Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Y MERTHYRON POLITICAIDD.

News
Cite
Share

Y MERTHYRON POLITICAIDD. CYFARFOD MAWR YN LIVER- POOL. Rhag. 21 cynhaliwyd cyfarfod mawr yn y Concert Hall, Liverpool, dan nawdd y G-ymdeithas Ddiwy- giadol Gymreig er cydymdeimlo a chynorthwyo y rhai sydd wedi dyoddef yn ei hamgylchiadau oblegid eu pleidleisiau yn yr etholiad diweddaf. Yr oedd yn amlwg ar y papurau mawrion a welid ar y parwydydd fod rhywbeth mwy na chyffredin i 'fod, ac yr oedd y galw mawr oedd am docynau yn sicrwydd am gyn- nulliad lliosog. Methwyd cael y Circus na'r Phil- harmonic, a rhaid oedd cymeryd y Concert Hall. Rhoddid allan yn agos i 2500 o docynau, ac yn mhell cyn chwech o'r gloch yr oedd yno lawer yn disgwyl wrth y drysau am gael gollyngiad i mewn, a nid oedd y cyfarfod i ddechreu cyn saith o'r gloch. Erbyn hanner awr wedi chwech yr oedd y neuadd yn orlawn; ond trwy fod Adroddiad Cynhadledd Aberystwyth, a'r Attodiad, a List o'r Evicted Tenants wedi eu rhanu drwy y gynnulleidfa yr oedd pawb yn penderfynu i ddarllen y rhai hyny i aros dechreu y cyfarfod. Am saith o'r gloch i'r funud, dyma dwrf fel twrf taranau drwy yr holl le, y cadeirydd, Mr. John Roberts, yn dyfod i mewn, ac yn cael ei ddilyn gan Henry Richards, A.S., E. M. Richards, A.S., T. D. L. Jones Parry, A.S., Parchedigion Dr. Rees, O. Thomas, J. Thomas, A. J. Parry, N. Stephens, W. Roberts, J. Owens, Soho-street, a nifer o weinidagion ereill, a Meistri D. Roberts, W. Roberts, P. Williams, Councillor W Williams, Councillor M. Williams, &c., &c. Eisteddodd Mr H. Richard ar ei dde, ac yn fuan doeth Mr Massey a Mr W. Rathbone, A.S., ir un ochr, a Mr, E, M. Richards a Mr Jones Parry ar ei aswy, ar boneddigion eraill o'i gwmpas. Gol- wgfa ysblenydd oedd yr un ar y platform wedi ei lenwi a blaenion y genedl yn y dref. Wedi i dwrf y cyffroad dechreuol lonyddu, cyfododd y Cadeirydd, a rhoddwyd iddo groesawiad calonog, Y Cadeirydd a ddywedai fod y cyfarfod wedi ei alw i amlygu cydymdeimlad, ac i erfyn cynorthwy i'r tenantiaid hyny oedd wedi eu troi o'u tiroedd ar ol yr etholiad diweddaf. Gwyddent oil am y gyn- hadledd oedd wedi ei chynal yn Aberystwyth, lie yr oedd cynrychiolwyr o Dde a Gogledd, ac o Lundain, Liverpool a Manchester, a lie yr oedd swm mawr o arian wedi ei danysgrifio (eymeradwyaeth.) Nid oedd cynyg yn cael ei wneud i wadu nad oedd tenantiaid wedi eu gwasgu, ond eu hystryw oedd dwyn ey- huddiad gwrthgyferbyniol fod gweinidogion Ym- neillduol yn arferjdylanwad anheg ar eu cynulleid- faoedd. Nid oeddynt yn beiddio rhoddi enwau personau a lleoedd, ond dwyn cyhudsliad cyffredinol (cymeradwyaeth). I'r rhai oedd yn adnabod Cymru, ac yn adnabod gweinidogion Ymneillduol Cymru nid oedd y oy huddiad yn werth sylw (clywch, clywch). Ond yr oedd yn cael derbyniad mewn rhyw fanau. Mae y Saturday Review (hisiadau) yn camddarlunio yr aelod anrhydeddus dros Merthyr, ac er nad yw yn cynyg amddiffyn y tirfeistri, eto y mae yn ceisio eu hesgusodi trwy ddyweyd fod yn naturiol iddynt deimlo wrth weled eu