Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MARWOLAETH SARAH JACOB!

News
Cite
Share

MARWOLAETH SARAH JACOB! Adroddiad y Nurses. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor y Wyliadwriaeth yn yr Eagles Inn, Cross Inn, Llanfihangel-ar-Arth. Dewiswyd y Parch. E. Jones, ficer, i fod yn gadeirydd. G-alwodd y cadeirydd ar y brif nurse o Guy's Hos- pital, Llundain, i ddarllen adroddiad y nurses am yr wyth niwrnod, yn ystod y rhai y gwyliasant Sarah Jacob cyn ei marwolaeth; yr hyn a gymer- odd Ie am dri o'r gloch prydnawn dydd Gwener diweddaf. Rhoddwn yma sylwedd yr hyn a fyne- godd. Rliagfyr 9fed, dwy nurse wrth eu dyledswydd y nos. Rhagfyr lOfed.—Yr eneth wedi cysgu hyd ddau o'r gloch, ac na bu yn effro am bum munud. CYR- godd hyd chwech o'r gloch. Dim cyfnewidiad. Parbaodd i ddarllen yn awr ac eilwaith yn ystod y boreu. 2 o'r gloch y prydnawn Dywed y nurses wrthyf ei bod yn bur siriol. Dechreuodd gysgu am chwarter wedi saith o'r gloch, a pharhaodd i gysgu hyd chwarter wedi un a'r ddeg. Cysgodd ar ol hyny hyd ddau o'r gloch. Yr oedd ei chwsg yn anes- mwyth i fynu hyd yr amser hwnw. Yna hi a gys- godd yn dawel hyd haner awr wedi pump. Rhagfyr llfed.—Chwech o'r gloch —Cynnorth- wyais y nurse i symud yr eneth o'i gwely. Hi a ddiolcliodd i mi, a dywedodd na ddarfu i mi ei briio. Gadewais hi am saith o'r gloch y nos, yn darllen, ac yn edrych yn bur siriol a dedwydd. Dau o'r gloch prydnawn:—Yn siriol, yn darllen, ac yn siarad. Nid wyf yn meddwl ei bod yn edrych cys- tal. Dechreuodd gysgu am hanner awr wedi saith o'r gloch. (Eglurodd y nurse ddarfod iddi heddyw weled tri ysmotyn fel ystaen ar wisg nos yr eneth. Yr oedd yr ysmotyn mwyaf o ddeutu hanner coron). Rhagfyr 12fed, dydd Sul.—Dywed y nurses wrthyf ei bod wedi cael noson dawel. Cysgodd hyd bump o'r gloch. Cefais hi yn edrych bur siriol. Gofyn- odd am ei llyfr i ddarllen, darllenodd yn uchel am amser, Yr oedd gwrid ar ei gwyneb, a'i llygaid yn ddysglaer yn ystod y boreu. Dechreuodd gysgu am chwarter wedi saith o'r gloch yn y prydnawn. Rhagfyr 13eg.—Deffrodd am hanner awr wedi pump yn y boreu. Cafodd noswaith dawel. Ne- widiasom ei gwisg nos, a bum am beth amser yn cribo ei gwallt. Ymddangosai yn foddus a siriol, a darllenai yn uchel. Pasiodd swm mawr o ddwfr yn ystod y nos. Dau o'r gloch y prydnawn:—Yn siriol, ac yn dyfyru ei hun drwy ddarllen. Wyth o'r gloch y prydnawn:—Bu raid i ni newid ei gwely. Nid oedd mor lluddedig ag y gallesid disgwyl. Pasiodd cryn lawer o ddwfr yn ystod y dydd. Yn cysgu yn drwm. Rhagfyr 14dg.—Wedi cysgu hyd bedwar o'r gloch, ni bu yn effro y pryd hwnw ond am ychydig amser. Cysgodd hyd hanner awr wedi pump o'r glocu. Cefais hi yn darllen. Yn fuan wedi i mi ddyfod i mown, syrthiodd y botel ddwfr oedd ganddi wrth ei thraed i'r llawr (trwy i'r rhaff oedd yn dal y gwely dori), a dychrynodd hi. Yna hi a gafodd bangfa ysgafn, ond daeth ati ei hun yn fuan. Nid wyf yn meddwl ei bod cystal—nid ydyw ei llais wrth ddarllen mor gryf, ac y mae llawer iawn o wrid wedi bod ar ei gwyneb y mae ei gwefusau yn sychion. Ni ddarfu iddi basio dim chwaneg o ddwfr. Dechreuodd gysgu am chwarter wedi chwech, deffrodd am naw, ond ni bu yn effro yn hir. Pasiodd swm bychan o ddwfr. Rhagfyr 15fed. Chwech or gloch y