John J. Evans, Dorothea Quarries, yn absenol- deb John LI. Jones, Ysw., trwy fod amgylchiad wedi cymeryd lie yn ei deulu nas gallasai fod yn bresenol, Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Talysarn Glee Society, a'r ddwy Miss Williams, a Mr Williams, o Gaernarfon. Chwareuid ar y Berdoneg gan Miss Katie Williams, a rhoddodd ddetholiad chwaethus o alawon Cymreig, Seisnig, &c. Yr ydym yn deall fod pawb yn gwneud eu rhan yn rhad ac am ddim, a'r elw yn myned at gymdeithas Blodau'r Oes. Ar ol myned drwy y gweithrediadau arferol ymadaw- odd pawb wedi eu bocldhau. HIRWAIN. ■; Bu Mr Burns yn traddodi dwy ddarlith, un ar Phrenology,' a'r llall ar Spiritualism,' yn ysgoldy Hirwain, Rhagfyr y lOed a'r lleg. Y nos gyntaf, cawsom ymchwiliad manwl a helaeth i'r ffordd i adnabod cymeriad, galluoedd, a gwendidau unrhyw berson. Bu saith o bersonau cyfrifol ao adnabyddus yn y lie ar yr esgynlawr, ac er eu bod yn ddieithriaid iddo, dangosodd yn eglur fod Phrenology yn wir, trwy syrthio yn union a-chywir ar y prif nodwedd- ion yn eu cymeriadau dirgel a chyhoeddus. Nos Sadwrn bu yn eglnro Spiritualism.' Cymerwyd y gadair nos Wener gan y Parch. W. Williams, a nos Sadwrn gan Mr E. Watkin, ysgolfeistr yr Ysgol Frytanaidd. Da genym hysbysu fod F. B. Wilmer, Ysw., wedi rhoddi anrileg, o wyth tunell o lo i'r Ysgol Frytanaidd, dros yr Hirwain Coal & Iron Co. Clywsom fod y pwyllgor wedi pasio pleidlais o ddlolghgarwch gwresog iddo. GIBEA, BRYNAMAN. GALWAD.—Mae Brynaman ar gyffiniau sir Forgan- wg a Chaerfyrddin, ac yn lie poblogaidd iawn. Un o hen eglwysi yr anfarwol Pryse, Cwmllynfell, ydyw Gibea. Mae yr eglwys uchod wedi rhoddi galwad unirydol hollol i'r Parch. J. M. Jones, CTwrecsam, ac yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Dyma faes pwysig, a da iawn genyf ddeall ei bod yn mynu gweinidog ei hunan. Mao yma ddigon o waith. Credwn fod Mr Jones yn ddyn cymhwys i'r lie. Llwyddiant mawr a ddilyno yr undeb. Dyma un o wcinidogion y Gogledd yn ymadael eto; mae eraill wedi ymaclael yn ddiweddar, ac ni ryieddwn pe deuai lluaws eto. Byddai yn eithaf priodol i eglwysi y Gogledd ymchwilio beth yw y rheswm fod cjmifer o'r gweinidogion goreu yn ymadael un oes ar ol y llall. Gallwn ateb y cwestiwn yn rhwydd, ond byddai yn ymarferiad iachus iddynt hwy i chwilio am dano. CWM RHONDDA. Y mae Undeb Ysgolion Sul wedi ei ffurfio o Sardis, Pontypridd, hyd .Carmel, Treherbert. Dyma beth wyf wedi hir hiraethu am dano, ac undeb, os nad wyf yn camsynied, a dry yn fendith, ac a wasgar fywyd drwy ein Hysgolion Sabbothol, ac a gyfyd yr Hen Lyfr anwyl i fwy o sylw a bri. Bydd y gy- manfa gyntaf i gael ei chynal yn Ebenezer, Tony- pandy. BETHEL, TEEIIAFOD.