Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Nicl ydym yn gyfrifol am syniadau ein Q-ohebwyr; ae nid yw eu eyhoeddiad yn ein colofnau yn ddigon i broil ein bod yn eu cymmeradwyo. Nis gullwn eu cau allan hob gael ein eyhuddo o geisio cyfyngu ar ryddid y WLtSg.-YGOLYGWYlt.]
E. J. SARTORIS, YSW., A.S.,…
News
Cite
Share
E. J. SARTORIS, YSW., A.S., A CHYNHAD- LEDD ABERYSTWYTH. At Olygwyr y TYST CYMKEIG. Foneddigion,—Mae fy hen gyfaill, awdwr Lly- thyr y Meudwy,' yn y TYST am Tachwedd 26ain, yn ymosod braidd yn galed ar y boneddwr uchod am ei absenoldeb o gyfarfod Aberystwyth. Nidoedd amgylchiadau yn caniatan i fy nghyfaill ei hun fod yn y gyiihaclledcl; ond dyna, yr ydym oil i raddau mwy neu lai yn greaduriaid amgylchiad- au. Yr oedd Mr' Sartoris yn Nghaerfyrddin ychydig amser cyn y cyfarfod yn Aberystwyth, a dywedodd wrthyf ei fod o blaid y mudiad, ac y gwnai gyfrann tuag at y drysorfa; ond fod amgylchiadau nad ocdd ganddo ef un lywodraeth drostynt yn ei gwneud yn mron yn anmhosibl iddo fod yn bresenol yn y cyfar- fod. Yna gofynodd i mi a oeddwn yn mcddwl ci bod o bwys anrhaethol iddo fod yn bresenol. Rhaid i mi addef nad oeddwn yn meddwl ar y prycl fod y fath bwys a hyny iddo i fod, a clyweclais felly wrtho; ac yr wyf yn sicr pe buasai fy nghyfaill, awdwr y llythyr, yn clywed yr holl siarad a fu rhyngom, y dywedasai yntau yr un peth. Yr eiddoch, fee., W. MORGAN. Caerfyrddin, Rhagfyr 3ydd, 1869,
UNDEB CYNNULLEIDFAOL CYMREIG
News
Cite
Share
UNDEB CYNNULLEIDFAOL CYMREIG At Olygwyr y TYST CYMREIG. Mri. Gol,—Ni ysgrifenais o dan ffugenw nac o dan fy enw priodol, lytliyr i'r TYST, nag- i un ne- wyddiadur Cymreig, am awn i, o'r blaen. Ond y mae "toztch o'r Cacwthes Seribendi," yn fy mlino y dyddiau hyn, i ddweyd gair ar benawd y llythyr hwn. Os gwrthodir fy ysgrif fechan, bydd fy nghydwybod wedi ei thawolu, gan fy mod, os dy- wed pobl y gweithiau, wedi dangos fod fy ana'l gyda y peth." Os cyhoeddir fy llythyr, feallai par gwel'cl fy enw am y tro cyntaf, wrtho, i mi eich poeni yn amlaeh nag y dymunech a fy llithiau. Ond i fyn'd at fy ngwaith. Da gennyf wel'd y pwnc o "Undeb Cynnulleidfa- ol Cymreig" yn cael ei godi i sylw. Mae dwylaw cryf wedi gafaelyd ynddo, gobeithio na ollyngant eu gafael hyd nes dwyn cyngor i weithred, a drych- feddwl i sylwedd. gogoneddus. Llawer o son sydd am aneffeithiolrwydd y gymanfa. Hawdd tynu i lawr, ond nid mor rhwydd adeiladu. Ni ddylem din- ystrio hen sefydliad grymus defnyddiol, nos cynnyg yn ei le rhywbeth itiveli a gwell. Pregethu ydyw un peth angenrheidiol, y gymanfa. Dyma ei mor a'i I y bywyd. Ai pregethu ydyw eisieu mawr yr oes hon ? Ai nid yw y wlad wedi thryfrithio a doniau cedyrn a melus ? Ac onid yw yr eglwysi yn cael cyfleusterau mynych (diolch da i'r rheilffyrdd) i'w clywed P Byddaf yn arfe meddwl mac gormod o bregethu sydd genym, ac mai hyn yw y- rheswm mawr na byddai mwy o awydd, ac ychwaneg o aberth, yn cael ei wnend, i wrando yr hyfryd sain" gartref ae oddi cartref. Mwy o weddio a gweithio roddai''eneiniad