Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
LLYTHYR Y MEUDWY.
News
Cite
Share
LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYNIAU GARTH MADRYN.) University College i Gymru-dyna des- y Hythyr presenol. Mae ei fawr eisian. d oes dim gwahaniaeth barn mewn perth- ynas i hyn yn mhlith y cyfryw o'n cydwlad- r ac sydd yn ddigon goleuedig a gwybodus 1 W cymhwyso i ffurflo barn ar y mater. Mae llawn cymaint o eisiau dysg o radd uchel ar fechgyn perthynol i'r dosparth canol yn N ghymru ac sydd ar yr un dosparth yn Scot- lalld: ond y mae hyn o wahaniaeth rhwng bechgyny ddwy wlad-rhyw fath o Saeson- aeg a siaradir gan bawb o'r Yscotiaid oddi- gsrth ychydig o drigolion yr Ueheldiroedd, ond mae yn ofynol i'r Cymry ddysgu iaith es- tronol, sef un y Sais cyn y gallo feddu y ^ymhwysder cyntaf er cystadlu a'r Saeson a'r scotiaid ar unrhyw lafurfaes. Yr ydym ni 7 Cymry uniaith yn llafurio dan fwy o an- fanteision na'n cymydogion yr ochr arall i Glawdd Offa a'r afon Tweed. A gogoniant y ymro ydyw ei fod yn aml-sereh yr anfan- tals dan sylw-yn llwyddo i fod yn ogyfuwch ac weithian o flaen y Sais mwy ffafriol ei sef- a- Nid yn unig mae ar y Cymro uniaith elSlau cyrhaedd gwybodaeth o'r iaith Saeson- aeg, ond mae arno eisiau gwybodaeth o drys- orau amryfath-bron diderfyn yr iaith hono ar braidd bob math o destunau. Tlodion ydyw mwyafrif bechgyn Scotland, ond yn gymaint a'u bod yn siarad Saesonaeg, a phan yn blant yn mwynhau manteision add- ysg foreuol llawer rhagorach nac allasai, hyd Yn ddiweddar, blant yr un dosparth fwynhau yn N ghymru; a chan fod yn eu gwlad, er nad ei phoblogaeth ond tair miliwn, bedair Prifysgol, a chan fod y draul o dreulio pedwar hor yn un 0 honynt ond dim mewn cyd- ^ariaeth i'r draul o dreulio yr un faint o amser yn Ithydychain neu Cambridge; mae plant pobl dlodion yn Scotland i'w cael yn llanw J hoedd pwysig ac enillfawr yn mhob rhan Excelsior ydyw arwyddair yr Ys- j y^ o r amser yr a i'r brifysgol, pan y bodd- °-a 1 fy w ar iwd blawd ceirch ac ysgadan, 11 .nes eyrhaedd y nod a osodasai o flaen ei gald yn nyddiau ei bethau anrhaethol fych- hu buasa* y mil°C(-W lawer o Ysgotiaid idd a ^erc^iafia(^b'xxo^ ac sydd yn awr 611 eael ar ben braidd pob ysgol bri ac en111 heb dderbyn manteision addysg rad yn eu gWlad eu hunain, ynghau yn eu herbyn o ^S^rheidrwydd y buasai yr amrywiol ddrys- "W-j+i? rtlaen^ hwy wedi—nid yn unig guro c 0I1(i eu hagor o led y pen trwy eu hey1 W^sderau addysgiadol. Nid oes un am- q aeth ynghylch galluoedd naturiol bechgyn ^eiafU' Pari y can^ ond y mymryn Y (, 0 c^wareu teg, talant yn ardderchog am ae^ eu Swrteithiad. Nid tlodi 0nd sefyHfa ydyw y rhwystr arja ar 611 Llefydd i bobl a digon o er ydyw Rhydychaina Cambridge, ol^r Wriadwyd erioed iddynt gan eu gwadd- plant n1 a eu drysau yn erbyn coieo, a^Ur a thlodi. Mae yn rhaid i ni gael neutslf ^ihymru ar gyfer Cymry cyffredin renir 6U lamgylGhiadau, yn yr hwn y cyf- 8°lud add)Tsg ac yn Mhrifysgolion y fechgyn gwyr y cotau llwydion. 0 > aid yw y Cymro yn maliaw fawr, pan yn amcanu a'i holl egni a'i galon at ryw nod, 'pa beth a fwytao, neu a yfo, neu a wisgo.' Mae hen ysgolion Cymru wedi gallu- ogi tyrfa luosog o fechgyn tlodion y mynydd- au i gyrhaedd dysg, dawn, a dylanwad. Ond diarebol a rad oeddynt, onide nis gallasai tlod- ion fyned iddynt. Dirfawr wnaeth ysgolion Ystradmeurig, Castell Hywell, Neuaddlwyd, ac amrywiol eraill a allasem eu henwi. Yr oedd y fywoliaeth yn ddigon rhad a digon cyffredin. Bara haidd, caws protestant, a chefnder maen isaf y felin, dim fawr o gig neu ymenyn, gwely