Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
NEWYRTH' ZACHRY O'l GADAIR…
News
Cite
Share
NEWYRTH' ZACHRY O'l GADAIR WELLT. 'M, i ddarllenodd Mr. Evans circular heddyw ar ol y bregetli, oedd e wedi gael yn achos y JDysgedydd,' meddwn i wrth Newyrth Zachry ar ol dyfod adref o'r Ty Cwrdd borou Sabbath diweddaf. '])a iawn, both ddywedodd e am dano ?' Ddywedodd e fawr iawn, ond fe gym- hellodd bawb a allasai i'w gymeryd, pe na bu- asai dim ond am fod ei elw yn myned i helpu hen weinidogion.' I A ydi e ei hun yn ei dder- byn wys ?' I Na, 'dwy ddim yn meddwl ei fod e, waeth dau sydd yn dod yma,un i chwi—ac mi wn fod James, mab Mr. Davies, Siop, yn ei gymeryd, ac fe allai fod Mr. Evans yn ei weled weithiau ganddo ef. Ond y mae Mr. Evans yn derbyn y Diwygiwr a'r Beirniad, a chwi wyddoch all e ddim fforddio (lerbyn y ewbl.' I Ond fe ddylai gymeryd y Dysgedydd—yr hen gyhoeddiad hynaf o'r cwbl. Yr wy i wedi digio wrthynt tua Llanelli yna, am spwylio y Diwygiwr, a'i wneud e yn hen un bach llwyd diolwg. Fe fuasai yn lied chwith gan Mr. Rees, Capel Als, i weled yr hen JJdiwJlgÙor wedi dyfod i'r diwedd truenus yna.' Aros- weh Newyrth, ond doedd e wedi ei newid cyn marw Mr. Rees-ac heblaw hyny y maent yn myned i'w newid eto i'r hen blyg a'i godi i'r hen bris.' Puriou, purion ynte, mi cymeraf ef eto; ynte yn wir'yr own i wedi penderfynu na chymerwn ef ar ol diwedd y flwyddyn hon, er, y buaswn yn ei gweled yn od iawn hebddo. Mae e yma bob rhifyn er y dechreu yr wyf yn meddwl, ond fod eisiau ei findio. Yr wyf wedi darllen y Dysgedydd a'r Diwygiwr yr holl flyn- yddoedd. Y Diwygiwr fyddwn i yn gyfrif oreu am Politics, yr oedd mwy o fywyd ynddo, ond y Dysgedydd oedd oreu am Dduwinydd- iaeth. Fe eisteddais yn yr hen gadair yma lawer diwrnod cyfan i ddarllen dadleuon a thraethodau duwinyddol y Dysgedydd ugain mlynedd yn ol. Mae e yn para yn hen gy- hoeddiad da a sylweddol. Fe ddaeth bagad o ysgrifau da iawn i mas ynddo eleni. Yr wyn synu na byddai pobl.yn cael mwy o flas i'w ddarllen, na darllen ryw hen drash erlidgar a geir mewn rhai papurach. Y gwir am dani, yr oedd arna i gywilydd glywed nad oedd dim dwy fil o hono yn myn'd i gyd. Bostio a bostio yn ddiddiwedd 'yn bod ni yn enwad lluosog a dim yn gwerthu dwy fil o gyhoedd- iad- misol grot, y gallai uurhyw enwad fod yn falch o hono. Mae yr anerchiad sydd ar glawr y rhifyn diweddaf gan y ddau olygwr at wein- idogion ac eglwysi, a'r anerchiad sydd yn ei ddilyn at ddarllenwyr a dosbarthwyr y JJysg- edydd y fath ag a ddylai godi cywilydd i wyneb pob Annibynwr. Mae dros ddwy fil a haner o'r Cylchgrawn yma yn myn'd gan y Method- istiaid yn y De yma yn unig, fe ddywedodd un o'u pregethwyr wrthyf; ac fe ddywedodd fod chwech neu saith mil yn myn'd o'r