hawdurdod yn cael ei thros- glwyddo drosodd i weinidogion ymneillduol (chwer- thin mawr). Ond heb aros ar y cyhuddiadau hyn, dymunai ef (y cadeirydd) ddyweyd tra yr oeddynt yn anrhydeddu gweinidogion ymneillduol Cymru— a thra yr oeddynt yn credu eu bed yn ddyledus mewn rhan helaeth i'w hymdrechion hunanaberthol hwy am addysg grefyddol y genedl-tra yr oeddynt yn cydnabod fod ganddynt ddylanwad, ae yn ei arfer er daioni; eto yr oeddynt, tra yn addef hyn oil, yn gwadu yn hollol y cyhuddiad fod eu gwein- idogion wedi arfer dylanwad anheg; ac yn herio eu gwrthwynebwyr i ddwyn yn mlaen un esiampl lie yr oedd unrhyw ddyn wedi dyoddef yn ei gymeriad nac yn ei amgylchiadau oddiwrth weinidogion ym- neillduol oblegid y defnyddiad cydwybodol o'ibleid- lais yn yr etholiad diweddaf (uchel gymeradwyaeth). Gobeithiai y byddai i'r symudiad presenol, nid yn unig estyn swcwr ac ymgeledd i'r rhai oedd wedi dioddef; ond y byddai hefyd yn foddion i greu teim- lad cryfach nag erioed o blaid y ballot, fel y moddion effeithiolaf i atal y fath bethau i ddigwydd eto (uchel gymeradwyaeth). Wedi i'r Ysgrifenydd, Mr J. Lloyd Jones, ddarllen rhestr o'r boneddigion a anfonodd i ymesgusodi nas gillasent fod yn y cyfarfod. Galwyd ar y Parch W. Rees, D.D., fel hen wron profedig rhyddfydiaeth i gynyg y penderfyniad cyntaf. Fod y cyfarfod hwn yn ystyried ei fed yn achos o lawenydd mawr, ae yn brawf o ddadblygiad eg- wyddor boliticaidd yn y Dywysogaeth fod cynifer vn yr etholiad diweddaf wedi pleidleisio yn ol eu hargyhoeddiadau, er yr holl wasgu a wnaed arnynt gan dirfeistri ac eraill" G-wrthododd Dr. Rees er holl lefau y dorf Go on a gwneud dim ond yn syml gynyg y penderfyniad gan fod yno gynifer o ddyeithriaid yr oedd ef a hwythau yn disgwyl wrthynt. Eiliwyd y penderfyniad gan Mr E. M. Richards, yr aelod seneddol dros sir Aberteifi. Cafodd dder- byniad cynes gan y gynulleidfa. oil. Deehreuodd trwy ddweyd fod pobl Liverpool yn gyfrifol am ran fawr o r helbul sydd yn awr wedi cymeryd lie. Y cyfarfod mawr yn Liverpool, yn Mehefhi 1866, lie yr oedd John Bright ac eraill yn bresenol, a roddodd gynhyrfiad yn Nghymru i wneud y gwaith a wnaed; a theimlai er nad oedd ef ond un dibwys o honynt fod nifer o aelodau wedi eu dychwelyd dros Gymru nad rhaid i neb o honynt (cymeradwy- aeth). Ond wrth wneud yr hyn y galwyd arnynt gan y cyfarfod mawr hwnw y mae llawer o denant- iaid wedi tynu gwg eu meistri tiroedd, ac amryw o honynt wedi eu troi allan o'u tiroedd am y pleidleis- iau cydwybodol (cywilydd). Wedi ymgynghoriad, dygwyd y mater ger bron y senedd gan yr aelod anrhydeddus dros Merthyr, ac enillodd glust yr holl Dy (cymeradwyaeth). Rhoddodd ffeithiau amlwg ger bron, gan nodi y benod a'r adnod dros bob cy- huddiad a ddygwyd ganddo, ac ni chynhygiwyd dymchwelyd na ;gwrthbrofi yr un o'r achosion a nododd, ond pentyrwyd pob cableddau arno gan y wasg Doriaidd er hyny hyd yn awr, ond y mae yr hyn a ddywedodd eto heb eu syflyd (cymeradwy- aeth). Penderfynwyd galw cynhadledd yn Aber- ystwyth i gymeryd i ystyriaeth pa