r- v.}t!"¡ 'I: O'R TWR LLEOHI. Addawsom yr wythnos ddiweddaf y buasem yn rhoddi i chwi restr o Gymdeithasau Adeiladu yr Ardal, yn nghyd ag enwau eu swyddogion. Ceisiwn gyflawniyr addewidhono yn bresennol, Einhamcan wrth roi y rhestr yw hyn:—Y mae yn perthyn i'r cymdeithasau hyn rai miloedd o bersonau yn wahanol ranau o'r Gogledd,—un ai trwy fod eu harian neu eu tai ynddynt,-ac y mai nifer lluosog o honynt yn ddiweddar wedi cael collection trymion icnvn trwy fod rhai o'r cymdeithasau wedi myned yn fethiant oherwydd camdrefn ac Er mwyn i'r wlad gael gwybod pwy yw swyddogion y gwahanol gym- deithasau yr ydym yn eu cyheoddi yn y Tyst." Ac os cawn hamdden yn y dyfodol, bydd i ni osod ger eich bron y sefyllfa yn mha un y maent yn bresenol, -hyny yw y rhai hyny ac sydd yn argraffu balance sheet; ond drwggenymddyweyd fod yma rai na byddant byth yn gwneud hyny. Wedi yr awn trwy yr holl restr, a'u sefyllfa, rhoddwn i chwi rai o weithrediadau rhai personau yn nglyn a'r cym- deithasau hyn, er gosod y wlad ar ei gwiliadwriaeth rhagddynt yn y dyfodol. Y gymdeithas gyntaf: ddaw i'n sylw yw y "Douglas Arms Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Douglas Arms Hotel. Yr ysgrifenydd yw Mr. David Lloyd, Brynllys, St. Ann's, Slate Inspector. Yr ymddiriedwyr ydynt, Mri. Wm. Jones, Coedyparc, chwarelwr Robert Roberts, Wynllwyd,, chwarelwr John Hughes, Glanygors, Pwyswr; Owen Jones, Cilfoden, chwa- relwr. Yr un personau sydd wedi bod yn swyddogion yn y gymdeithas hon o'r dechreuad, ac y mae hyny yn werth mawr i bob cymdeithas, ond iddynt fod yn ddynion gofalus a chywir. Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas y nos Fawrth cyntaf ar ol y tal yn chwarel Cae-braich-y-Cafn. Cymdeithas derfynol 15 mlynedd yw, ac y mae yn awr yn 12 oed. Rhif, 2 a ddaw dan ein sylw yw y Victor Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Cefnfaes Vaults. Yr ysgrifenydd yw Mr. Richard Hughes, Ogwen Terrace, Bethesda, flour merchant, Yr ymddiriedolwyr ydynt, Mri. Griffith Thomas, Blaen- y-cae, Bethesda, chwarelwr John Williams, Ty'n- y-coed, Agent; David Davies, Mount Pleasant, Eitter. Yr un personau sydd wedijbod yn swydd- oo-ion yn y gymdeithas hon hefyd er y dechreu. Cynhelir cyfarfodydd y gymdeithas nos lau cyntaf ar ol y tal yn chwarel Cae-braich-y-Cafn. Cym- deithas derfynol 15 mlynedd yw hon eto, ac y mae yn awr yn 5 oed. Rhif. 3 ydyw y "Glan Ogwen Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Queen's Head Inn. Yr ysgrifenydd yw yr un a Rhif. 2, ar ymdcliried- olwyr ydynt, Mri. Owen Williams, Ty'ntwr, chwa- relwr Eleazer Richard Abraham, Bryn Cul, amaethwr David Phillip Williams, Bethesda, chwarelwr a Griffith Jones, Pantdreiniog, chwa- relwr. Mae swyddogion y gymdeithas hon eto wedi bod yn eu swyddi er y dechreu. Cynhelir ei chyfar- fodydd y nos Fawrth cyntaf ar ol y tal. Terfynol yw hon eto, 15 mlynedd; mae yn bresenol yn 9 oed. Rhif. 4 yw y "Prince Alfred Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Coach and Horses. Yr ysgrifenydd yw Mr David Roberts, ;[Alawydd) Taiduon, Bethesda, slate inspector. Yr ymddiried- olwyr ydynt, Mri. Hugh Roberts, Hirdir. slate inspector; David Griffith, Garneddwen, quarry agent; a David Davies, Rachub, chwarelwr. Cym- deithas derfynol ydyw hon hefyd yn ol y rheolau darperir iddi ddod i fynu mewn ugain mlynedd; ond y mae y taliad misol, ar