boreu :—Yr oedd yn effro, ond nid yn anesmwyth, trwy y nos. Pasiodd beth ddwfr yn ystod y noson. Nid ydyw yn cwyno ei bod yn dioddof unrhyw boen y mae ei hwyneb yn wridog. Cynnorthwyodd y nurse fi i'w symud o'i gwely; ni ddarfu iddi syrthioilewyg. Dau o'r gloch prydnawn :-Cefais hi bron yr un fath a phan adewais hi. Saith o'r gloch prydnawn; — Dechreuodd gysgu, ond yn anesmwyth. Yr oedd ei thraed yn oerion. Cefais wlanen gynhes i'w rhoddi wrthynt. Wyth o'r gloch:—Y mae hi yn awr yn cysgu yn dawel. Rhagfyr 16eg. Boreu dydd Iau :-Wedi cael noson ddrwg-dim cwsg hyd ar ol tri o'r gloch. Ewyllysiodd gael gwneyd y gwely, ahwyaigwnaeth- ant. Yna hi a gysgodd am oddeutu deng munud ar unwaith, dim mwy, a pharhaai i daflu ei breich- iau o amgylch. Chwech o'r gloch :—Yn edrych yn llwydaidd iawn, ac yn bur bryderys; yr wyf yn meddwl mai yr achos o hyn ydyw diffyg cwsg. Di. oddofai lawer oddi wrth oerni yn ystod y noson; hwy a roddasant ati wlaneni cynhes. Y mae hi yn awr yn llawer cynhesach. Daeth Mr. Davies i mewn am chwarter wedi deuddeg o'r gloch, ac y mae efe yn meddwl nad oes dim perygl. Deg o'r gloch :-Cefais Sarah Jacob llawer gwaeth. Yr oedd yn anesmwyth, ao yn taflu y dillad oddi arni trwy y nos. Yr oedd yn oer iawn potel o ddwfr poeth yn y gwely, a gwlaneni cynhes, ond nid oedd yn cynhesu. Yna dymunodd y tad i'r eneth bach-chwaer ieuengaoh-gael ei rhoddi yn y gwely; a chydsyniais, am fy mod yn meddwl fod Sarah yn marw. Dywedais wrth y tad a'r fam am nesau ati at ochr ei gwely, ond eto gwyl- iais i edrych a oeddynt yn rhoddi rhywbeth iddi. Ni ofynodd am fwyd o'r diwrnod cyntaf y dech- reuasom ei gwylio hi, ao yr wyf yn sior na roddwyd dim iddi. Pe buasai yn gofyn am fwyd, buaswn yn rhoddi bwyd iddi. Rhagfyr Hied. Dydcl Gwener:-Yr oedd Sarah Jacob yn bur anesmwyth, ond yn fwy tawel nag oedd yn ystod y noson. Bu farw am dri o'r gloch prydnawn. Yr oeddwn yn bresenol pan y bu hi farw! Attebodd y nurses amryw gwestiynau a ofynwyd iddynt. Nid oeddynt yn meddwlfod neb wedi gwneucl un ymgais i roddi bwyd i'r plentyn. Ymddang- osai fod y rhieni, yn enwedig y tad, yn bur hoff o'r plentyn. Rhoddasant bob hwylusdod i'r nurses, a dangosant ofal mawr yngylch tynged y plentyn. Nid oedd yn wirionedd eu bod wodi cael hyd i friwsion o fara yn y gwely, ac nid oedd yn wir- ionedd fod un o honynt wedi gweled merch yn diflanu o'r ystafell yn y nos. Tystiodd Mr. John Daniel, un o'r pwyllgor, ae ewythr i'r eneth. ei fod ef wedi cynnyg bwyd iddi boreu ddydd Gwener. Ni roddodd un attebiad, ond ymddangosai iddi syrthio i bangfa. Dr. Davies. meddyg, a ddywedodd ei fod wedi rhoddi hysbysrwydd yngylch sefyllfa y plentyn i'r tad boreu ddydd Gwener, ac wedi cynnyg cymmeryd y gwylwyr ymaith. Gwrthododd y tad ganiatau i fwyd gael ei roddi i'r eneth; ond dywedodd ar bl hyny, os oedd efe (Mr Davies) yn owyllysio argy- hoeddi ei hun pa un a allai yr eneth lyngcu a'i peidio, y gallai efe gynnyg bwyd iddi. Ni ddarfu iddo gynnyg peth iddi, am ei bodyn rhy ddiweddar. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r nurses a'r cadeirydd. Gorchymynodd y trengholydd ar fod i ymchwiliad gael ei wneud i wir sefyllfa ei chorph ddydd Dlun dweddaf, a chynnaliwyd y trengheliad ddydd Mawrth.

Advertising

Y MERTHYRON POLITICAIDD.