beth a ellid wneud er cynorthwyo y dioddefwyr hyn. Barnwyd yn ddoeth yno beidio dwyn yn mlaen achosion neill- duol rhag y gallesid mewn byrbwylldra enwi achos- ion heb sail ddigonol iddynt; onl yr oeddynt yno yn llefaru yn nghlyw canoedd o bobl oeddynt yn adnabod llawer o'r dioddefwyr, fel nad oedd achos eu henwi. Cymerodd y gwrthwynebwyr achlysur oddiwrth y goehelgarwch hwnw i geisio haeru nad oedd ganddynt ddim achosion i'w dwyn yn mlaen, ac mai ffug oedd y cwbl. Ond yr oeddynt ar ol hyny wedi chwilio i mewn i nifer o achosion yn sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin, ac yr oedd y ffeithiau hyny ganddynt yno i'w gosod ger eu bron (uchel gymeradwyaeth). Nis gallasai o ddiffyg amser fyned drwy yr holl achosion, ond cyfeiriai at ychydig o'r rhai ddaeth dan ei sylw ef ei hun. Yna enwodd rai engreifftiau grymus ac effeithiol o ormes a chreu- londeb. Nid ydym yn gallu eu rhoddi i lawr yma, ond yr wythnos nesaf cyhoeddwn restr o'r achosion sydd eisoes wedi eu chwilio. Terfynodd gydag apeliad grymus at y gynulleidfa fawr am ei chym- horth a'i chydweithrediad. Oariwyd y penderfyniad heb un llais yn groes. Cynhygiodd y Parch. O. Thomas yr ail bender- fyniad, sef Fod y cyfarfod hwn yn cydymdeimlo yn ddwfn, a'r pryder a'r dioddefaint y mae y rhai a drowyd allan o'u bywiolaethau wedi eu dwyn iddynt, mewn canlyniad i'r defnyddiad cydwybodol o'r etholfraint, yn yr etholiad diweddaf, ac yn ymrwymo i gynorth- wyo y Drysorfa a godir er eu digolledu.' Areithiodd Mr Thomas yn gyffrous a thanllyd dros ben. Gwefreiddiodd yr holl dorfmewn ychydig funudau. Yr oedd ei gydymdeimlad brwdfrydig a'r dioddefwyr, a'i gondemniad Ilym ar y tirfeistri gor- mesol, ac yn enwedig ar y stiwardiaid y rhai a driniai yn ddiarbed, yn berwi y gynulleidfa; ond apeliai atynt i ddangos eu cydymdeimlad mewn cynorthwy sylweddol. Eiliwyd y cynhygiad gan H. Richard, Ysw., yr aelod seneddol dros Merthyr. Cafodd dderbyniad yr holl gynulleidfa pan y cododd i lefaru ac wedi i dwrf y croesawiad lonyddu, dywedodd,— Eiliwyd y cynygiad gan Mr Henry Richard, A.S. yr hwn a dderbyniwyd gyda tharanau o gymerad- wyaeth. Dywedodd nad oedd yn bwriadu apelio at eu teimladau. Dymunai osod ger bron y cyfarfod a thrwy y wasg a'r wlad yn gyffredinol, adroddiad byr a syml o'r achos a'i galwasai yn nghyd. Yr oedd Cymru am y ganrif ddiweddaf, er yn fyw mewn ystyr grefyddol a moesol, eto yn gydmariaethol farw mewn ystyr boliticaidd. Yn yr ystyr hwnw yr oedd yn debyg i ddyffryn yr esgyrn sychion yn ngweled- igaeth Ezekiel. Nid oedd bawb o honom yn foddlon i'r sefyllfa hono wrth weled cwestiynau mor bwysig, nid yn unig yn eu cysylltiad a hwy, ond a'r ddynol- iaeth yn gyffredinol yn cael eu penderfynu, ac am hyny hwy a broffwydent wrth ben yr esgyrn sych- ion hyn (cymeradwyaeth). Buasai Dr Rees yn proff- wydo uwch eu penau am 40 mlynedd, a gwnaeth yntau ychydig yn y ffordd hono am yr 20 mlynedd diweddaf, a chawsant achos i lawenhau wrth weled asgwrn yn dyfod at ei asgwrn, a giau a chig yn tyfu ar yr etholiad diweddaf daeth