Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y NEWYDDIADURWH.

News
Cite
Share

Y NEWYDDIADURWH. Wrth ddarllen y newyddiaduron y dyddiau diweddaf, y peth cyntaf a yrodd fy meddwl ar grwydr oedd yr hysbysiad yn y TYST am y cyf- arfod a gynhelir yn Lerpwl, yr wythnos hon, i gydymdeimlo a'r Dioddefwyr Politicaidd. Ac yr wyf am alw sylw at Y CASGLIAD Y SUL CYNTAF YN IONAWR. Os na wneir y casgliad hwn yr un Sul, yn mhob capel trwy y Dywysogaeth, gellwch ben- derfynu y bydd yn fethiant cywilyddus-cywil- yddufO oblegid gwneir defnydd anheg o hyn gan ein gwrthwynebwyr; os bydd yn fychan, mes- urir cin cydymdeimlad a'n sel dros y rhai a orthrymir wrth ein cyfraniadau; a bydd cyfrif- oldeb ei fychandra wrth ddrws y rhai sydd wedi ceisio taflu dwfr oer ar y mudiad. A waeth heb geisiu gwadu, dwfr oer a daflwyd arno mewn mwy nac un gynhadledd yn barod; y mae cyf- arfod misol Arfon wedi penderfynu gadael i bob ardal i wneud ei chasgliad fel y barno yn oreu y canlyniad fydd, peidio casglu yn y capel rhag ofn hyny o doriaid sydd yno—ac yna, gan nad yw'r Methodistiaid yn casglu y Sul cyntaf yn Ionawr, gofyna rhyw dori annibynol paham y rhaid i ninau wneud, a'r un fath gyda'r Bed- yddwyr, a'r canlyniad fydd, ni wneir casgliad mewn llawer ardal o gwbl. Gwyr pawb mor rhwydd yw gwneud unrhyw gasgliad os bydd pob enwad yn cyduno i'w wneud ar yr un Sul. Maen eithaf posibl y casgla enwad parchus y Methodistiaid fwy na neb yn Nghymru at y peth yn eu dull eu hunain, ond trwy beidio cydweithio yn unol a phenderfyniad Aberys- twyth, rhoddant le i ugeiniau o gapeli eraill i ymesgusodi a pheidio gwneud dim trwy gasgl- iad, na chwaith mewn unrhyw ffordd arall. Coeliwch fi, os na wna pawb gydweithio ar yr un Sul, truenus o sal fydd y casgliad. Dy- wedwyd wrthyf mai y rheswm mawr yn erbyn gwneud ydyw, fod aelodau toriaidd yn perthyn i bob cynulleidfa, ac fod ofn tarfu a dychryn y cyfryw ffwsrdd i rhyw gorlan arall. Yn enw pob synhwyr, os bydd ar yr aelodau hyny gyw- ilycld o'r angenrheidrwydd i wneud casgliad o herwydd creulondeb aelodau eu plaid, arosent gartref y nos hono, neu ynte, gwell fyth, dang- osed pob un o honynt eu bod yn anghymerad- wyo y fath anghyfiawnder trwy gyfranu eu hunain tuag at ei liniaru. Y mae dadl rhai o'r Sirfoniaid, fod y Sabboth a'r capel yn rhy gys- egredig i gasglu i gynorthwyo Matthew Puw a'i fath, yn rhy debyg i Phariseaeth i mi, na neb arall, i geisio ei ateb. Beth sydd ar y Sir- foniaid, dywedwch ? Yr wyf eto yn dweud y bydd cyfrifoldeb meth- iant y casgliad, ar y rhai a omeddant gydgasglu ar yr un Sul yn rnhob ardal. Ni wna casgliad mawr oddiwrthynt hwy mewn ffordd arall byth ddigon o iawn am dori yr unfrydedd angen- rheidiol. Bydd yn Sul cyntaf yn y flwyddyn ac ni raid ofni pregethau politicaidd, bydd yn gymundeb mewn ugeiniau o gapeli, bydd eraill yn gweddio y Sul hwnw am dywalltiad o'r Ys- bryd Glan, a bydd pawb yn teimlo treigliad eyflym y blynyddoedd heibio, a bydd New Year's life i deuluoedd tlawd a gorthrymedig, llawer