—-Cynhaliwyd cyfarfod urdd- iadol Mr. Methuselah Jones, yn y lie uchod, ar y 6ed a'r 7fed o'r mis hwn. Nos Lun, pregethodd y Parchn. J. Griffiths, Glantaf a J. Davies, Taihirion. Pre- gethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch. D. Rich- ards, Caerphili. Holwyd y gweinidog gan y Parch. J. Davies, Taihirion ao offrymwyd yr urdd weddi gan y Parch. J. Jones, Pentyrch (tad y gweinidog). Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan y Parch. T. Rees, D.D., Abertawe. Am 2, pregeth- odd y Parchn. Roberts, Bodringallt; ac R. Griffiths, Cefn. Am 6, y Parchn. D. Thomas, Ebenezer, Ton- ypandy; a W. Morris, Pontypridd.—Gryff o'r Erw. BIRKENHEAD. Nos Wener diweddaf, yn y Workman's Hall, dad- genid Oratoria ardderchog Handel, y 'Messiah,' gan Gymdeithas Gorawl Gymreig y dref hon. Cymerid y rhanau arweiniol gan Miss Galloway, Miss Ed- wards, Meistri Robinson, T. J. Hughes, a Parry, arweinydd galluog y Gymdeithas. Mae mawl y arweinydd galluog y Gymdeithas. Mae mawl y wasg eisoes wedi ei arllwys ar y cor hwn a'i weith- rediadau, fel mai afraid ychwanegu. Parodd her- feiddiacI cor y Rhos i'r cor 'byd-enwog' hwn i mi feddwl am y ci yn y ddameg yn cyfarth y lloer. Nos Fawrth, y 14eg cyfisol, yn nghapel y Bed- ydclwyr Price Street, cynhelid cyfarfod i groesawu y Parch. Dr. Price, Aberdar, ar ei ddychweliad o'r America. Yr oedd arwr y cyfarfod yn edrych mor llewyrchus a jolly ag erioed. Siaradodd amryw gyf- eillion a gweinidogion yn wresog ar wasanaeth y Dr i'w wlad a'i enwad, a llwyddiant ei genhadaeth yn myd y gorllewin. Traddodai Dr. Price araeth oludog 0 addysg ac arabedd. Yr oedd y disgrifiadauymar- ferol o'r Brawd Jonathan yn gogleisio y gynulleidfa i foddhad dirfawr. Llywyddid y cyfarfod gan Mr Williams, Aberystwyth.—Asaph. ABERTEIFI. Y FEIBL GYMDEITHAS.—Dyddiau Sul a Llun, Rhag. 12fed a'r 13eg, talodd y dirprwywr o'r Fam-Gym- deithas, sef y Parch. Dr. Phillips, ei ymweliad blyn- yddol a ni. Dydd Sul, yn y boreu, pregethodd yn Seisnig yn Hope Chapel, ac yn yr hwyr yn addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, pryd yr unodd yr Anni- bynwyr a hwynt. Nos Lun, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y dref, pryd y cymerwyd y gadair gan R. D. Jenkins, Ysw., ac anerchwyd y cyfarfod yn Gymraeg gan y Parch. W. Davies, Capel Mair; a'r Parch. W. Jones (T. C.), ac yn Seisnig gan y Parchn. G. Thomas, Vicar; J. N. Richards, Hope a Mr D. M. Palmer, B.A., ac yn y ddwy iaith gan y Dr. ei hun. Rhoddodd i ni hanes maith o weithrediadau y gymdeithas yn ngwahanol wled- ydd y byd, ac yn enwedig ei gydweithrediad.au llwyddianus yn yr Yspaen. Da oedd genym weled y Dr. parchedig yn edrych mor heinyf a gwrol, a'i olwg yn y presenol yn dyweyd y gallwn gael llawer ymweliad eto ganddo ond fe allai mai fel arall y bydd, neu fel y dywedodd ef ei hun ar ddiwedd oed- fa nos Lun, ei bod yn bosibl mai yr un ddiweddaf oedd yr un eleni. AEWEETIIIAD BLYNYDDOL Y READING RooM.