sanctaidd" ar genadwri y groes. Pryd y clywir pregethau medrus, nefol- aidd, bob Sabbath, pwy all ddisgwyl am ffrwst i yru i'r gymanfa, lie nad oes yr un tawelwch, eistedd- leoedd cysurus, a'r un ysbryd ag a geir yn y Capol P Nid progethu, coeliaf, yw angcn neillduol Cymru, ond eisieu arwain ffrwyth y pregethu i channels gweithgarwch, defnyddioldob, a sancteiddrwydd. Mae y pregethu wedi dwyn i ni fyddin gref, luosog, ond mae eisieu ci dysgyblu a'i threfnu ar gyfer brwydrau. Mae eisieu iddi ddeall ei hun, a'i arweinyddion. Beth atebai y dyben hyn yn well nag Undeb Cynnulleidfaol Cymreig ? Yma, gall- ai cynrychiolwyr eglwysi y dywysogaeth gydgyfar- fod, i siarad ar bynciau gwleidyddol y dydd fyddo yn dal cyssylltiad agos, bywiol a'r enwad, i edrych i fewn i sefyllfa crefydd yn y wlad, i gryfhau eu gilydd yn egwyddorion mawr, sylfaenol Crefydd ag Annibyniaeth. i gynnyg a phenderfynu mesurau fyddo er llwyddiant yr achos, ac i almog y cyfryw, gyda north a dylanwad na thciinlwyd erioed ou grymusach, ar yr eglwysi. Byddai anogaeth -a dymuniad oddiwrth y fath gynnulleidfa gryno dys- gedig, doeth a duwiol, fel llifeiriant anwrthwynebol yn ysgubo o'u blaen bob rhwych bychan personol, a phob gwrthwynehiad distadi a phengam. Ac y mae y sylw yma yn ein dwyn at un diffyg mawr, sydd yn perthyn, nid yn gynlienid ond yn achlysurol, i'n cyi'undeb fel Annibynwyr. Nisgall- wn byth, gytnno, yn un a chytun, ar un mesur. Mae yn ein plith, rhagfarn at bersonau, sofydliadau, a chyhoeddiadau, ajjmynwn ynghwydd y byd, wneud yn hysbys y ragfarn hono, ac felly dafiu oin ond a'n rhwystr o flaen pob symudiad. Pe byddai y sefydliad yma, "Yr Undeb Cynnulleidfaol Cym- I reig" yn cael ei fab wysiadu, mac yn ddiddadl gcnyf y deuai y personau, a'r sefydliadau a'r cyhoeddiadau hyn i ddeall eu gilydd yn well. Gwyddom fod rhagfarn a chenfigon o'u mynwesu, yn chwyddo bob dydd, gyda phob gair a gweithred. Re deuai y personau yma i gyfarfyddiad, dro ar ol tro, nid oes ynom y petrusder lleiaf, na chliriau yr awyrgylch, y chwelid y cymylau, ac yr ymbrydferthai y nefoedd yn ei gwisg o fyrddiwn ser. Clywid llai o son am yspryd plaid a chliques. Diflanai y rhai hyn fel tarth y boreu, ar ol ymddangosiad Haul mawr, dadleuaeth a chyfarfyddiad personol." Ni all fod y siarad sydd am gliqucs, yn mysg gweinidogion ac aelodau, ond bod yn frath i galon pob un sydd yn gwir garu yr achos goreu. Distrywia defnyddioldeb personol; a lladd lwyddiant sefydliadau. Ai ni chawn ni uno fel un gwr, gyfeillion, i symud yr achau hwn o'r gwersyll ? Tybiaf hyeld Ulldob Cyn- nulleidfaol Cymrieg yn warcdigaeth hollol rhag y pla. Nid ocs genym yn awr, fel gweinidogion a blaen- oriad, yr un May net cyffredin, i'n atdynu. Dymagyf- leustra gogoneddus. Gwn y gall fod yn wrthddadl gan lawer i ymuno ag undeb fel hwn—a'r wrthddadl hono yn cyfodi oddiar y ffaith nad allant, gyda chyfiawndoriddynt eu hunain a'u teuluoedd, hobgor arian i'w fynychu. Cynygiwn ar y dechreu ein bod i anog pob eglwys, am un waith fel hyn yn y