bob cant, yn llawer iawn rhy isel iddi allu dod i fynu mewn hyny o amser, fel y cawn ddangos eto. Mae gwaith swyddogion rhai o'r cymdeithasau hyn y neu cychwyn ar sylfaen mor bwdr, wedi peru anrhefn mawr yn ein plith, a cholledion mawrion i lawer o'r aelodau. Cynholir cyfarfodydd y gymdeithas nos Lun cyntaf ar ol y tal yn y chwarel. Mae yn bresennol yn 8 oed. Rhif. 5 yw y "Cilfoden Benefit Building Society," Cynhelid hon yn No. 3, Ogwen Terrace. Yr ysgrif- enydd oedd Mr. Robt. Jones, Bookseller, Ogwen Terrace. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Mri. John Hughes, Gerlan, chwarelwr; Thomas Morris, 3, Brynteg-street, chwarelwr; Robert Griffith, Grey- street, chwarelwr. Cynhelid cyfarfodydd y gym- deithas nos lau cyntaf ar ol y tal. 20 mlynedd oedd yr amser a fwriadwyd i hon eto ddod i fynu ynddo ond mae'n ddrwg genym ddyweyd, o herwydd ang- hytundeb rhwng aelodau a gofynwyr y gymdeithas ei bod wedi myned i'r Chancery. Ymattaliwn yn bresenol rhag myned i mewn iw hamgylchiadau, ac i'r hyn achosoddyr anjhyfcunded; gyd a ynunighys- bysu fod; mm inatcr jlCb yr un cyfrif i ba lo y maent wedi myned yn perthyn i'r gymdeithas lot Cavvn roi ychwaneg o'r manylioi-i pan y deuwn i osod ger eich bron sefyllfa pob un o'r cymdeithasau mon belled ag y gallwn. Gadawn i'r cymdeithasau yn y fan yma am yr wythnos hon, a cheisiwn gael amser i ddod attynt eto yr wythnos nesaf. GKVYUEDYDD.
Geuedigaetliau., Priodasau, Marwolaelthau., GENEDIGAETHAU. Rhagfyr 8, yn Gelli Gravog, Llanelli, pried Mr. L. Herbert Morris, ar fttb. PRIODASAU. Rliagfyr 9, yn Abergwili, gan y Proffeswr Morgan, Caerfyrddin, y Parch. E. Jones, Dolgellau, a Miss Lewis, 12, Heolybrenhin, Caerfyrddin. MARW OLAETHAU. Rhagfyr 12, Ellen, priod Mr. John Roberts, yr Efail, Tanybwich, yn 70 mlwydd oed. Yr oedd y chwaer hon yn un o aelodau henaf a ffyddlonaf o'r eglwys gynulleidfaol yn Gilgal, Maentwrog. Y geiriau di- weddaf ddaethant dros ei gwefusau oeddynt, "Ai tybed mai dymabeth ydyw Glan yr lorddonen." 4, yn nhy ei mhabynghyfraith, Mr E; Brett, Abercarn, Mrs. A. Griffiths, yn 85 mlwydd oed. 11, yn Birkenhead, yn 5G mlwydd oed, Mary, gweddw y diweddar Robert Evans, o Glascoed, Llan- gyniew. 4, yn Frondeg, Llandudno, yn 66 mlwydd oed, Mary, priod Thomas Jones, Ysw. 7, yn 20 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, John, mab Mr. John Jones, Skinner, Love Lane, Dinbych. Yr oedd yn ddyn hynaws a charedig, ac yn aelodffydd- lawn a diargyhoedd --yda'r Aiiiiibyiiwyr. Bu farw dan ganu, ac yr ydym yn dra hyderus fod marw yu elw, iddo. Gwyn eu byd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd. 8, yn yr Elephant and Castle Hotel, Drefnew- ydd, yn 35 mlwydd oed, Mrs. Kate Ruddle, anwyl briod Mr. W. Ruddle, Voelas Hotel, Pentrevoelas, gan adael ei phriod ac un plentyn, yngliyda Iluaws o berthynasau a chyfeillion i alaru ar ei hoi. Claddwyd hi yn meddrod y teulu yn Mhentrefoelas y dydd Sad- wrn canlynol. 4, Mrs. Williams, Efarm Goch, plwyf Llan- gan, Morganwg, yn 58 mlwydd oed. Bu iarw yn drn. sydyn. Dydd Mawrth, Tach. 30, aeth i farchnad Pontfaen, a thra yn helpu ei merch yno i wneud ciniaw, cafodd Jz £ yr hon a derfynodd ei bywyd mown peclwar diwrnod. Yr oedd yn aelod parchus yn Nhreoes, lie y claddwyd hi, y Parch. R. S. Jones, gweinidog y lie, yn gweinyddu. Gadawodd briod a llawer o blant i alaru ar ei hoi.
