Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

CYNNWYSIAD:

CRYNHODEB YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

CRYNHODEB YR WYTHNOS. "^■ae pethau yn ymddangos yn fwy tawel yn 'Y1' lwerddon. Dywed yr Army and Navy uzette fod yn awr yn yr Iwerddon 7 byddin meirch, 22 byddin o wyr traed, heblaw ey:aegrau a'r cyrff adranol. Y mae byddin ar el ffordd adref o Barbadoes, yr hon yn fuan a YChwanegir at y rhai uchod. edtf ^arw Mr. David Williams, yr aelod sen- °1 dros swydd Eeirionydd, yr wythnos ddi- e daf, a bydd raid i wyr Meirionydd edrycli alll gynrychiol ydd yn ei le ef. Dywedir fod 1:rr. Morgan Lloyd, y bargyireithiwr enwog, a1' y ilaaes eisoes. Mae yn debygol y bydd aetl gTs^a(^eilae^ korttu Kid oes eto wybod- aidd ^C1> ymSeisydd y ^laid Dori- j>r^1idwy ddirprwyaeth ddylanwadol gyda y iaeth • ^n^°g' erfyn amo a'* "Weinydd- Ym *■ a^°r ^rifysgolion. Cynrychiolid yr a'r ndeiUduwyr garL y naill ddirprwyaeth, Cha °S^ai^ rhyddfrydig yn Rhydychain a °s^?faWnt saU ddirprwyaeth araU. Dang- d mwyafrif yr athrawon yn y ddwy -Aw dros eu taflu yn agored i tawb. j ^r' y byddai ef yn barod sev ca^s cyn gynted ag y caniata am- mo wneud hyny. ysWdef0dd ^uaws 0 ardaloedd oddi wrth hon p yr wythnos a dechreu ion vh Wnae^1 y Uifddyfroedd golledion trym- yr a^Q 8wy(ldi York a Lancaster. Gorlifodd a siro6dd Amwythig a Maldwyn, a char" °n^ Distrywiwyd 11awer o eiddo, i\Vyd y^aith lawer o ddefaid. Dryll- %<id 8a? ° r yn agos i Ddolgellau oriau, a dyryswyd y dramwyaeth am ystoi^ dyddiau. Teimlwyd north yr ^Ofiguu ^roedd hefyd, a chollwyd arnry w Bydd yn Nadolig ar lawer yn darllen y rhifyn hwn o'r TYST. Mac y Nadolig yn ein hadgofio o derfyn blwyddyn, ac o gyilymder ZD treigliad ein blynyddoedd. Golygfa wahanol geir ar lawer aelwyd eleni i'r hyn oedd y llynedd; a theimlir chwithdod ar ganoedd o aelwydydd wrth weled lie y tad, neu y fam, neu un o'r plant yn wag. Mae gan bawb ei ffordd i dreulio y Nadolig. Bydd llawer yn brysur yn berwi oyfleth, ac y mae y pleser a'r difyrwch a geir wrth ei wneud a'i ferwi yn llawn cymaint a'r bias wrth ei fwyta. Nid llawer o gyfarfodydd plygeiniol a gynhelir, a llai na hyny o garolau a genir, y rhai oeddynt anhebgorion Nadolig gynt. Cyfarfodydd cys- tadleuol, eisteddfodau, cymanfaoedd Ysgolion Sabbothol, a chyfarfodydd prcgethu. sydd yn perchenogi Gwyliau y Nadolig yn awr. Cad- wed pawb effel y gwelont yn dda, yn unig na wneler arno ddim drwg. Bydd pawb a allo yn ceisio cael rhyw damaid gwell nag arfer y Nadolig, ac y mae hyny yn ddigon rhesymol; ond gobeithio y bydd i bawb sydd mewn llawn- der anfon cyfran i'r rhai sydd mewn angen. Nadolig llawen i chwi oil, ddarllenwyr; ac estyniaddyddiau i weled llawer Nadolig ar eiol. Yr oedd y cyfarfod mawr a gafwyd yn Liver- pool i amlygu cyclymdeimlacl a'r dioddefwyr Cymreig, cyn belled ag yr oedd lluosogrwydd cynulliad-hyawdledd areithiau—ac angerdd- oldeb ysbryd yn myned, yn llwyddiant per- ffaith. Gobeithio y bydd rhestr yr addewidion yn gystal. Yr oedd araeth y Cadeirydd yn agoriad hapus i'r cyfarfod. Dywedodd y peth oedd eisieu ei ddyweyd, a hyny yn y dull goreu. Yr oedd y brwdfrydedd gyda pha un y croesawyd enw Dr. Rees yn dangos fod gwir barch yn cael ei deimlo at hen arwyr rhyddid. Rhoddodd Mr. E. M. Richards adroddiad llawn a chlir o'r ffeithiau yn Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin, fel nad oes neb yn ei bwyll a all amheu a drowycl dynion allan. Anmhosibl oedd i neb wneud ei waith yn well nag y gwnaeth Mr. Richards ef. Yr oedd y Parch. 