flwydd- yn, i dalu treuliau ei gweinidog. Yn sicr, y mao pob gweinidog yn gwneud gwerth, amwynagwerth ei gyflog. Fel rheol nid oes neb yn gweithio cy- maillt clan bris" a llenwyr cin pwlpudau, a gall yr eglwys lforddio estyn byn o gymwynas iddo. Ac ni bydd ar ei cholled. Daw ei gweinidog yn ei ol o'r cyfarfod wedi danio gan uchelgais dduwiol, wedi ei wresogi yn ei barch ai serch at yr achos mawr, ac wedi ymgryfhau yn ei bonderfyniad i adael argraff ddaionus ar y cyloh y try ynddo. Pe na atebai Yr Undeb Cynulleidfaol Cymraeg ond yr amcan hwn, sef gwroli meddwl a chyffro uchelgais ein gweinidogion, byddai yn werth ei gadw. Gobeithio, y roddwn, ag un llaw, bob cymorth galluadwy i'n brawd Herber, i goroni y cynygiad hwn a llwyddiant. Mac yr anturiaeth yn bwysig, ae yn gofyn penderfyniad diildio. Os goddefa aw- grym cynygiwn ar iddo ddanfon Circulars at weini- dogion a lleygwyr adnabyddus eglwysi Cynulleidfaol Cymru i ofyn iddynt eistedd mown cynhadledd ar y mater—lie y gellid dadleu y pwnc a'i ogrynu i'r eithaf, ae yna ei osod ger bron y cyfarfod i'w ben- derfynu yn ol y mwyafrif gan obcithio y rydd y llciafrif, pa ochr bynag y byddo, i fyny gyda grace i lais y cyfarfod. Byddai yn faloh genyf daflu hat- ling frclrYfSorfa er cael hyn oddiamgylch. Pan ir amgau fy llythyr, gwelais yr eiddo Eldad yn y TYST diweddaf—bydd yn hawdd iawn i'r Ghtmpion Herber at-eb ei ofyniadau er per ffaith f odd- had.. W. Janscn Da vies, Llandovery.
LLYGRIAD YR IAITH GYMRAEG.
News
Cite
Share
LLYGRIAD YR IAITH GYMRAEG. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Pan yn dechreu ysgrifenu ar bwngc Gwendolen' y tro o'r blaen, tybiwn y gallwn ddy- wedyd hyny oedd ar fy mecldwl wrthi hi a Brython' yn yr un llythyr, ond methais am. hyny. rhag myned yn rhy faith ar unwaith, tybiais mai gwell dywedyd gair ar bwnge pob un ar wahan. Y peth cyntaf a darawodd fy meddwl i ar ol dar- lien llythyr 'Brython,' oedd Ifyspysiid Eisteddfodol a wolais amser yn ol, yn myncgi, yn mysg pethau eraill, y rhoddid punt o wobr i'r gorau a draddodai araeth am bum munud lieb ddywedyd un ,aix Sacs- neg; ond yr wyf yn cofio bod yr Hyspysiad eihunyn cynnwys pump neu chwoeh o eiriau estronol, sef mwy na gair am bob llinell. Fe allai na wyr 'Brython' ddim mai brigyn yw'r Gymraog, o un o ganghenau'r cyff ieithyddol mawr, a elwir y Cyff Ind-Ewropaidd,' canghenau a brigau yr hwn sy'n cvraodd nid yn unig o India'r Dwyrain hyd y Werddon, fel y dywed y Dr. Latham, ond hyd In- dia'r Gorllewin, yn eithafoedd yr America. Y mae canghenau'r cyff yma yn naw o nifer sef (gan gyf- rif o'r Dwyrain tua'r Gorllewin), y gangen Sans- critaidd, y gangen Iranaidd neu Bersaidd, y gangen Armenaidd, y gangen Osseticaidd, y gangen Glas- sicalaidd, y gangen Slafonaidd, y gangen Lithwan- aidd, y gangen Gothaidd, a'r gang-en Gelaidd. Bri- gyn o'r olaf ydyw'r Gymraeg. Yn awr, peth hollol naturiol ydyw, bod yr undail a ffrwyth yn tyfu ar wahanol frigau gwahanol ganghenau yr un boncyff. Neu, os newidir y gy- ffelybiaeth, gellir