-I Y FARCHNAD YD. LIVERPOOL, DYED, MAWRTH.—YR oedd y cyflenwad cartrofol yn fychan, y prisiau yn tueddn i ostwng. Blawd 6c y sach a'r baril yn is. Ffa yn Is, a'r pys yn 2s y chwarter yn is ar brisiau y Mawrth blaenor-e ol. Ceirch a'r blawd ceirch yn cael ei esgeuluso yn hollol. Grawn Indiaidd yn gwerthu yn araf am 6c yn is na/r wythnos flaenorol. LLUNDAIN, DYDD LLUN.-Nid oedd y cyflenwad yn helaeth iawn yma heddyw, yr oedd cynulliad da, ond yr oedd y galwad yn drymaidd am fathau coch a gwyn, gyda gostyngiad o Is yn y chwarter. Yr oedd cyflenwad o wenith tramor, y prisiau yn tueddu i ostwng. Ychydig o haidd ddangoswvd, cafwyd y llawn prisiau am haidd at fragu, gyda galwad teg am dano. Brag yn farwaidd am y prisiau blaenorol. Dangoswyd cyflenwad da o geirch, a chafwyd gwerthu iant gweddol. Ffa yn fywiog am brisiau yr wythnos ddiweddaf. Y chydig o alwad am y pys am y gostyng- Z, n iad diweddaf. Blawd yn gwerthu yn drymaidd am brisiau yr wythnos ddiweddaf. Hadau amaethyddol yn gwerthu yn sefydlog.
Y FARCHNAD ANIFEILIAID. LIVERPOOL, DYDD LLUN.-Heddyw oedd y farch nad fawr a elwir Marchnad y Nadolig. Yroedd yma gyflenwad helaeth o wartheg a defaid o'r mathau goreu, yr oedd galwad gweddol am danynt am bris- iau yr wythnos diweddaf. Cafwyd prisiau uchel iawn am y goreuon o bob math. Beef 6c i 9c; Mutton 7-JJRC i 10c y pwys. Yr oedd y cyflenwad yn cymnvys 3,350 o anifeiliaid, a 11,210 o ddfaid. LLUNDAIN, DYDDLLUN.—Yr oedd y cyflenwad ym:1î yn neillduol o dda, gwelwyd mwy inewn nifer, ond. erioedd well ansawdd. Dangoswyd anifeiliaid Efrengig, tuhwnt i ddim a welwyd erioed o draUlor. Yr oedd oddeutu 350 o honynt-yr oil yn dda. Tra yr oedd yr anifeiliaid tramor fel hyn inor,dda, yr oedd y cyflenwad cartrefol gystal ag erioed, yr oedcl ocldeutu 1,300 o Aberdeens yn gwerthu am 40 gini yr un. Nid oedd llawer o anifeiliaid Cymreig yn y farchnad, ond dangoswyd nifer lied dda o Herefords. Beef goreu o 5s Sc i fyny i 5s 10; Scots goreu. Devon, a Hereford, yn 6s y 14 pwys. "h1;r.1t -"» .:ø:"
GWEHYDD YN EISIAU. YlVIOFYNERyn ddioed a John Arthur Gwe- Y hydd, Bridgend, Glamorgan. (29) CYFAEPOD CHWARTEROL AHFON. YNNELIR y nesaf yn Saron, ger Caernarfon, yr lleg a'r 12ed, o Ionawr, 1870. Bydd y gyu- nadledd am 2 dydd Mawrth. Pregethir yu. yr hwyr, ac am 10, 2, a 6, y dydd canlynol. L. WILLIAMS, Gweinidog. OX TON & CO.'S 114, BOLD STREET, LIVERPOOL. YR ueliod ydyw yr unig Sefydliad yii Lloegr lie y cedwir dros ugain math o Beirianau GWIlÏo i'w gwercliu, a lie y gellir cael SEWING MACHINES ALL KINDS GYDA GOSTYNGIAD MAWR YN Y PRISIAU. Anfonw[ch am Restr Newydd sydd i'w chael yn rhad tr wy y Post. TELIR CLUDIAD pob peiriant i unrhyw Railway Station yn Mhrydain Fawr, a fyddo wedi ei daln am dano, heb goel. GWERTHIR I'R TLODION ar delerau esmwyth i dalu. OXTON & CO., 114, BOLD STREET, LIVERPOOL. Y DYODDEFWYR CYMREIG. CYNHELIR CYFAREOD MAWR dan nawdd y \J Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig yn y CONCERT