Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

_---------------' 'RHEN FFABMWB.

News
Cite
Share

'RHEN FFABMWB. Wel, yr ydw i chwedi colli arni hi hefo'r sgrifenu yma ys tro, tae fater am hyny, ond nid arna i roedd y bai, ond ar y towydd, os doeddbai n bod. Toes dim posib sgyrfenu dim trefn.o ddim byd, pan fotho hi n dowydd trwm, towyll, niwliog, wel mae hi chwedi bod ys dyddie. Toes dim rhydeas na rhych- feddylie yn treigliad yn rawyr ar dowydd felly, ac felly sgyrfenech chi ddim byd yn yeh byw. Ond tydach chi n gweld hyn y mhob peth o'ch cwmpas. Drychwch ar y tan rwan ar ddiwrnod felly—does gantho fo run rydea yn y byd am gynu, mi fydd yn ydrach wel peth chwedi haner tori 'i galon, ac wel tae o'n barod i neyd ei wllys, a rhaid i chi roid spar- dun y procar yntho fo o hyd, cin cewch chi gyntho fo neyd dim ar ddyar; a'r cryduried run fath-yn warthog a chyffyle, a chwn a chathod. Dyma'n hen gath ni yma rwan, mi rweddith o flaen tan trw gydol y dydd ar dowydd trymllyd os ceith hi lonydd, a mi rydw i'n coelio y gadawe hi i'r llygod dynud i llyg- id hi o'i phen, cin y ceisie hi neyd dim iddyn nhw. Mi fydden yn deyd stalwm y bydde chwain yn brathu n waeth ar dowyclcl wel hyn. Gen i mi son am chwain, ni welcs i run chwanen es llawer blwyddyn, mae llai o honyn nhw lawer iawn nac oedd dro nol, rwi'n siwr nad oes yn y sir yma ddim un chwanen am ddeng mil oedd yma haner can mlynedd yn ol, a mae hyny 'narwydd dda—yn arwyddo fod y bobol yn cadw u hunen a'u tai yn lanach, a mae o narw o beth na chadwe pobol u cnawd, a'u dillad, a'u tai, a'u dodren yn lanweth, tro botho digon o ddwr yn rhedeg nagos atyn nhw; tydio fawr iawn o gost, ond tipin o draffeth, a thraffeth yn talud yn dda iawn am dani i hun ydi hi, i bawb a'i cymero hi. Toes neb yn rhy dlawd i fod yn lan, ond mae llwerodd eto syweth, yn rhy ddifater a diog. Mae llawer o achwyn ar gam ar yr hen fyd yma, a'i groese, a'i ofidie, ond mi alle llawer o bobol fod yn fwy csurus o'r haner nag y mae nhw yntho fo, py tae nhw ydrach ar ol pethe bych- in a hawdd wel hyn. Mae llawer iawn o son am sgolion i roid addysg i blant y dyddie yma, a swn a son da iawn ydi o, a gobeithio rydw i y daw rhwbeth o hono fo, does bosib; ond mae eisio rhoid addysg i hen bobol hefyd, a gwers dda iawn, un o'r gwersi gore i'w dysg- ud iddyn nhw, ydi glanweithdra; fydd gin i fawr o dryst fod gen ddyn galon lan os bydd i ddillad a'i wymedyn wastad yn fudur. Mae llawer iawn yn dybynu ar wragedd a mame yn y peth yma, cymolieth uchel i wraig dlawcl ydi i bod hi n cael y gair o gadw 'i hun a'i phlant a'i thy yn lanweth, pw mor saled bynag fotho'r dillad a'r dodren. Wel, dene i chi; dyma fi wedi bod yn trin y towydd ar sgrifenu, a'r cwn a'r cathod, a'r chwain, chwedi dwad at fater da o'r diwedd —tydi cryduried felly ddim islaw n sylw ni, hyd y nod y chwain, a mae gin y chwain rite i fyw mewn tai budron, ac i frathu pobol fudr- on, a mae nhw yn thrawon da iawn i spyrduno merched diog—i lanhau i hinen, a'r dillad, a'r gwlau er mwyn cael mwared o'r pla. Dyne sut bu i mi sgyrfenud y llythyr yma. codi'n ddiwrnod go braf nauth hi heddiw— yr awyr yn ysgawn, ac awel dene, a mi god- odd fiysbrydodd ine, me roeddwn i n clowed hogle rydeas yn llond y rwm, a mi roedden nhw n dwad 1 mhen hefo phob nadliad dynwn i fy ffroene. Mi welwch wel etie na wiw i chi ddisgwilied run llythyr oddiwrtha i pen fotho hi n dowydd towyll a thrymedd, a mi welwch hefyd mod i yn dipyn o ffilosiffar-yn dyallt natur pethe. RHENFFAEMWR.

-------Y DIODDEFWYR YN ACHOS…

SARAH JACOBS.