0. Thomas yn dan byw, a'i lygaid yn fflamio, a'r holl gynulleidfa mor gyffrous ac yntau. Ni fynasem ar y funud hono am y byd fod yn lie sti- wardiaid gorthrymus. Cyrhaeddodd y cyfar- fod ei bwynt uchaf pan oedd Mr. Henry Richard yn tynu i'r terfj n. Rhostiodd y bon- eddwr a fu yn ddigon anffodus i ddyweyd nad oes gan Gymru gamwri i'w unioni, ac ni bu tynged y rhai a ddywedai eu bod yn gosod dosbarth yn erbyn dosbarth yn ddim gwell. Profodd pobl Liverpool nad yw eu serch wedi oeri at Mr. Massey drwy y croesaw cynes a roddwyd iddo; ac acth y syhv (am gydwyloV gan y Parch. A. J. Parry fel tan trwy y lie. Cafodd Mr. Jones-Parry groesaw calon, ac yr oedd ei olwg ddigynwrf wrth ddyweyd pethau miniog yn peri chwerthiniad diatal. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn llwyddiant pcrfFaitli; ac nid oes genym ond gobeithio y bydd y casgl- iadau yn gyfartal, onide, fel y dywedai y Parch. 0. Thomas, 'ni bydd y cwbl yn y di- wedd yn ddim gwcll na ffydd y cythreuliaid.' Bu farw yr eneth Sarah Jacobs prydnawn dydd Gwener diweddaf. Y mae ein darllen- wyr yn gwybocl fod sylw yr holl wlad wedi cael ei gyfeirio am gryn lawer o amser bellach at yr eneth ryfedd hon. Yn ol tystiolaeth ei rhieni, yr oedd wedi byw am tua blwyddyn a haner neu ddwy flynedd heb un math yn y byd o ymborth. Yn ystod yr amser hwn, ymwelwyd a hi gan lawer o feddygon, a bon- 9 eddigion ereill adnabyddus ar gyfrif eu dysg, a'u hawydd i eangu terfynau gwybodaeth; ac i lawer o honynt ymddangosai y peth yn ddir- gelwch anesboniadwy. Yr oedd rhieni yr eneth o ran eu hamgylchiadau tymorol uwch- law tlodi, a chyfrifid hwy yn rhai gonest a geirwir gan eu cymydogion. Nid oedd lie i feddwl eu bod yn arfer twyll. Ac eto, yr oedd yn ymddangos yn anghredadwy, os nid yn an- mhosibl, fod yr eneth wedi byw am gymaint o amser heb fwyd. Penderfynwyd o'r diwedd i ddwyn yr achos i brawf manwl a thrwyadl. Daeth pedair nurse o Guy's Hospital i wylied Sarah Jacobs yn fanwl ddydd a nos. Ac ar ol gwyliadwriaeth ddidor am wyth niwrnod, bu farw yr eneth. Creodd y newydd o'i marwol- aeth deimladau cyffrous, canys yr oedd ffydd, a hygoeledd, a chwilfrydedd, a dyngarwch yn wedi cydgyfeirio eu llygaid at y mater rhyfedd hwn, ac yn disgwyl yn bryderus am y canlyn- iadau. Dydd Sadwrn, cynhaliwyd cyfarfod o'r Pwyllgor yn Llanfihangel-rhos-y- corn, i dderbyn adroddiad y nurses, a thalwyd diolch- garwch iddynt am gyflawni eu goruchwyliaeth yn ofalus a ffyddlon. Nid oes genym ni, hyd yn hyn, dystiolaethau digonol i farnu y rhieni yn euog o ddangos twyll bwriadol ar ddechreu cystudd ou merch. Digon tebyg ddarfod i'r eneth fod heb luniaeth am dymorau hirion, canys y mae yn ymddangos ei bod yn wahanol o ran corff a meddwl i enethod yn gyffredin. Er mor fanwl ydoedd y prawf a wnaed, yr ydym yn adnabod y meddwl dynol yn rhy dda i obeithio y rhydd derfyn ar bob dadl. Goru- chwyliaeth ddieithrol i Sarah Jacobs oedd clirio yr ystafell, newid y gwely, a chael pedair boneddiges o Lundain i'w gwylio ddydd a nos. A gyflymwyd ei marwolaeth, ai naddo, gan y pethau hyn, nid ydym yn barod i sicrhau yn bendcrfynol.