HALL, LIVERPOOL, Nos FA JVIt TIC, Mag. 21 ain. 1869. CADEIRYDDJ. ROBERTS, YSW. Disgwylir presenoldeb H. RICHARD, Ysw., A.S.; E. M. RICHARDS, Ysw., A.S.; WATKIN WILLIAMS, Ysw., A.S. WM. RATHBONE, Ysw., A.S. ac amryw aelodau seneddol a bon- ecldigion eraill. Y GYMDEITHAS GANOLIC, ER RHODDI TERFYN AR WEBTH- IANT DIODYDD MEDDWOL AR Y SABBOTH (OND I DEITH- WYR YN UNIG). Swyddfiiau:—43, Market Stivrt, irnnehester; 8, Goldsmith Street, Llundain. CADEIEYDD SIR THOMAS BAZLEY, BART, M.P. TEYSORYDD .—RICHARD KAWORTH, Ysw. MAE y GYMDEITHAS GANOLIG yn ceia- io drwy Gynghorfaau, Cyfarfodydd Cyhoeddus, Deis- ebau, y Wasg, Pamphledau, Traethodau, &c., i G ATJ TAF- ARNDAI yr holl bedair awr ar hugain o'r Sabboth, ac y mae ganddynt ysgrif yn barod erbyn eisteddiad nesaf y senedd. Cyfraniadau yn eisian yn ddioed, gellir cu hanfon i Richard Haworth, Ysw., High Street, 31ancliester, neu ilii Gori.Lcb- wyliwr dros G-ynaru, Hereford, a'r Amwythig; Mr. THOS. B. JONES, Adwy'r Clawdd, Wrexham, i ba un y dylid anfou pob hysbysiaetli yn y gylchdaith. ROBERT WHITWORTH, ) T. A. STOWELL, M.A., > Ysgrifenyddion. EDWARD WHITWELL. )- GAME, POULTRY, PORK, &c., WANTED. To Farmers, Country Poulterers and others: MESSRS. BAKER AND SON, \■ POULTRY, PORK & GAME SALESMEN, LEADENHALL MARKET, SOLICIT immediate and further con- kj signments during the CHRISTMAS SEASON of PHEASANTS, PATEIDGES, HARES, RABBITS, GEESE, DUCKS, TUR- KEYS, FOWLS, GROUSE, BLACICGAME, WILD .DUCKS, WIDGEONS, PIGEONS, SNIPES, WOODCOCKS, PORK, &C. egg" A large portion ef our business being done direct with the consumer, we are enabl- ed, by saving his (the dealer's) profit, to real- ize for our consignments from 15 to 25 per cent, more than those who supply the retail dealer only. Those who have any of the above for disposal and are desirous of real- izingtheir utmost value, should loss no time in communicating with us. Lots, large olr small, purchased for cash or sold by com- mission-iii th e latter case the very best prices being obtained, and account and cheque sent by return of Post. Present fiaets Highly Re- munerative. Postal Address:-2, OR OSS-PASS A GR. LEADENHALL MARKET, LONDON, E.C. HEALTH RESTORED WITHOUT MEDICINE. ELECTRICITY AND ITS WONDERS. JUJ NERVOUSNESS NO FANCY. UniTs for the cure of NERVOUSNESS, WEAK- NESS, Loss OF AI'I'BTITE, INDIGESTION, &c. Cases in proof of successful treatment, with necessary instructions by whili sufferers may obtain a cure., A persuul gives the reader the power (if avcitiug the consequences arising from his own indiscretion. Nervous invalids suffer from low spirits and debility, noises in the head, mclanriioly, fear, blushing, dislike to society, sleeplessness, headache, indigest- ion, dimness o'i sight, loss of memory, giddi-. ness, palpitation of the heart, neuralgia, fits, epilepsy, &:e., dCc. Pall .particulars sent free on receipt of two stamps, by Dr. HAMMOND, No. ii, Charlotte-street, Bedford-square, London. W.C. •