Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

CYNGHORAU CYFFREDINOL.

COFADAIL CALEDFRYN.

YMFUDIAETH I AMEEICA.j

News
Cite
Share

YMFUDIAETH I AMEEICA. GAN GWESYN. Meistri Gol.Cefa-is lythyr yn ddiweddar oddiwrth Mr E. Edwards, tyddynwr o Sir For- ganwg, a rhes o ofyniadau yn nghylch ymfud- iaeth i America. Gan fod llawer o'm cyfeillion fel yntau yn darllen y TYST, credwyf y byddai yn well i mi ei ateb, er mwyn y cyboedd, trwy y TYST. Mae y naw plentyn sydd genych yn naw rheswm cryf dros i chwi ddyfod i America, ac y mae eich bod yn amaethwr yn gwneud y degfed rheswm. Mae yma le i ganoedd o filoedd o amaethwyr. Nid oes yma ddigon o Ie i neb ond amaethwyr. Mae yn hawdd llenwi y chwareli llechi, y gweithfeydd glo a haiarn; ond am dir- oedd ffarmwrol y wlad, ni lenwid hwy pe deuai pob teulu sydd yn Mhrydain yma i geisio Iferm- ydd. Mae yma bob math o ffermydd o ran tir, gwych a gwael. Peth tir na cheir ei well ar y ddaear, a phcth mor wael a dim sydd yn Nghym- ru. 0 ran maint, o ddeg cyfer hyd dair mil o erwau; o ran pris, o ddolar a chwarter i bedwar cant o ddoleri yr erw—hyny yw, o chwo swllt i bedwar ugain punt. Mae pris y tir yn yuiddi- bynu mwy ar ei gyfleusderau na'i ansawdd. Y mae tiroedd Y11 nhalaeth New York, gerllaw rheilffyrdd a threfydd, yn uchel iawn tra mae tiroedcl yn y Gorllewin, yn mhell o'r rheilffyrdd a threfydd, heb dai nft fences, yn rhad iawn. Gofynweli-I. Pa dalaeth yw y goreu ? Nis gallaf ateb, gan na welais ond rhyw chwech o'r tair ar ddeg ar hugain. Mac manteision ac an- fanteision yn mhob talaeth. Mae talaeth New York yn fawr iawn, a llawer o reilffyrdd a marchnadoedd da ynddi. Mae y ffermwyr yma yn cael gwell pris am eu caws, ymenyn, cig, a phethau ereill sydd ganddynt i'w werthu, na thalaethau pellach i'r Gorllewin. Mae yma ddwy gymydogaeth Gymreig, lie gallai dyn gael tir da am o ddeg ar hugain i haner can dolar yr orw, a chael amser i dalu am dano wrth dalu rhan i lawr, a thalu saith y cant o log ar y g-weddill. Un gymydogaeth yw Plainfield, tuag ugain milldir o XJtica--tir da, braidd yn fryniog. Tai da yn y cyffredin, a'r tir wedi ei wrteithio gan yr Americaniaid, pa rai ydynt yn barod i werthu er symud. Mae pobl y wlad hon mor barod i worth-a eu tai a'u tiroedd ag ydych cliwithau i werthu buwch neu geifyl. Mae eg- lwysi gan yr Annibynwyr a'r Methodistiaid, a gweinido"-ioii hefyd, yn y gymydogaeth. Lie arall yw Cattaraugus, tua dau gant o fill- diroedd i'r GorlleAvin oddi yma. Mae yno ardal hcla,eth iawn o Gymry, tair eglwys a thri gwei- nidog— Anibynwyr,Methodistiaid a Bedyddwyr, yr olaf yn lluosog iawn. Mae yno dir da, yn bur fryniog, eto yn ddymunol iawn i fyw. Pris tir yno yw o ddeg ar hugain i ddeugain dolar yr erw. Manteision y ddwy ardal hyn yw tir wedi ei glirio, tai wedi eu hadeiladu, cyfleusderau cref- yddol gyda gwalianol enwadau, inarchnadoodd lie rhoddir y prisiau uchaf heb fod yn mliell. Caed ffrwythau amryw yn eu llawn dyfiant. Anfanteision—gauaf pur hir, dim rheilffordd yn lies na deg neu ugain milldir, ond daw hyny, a chyfyd pris y tir. Caws ac ymenyn mae ffarm- wyr y parthau hyny yn ymddibynu arnynt. Nid ydynt yn hau braidd ddim gwenith gauaf, ag ond ychydig wenith gwanwyn. Maent yn byw yn dda a rhai ddeclireuodd yn dlawd, ddeg a phymtheg mlynedd yn ol, wedi clirio eu fferm- ydd, cael stoc dda, ac arian ddigon wrth law. I ddyn yn edrych am gartref, byddai un o'r ddwy gymydogaeth yma yn lie da. Y dalaeth nesaf atom yw Ohio. Ni welais ond rhyw un sefydliad yno y gallai ffarmwr gael cyfle da i ddechreu ynddo, sef Gomer. Gwlad wastad a thir ardderchog am ugeiniau o filldir- oedd, na byddai Bro Morganwg ddim mwy mewn cydmariaeth iddo nag yw eich fferm chwi i'r Fro. Mae yno luaws mawr o Gymry yn ffarmwyr cyfoethog, a phawb hyd y gwelais yn gysurus eu hamgylchiadau, rhyw bedair eg- lwys yno, dwy neu yn hytrach dau gapel gan yr Annibynwyr, ac eglwys o dros bedwar cant o aelodau, a dwy gan y Methodistiaid. Pris y tir yno yw o ddeg dolar ar hugain i fyny. Gwen- ith corn a moch yw y pethau maent yn ymddi- bynu arnynt yno. Mae gan yr un ffarmwr o haner cant i gant neu ychwaneg o foch. Maent yn gwneud ymenyn ardderchog yno, ac y mae ganddynt gyflawnder mawr o afalau, peaches, a ffrwythau ereill. Nid yw prisiau y farchnad mor uchel yno ag yn y dalaeth bon, ond yr wyf yn meddwl fod y tir yn fwy cynyrchiol. Nid yw y gauaf yn agos mor hir yno ag yma, naG, yn agos gymaifit o eira. Mae y Dutch, y sef- ydlwyr cyntaf yno, yn barod i werthu allan.- Tcbyg y gellid yn rhwydd brynu ugeiniau os nad canoedd o ffermydd am brisiau rhesymol. Byddai yno eto gartref cysurus i rai sydd a thipyn o arian i ddechreu. Ni theirnlent fawr gwahaniaeth rhwng byw yna a byw yn Nghym- ru. Mae reilffyrdd tua phump neu ddeng milldir i bob rhan o'r sefydliad. Dyma yr ardal debycaf, yn ol fy marn i, y gallai ffermwyr oeddynt mewn amgylchiadau da yn Nghymru deimlo yn gar- trefol gyntaf. Mae Gomer ychydig dros chwe chant o filldiroedd o New York. (I w barhau.)

Advertising

NODIADATJ GAN DAFYDD CWMGLAS.