Drysorfa a gyhoeddir yn y North. Ni byddaf yn gwel'd hono, ond clywais rai sydd yn ei gwel'd, a Methodus hefyd, yn dyweyd nad yw i'w chyd- maru a'r Dysgedydd. W n i ddim am hyny, nid wyf am osod barn ar beth na wn; ond mi wn nad yw y Cylchgrawn yma ddim i'w gyd- maru iddo, pe tynid Nyth y Dryw' allan. Ond y mae rhyw ddynion yn ein mysg a chan- ddynt eu pethau personol, ac y maent yn gwneud eu gorau i greu rhagfarn yn erbyn pob peth enwadol. Peth hawdd iawn i ddyn ydyw myn'd yn boblogaidd gy da llawer iawn o Independiaid ond iddo roddi ei hun i fyny fel bwli eu rhyddid, a gwaeddi dies ar bawb arall, yn enwedig ar bawb a fyn weithio o blaid pethau cyifredinol yr enwad. Mawr gymaint o son glywais i am gael rhyw drysorfa i helpu peth ar hen weinidogion er's llawer blwyddyn. Mi welais Mr. Powell, Caerdydd, a Mr. Griffiths, Alltwen, yn cyhoeddi ryw reol- au yn y Diwygiwr er estyn cymorth iddynt; ond welais i ddim yn dod o hyny. Y mae Trysorfa yr Hen Weinidogion yn awr yn helpu llawer; ond ni cha y rhai oedd allan o'r wein- idogaeth cyn ei ffurfiad ddim o hono a chaiff neb eto ddim o honi ond a roddo ei weinidog- aeth i fynu. Ond mae llawer o ddynion da yn llafurio am gyflogau bychain y bycldai cael pnm punt neu chwech y flwyddyn yn gysur mawr iddynt. Fe fu Mr. o——, yma yn ddiweddar yn gwerthu llyfr, ac yn dyweyd mai dim ond lOp. y flwyddyn oedd e yn gael. Cyflog is na chyflog gwas amod. Nid yn ami y mae neb mor isel a hyny, ond y mae llawer yn ddigon angenus; ac mi welais ar y Dysged- ydd ddwy neu dair blynedd yn ol y gallai y Pwyllgor rami Y-,100 y flwyddyn pe codid ef i 5000 o dderbynwyr.' I Wel, Newyrth, pe buasech chwi yn rhoi yr araeth yna heddyw yn y Ty Cwrdd ar ol pregeth Mr. Evans, ry- feddwn i ddim na chawsech chwi haner cant i'w ddorbyn.' 'Ie, ond fedra i ddim myn'd o'r gornel yma, a'r pcth ddyweda i rhaid i mi gael ei ddyweyd oddiar fy eistedd o'r gadair wellt yma, ond yn dcligon siwr i chwi pe gall- wn i mi awn ac middywedwn hefyd o'i blaid; ac nid o blaid y Dysgedydd yn unig ond o blaid y Diwygiwr, y Beirniad, y TYST, a phob cy- hoeddiad a phapur y bydd eu darllen yn cleby, o wneud lies. Ond am y Dysgedydd y darfu i chwi son heddyw, ac y mae genyf barch mawr iddo fel hen gyhoeddiad yr enwad, ac yr wyf yn medclwl fod ganddo hawl ychwanegol arnom gan ei fod yn rhoddi ei holl elw er cynortliwy gweinidogion oedranus a metbiedig; ac mi ddylwn i yn aned neb deimlo dros yr hen a'r methiedig, sydd wedi bod yn fethiant fy hun dros gynifer o flynyddoedd; ond trwy drugar- edd nid rhaid i mi wrth elusen o law neb yn y ffordd yna.' Rhoddodd y frawddeg olaf yna esboniad llawn i mi am y sel nodedig y mae Newyrth Zachry wedi ei ddangos er's blynydd- oedd dros y Dysgedydd. Llysceninen. Ei NAI.