anadl bywyd iddynt a safasant ar eu traed yn llu mawr iawn (cymerad- wyaeth). Gwyddent pa mor ddewr yr ymladdasant yn yr etholiad diweddaf. Yn lie 18 o Ryddfrydwyr a 14 o Doryaid fel o'r blaen, dychwelwyd 24 o Rydd- frydwyr a 9 o Doryaid yr hyn oedd yn enilliad o 12 o votes i Weinyddiaeth (cymeradwyaeth) Mr Glad- stone. Heblaw hyny, credent fod y quality wedi gwella heblaw y quantity, er fod rhai yn dweyd fod lie i wella eto yn y ffordd hono (chwerthin a chym.). Ni wyr neb eto faint a ddyoddefodd yn y frwydr hono. Credai fod y rhai hyny a bleidleisasant yn ddistaw yn groes i'w cydwybodau yn gofyn ein cydymdeimlad yn gystal a'r rhai a erlidiwyd. Cyf- arfyddodd ef a ffarmwyr yn ystod yr ymdrech, y rhai a'u.hadwaenent ef a'i dad (cymeradwyaeth), ac ni allai neb fesur maint y gofid meddwl a deiia- lent wrth orfod pleidleisio yn groes i'w cydwybodau (clywch, a chymeradwyaeth). Darllenodd ddyfyn- iad o lythyr o six Gaerfyrddin yn yr hwn y profid fod canoedd wedi votio yn groes i'w barn a'u teirolad' au. Nid yr erledigaeth ar y ffarmwyr fel}? ond rhan fechan o'r drwg a wnaed, oblegid bwrieui i'r'dyoddefwyr presenol fod yn esiampl ac yn rhybud i'r lleill. Ni chwynai yn gymaint o herwydd teiiflj-9 chwerw a siomedig y Toryaid fuasent am dymb0 mor bir yn llywodraethu, ni welsai ddim bai ynddjn i arfer pob llwybr cyfreithlon i enill eu hawdurdo yn ol. Yn lie hyny dyma y notice to quit yn disgyIl o'u hamgylch fel cenllysg yn disgyn (eymerad'«T ath). Beth oedd i'w wneyd? Nid gwaith plesero iddo ef oedd eu galw i gyfrif yn Nhy y CyffrediOi ond wedi iddo am flynyddau alw ar ei gydwladWjj, i sefyll i fynu fel dynion dros eu hiawnderau, bu&3. yn llwfryn i beidio a dyfod allan fel y gwnaet (uchel gymeradwyaeth). Mynegodd y dull yn W*1, un y dygwyd y cwestiwn o flaen y Ty, pan y caf^J^ cydsyniad calonogyr holl aelodau Rhyddfrydig CYID, reig gyda dau neu dri o eithriadau. Cefnogwyd e gan Mr Osborne Morgan, a Mr M. Richards, a aelod dros sir Gaerfyrddin, a'r Ysgrifenydd cartre ol, Mr Bruce, a Mr E. A Leatham, ac eraill (cy10'^ Ar ol y drafferth hono tynwyd amrwy o'r notices^ J ol, ond yr oedd amryw wedi eu dwyn i weithredia., Darllenai lythyr oddiwrth un o'r dioddefwyr, gweii^' dog yn perthyn i'r Methodistiaid, yn yr hwn y da^ lunid y u welliantau'o wnaethaief a'i dad ar y ff»r!r am ba rai y codasid y rhent o £ 50 i.70 yn y fLwyd«" yn, ac heb roddi dim ad-daliad, ac heb un rhesW^ ond votio yn groes i'w landlord, trowyd ef allan 0. ffarm, a dywedwyd wrtho y gwnelid ef yn esiaiop i'r holl wlad erbyn yr etholiad. Diweddid llytty arall trwy gyfeiriad hapus at Mr Richard ei hun, a dywedai y carai y landlord roi notice to quit iddo yntau pe gallent. Mewn cyfarfod o'i gefnogwyr ? dydd o'r blaen darllenodd Mr Richard yllytbyr hØ pan yr atebadd un o'r dorf, os byddai i rywun gyv.: yg ar daflu allan am wneyd yn hyn a wnaeth, 11 waeth iddo roddi cwch gwenyn yn gap am ei (chwerthin, a chymeradwyaeth). Caniateid fo? llawer wedi eu troi allan o'u ffermydd, ond pa fodd y gellid pron fod cysylltiad rhwng hyny