o honynt yn gymunwyr eu hunain y dydd hwnw wrth fwrdd yr Arglwydd, bydd hyny, meddaf, yn cydgordio a holl feddyliau difrifol y dydd hwnw. Gwelaf yn y Mercury heddyw fod MR. MORGAN LLOYD YN SIR FEIRIONYDD, Yn barod i gymeryd y maes, ac wrth weled y ddau Barrister sydd yn cynrychioli Sir Ddinbych yn weithwyr mor ardderchog, yr ydym yn bar- od i waeddi moes eto. Bum yn meddwl mai gwell fuasai peidio trosglwyddo ein cynrych- iolaeth o ddwylaw ein hen dirfeddianwyr, ond y mae amryw bethau heblaw cynhadledd Abei'- ystwyth wedi ein llwyr argyhoeddi fod yn rhaid i ni gael aelodau i'n cynrychioli a gyd- ymdeimlant ac a gydweithiant a ni fel cenedl Gymreig-dynion a wnant waith, ac a aberth- ant dros y rhai a'i danionant i'r senedd; dynion fel y ddau Richard sydd heno yn Liverpool, a nos yforu yn Manchester, yn dadleu achos y rhai a orthrymwyd; ie, dynion fel Mr O. Mor- gan, yn ddigon gwrol i ddadleu o'n plaid yn nanedd rhai o'r gorthrymwyr eu hunain yn y senedd. Yr ydym yn credu y gwna Mr Morgan Lloyd aelod cyffelyb iddynt, y mae wedi hen bron ei fod yn Gymro trwyadl, a fedr gydym- deimlo a phob raudiad Cymreig; y mae yn berftaith hyddysg yn holl angenion ein cenedl, a gwyr hefyd am ei rhagoriaethau, ac y mae yn meddu y gwroldeb angenrheidiol i ddadleu ein hachos yn y senedd-dy, a hyny gyda thalent a fydd yn sicr o hawlio sylw y ty. Nid peth bach i Sir Feirionydd fydd anfon un o'i phlant ei hun i'w chynrychioli. Un ag sydd yn barod twy ei dalent yn unig wedi enill sefyllfa anrhydeddus iddo ei hun; anrhydedd- wch chwithau eich hunain trwy fynu plentyn talentog Meirionydd yn A.S. dros ei Sir ei hun, cyn y caiff yr un Sir neu fwrdeisdref arall gyf- leustra i'w yspeilio oddiarnoch. Er mwyn pob peth peidiwch ymranu-itit dyn a phob rhyddfrydwr dros hwnw. 'Nawr am dani blant Ffestiniog, cofiwch y bydd holl nerth y Toriaid yn eich herbyn, a hyny gyda mwy o ffyrnigrwydd nag erioed, gan fod dydd prawf yr Eglwys Gymreig wrth y drws, ni thaw y clychau byth a chanu os enillant y Sir yn y crisis hwn. Chwithau wroniaid y Bala a'r wlad o gylch, gyrwch wyr yr hetiau gwyn- ion i smocio unwaith eto, ac yna cewch lonydd i deyrnasu mewn heddwch. A chwithau tua Llanuwchllyn, cofiwch nad yw y gwyr a droir o'u tai ddim i gael eu gadael mwyach, y mae fund Aberystwyth yn barod i gynorthwyo am flynyddoedd i dd'od. Ymwrolwch, a byddwch wyr, y mae porth cyfleustra wedi agor unwaith eto o'ch blaen, trwodd fel un gwr i ryddid. Y mae y Daily News yn cynwys report cyf- lawn o araeth Esgob newydd Exeter, DR. TEMPLE AR Y GWEITHWYR A'R BE'NDEJi- IGAETH o fy mlaen, ac y mae pob brawddeg ynddi yn peri i mi godi fy mhen o'r papur a gwaeddi da iCHun. Rhyddfrydwr trwyadl yw yr Esgob hwn, a dyna un rheswm am yr holl gyffro yn ei er- byn, ynghyd a'i fod yn rhyddfrydwr gwir allu- og, a fyn ddweyd ei farn yn Nhy Arglwyddi Prydain yr un fath ag yn Ysgoldy Rugby. Dywed nad oes yr un genedl yn Ewrop a'r fath bellder rhwng y bendefigaeth a'r gweith- wyr a Phrydain Fawr, ac fod perygl