-N os Wener, Rhagfyr 17eg, cymerodd arwerthiad blyn- ydclol y sefydliad uchod le, pryd y gwerthwyd y Times, Standard, Daily Tolegraph, Daily News, Shipping Gazette, Globe, Cambria Daily Loader, Western Mail, Welshman, South Wales Press, Y Faner, Cronicl Cymru, Y Dydd, a'r Christian World i'r cynygiwr uchaf.-Goltebydd. BLAENAU FFESTINIOG. Mae'r Gymdoithas Ymfixdol yn dal ei thir ac yn enill nerth. Nos Iau, Rhagfyr 9, cafwyd cyfarfod cyhoeddus mewn cysylltiad a hi. Llywyddwyd gan Mr John Hughes, Penygelli; ac areithiwyd i bwr- pas gan y Parch, Talxesin Jones, Mr Wm. Jones, saer a Mr Robert Thomas, Four-crosses. Gweinyddwyd yn soniarus cydrhwng yr areithiau gan y Gwaonydd Bras Band. Da genym ddeall fod y Parch. T. Jones wedi ymgymeryd o (Idifi-if o blaid y gymdeithas hon. Eglurodd yn fanwl ei hamcan, sef gwellhau sefyllfa y dosbarth gweithiol a ymfud- ant, a'r daioni dirfawr ddichon ddyfod i'r rhai nad ymfudant. Fod mwnwyr a chwarelwyr, oblegid eu cynycld cyflym mown rhifedi, o a^ngenrheidrwydd i fod yn ddoiliaid: blaonaf ymfudiaeth. Nad yw y cynllun o gymdeithas or cynorthwyo ymfudwyr' mewn un wedd A gyffroi nwydau ein meistriaid a'n goruchwylwyr, ond y dylai enill eu nawdd a'u cyd- ymdeimlad am ei bod yn amcanu daioni y mwyafrif. Bwriedir cynal cyfarfod cyhooddus bob pymtheg- nos, yn ystod y misoedd dyfodol, a bydd cyfle rhag- orol i'r rhai a fwriadant ymuno o'r 'newydd a hi. Dylem oil fel gweithwyr fod yn gyfranog o honi, a chodi trysorfa gyfoethog erbyn y dyfodol. Pe byddai undeb trwyadl cydrhwng chwarelwyr Meirion ac Arfon yn nnig o'i phlaid deuai chwe cheiniog y mis yn allu digon cryf i feddianu talacth gyfan cyn hir. Hwyrach nad ydym ni fel chwarelwyr yn meddu ar ddigon o hyder ynom ein hunain pan yn ymgy- meryd a pheth fel hyn. Hen arferiad gyda ni yw holi pwy o'r bobl fa WI" sydd o blaid y symudiad?: a phan y deallwn nad oes un o honynt yn nawdd iddo, edrychir arno fel peth amheus ac islaw sylw faint bynag o ddaioni all fod yn nglyn ag ef. Mae y ganrif hon wedi profi uwchlaw amheuaeth, ie yn enwedig y blynyddau diweddaf, fod y dosbarth gweithiol yn allu, a dylem ninau fod yn argyhoedd- edig o hyn bellach, ac ymuno gyda'r gymdeithas hon sydd a'i chyfeiriad mor uniongyrchol i'n llesau, a'n rhyddhau o lawer gorthrwm a adwaenir y tu allan i gyleh Toriaetli., Cynhelir ei chyfarfodydd yn ysgoldy Brytanaidd Dolgaregddu, a gellir cael pob hysbysrwydd yn ei chylch oddiwrth Mr J. Cad- waladr, yr ysgolfeistr.