ystyriecl y brigau yn chwiorydd o'r un faan, a'r canghenau yn chwiorydd o'r un tad. Y mae'I' Geltaeg a'r Gothaeg, er esampl, yn ddwy chwaor, mcrched y tad Ind-Ewropaidd gan hyny, y mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn gyfnitheroedd i'w gilydd. Yn awr, gellir disgwyl tipyn otlebygrwydd teuluaidd rhwng dwy gyfnither, pe megid un mewn ty yn Hindostan, a'r llall mown ty yn y Werddon ond pe megid dwy gyfnither yn yr un ty am ran fawr o'uhoes, yn enwedig eu hoes blentynaidd, peth cwbl naturiol fyddai iddynt ddefnyddio lawer o'r un geiriau. Yn y sefyllfa yma yn hollol y mae'r Gym- raeg a'r Saesneg. Y maent wedi bod yn byw yn yr un ty (Ynys Prydain), er nad yn yr un ystafell, or cyn iddynt gael yr enwau sydd arnynt yn awr, pan oedd un yn cael ei galw yn Frytanaeg (yn oes Ivor ap Aluny galwydy Brytaniaid yn Gymry, o gylch o. c. G88 JIyv. Arch, t. 55t), a'r llall yn Saxonaeg. Gan hyny nid rhyfedd fod y ddwy wedi bentliyca geiriau eu gilydd. Heblaw hyny, bu'r,Frytanael- yn cydfyw am yn agos i 500 mlynedd a chyfnither arall yn y wlad hon, a'i henw Lladin a Lladin ydyw llawer o'r geiriau y tybia rhai mai Saesneg ydynt. Y mae'r Gymraeg wedi bod (ac yn wir, yn para i fod) mewn ad InasTI, cysylltiad masnachol, neu lenyddolj nid yn unig a lliaws o'i cheraint eraill, megis y Ffrangcaeg;, yr Italaeg, y Roeg, &c., ond ag amryw estroniaid hefyd, megis yr Ilebraeg, y Goptaeg, yr Arabaeg, &c., a chafodcl amryw eiriau gan y rhai hyny. Camsyniad. dirfawr ydyw tybied bod benthyea geiriau o ieith- oedd eraill yn llygru y Gymraeg:' y gwir y\v mai ei chyfoethoyi y mae hyny. Pe gwnelid y Gymraeg yn bur oddi wrth eiriau estronol,' fel yr ewyllysia 'Brython,' byddai yn ysgerbwd (skeleton) owbl. ddi-, werth ac annealladwy. Yr hyn sy'n llygru fwyat ar y Gymraeg ydyw geiriau diawdurdod, ymad- roddion anystwyth, ieithweddau estronol, a chyf- ieithiadau llythyrenol; mogis I drychfeddwl' gyda. eich caniatad;' pan ac y buasai geiriau Cymraeg bradychu anwybodaeth I yr oil o honynt;' un ac oil;' 'yr oeddynt yn rhifo chwe chant;' 'ugain mown nifer;' 'tywysog byd-enwog I ailanolioii,' a'r eyffclyb sothach. Yr unig esampl o gamddefnyddiad geiriau Seisnig a noda Brython' ydyw'r gair idea: yn lie drych- fedd wI" ceir "idea," eb efo, a lleng o eiriau cy- ffelyb.' Esampl anffodus ydyw hon; canysllicl ydyw drychfeddwl' o gyfansoddiad cywir. Pan ffurfier gair cyfansawdd o feddiant a meddiannydd, y meddiannydd sydd i fod yin mlaenaf; megis 'llawffon,' nid ffonhw. Yr un cyfansoddiad a'r olaf ydyw drychfeddwl." Meddylddrych' sydd o gyfan- soddiad cywir. Un o eiriau'r I G)-ee)2, iVales ydyw 'dryclifed(lwl;' ae uis ceir of hyd yn ood yn Ngeir-. iadur y Dr. Pughe. Y mae idea yn air aivdurdodol; a pho buasai raid i mi ddefnyddio naill ai drycli-5 feddwl' neu idea,' yr olaf a ddewisaswn i; Ondtra; y mae genym eiriau awdurdodol o fath syniad, del- wad, dclfryd, gellir hebgor y naill a'r llall. Y gwir yw, fel y dywed Edward Richards, Ystrad Meirig, yn attob i Llywelyn Ddu o Fon, na