dyfodol y wlad hon yny camddealltwriaeth syddyn rhwym o godi yn barhaus o eisiau na byddai gwell ad- nabyddiaeth gan y naill yn y Hall trwy gym- ysgu mwy a'u gilydd. Dywed fod y gweithwyr yn gywir eu barn ar bynciau cyhoeddus yn llawn mor ami a'r ben- defigaeth, ac yn y blynyddoedd diweddaf eu bod yn gywir yn llawer amlach. Dywed hefyd fod gan y bendefigaeth lawn cymainti'wddysgu oddiwrth y gweithwyr ag sydd gan y gweith- wyr i'w ddysgu oddiwrthynt hwy. Ond gan na ddarllenir y TYST gan y bendefigaeth, gadawn y gwersi a ddysgir iddynt hwy gan y gweith- wyr, er galw sylw eich darllenwyr at wers fawr y bendefigaeth, hyny yw BONEDDIGEIDDRWYDD. Good manners, fel y geilw ef y peth, dywed fod y bendefigaeth wedi taflu ymaith feddwdod o'u plith trwy good manners, na edrychir ar neb yn foneddwr os bydd yn meddwi. 0 na ellid llenwi ein gweithwyr a rhyw uchelgais tebyg. Uchel- gais i fod yn foneddwr mewn arferion, mewn iaith, ac mewn ymddygiad. Nid cyfoeth, nid ystad eang, nid cadwyni aur sydd yn gwneud y gwir foneddwr. Gelwir y Frenchmen yn genedl ofoneddwyr'—yn dlawd a chyfoethog—yn foneddigaidd yn eu harferion., Gwelsom ambell weithiwr yn berffaith wr boneddig eist- eddai mewn third class carriage unwaith, yr oedd mor dyner a charedig wrth gynorthwyo yr hen wraig dlawd a'i basged i fewn i'r cerbyd, cynhygiai ei set mwy cynes i'r ferch afiach oedd yn y draught, gwnai bob peth fel boneddwr, nes yr oedd arnaf awydd i dynu fy het iddo pan aeth allan o'r cerbyd. Gwelsom y gweithiwr yn ymddwyn yn y ty, ac yn y capel, ac ar y ffordd yn wir foneddig- aidd, ac y mae pawb yn gorfod teimlo fod ym- ddygiad felly yn brydferth ac yn hyfryd dros ben. Ac wrth orphen hyn o ysgrif y mae genyf ddau gais, un at olygwyr y newyddiaduron Cymreig, a'r llall at y darllenwyr. I. Oni atebai y newydd'aduron uwch amcan o lawer pe ceisiech addysgu eich darllenwyr a gwersi mewn moesau da (good manners), rhyw- beth i'w dyrchafu yn ngolwg cenedloedd eraill, yn lie gwneud eich colofnau byth a hefyd yn faesydd cecraeth a difriaeth. Cydmared unrhyw ddyn y newyddiadur Seisnig a'r un Cymraeg a bydd raid iddo blygu ei ben mewn cywilydd. II. Chwi sydd yn alluog ac yn arfer ysgrifenu i'r papurau Cymreig, ac i'r TYST yn neillduol, codwch y pwnc hwn i'r gwynt, Boneddigeidd- rwydd, dangoswch beth ydyw—yr angenrheid- rwydd a'r lies o'i feddu, a'r posiblrwydd i bob dyn i fod yn fwy boneddigaidd yn ei ymwneud a'i gyd-ddynion. Y mae caredigrwydd naturiol yn perthyn i'r Cymro, a gyda ychydig o addysg mewn colofn- au papur newydd gellid symud llawer o'r syrthni a'r vulgarity, y gerwinder, a'r anglioeth- edd a ystyrir gan lawer fel prawfion o'u clyndod a'u hannibyniaeth Y mae pawb yn canmol y TYST y dyddiau hyn, dyna i ti faes newydd enill llawryf arall. Dysg dy ddarllenwyr I ymddwyn yn mhob peth yn y fath fodd ac y byddo pob tourist, o bob gwlad, a ymwel all Cymru fwyn bob haf, yn dychwelyd gyda syn- iadau uchel am foesgarwch a boneddigeidd- rwydd ei phreswylwyr. HERBEE.

NODION ADA.