gwellt, ac ar hwnw yn uchaf yr hen rwc a wasanaethai fel breedtng grounds a jungle i Negroaid nas medrasai neb eu rhifo: dillacl digon sal: ac ami ddernyn digon estronol wedi cael eu gosod i gau i fyny y rhwygiadau; clocs ar eu traed, a llawer craith ar yr hosanau—ond os canolig oeddynt yr allanolion, yr oedd yno ddigonedd o addysg: nid oedd dim tolio ar y Groeg, y Llaclin, yr Arithmetic, a chellwerid tipyn ac euclid. Ni chytluyblid y myfyrwyr ac anhwyldeb y gwr ifanc hwnw y clywsom ei fod yn dwcud na fedrai efe ddim astudio heb gig ffres, os gwel- wch chwi yn dda. O'r anwyl fach; fe ddarfu i luaws o fechgyn tlodion Cymru astudio gynt, ac astudio yn galed hefyd, heb weled a phrofi o honynt gig hallt chwaith cig ffres; hwnw ni welent ond trwy ffydd, ac o bell iawn, druain o honynt. Rhodder i ganoedd o fechgyn tlodion Cymru yr un manteision ac i'w brodyr yn Scotland, a byddent barod ar unwaith i wasgu ar y cwpwr canol, a defnyddio yr enw rydd pobl Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar le tan y corph dynol. Chwech mis dreulir gan fechgyn Scot- land yn y Brifysgol, ac ymgynaliant y chwech arall trwy weithio ar ffarmau, neu gadw ysgol, neu unryw waith a gadwo enaid a chorph ynghyd, ac a sicrhao hefyd ddigon i dalu am y blawd ceirch a'r ysgadan, ynghyd a fees y Professors yn ystod y tymhor addysg gyfraniad. Gall meibion y Sais i wneud heb addysg yn llawer gwell na phlant y Cymro, oblegid mae ganddo eisoes mewn 11aw ddigon o arian, a dawn gwneud rhagor. Yr arian ydyw ei ag- oriad ef i fyned i mewn trwy lawer drws, a thry ei agoriad yn ddigon didrwst mewn llawer clo; ond dysg a dawn gyfansoddant [allwedd mab y bugail, a phlentyn y gweithiwr Cymreig. Wel, beth sydd yn angenrheidiol ei wneud er agor y coleg yn Aberystwyth i'r cyhoedd awchus am addysg. Talu yr addewidion a roddwyd i Dr. Nicholas a Mr. Charles, ac yna fe fydd yr adeilad gorwych a gorfawr yn ddi- ddyled, ac yna bydd cyfeillion y sefydliad mewn sefyllfa i geisio gan yr aelodau seneddol Cymreig yn Rhyddfrydwyr a Thoryaid—os ymuna yr olaf-i fyned at y llywodraeth i ofyn gwaddol a 'stafell,' ys dywed y Cardis i'r coleg. Telir arian lawer yn flynyddol gan y llywodraeth at gynal pedair prifysgol Scot- land, ac y mae yn 11awn bryd i ninau y Cymry dderbyn oddiar ei llaw ryw gydnabyddiaeth sylweddol am fod yn bobl mor deyrngarol a deddfgarol am gynifer o flynyddoedd. Mae pobl anhywaith yn cael llawer er mwyn gyru taw arnynt: ac y mae yn rhy hwyr i gydna- bod pobl hy waith am fyw cyhyd mor dawel a dirwgnach. Ac yn awr, chwi sectariaid o bob enw, lliw a llun, ynghyd a'r cyfryw rai o aelodau eglwys Loegr ac sydd yn ddigon 0 rhyddfeddwl i ymuno a'r Anghydffurfwyr yn yr ymdrech er cael un coleg anenwadol ar gyf- er bechgyn pawb yn ddiwahan, cofiwch gyng- or Jacob i rai o'i feibion, apheidiwch chwithau a chwympo allan a'ch gilydd, ond cyd-ffraewch ac anwybodaeth, dallbleidiaeth, culni, rhag- farn, ynghyd ag holl eppil meddyliau cliwr- taeth, ac yn eich blaen a chwi fel llu banerog, gan orchfygu a gorchfygu, hyd nes byddo ein hen anwyl Gymru mor enwog am ei hysgol- eigion ac ydyw am ei golygfeydd rhamantawl ac amrywiog.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y DYODDJSFWYR CYMREIG. CYNHELIR OYFARFOD MAWB dan uawdd y Gymdeithas Ddiwygiadol Grymreig yn y CONCERT HALL, LIVERPOOL, Nos FA TVRTH, Rhay. Ilain. 1869. CADEIRYDDJ. ROBERTS, YSW. Disgwylir presenoldeb H. RICHARD, Ysw., A.S.; E. M. RICHARDS, Ysw., A.S. i ac amryw ael- odau seneddol a boneddigion eraill. Rhoddir manylion helaethach yr wythnos nesaf.