photrusodd y Beirdd Cymreig erioed ddefnyddio geiriau Seisnig- os byddai y geiriau Seisnig yn fwy dealladwy i'r werin na'r rhai Cymreig; a bod ganddynt yr ?.iv- durdod uwchaf, mown gwahanol ieithoedd, i wneu- thnr hyny. Ar hyn hefyd y cyttuna M. Kyffin, yr. hwii a ddywed-'Eitl:ir am ryw air angenrheidiol, yr hwn ni ellid dangos mor sylwedd ei rym, na syn-' wyr ci arwyddocad yn Gymraeg, a ddarfu i mi, yn ol arfer yr iaith Saosonaog, Ffrangoaeg, iaith Itali, iaith Spaen, a bagad o ieithoedd eraill, gymmeryd y cyrfryw air o'r Groeg, neu o'r Lladin, yn y modd J mae'n gynnefin gan mwyaf ymhob gwlad yng Nghred er ys talm o amser. Er maint fu fy ngofal I'Tll myfyrdod yn hyn o beth, etto mi a wnaf gyfrif gaol fy marnu a beio arnaf gan ryw fath ar goeg ddynion, y rhai a graffant ar ymbell air yma ag acw, ag a ddoedant yn y fan, Wele, geiriau Seis- nigaidd a geiriau Lladingaidd yw'r rhai-n,: yn dwy-" no'r Gymraeg. F' atteb i'r rheini ydyw'rddihareb, Ni wyr, ni welodd, ni ddysg. Draain gwerin!, ychydig a wyddant, llai a welsant, ag nid gwiw son am ddysgu iddynt. Myn a fadde.uaf i'r rhai hyn eu hanwybodaeth a'u ffolineb, a gadawaf i rai ereill. chwerthin am eu penau. Hawdd yw gwybod fUll. ryw eiriau Seisnig, nad oes, ag na bu erioed eiriau ■ Cymreig- i'w cael; a hefyd, mai geiriau yn dyfod o'r :■ Ffrangoaeg yw'r rhan fwyaf o'r rhai y maen' nhwy yn tybied eu bod yn Seisnigaidd. Ag am y eiriau Lladingaidd, pwy nis gwyr nad yw'r iaith Gymraeg < yn eu herwydd ddim amgen onid hanner Lladin drwyddi ? Mi allwn, pe bac genyf hamdden, wrieu- thur llyfr digon ei faint o'r geiriau Cymreig arfer- edig-, a fenthyciwyd nid yn unig o'r Lladin a'r Efrangcaeg, eithr o iaith Itali ag iaith Spaen hefycl, heb law'r dafod Roeg ag Ebryw, a.'r cyfryw.' I Yn lie poeni ei ben yn of or, gan hyny, o blegid 'ymbell air estronol a arferir I ynia ac ae-w 'wrth ysgrifenu, areithio, a phregethu Cymraeg,' fyannog- aeth i 'Brython,' fel 'Gwenclolon,' ydyw, myfyrio cyfansoddiad' yr iaith, fel y'i ceir ymhrif ysgrifen-, wyr y genedl, o'r Dr. Morgan hyd T. Charles, fel y- gallo ochel geiriau anghywir a diawdurdod, ymad- roddion anystwyth, ieithweddau estronol, a chyf-, ieithiadau llythyrenol. BRYTANIAD. #fj'hl&jl.i:;¡\ -=-=-
Advertising
Advertising
Cite
Share
CUC(J\ -u itATFli:L AND -Tiie vei,y r of (his I'roiiaration lias ren- dered ¡ta general favourite, 'i'iie civil K-rricn Vnwtte rernai lf3 (; TIlt) singular success which ilr. Epps attained by hjl homoeopathic preparation of cocoa has never been surpassed by any experimentalists. By a th!)r01.1,h knowledge of 'the natural laws which govern the opemtion" of digestion and nutrition, and by a careful tl])[1lic:1.tion of the fine properties of well-selected cocea, Mr. Epps has provided our breakfast tables with a4delicately flavoured beverag-e which may save us many heavy doctors' bills." Made siinply with boiling water or milk. Sold only in 7J- lb., lb., and, 1 lb. tin-liaet*' Packets, labelled —JAMES Errs & Co., Homoeopathic Chew ista. I.imilnn.