—Gohebvdd. GOGLEDD LLOEGR. Yn mhlith y canoedd sydd yn cyrchu i'r parthau hyn, yj mae llawer iawn o Gymry yn dyfod i bob gwaith. Mae y dynion da o'r cyfryw, hyd y medr- ant, yn ceisio ffurfio achosion Oymreig yn mhob lie, ac oherwydd hyny ceir tuag ugain neu chwaneg o eglwysi Cymreig yn mhob man drwy y wlad, ac wrth yr arwyddion bydd y nifer wedi cynyddu yn fawr. Y mae un yn Branch End, o dan ofal y Parch. E. Pryse er's blynyddau. Middlesbro', dwy —Annibynol a Chalfinaidd. Hartlepool, dwy- Bedyddwyr ac Annibynol. Yn ddiweddar, bu y Parch. D. G. Morgan, Middlesbro', yn sefydlu yr un Annibynol, a'r Parch. M. Williams, Stockton, yr un Fedyddiedig. Pedair yn Stockton—Wesleyaidd, Bedyddwyr, Annibynol, a Chalfinaidd. Meddyl- iwn fod dwy yn Darlington, cyn belled ag ydym wedi clywed—un gymysgedig, ac un Fedyddiedig. Pedair yn Wilton Park—Annibynol, Calfinaidd, Wesleyaidd, a Bedyddwyr. Un gymysgedig yn Berry Edge, un yn Walker, un yn Spennymoor, un yn Ferry Hill, un yn Kelloe, un yn Trindon Grange, a dichon fod ychwaneg, ond nid ydym ar hyn o bryd yn gwybod am danynt. Y mae amryw o'r eglwysi uchod yn wan, ac ereill yn gryfach. Prif gyrchfan y Cymry yn bresenol, ac wedi hod am gryn amser, ydyw Middlesbro' a Stockton. Y mae llawer o siarad am, a thebyg y ceir hefyd, o amgylch a than tref Middlesboro', waith halen, a bernir y ceir cyflawnder o ddwfr iachus i'r dref dim ond suddo i'r red sandstone. Bernir fod tua chwe mil o Gymry yn y ddwy dref uchod. Ond er fod cynifer o eglwysi, gweinidogion, pregethwyr, a dyn' ion da ereill yn y wlad, y mae ugeiniau, oes ganoedd lawer o Gymry glandeg, o Hen Wlad y Bryniau, wedi cael eu codi ar aelwydydd crefyddol, ac megys ar fronau yr eglwys yn Nghymru, wedi dyfod i'r wlad yma, ddim cymaint a myned i un lie o addol- iad o ddechreu blwyddyn i'w diwedd. Y mae hyn yn rhyfedd a thruenus, ond dyna y gwir. Trwy lygrodd, meddwdod, a phob anuwioldeb, y mae llawer o'r Cymry yn warth i'w cenedl a'u gwlad j ond trwy drugaredd, y mae yma lawer hefyd o ral sydd yn glod i hyny yn eu dull o fyw, a'u hymdrecli o blaid crefydd.—G. LLUNDAIN. EISTEDDFOD Y CYMBTJ YN CHELSEA.—Cynhaliwyd yr Eisteddfod uchod, Rhagfyr 6ed. Llywydd W. Williams, Ysw., A.S. Beirniad yr holl gyfansodd- iadau, Mynyddog.' Y darllen a'r areithio Parch11, Jones, Tabor; Jenkins, Drefnewydd; a JoneSi Bristol. I ddechreu cafwyd can Eisteddfod gan Y Cor, dan arweiniad Mr. J. Jones, a phrofodd ar un- waith ei fod wedi bod yn llafurio ar gyfer y oyfar- fod, yna araeth ryrnus gan y llywydd, ar Addysg 1 fwyaf neillduol, cymeradwyai gynllun rhydcifryd01 yr Educational League, unseetarian and compulso/'f' Wrth derfynu, anogodd y Cymiu i brofi. ei bodol- aeth yn mysg y Saeson. Er. dangos fod yn bosiW i wladwyr ddod yn enwog crybwyllodd mai Devoj1' sltire Man ydyw Arglwydd Faer presenol Llundaj11, Beirniadaeth y traethodau Cystudd y Cristion," S goreu, Mr. E. W. Williams ar "Jotiah" (i fercll: ed), goreu, un a alwai ei hun Deborah, ond pl