a phoZitics, Dichon nas gallai ddwyn tystiolaeth foddhaol i 118 cyfraith, ond meddai pan welwch ddynion yn derby5 notices wedibyw yn eu ffermydd am 20, 40, 50, nett 100 mlynedd, ie, rhai o honynt am 200 ml. heb ddi^ yn eu herbyn o herwydd trin eu tir a thalu eu rhe^' pan yr ymwelid a'r cvfryw yn ystod yr etholiad gaj y landlord a'i agent, ae y dygid pob dylanwad hudo a rhybyddiol i weithredu arnynt, er nad allW ddwyn prawf cyfreithiol ac uniongyrchol, eto ml!Ø genych dystiolaeth amgylchiadol gref fod y dynionh wcdieu troi allan oherwydd iddynt gyflawni eudyle" swydd yn onest a chydwybodol, fel y gofynid gan eu gwlad a chan eu Duw. Ond gellid dwef fod eisiau ail-brisio yr etifeddiaethau, ac fod rhai 0 { ffermydd wedi myned yn anhrefnus ac aflerw. We, a dweyd y lleiaf, yr oedd yn gydgyfarfyddiad hapus fod hyn wedi digwydd mor fuan ar ol i iad mor frwdfrydig, ac yr oedd yn beth "rhyfedd iO y ffarmwyr mor afler yn union wedi iddynt wrthoa pleidleisio i ryngu bodd eu meistriaid. Dygasid 01' huddiad yn ei erbyn o ddadleu dros chwyldroad V mherthynas i berchenogaeth y tir. Aeth dros J, hyn a ddywedasai yn Aberystwyth, a phrofodd Ilil oedd dim yn yr hyn a ddywedodd yn groes i'r < ddywedasai Lord Clarendon ac eraill, a'r hyn oe £ efe ei hun wedi ei ddweyd yn Nhy y Cyffredin. oedd gosod ffarm i ddyn, a pheri iddo wario 11awe* arian i'w gwella, ac yna ei droi allan o hoju ddim iawn am y golled, yn weithred ysgeler. oedd gan neb hawl i roddi notices o dan y fath gylchiadau. Yr oedd arnynt gymaint eisiau toi*1' right yn Nghymru ag yn yr Iwerddon, ac os chymerent rybudd mewn pryd, cyfodai cyffroad 1, Nghymru fel yn yr Iwerddon yn erbyn yr ymarf^ iad mvmpwyol o awdurdod (clywch, clywch, a oftT meradwyaeth). Dywedid nad oedd gan Gyi»%| ddim i gwyno o'i blegid. Ond tystiai ef fod gan<j g gwynion tebyg i'r Iwerddon o ran eu natur os ran gradd. Un oedd fod yr Eglwys yn NghyP^j yn eglwys y lleiafrif. Un arall fod esgobion yn c eu penodi oeddynt yn estroniaid i'r wlad ao hiaith. Hefyd, er fod wyth o bob deg yn ymne, duwyr, disgynai bron bob swydd o anrhydedd o elw i ddwylaw yr eglwyswyr. Onid oedd by~ yn ormes (cymeradwyaeth). Onid oedd yn dr hefyd nas gellid cael tir i adeiladu na chapel o ysgol gan y tir feistri yn Neheudir Cymru. lielid ysgoiion trwy ddal hyn a hyn o arian o au y gweithwyr. Ni chwynai yn erbyn hyny, yr oedd yn cwyno yn erbyn dysgu y catecisfJJ phethau gwrthwynebol eraill yn yr ysgoiion l a gorfodi y dynion hyny i adeiladu ysgoiion eia i*. chynal y rhai hyny hefyd ar eu traul eu hu-uapl Onid oedd hyny yn ormes ? Y ffaith am dani o8 nid nad oedd ganddynt gwynion, ond bod y Oy^ yn bobl lonydd, heddychlon, teyrngarol, a ded ufyddol (cymeradwyaeth). Nid oedd ganddynt A, cyngrheiriau na'u dirgel gymdeithasau; ni lawnent ysgelerderau anfad; ni chwympent to llawr eu tirfeistri (cymeradwyaeth). Ac na ato Duw iddynt wneud y cyfryw bethau (cymerad^jj aeth). Cymerant y llwybr cyfreithlon, ac etc be hwynt am osod dosbarth yn erbyn dosbartb- x dynion hyny a wnant ddefnydd anheg ac ■