EWROP AC AMERICA.
News
Cite
Share
EWROP AC AMERICA. Bu Brenin Itali a'r Duces o Genoa yn cydymgynghori a'u gilydd ddydd Sadwrn di- wecldaf, mewn perthynas i'r Due o Genoa i dderbyn coron yr Yspaen. Yn ol yr adrodd- iad a ymddanghosodd yn y Gazzetta d' Italia, gofynai y Duces am amser i ystyried y peth, ond rhoddodd ar ddeall i'r Brenin na fyddai ganddi un gwrthwynebiad i ddewisiad y doyrn- as Yspaenaidd. Mae y Cadfridog Prim a'i gydswyddogion yn dal yn bur benderfynol i gynorthwyo achos y Due fel ymgeisydd i'r goron. Mae yn bur debyg fod y gwrthryfel yn y Red River wecli ei derfynu erbyn hyn. Nid oedd mwy na 50 o'r gwrthryfelwyr dan arfau yr 22ain o'r mis diweddaf, ac yr oedd yr Ys- cotiaid a'r haner Saeson wedi penderfynu cael ethol Mr. M'Dongal yn llywydd y dydd cynt- af o'r mis presenol. Dydd Mercher diweddaf yr oedd Rhufain i gael ei llenwi a goleuadau o un pen i'r Hall er cofnodi dydd agoriad yr CEcuminial Council. Yr oedd dros 500 o Esgobion wedi cyrhaedd i'r dclinas sanctaidd ddydd Llun diweddaf i gymeryd rhan yn y cynghor. Mae yr Ardalydd Grant, yr hwn sydd bob amser yn hynod am wneud areithiau byrion, wedi rhoddi anerchiad faith i'r Gynghorfa ar yr agoriad ddydd Llun diweddaf. Y mae yn cymeradwyo gwrthodiad y cyflafareddiad ynghylch yr Alabama, ond gobeithia ar yr un pryd y symudir pob anhawsder ymaith i arbed unrhyw anghytundeb rhagllaw, ag i sefydlu heddwch a chyfeillgarwch sefydlog rhwng y ddwy wlad. Nid yw ei lywodraeth yn ffafriol i adnewyddu y Treaty Cylchgyfnewidiol a Canada, ond ystyriai y dylid cael rhyw gyt- tundeb i reoleiddio masnach rhwng y dclwy wlad. Cyfeiriai y dylai pob teyrnas sydd yn ymwneud ag ymfudiaeth i gyduno a'u gilydd, er sicrhau, dedwyddweh, iechyd, ac amddiffyn i'r ymfudwyr. Mewn perthynas i gwestiyn- au mewnol y talaethau awgrymai y dylai y senedd drefnu mesurau i sicrhau dychweliad araf i daliadau arianol yn lie papurau, a dy- wedai fod y cyllid gymaint uwchlaw gofynion y Drysorfa, y gellid yn ddiogel ostwng y trethi yn ol v$60,000,000 i $80,000,000 yn y flwydd- yn, a gostwng llawcr ia na hyny rhagllaw.