GALLU'R GEINIOG
News
Cite
Share
GALLU'R GEINIOG GAN TITUS LEWIS, F,S.A. PENXOD I. Hyd yn hyn nid ydwyf wedi dyfod at ei gallu, ond ni raid i ni aros yn rhy hir ar y trothwy. Yr oedd gan Malen. o'r heol-gefn frawd o'r enw Twm. Ond dyn a'ch lielpo chwi a ydych yn meddwl ei fod ef yn deall gwerth y geiniog mown perthynas i farbles, tops, a chylchau ceiniog ? Yr oedd gan Polly o'r square hefyd frawd o'r enw Tommy, yr hwn sy'n tyfu i fynu yn fachgen pert, llygadlas, fel y gel wir ef gan ffrindiau cariadlawn; acymae efe yn hen adnabyddus a gwerth y geiniog, yr hon nid yw yn bod ond anfynych yn llaw y "lleidwas" bach (cristionogol) sydd ganddo. Y mae gwerth y geiniog yn rhedeg drwy wely- au amrywiol iawn-oddiwrth farbles, tops, chwipiau, lili-pops, tartenau, mor ddiflas ag add- ewidion cariad, a syrthiad olaf y dail-hyd at urddas y deisen geiniog, yr ysgadenyn ceiniog, a'r ysgriw geiniog o dybacco, gyda'r hon y begianir am bwtyn o bib. Y mae afalau ysig- iedig, hen gyllell, a hi yn siglo yn fawr, yn y earn, yn rhad am geiniog. Rhedwch y gofrestr drwyddi, y mae yn gamwt hollol, a phob nodyn yn taro i'r 'geiniog.' A ydych chwi fy narllenwyr gan hyny, yn meddwl fod Tommy, neu un o honynt, pan fyddo y geiniog ganddo—Tommy fu'n dala adarn, acoganlyn- iad yn chwareu y Mwtshwr—Tommy o'r ysgolion canol—a ydych chwi yn meddwl nad yw Tommy, Twm, Polly neu Malen yn dechreu deall erbyn hyn beth yw gwerth y geiniog. Yn raddol y mae Malen fach o'r Heol-gefn, druan a hi—a Polly o'r Sgwar-fawr- a merch- ed bach oddiamgylch yn tyfu i fynu allan o'r ffrociau bychain, ac yn dechreu gweled bywyd yn syllu arnynt yn brysur iawn, yn fwy prysur effallai nag a garent. Y mae Twm o'r Heol-gefn, yr hwn sydd yn arwain i'r Lon Ddu—Tommy o'r Sgwar-fawr hefyd, Tommy y trydydd ag sydd gwedi cael y Dwymo i frwd-frydedd dros ei Grammar yn ysgol y Dr. Bedwen, ac yn y gwahanol ffyrdd yma y maentoll gwedi cyrhaedd ryw gymaint o wybodaeth o werth y geiniog ag y maent yn awr yn ddiddadi yn prysuro tuag at rai awgrymiadau o'i gallu. Ei gwerth cyntefig oedd yn hysbys iddynt oil, a gallent ei gyru drwy y pedair rheol rhifyddygol, ag a Osodwyd i lawr gan yr enwog Cocker.' Y mae Tommy! o'rj Sgwar-fawr 'gwedi gwneyd camsynied, ac y mae yn awr yn edrych ar y geiniog gyda llai o barch nag yn y dyddiau gynt, efallai fod ymarferiad a hi wedi creu casineb ati, yr hyn a brawf, tra byddo efe yn myned i ddarlithoedd, arddangosiadau, ac i fanau eraill, nad ydynt yn rhy adlonol, er efallai yn wellhaol, nad yw efe yn llawn mor agos at wybodaeth o 'allu y geiniog,' ao y gall- ai y dymunai neu y dylasai fod. Y mae Twm o'r Ileol-gefn yn meddu meddyl- ddrych am y gworth hwn, ond ysywaeth! ymae wedi ei gam-osod yn fawr, ac y mae yntau druan tlawd, yn cyfeiliorni. Y mae efe yn gwledda ei ddealltwriaeth ac yn gwrteithio ei chwaeth mewn 'tyllau ceiniog'—ysgol, gobeith- io, na bu neb o ddarllenwyr y TYST erioed o'i mewn, gan ei bod yn un o'r rhai mwyaf isel, mwyaf drygionus, a mwyaf niweidiol a all fod, ac y mae wedi llygru llawer iawn o ieuenctyd mwyaf addawol ein trefydd mawrion ni. Eto ymae gwerth y geiniog yn gwneuthur ei hunan yn adnabyddus hyd yn nod drwy yr is-weryd gwrthgynliyrfiol yma. Nid yw Twm o'r Heol-gefn yn myned i fudr- chwareuon Nadolig, ac nid yw Malen fach o'r gwter yn gwybod dim am rialtwch a difyrweh y tymor hwn. Nid oes iddynt hwy lawer o ddewis am eu ceiniog, ond pan fyddo pob peth yn pallu am y pris arferolhwn. Ymae'r 'Gaff,' y chwareudy ceiniog yn agored, ac yno y mae ystwr, brwdianwch ffiaidcl, digrifwch erchyll, chwerthiniad gloddestgar, ac y mae gwerth y geiniog yn cael ei chwarae allan. Y mae Twm wedi cael ei gwerth, ac mor bell ag ymae hyny yn myned, dyna ben draw ami—dyna'r diwedd, ond diwedd ydyw, ag sydd yn gychwyniad i ddeclireuad arall. (I'w barhau.)
NODIADATJ GAN DAFYDD CWMGLAS.
News
Cite
Share
NODIADATJ GAN DAFYDD CWMGLAS. Nid yn ami y byddaf fi yn danfon dim i'r papur newydd. Ond wrth ddarllen y TysT bydd chwant yn taro arnaf i ddweyd fy marn ar rai o'r pynciau sydd yn cael eu trin ynddo. Dyna bwnc yr Undeb Cynnulleidfaol Cym- reig sydd wedi ei ddwyn i sylw gan 'Herber.' Yr wyf yn cydweled ag ef yn hollol yn y pwnc hwn. Byddaf yn meddwl bob amser fod eisiau mwy o undeb yn ein plith fel enwad i gydweith- redu gyda phethau cyhoeddus. Waeth i ni heb wadu, y mae llawer o'n heglwysi ni yn wir yn sir Gaernarfon yn sychu o eisiau ychydig o gydymdeimlad a help. Credwyf fod ein heg- lwysi mawr a chyfoethog yn ddigon parod i estyn help a chynnorthwy er galluogi ein heglwysi bychain a thlodion i ddal eu tir. Ond gan nad oes gan ein heglwysi bychain le eym- hwys i wneyd eu hamgylchiadau yn hysbys, y maent yncael eu gadael i nychu a marw Y11 raddol. Gwyddom fod rhai dynion bychain yn barod i ddadleu fod undeb tebyg i'r undeb y dadleuir drosto yn taro yn erbyn egwyddorioll annibyniaeth. Ond yn wir nid ydyw y bobl yma erioed wedi deall egwyddorion Cynnulleid- faoliaeth.. Yr wyf yn credu yn ddiysgog fod pob eglwys yn meddu y gallu o hunan lywod- raeth ac na ddylai yr un eglwys fod yn rhwyD1 trwy gyffes neu gredo wrth eglwys arall, ond eto, yr wyf yn credu nad ydyw annibyniaeth yr eglwysi yn milwrio yn erbyn ei hundeb. Cyd- weithredai yr eglwysi yn y canrifoedd cyntaf; ac yn ei hundeb yr oedd ei nherth i weithredu yn erbyn y cyfeiliornadau a ymosodent arnynt- Dyma yr hyn a ddywed y Parch. R. Thomas, Bangor, a'r Parch. W. Evans, Aberaeron, ar y pwnc yn y Dysgedydd am Mai, 1867 :fr ydym yn Annibynwyr trwyadl ac yn credu yP ddisigl nad yw annibyniaeth Eglwysig yn all" ffafriol i'r undeb petffeithiaf mewn achosiQ0 cyhoeddus a chyffredinol. Pe credem y11 wahanol byddai yn rheswm cryf gyda ni y11 erbyn y trefniant annibynol o lywodraetb Eglwysig mor belled ag y gall rheswm fy yn y fath bwnc.' Dylai barn dau ddyn fel Thomas, a Mr Evans fod yn ddigon i dawel-a I personau hyny sydd yn ofni ein bod yn taro yp erbyn egwyddorion annibyniaeth wrth geis1^ sefydlu undeb Cymreig. Y mae yn hen brj^ i ni fel enwad gael rhyw fath o undeb gyffred- inol yn Nghymru, neu yr ydym yn sicr o go llawer o'n dylanwad fel enwad. Yr wyf 3^ credu yr hyn a awgryma I. G. Eigion,